Skip to Main content

Cyfres sioeau teithiol ymchwil y gwanwyn: diogelu drwy’r cyfnod pontio

18 Mehefin 2025

Yn y blog hwn, mae'r cydlynydd tystiolaeth ac ymgysylltu Sarah Atkinson yn dathlu ein dwy sioe deithiol ymchwil ddiweddaraf mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng ngogledd a de Cymru. 

Cefndir y sioeau teithiol ymchwil

Rydyn ni'n cefnogi ymarferwyr i gael mynediad at waith ymchwilwyr academaidd a phobl sydd â phrofiad byw.

Yn 2024, fe wnaethom dreialu dull newydd yn llwyddiannus i wneud ein sioeau teithiol mor hygyrch â phosibl.

Aethom yn uniongyrchol at ymarferwyr, gan gynnal sesiynau gydag awdurdodau lleol i leihau rhwystrau fel amser a chostau teithio. Rydyn ni wedi adeiladu ar y dull hwn gyda dwy sioe deithiol newydd yng Nghasnewydd a Bangor.

llun yn dangos pobl yn eistedd mewn ystafell yn gwylio rhywun yn cyflwyno'r siaradwyr

"Roedd y sioe deithiol yn ddigwyddiad ardderchog. Ac roedd y cydbwysedd rhwng clywed gan rywun â phrofiad byw ac academyddion byd-enwog wedi'i weithredu'n dda iawn. Roedd y pwyntiau trafod yn y prynhawn yn berthnasol iawn ac wedi'u cynllunio’n dda."

– Cyfranogwr sioe deithiol ymchwil

Beth yw pwrpas y sioeau teithiol ymchwil?

  • Archwilio pwnc ymchwil mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi dweud wrthym eu bod eisiau dysgu mwy amdano.
  • Hyrwyddo gwerth ymchwil a sut y gall fod yn berthnasol i ymarfer gofal cymdeithasol.
  • Darparu sesiynau byr, rhyngweithiol ac ymarferol.

Beth yw diogelu trwy'r cyfnod pontio?

“Mae diogelu'n ferf yn hytrach nag enw” - Dez Holmes, Research in Practice   

Mae'r term 'Diogelu drwy’r cyfnod pontio' yn disgrifio dull o ddiogelu sy'n cefnogi pobl ifanc trwy’r cyfnod pontio pan fyddan nhw’n troi’n oedolion. Mae hwn yn gyfnod heriol i bobl ifanc agored i niwed oherwydd gall y gwasanaethau a'r gefnogaeth maen nhw'n eu hadnabod fel plant newid neu ddod i ben yn llwyr pan fyddan nhw’n cyrraedd 18 oed.

Mae'n ddull hyblyg, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymatebol, yn hytrach na model neu system sefydlog. Mae'n helpu i bontio gwahaniaethau sylweddol mewn systemau diogelu plant ac oedolion i greu proses sy'n fwy esmwyth.

Llun yn dangos cyfranogwyr digwyddiad Bangor yn eistedd wrth bwrddi, gyda rhai yn sefyll.

"Defnyddio ymchwil yn fwy effeithiol i lywio ymarfer, cynnwys llais pobl ifanc mewn cynllunio, ymgorffori syniad bod diogelu yn ferf yn hytrach nag enw."   

- Cyfranogwr sioe deithiol ymchwil

Rhannu gwybodaeth trwy brofiad byw ac ymchwil academaidd

Rhannodd cyflwynwyr Casnewydd a Bangor eu hymchwil academaidd a'u teithiau personol gan wneud achos cryf dros bwysigrwydd a manteision ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Adroddodd Wes Cunliffe y stori ysbrydoledig am sut y trodd ei fywyd o gwmpas. Rhannodd sut y dihangodd rhag ymwneud â gangiau cyffuriau yn ei arddegau bregus, diolch i berthynas gefnogol ag unigolion a oedd yn cydnabod ei gryfderau a'i sgiliau. Rhannodd Amy Thatcher Jones ei stori fel plentyn a oedd yn derbyn gofal. A sut mae hi'n defnyddio'r profiad personol hwnnw i lywio ei rôl bresennol fel rheolwr y tîm cymorth sy'n ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio. 

Amlinellodd yr Athro Christine Cocker o Brifysgol East Anglia yr egwyddorion allweddol sy'n graidd i ddiogelu drwy'r cyfnod pontio. 

Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • defnyddio tystiolaeth fel sail
  • cyd-destun penodol
  • ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng 'pontio' a 'diogelu' drwy'r cyfnod pontio
  • bod yn berthynol, moesegol a deall effaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • bod yn gyfranogol. 

Soniodd Christine am gymryd agwedd glir a beirniadol at ddiogelu, gan bwysleisio mai'r "stwff meddal yw'r pethau caled mewn gwirionedd". Mae hyn yn adlewyrchu'r angen am agwedd gynhwysfawr, system gyfan, tuag at newid.

Mae'r llun hwn yn dangos pedwar unigolyn yn sefyll gyda'i gilydd oedd yn rhan o'r sioe teithio ymchwil yng Nghasnewydd

Soniodd yr Athro Michael Preston Shoot am ei brofiadau gwaith yn ei gyflwyniad ‘Defnyddio sylfaen dystiolaeth i hyrwyddo arfer gorau’. Er enghraifft, gweithio â phobl ifanc gyda phrofiad gofal, ei ymarfer gwaith cymdeithasol a'r adolygiadau achosion difrifol yr oedd wedi gweithio arnyn nhw.

Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at yr angen i baratoi a chefnogi pawb sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc yn well. Pwysleisiodd leisiau coll neu heb eu clywed y bobl sy'n adnabod yr unigolyn orau.

Amlinellodd Michael y ddeddfwriaeth a'r canllawiau sydd ar waith ar gyfer cyrff statudol sy'n gweithio'n benodol gyda phobl ifanc sy'n gadael gofal, a'r bylchau mewn darpariaeth dda sy'n arwain at fethiannau.

"Byddwch yn berson sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n cael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi"

Siaradodd Sioned Owen,  gweithiwr cymdeithasol yn y tîm gofal gadael yng Ngwynedd, am ei dull o ymarfer a'i thaith a'i dysgu ei hun. Myfyriodd Sioned ar sut mae hi wedi defnyddio rhannu stori i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl a phwysigrwydd adeiladu perthynas gref. 

Roedd ymagwedd berthynas Sioned yn allweddol i stori bersonol Amy. Fel ei gweithiwr cymdeithasol, roedd Sioned yn fodel o'r ymagwedd y byddai Amy yn ei mabwysiadu yn ddiweddarach yn ei hymarfer ei hun fel gweithiwr cymorth.

Rhannodd Dr Ceryl Davie a Dr Louise Prendergast (Prifysgol Bangor) eu gwaith gydag awdurdodau lleol Cymru, academyddion a phobl ifanc sy'n gadael gofal, i gyd-gynhyrchu pecyn cymorth i ymarferwyr er mwyn cefnogi pobl sy'n gadael gofal. Mae'r pecyn yn cefnogi ymgysylltiad effeithiol wedi'i adeiladu o amgylch ymddiriedaeth, llais, dewis a rheolaeth. 

Lawrlwytho copi o'r pecyn cymorth gadael gofal

Sylwadau

Tua diwedd y ddau digwyddiad, cafodd pawb gyfle i fyfyrio ar bynciau trafod y dydd. Roedd hwn hefyd yn gyfle i bobl ystyried eu 'camau nesaf'. Camau personol, ac yn ehangach o fewn ei sefydliadau, yn seiliedig ar yr hyn yr oedden nhw wedi'i ddysgu. Er mwyn fframio'r trafodaethau hyn, fe wnaethom rannu pwyntiau trafod, yr oedd y cyflwynwyr wedi'u hawgrymu. Yn y dull Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) rydyn ni'n galw'r rhain yn ddatganiadau pryfoclyd neu bwyntiau siarad. 

Er enghraifft:

"Mae'r bwlch rhwng gofal cymdeithasol plant a gofal cymdeithasol oedolion, iechyd, addysg, gwasanaethau iechyd meddwl a chyfiawnder yn rhy fawr. Gallwn ni byth greu rhywbeth gwell."

Mae datganiadau pryfoclyd fel hyn yn creu cysylltiad deallusol ac emosiynol. Rydyn ni'n gofyn i bobl ddefnyddio Sgwrs Archwiliadol i rannu pam eu bod yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad. Mae pawb yn cael cyfle i rannu, ac mae gwahanol safbwyntiau'n cael eu harchwilio mewn ffordd agored heb feirniadaeth. 

Yn ein digwyddiadau, roedd pwyntiau trafod y cyflwynwyr yn creu trafodaethau cyfoethog iawn.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth!

I ddarllen am ein digwyddiadau blaenorol ewch i: Sioeau teithiol ymchwil 2024: taflu golau ar niwroamrywiaeth.

Gallwch chi anfon e-bost os hoffech chi drafod cynnal sioe teithiol ymchwil neu gynnig pwnc i'w archwilio: symudeddgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.

Ewch i'r dudalen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i ddeall mwy am ddulliau DEEP a chyfleoedd dysgu.

Ewch i'r Porwr Prosiectau am fwy o wybodaeth ar y pecyn cymorth i gefnogi ymgysylltiad pobl sy’n gadael gofal â gwasanaethau amlasiantaeth.

Awdur y blog

Sarah Atkinson

Sarah Atkinson

Cydlynydd tystiolaeth ac ymgysylltu

Rwy'n gweithio fel rhan o'r tîm symudedd gwybodaeth. Rydyn ni’n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio, a chynnal ymchwil yn ymarferol, cynllunio a llunio polisïau. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy adeiladu perthnasoedd, cymunedau a gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo'r defnydd o ymchwil a thystiolaeth. Mae fy rolau blaenorol yn cynnwys gwaith ymgyrchu, ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau, polisi, a datblygu a darparu gwasanaethau. Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil tra oeddwn i’n gweithio gyda phobl hŷn.

Mae gen i radd meistr mewn dulliau ymchwil o Brifysgol Caerdydd. Rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Cymru a'r Alban gyda ffocws ar ymarfer a datblygiad gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau. Tu fas i’r gwaith, rwy'n mwynhau bod yn rhan o grŵp darllen a mynd ar daith yng Nghymru a thu hwnt.