Skip to Main content

Sioeau teithiol ymchwil yr hydref: dod â thestun Diogelu drwy’r cyfnod pontio’n fyw

05 Tachwedd 2025

Mae Tom Slater, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros dro newydd ar gyfer Ymchwil a Symudedd Gwybodaeth, yn myfyrio ar un o'n sioeau teithiol ymchwil diweddaraf.

Yn y gwanwyn, wnaethom ni gynnal dau ddigwyddiad hynod lwyddiannus a phoblogaidd ar thema ‘Diogelu drwy’r cyfnod pontio’. Wedi hyn, roedd yn bleser gennym ehangu'r gyfres gyda phedwar digwyddiad ychwanegol ledled Cymru. Ar y 9 Hydref, roedden ni'n falch iawn o gynnal y trydydd digwyddiad yn y gyfres o chwech ar y pwnc hwn. 

Roedd yn ddiwrnod llawn mewnwelediad, myfyrdodau pwerus ar brofiad byw, a thrafodaeth fywiog. Afraid dweud bod pawb yn teimlo'n ysbrydoledig ac yn egnïol ar ei ddiwedd.

“Mae wedi helpu i herio rhywfaint o fy meddwl ynghylch pontio. Mae wedi rhoi syniadau newydd i mi.”

“Mae angen i ni barhau â'r sgwrs.” – adborth cyfranogwyr.

Rhannu a dysgu

Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn dan arweiniad Emma Taylor-Hill (Rheolwr Symudedd Gwybodaeth) a Sarah Atkinson (Swyddog Symudedd Gwybodaeth). Fe rannon nhw straeon pwerus gan ddefnyddio’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol

Roedd clywed yn uniongyrchol gan berson â phrofiad byw yn uchafbwynt go iawn - amrwd, onest, a phryfoclyd. Roedd eu llais yn ein hatgoffa pam mae Diogelu drwy’r cyfnod pontio mor bwysig, a pham ei bod yn hanfodol cadw pobl wrth wraidd pob gweithredu. 

Roedd yr Athro Christine Cocker wedyn yn archwilio sut y gallwn ni adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer Diogelu drwy’r cyfnod pontio. Roedd ei chyflwyniad yn llawn syniadau ymarferol a myfyrdodau meddylgar, gan ein herio i feddwl am sut rydyn ni’n ymgorffori'r gwaith hwn mewn systemau, hyfforddiant, ac ymarfer bob dydd. Roedd neges Christine yn glir: mae newid yn bosibl, ond mae angen ymrwymiad a chydweithrediad.

Yna clywsom gan Dr. Nina Maxwell, Prif Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a Finn Maddell, Rheolwr Gwasanaeth Diogelu yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Roedden nhw’n cyflwyno eu gwaith ar ddatblygu model tystiolaeth ar gyfer Diogelu drwy’r cyfnod pontio. Roedd yn ddiddorol gweld y ffyrdd y gall tystiolaeth a theori cael eu defnyddio i lunio ymarfer bob dydd. A sut y gall deall beth sy'n gweithio (a pham) ein helpu i wella ein cefnogaeth i bobl ifanc. 

Lisa Curtis Jones, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf, oedd gyda’r gair olaf. Nododd bod y cyflwyniadau craff a'r negeseuon allweddol yn helpu i lywio eu gwaith gyda phobl ifanc ac oedolion ifanc. 

Y brif neges

Un o agweddau mwyaf cyffrous y diwrnod oedd yr ymgysylltiad cryf ar draws gwahanol dimau a sefydliadau. Roedd gweithwyr cymdeithasol, unigolion o’r sector iechyd, addysgwyr ac ymchwilwyr yn llenwi’r ystafell gyda syniadau a phwrpas. Roedd yn ffordd wych o’n hatgoffa bod diogelu yn ymdrech ar y cyd - a'n bod ni'n gryfach pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. 

Roedden ni hefyd wrth ein bodd i weld cefnogaeth gref gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf. Mae'r ymrwymiad maen nhw'n dangos i Ddiogelu drwy’r cyfnod pontio yn helpu i ysgogi newid ar draws y rhanbarth. Mae eu buddsoddiad yn gam mawr ymlaen ac yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd arweinyddiaeth ac ymarfer rheng flaen yn dod at ei gilydd. 

Drwyddi draw, roedd y sioe deithiol ymchwil yn gyfle gwych i ddysgu, cysylltu a myfyrio. Mae'n ein hatgoffa nad cysyniad yn unig yw Diogelu drwy’r cyfnod pontio - mae ganddo realiti byw sy'n gofyn i ni fyfyrio ac addasu'n gyson.

“Ysgogi chi i feddwl. Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio ymhellach. Falch bod y pwnc hwn yn cael ei flaenoriaethu.”

“Atgyfnerthu’r neges o [bwysigrwydd] perthnasoedd o fewn ein gwaith.” 

– adborth cyfranogwyr. 

Cydnabyddiaethau

Diolch yn fawr iawn i Holly, Emma, a Sarah am yr holl waith caled y tu ôl i'r llenni i lywio digwyddiad llwyddiannus iawn. Ac i Rachel Scourfield ein Pennaeth Symudedd Gwybodaeth, a ddechreuodd y dydd gyda’i chyflwyniad hyfryd. Diolch hefyd i'n fideograffydd rhagorol, Aled Wride, sydd wedi cynhyrchu fideo gwych o'r sesiwn, y byddwn yn ei bostio ar y wefan yn y dyfodol agos. 

Mwy o wybodaeth!

Gallwch chi ddarllen mwy am bwnc Diogelu drwy’r cyfnod pontio yma: Cyfres sioeau teithiol ymchwil y gwanwyn: Diogelu drwy'r cyfnod pontio. 

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein tîm symudedd gwybodaeth, ewch i: Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer.

Awdur y blog

Tom Slater

Tom Slater

Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros dro

grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Mae gen i gefndir addysg ac ymchwil gwaith cymdeithasol, gyda diddordeb arbennig mewn iechyd meddwl, dylunio dysgu ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf wedi mwynhau’n fawr dysgu gan ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol. Mae’n fraint bod mewn sefyllfa i ddysgu gymaint gan eraill.