Yn y blog hwn, mae Emma Taylor-Hill, ein Rheolwr Symudedd Gwybodaeth, yn myfyrio ar sut mae'r tîm wedi cefnogi ymchwil ymarferwyr yn Sir Gaerfyrddin sy'n anelu at greu canlyniadau gwell i bobl hŷn.
Pam mae'r ymchwil hwn yn bwysig
Ym mis Hydref 2024, dechreuodd secondiad Liz Thomas, Rheolwr y Tîm gwaith cymdeithasol yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin. Roedd ganddi dri mis i archwilio pam roedd atgyfeiriadau i leoliadau gofal preswyl yn cynyddu. Roedd ei gwaith yn cynnwys adolygiad cwmpasu yn cymharu Sir Gaerfyrddin ag awdurdodau lleol eraill.
Roedd ein cysylltiadau ar draws y sector yn cefnogi Liz i gasglu mewnwelediadau gan ymarferwyr ledled Cymru. Roedd gwerth y gwaith hwn yn glir, a chafodd y secondiad ei ymestyn tan ddiwedd 2025.
Cyd-gynhyrchu ar waith
Gyda mwy o amser, mae Liz wedi gallu archwilio a yw'r lleoliadau preswyl yn diwallu anghenion pobl. Mae'r cam yma wedi canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu, gan gynnwys:
- cyfweliadau â chydweithwyr
- cydweithio â lleoliadau gofal
- ymgysylltu â phobl â phrofiad byw.
Er mwyn bodloni safonau llywodraethu moesegol, mae Liz hefyd wedi gweithio'n agos gyda thîm cyfreithiol yr awdurdod lleol i sicrhau cydsyniad gwybodus a thryloyw drwyddi draw.
Sut ydym ni wedi cefnogi'r gwaith?
Mae ein tîm symudedd gwybodaeth wedi darparu cymorth hyblyg, wedi'i deilwra.
Rydyn ni wedi cwrdd ar-lein a wyneb yn wyneb pan roedd yn gyfleus o ran amserlen i Liz.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
- cynnig sesiynau myfyrio bob pythefnos
- cefnogi cynlluniau lledaenu gwybodaeth
- paru â chysylltiadau allweddol
- cefnogi Liz i ddylunio, trefnu a chynnal cyfres o weithdai ar gyfer ymarferwyr.
Fe wnaethom hefyd helpu Liz i ddylunio sesiynau ar Gyfathrebu Cydweithredol gyda Rhoda Emlyn-Jones o Achieving Sustainable Change. Roedd y sesiynau’n ymgorffori dull ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Rydym wedi cyfeirio Liz at wahanol rwydweithiau a digwyddiadau i helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i gefnogi ei gwaith, gan gynnwys ei chysylltu â'n Cymuned Dystiolaeth. Fe wnaethom hefyd gyflwyno ein Rheolwr Effaith a Gwerthuso, Emyr Williams, a ddarparodd hyfforddiant ac adnoddau.
"Mae'r tîm Symudedd Gwybodaeth yn helpu pobl fel Liz i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder, y gallant wedyn eu rhoi ar waith mewn ymarfer bob dydd."
- Rachel Scourfield, Pennaeth Symudedd Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru
Troi ymchwil yn weithredu
Mae canfyddiadau Liz hyd yma wedi arwain at argymhellion ymarferol, gan gynnwys gweithdai i gefnogi newid diwylliant.
Dros bedwar diwrnod, ymunodd 66 o ymarferwyr â’n sesiynau ar y cyd â Liz a Mair Davies (Cynghorydd Dysgu a Datblygu).
Roedd y gweithdai'n cyfuno:
- dulliau adrodd stori
- myfyrio sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- trafodaethau grŵp i archwilio rhwystrau a phethau sy’n helpu pobl i aros yn annibynnol gartref.
Un uchafbwynt oedd y sesiwn "eiliadau hud". Mae'r dull hwn yn ein helpu i rannu a dysgu o straeon byrion o brofiad cadarnhaol. Rhannodd staff straeon hyfryd am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda pan maen nhw wedi cefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi.
Uchafbwynt arall i mi oedd y sesiwn "myfyrio ar dystiolaeth". Roedd yn seiliedig ar ymchwil am ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal, gan sbarduno sgyrsiau am alar, hunaniaeth, a'r trawma y gall oedolion hŷn eu profi yn ystod cyfnodau pontio i amgylcheddau newydd.
Yr hyn a ddysgon ni
Nid yw cefnogi ymchwil yn ymarferol yn ymwneud â chynhyrchu adroddiadau’n unig - mae'n ymwneud â newid bywydau. Rydyn ni wedi gweld sut mae defnyddio gwybodaeth a'i rhannu’n effeithiol yn grymuso ymarferwyr ac yn gwella gofal.
Mae adborth cyfranogwyr y gweithdy yn adlewyrchu hyn:
"Rwy'n bwriadu darllen yr ymchwil a drafodwyd yn yr hyfforddiant heddiw gan fod y crynodeb cafodd ei drafod yn y sesiwn heddiw wedi rhoi llawer i mi fyfyrio arno mewn perthynas â'r effaith ar y bobl sy’n defnyddio gofal preswyl."
"Mae heddiw wedi gwneud i mi feddwl ac ystyried opsiynau. Mae’n fy atgoffa bod rhaid i ymarfer ganolbwyntio ar yr unigolyn."
Mae gweithio ochr yn ochr â Liz wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i ni i'r hyn sydd ei angen ar ymarferwyr – ac effaith drawsnewidiol ymchwil mewn ymarfer.
Mwy o wybodaeth
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am sut y gall ein tîm eich cefnogi fel unigolyn neu sefydliad ar ein tudalen: Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer.