
Rhannu buddion y cwrs catalydd
“Yn llawn gwybodaeth gyfoethog a doethineb ymarferol” - cyfranogwr
Yn y blog hwn rydyn ni'n rhannu adborth pobl a fynychodd cwrs catalydd Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaetlh (DEEP) rhwng Ebrill a Gorffennaf 2024.
Y diben yw eich helpu i benderfynu os ydy’r cwrs yn berthnasol i chi, neu i rywun rydych chi’n adnabod.
Beth yw hyfforddi catalydd DEEP?
Mae cwrs catalydd DEEP am ddim ac mae'n cael ei gynnal ar-lein dros gyfnod o 10 wythnos.
Mae'r cwrs yn cyflwyno dull DEEP, sy’n cefnogi:
- casglu, archwilio a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth wrth ddatblygu polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol
- dod â phobl ynghyd i feddwl a siarad am wahanol fathau o dystiolaeth
- rhoi’r cyfle i bawb ddysgu a rhannu.
“Roedd rhywbeth mor hamddenol a diddorol oedd yn gwneud y sesiynau yn gyfle i gael hoi fach ac agor eich meddwl.” - Becky, aelod o sefydliad cymunedol.
Pwy sy’n gallu mynychu?
Mae'r dysgwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol sy’n cynnwys:
- ymarferwyr gofal cymdeithasol
- comisiynwyr gofal cymdeithasol
- gweithwyr y GIG
- pobl o sefydliadau cymunedol
- gweithwyr datblygu cymunedol
- ysgolheigion.
Beth i ddisgwyl
Mae pob sesiwn yn cael ei hwyluso gan ymarferydd DEEP profiadol. Maen nhw’n defnyddio fformat sy'n gefnogol ac atyniadol i helpu pobl i ddysgu mwy am sut y gall y dull DEEP eu helpu yn eu gwaith.

“Addysgiadol, strwythuredig ond yn rhoi cyfle i bobl drafod a rhannu mewn ffordd agored […] Cafodd pawb eu hannog i leisio barn a rhannu eu profiad a’u cyd-destun arbennig.”
- Emma, swyddog datblygu gofalwyr.
Mae pobl yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r ffordd mae’r cwrs yn cael ei gynnal:
- “Roedd Nick a Gill yn hwyluso’n wych; roedd e’n fformat cefnogol oedd yn ennyn eich diddordeb.” - Karen, comisiynydd gofal cymdeithasol.
- "wedi ei hwyluso'n dda iawn. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi mynd i mewn i'r grwpiau ar wahân i drafod a myfyrio.” - Maria, academydd.
- “awyrgylch ymlaciedig, heb frys.”- Julie, uwch ymarferydd gofal cymdeithasol.
Dysgu a rhoi’r dull ar waith
Mae'r cwrs yn archwilio'r dulliau gwahanol sy’n cael eu hyrwyddo gan DEEP. Mae’r rhain yn cynnwys:
- adrodd stori
- y newid mwyaf arwyddocaol (MSC)
- ymholi gwerthfawrogol (AI)
- Eiliadau hud/trasig.
"Roeddwn i'n arbennig o hoff o'r modiwlau ynghylch adrodd straeon digidol ac eiliadau hud a thrasig, sut maen nhw'n tynnu sylw at deimladau, ein llwybr personol a’n cyflawniadau."
- Robin, gweithiwr datblygu cymunedol.
Mae'r adborth yn amlygu awydd pobl i roi'r dulliau hyn ar waith a rhannu'r dysgu gyda chydweithwyr. Rhannodd rhai sut oedd y cwrs wedi rhoi gwell dealltwriaeth o egwyddorion DEEP iddyn nhw. Ac wedi dangos y ffordd o ran defnyddio'r dull DEEP i gefnogi eu hymarfer.

"Rwy'n hyderus wrth ddechrau defnyddio'r dulliau DEEP. Rhannais i lawer o'r canllawiau hyfforddi a'r offer gyda fy nhîm. Ac rydyn ni’n ystyried ble fydd hyn yn ychwanegu gwerth ar draws ein rhaglen waith. Mae gennym ni brosiectau yn y cyfnod cwmpasu ac rydyn ni’n gobeithio defnyddio'r dulliau mewn ffordd effeithiol yn ystod 2025."
- Karen, comisiynydd gofal cymdeithasol.
Eisiau gwybod mwy?
Mae'r cwrs catalydd nesaf yn cael ei gynnal rhwng Ebrill a Gorffennaf 2025. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl sy'n medru mynychu, felly nodwch eich diddordeb heb oedi: https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/beth-syn-digwydd/digwyddiadau/deep.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.