![Kate Howson](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Headshot-Kate-H.jpeg)
Kate Howson
Uwch Arweinydd Partneriaeth (Ymchwil)
![Emma Taylor-Hill](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Emma-TH-pic_2024-10-11-074336_zjwd.jpg)
Emma Taylor-Hill
Arweinydd Symudedd Gwybodaeth
![Rachel Scourfield](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Rachel-Scourfield-BW.jpg)
Rachel Scourfield
Rheolwr Symudedd Gwybodaeth
![Rhiannon Wright](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Rhiannon-headshot.jpeg)
Rhiannon Wright
Rheolwr Cymuned Dystiolaeth
Yn y blog hwn rydyn ni'n dathlu cyfres sioeau teithiol yr hydref 'Taflu golau ar niwroamrywiaeth' ac yn trafod buddion fformat newydd i gwrdd ag anghenion staff rheng flaen.
Er mwyn gwneud ein cynnig mor hygyrch â phosibl eleni, gwnaeth dau awdurdod lleol gytuno i dreialu dull newydd. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi cynnal sioe deithiol ymchwil fawr lle mae pobl wedi gorfod gofyn caniatâd i deithio o wahanol rannau o Gymru. Yn lle hyn, aethom yn uniongyrchol at ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau yn eu hardal eu hunain.
Cytunodd awdurdodau lleol Sir Gâr a Wrecsam i gynnal sioeau'r hydref ar niwroamrywiaeth - pwnc yr oedd staff yn y ddwy ardal wedi tynnu sylw ato.
Cafodd dau ddigwyddiad eu cynnal am ddim. Roedd cinio a lluniaeth wedi eu cynnwys. Y nod oedd i leihau rhwystrau fel amser teithio a chostau, ffioedd digwyddiadau a lleoliadau anghyfarwydd.
Mae ein sioeau ymchwil yn cefnogi ymarferwyr i gael gafael ar, ac elwa o, waith ymchwilwyr academaidd a phobl gyda phrofiad byw.
Mae'r sioeau teithiol ymchwil yn:
"Mwy o'r sesiynau hyn os gwelwch yn dda. Maen nhw'n wych ar gyfer gwella sgiliau a rhwydweithio."
(Adborth o'r digwyddiadau)
Cafodd y thema niwroamrywiaeth ei dewis eleni mewn ymateb i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol o gyflyrau niwrowahanol fel awtistiaeth, ADHD a dyslecsia. Dywedodd ymarferwyr wrthym eu bod am ddysgu mwy am y pwnc hwn i'w cefnogi yn eu hymarfer.
Daeth ein dau ddigwyddiad ag ymarferwyr, ymchwilwyr a phobl â phrofiad byw at ei gilydd i dynnu sylw at yr heriau penodol y mae pobl niwrowahanol yn eu hwynebu ond hefyd i ddathlu'r cyfraniad unigryw a chyfoethog y mae unigolion niwrowahanol yn ei wneud.
Prif nod y ddau ddigwyddiad oedd rhoi cyfle i ymarferwyr ehangu eu dealltwriaeth o'r pwnc trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhannu, dysgu, trafod a myfyrio.
Er bod y dull yr un fath, roedd gennym rai siaradwyr gwahanol yn mynychu'r ddau ddigwyddiad. Yn Sir Gâr, rhoddodd Dr Edwin Burns gyflwyniad ardderchog i ni ar gryfderau a thalentau pobl niwrowahanol. Pwysleisiodd bwysigrwydd peidio â chanolbwyntio ar ddiffygion ond defnyddio cryfderau i oresgyn rhwystrau a sicrhau annibyniaeth a llesiant mewn ffordd sy'n ystyrlon i unigolion a'u hamgylchiadau penodol.
"Diwrnod diddorol iawn sydd wedi fy helpu i ddeall niwroamrywiaeth ac wedi fy ysbrydoli. Roedd pob siaradwr yn wych ac yn meistroli'r maes."
(Adborth o'r digwyddiadau)
Roedd y pwyslais mwyaf ar ddefnyddio dulliau cadarnhaol a thosturiol wedi'u cyfoethogi gan dystiolaeth i lywio ymarfer. Roedd siaradwyr fel Willow Holloway (Autistic UK), a oedd yn y ddau ddigwyddiad, a Mal Cansdale a Simon Rice o Barod yn cynrychioli ymchwilwyr ar ymgyrch. Fel pobl niwrowahanol maen nhw wedi dod yn arbenigwyr ac eiriolwyr trwy brofiad personol. Roedden nhw'n pwysleisio pwysigrwydd iaith o ran sut i siarad gyda phobl niwrowahanol a'r termau rydyn ni'n defnyddio i gyfeirio atyn nhw. Ac roedd egwyddorion cyd-gynhyrchu'n fythol bresennol, gyda phawb yn ategu'r datganiad 'Dim byd amdanon ni, hebddon ni’.
Yn nigwyddiad Sir Gâr, fe ddysgon ni hefyd sut y gall cysylltu data sy'n cael eu casglu'n rheolaidd ein helpu i weld pa heriau mae pobl niwrowahanol yn eu hwynebu mewn cyd-destunau gwahanol. Darparodd yr Athro Ann John, o Brifysgol Abertawe, ddata pwerus yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu pobl niwrowahanol mewn gwahanol feysydd o'u bywydau, er enghraifft addysg, iechyd a'r system gyfiawnder.
"Sesiwn ysbrydoledig iawn. Mae'n dda gweld ymchwil ar waith."
(Adborth o'r digwyddiadau)
Yn Wrecsam roedd Dr Gavin Stewart o Goleg y Brenin, Llundain, yn ffocysu ar anghenion iechyd a chymorth oedolion awtistig. Soniodd Gavin am y rhesymau dros ddiffyg diagnosis mewn pobl dros 50. Ac am yr angen am fwy o ymchwil ar y grŵp hwn. Gwnaeth yr Athro Rebecca Charlton o Goldsmiths, Llundain, adeiladu ar y thema hwn. Roedd hi'n dadlau bod angen creu adnoddau ac hyfforddiant i gefnogi gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phobl awtistig hŷn.
Roedd sesiwn arall yn unigryw i Wrecsam sef gweithdy Anna Webster o Brifysgol Salford a Becky Govan o Brifysgol Dinas Birmingham ar anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws (FASD). Mae Anna a Becky yn siarad o brofiad personol, gan bod y ddwy'n magu plant gyda diagnosis o FASD. Roedd ymarferwyr yn gadael gyda llawer mwy o ddealltwriaeth o'r cyflwr a syniadau am sut i gefnogi teuluoedd. Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y dull hyfforddi emosiwn. Mae'n ddull sy'n helpu oedolion i reoli emosiynau ac ymddygiad yn ogystal â chefnogi plant FASD.
I gloi'r digwyddiadau rannodd Pip Hardy Patient Voices, ddwy ffilm yn dangos delweddau o fywydau dau blentyn niwrowahanol. I gychwyn, glywson ni leisiau'r plant yn adrodd eu straeon. Yna, dangosodd Pip bob ffilm yr eildro ond gyda'r naratif wedi lleisio gan eu rhieni neu ofalwyr.
“Roedd adrodd y straeon yn datgelu gymaint. Roedd e'n drawiadol a mor neis clywed llais y plentyn a wedyn y fam."
(Adborth o'r digwyddiadau)
Roedd yn ffordd syml a hynod bwerus o ddangos profiad byw o wahanol safbwyntiau ac yn ddiwedd gwych i ddiwrnod llawn dysgu a myfyrio.
"Wedi mwynhau pob agwedd ar heddiw'n fawr. Rwy'n teimlo'n llawn cymhelliant ac wedi fy ysbrydoli i fod yn well wrth gefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau."
(Adborth o'r digwyddiadau)
Os hoffech chi ddysgu mwy, ewch i'r crynodeb tystiolaeth Cefnogi pobl niwrowahanol a’u teuluoedd.
Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac mae gennych syniad am bwnc a fyddai o fudd i'ch ymarfer neu i'r tîm ehangach, gallwch chi rannu eich syniadau drwy anfon e-bost i sioeauteithiol@gofalcymdeithasol.cymru.
Cyn bo hir, byddwn ni'n hyrwyddo ein cyfres nesaf o sioeau teithiol ymchwil ar gyfer gwanwyn 2025. Byddwn ni'n postio gwybodaeth ar ein gwefan a thrwy ein dolen gyswllt Eventbrite.
Uwch Arweinydd Partneriaeth (Ymchwil)
Arweinydd Symudedd Gwybodaeth
Rheolwr Symudedd Gwybodaeth
Rheolwr Cymuned Dystiolaeth