Yn y blog hwn, mae Dr Micaela Gal yn archwilio rôl Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (2021 i 2023) i gefnogi ymchwil a phenderfyniadau rhanddeiliaid fel Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn ateb cwestiynau brys yn ystod y pandemig.
Cefndir
Newidiodd pandemig COVID-19 anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol. Roedd newid hefyd o ran sut i ddarparu gwasanaethau hanfodol yng Nghymru a thu hwnt. Roedd yn rhaid i benderfyniadau polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol gael eu gwneud yn gyflym ac wedi eu seilio ar dystiolaeth.
Roedd sicrhau bod tystiolaeth ymchwil yn hawdd i'w deall a'i defnyddio yn fwy heriol yn ystod y pandemig.
Roedd rhai o'r rhwystrau'n cynnwys:
- angen atebion cyflym i gwestiynau brys
- diffyg gwybodaeth am y dystiolaeth ymchwil oedd yn bodoli, neu ble i ddod o hyd iddi
- gwybod pryd i ymddiried mewn ymchwil
- peidio â chael amser i ddarganfod, deall a chrynhoi ymchwil
- ei chael hi'n anodd deall iaith ymchwil a pheidio â bod yn hyderus yn eu sgiliau ymchwil eu hunain.
Canolfan Dystiolaeth Covid-19
Gwnaeth y Ganolfan adolygiadau cyflym o dystiolaeth ymchwil i nodi, gwerthuso a chrynhoi'r dystiolaeth ymchwil oedd ar gael. Defnyddiod dulliau symudedd gwybodaeth i sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i'r bobl gywir, ar yr adeg gywir.
Gweithiodd ymchwilwyr yn y Ganolfan yn agos gyda'r prif bobl oedd yn gwneud penderfyniadau neu eu cynrychiolwyr, er mwyn:
- sicrhau bod yr adolygiadau cyflym yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw
- trafod goblygiadau'r canfyddiadau i bolisi ac ymarfer
- sicrhau bod y wybodaeth (mewn adroddiadau, infograffeg, crynodebau ac ati) yn hawdd eu deall
- cynnig cymorth i gynllunio a chefnogi symudedd
- nodi'r gwahaniaeth (effaith) y roedd y gwaith wedi'i wneud.
Roedd grŵp partneriaeth cyhoeddus hefyd yn rhan o'r broses.
Roedd y Ganolfan yn defnyddio dulliau symudedd gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i'r bobl gywir, ar yr adeg gywir
Gwersi gwerthfawr
Daeth gwersi pwysig i'r golwg yn ystod oes y Ganolfan Dystiolaeth. Maen nhw bellach yn siapio gwaith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Mae ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn hanfodol. Mae angen dysgu o wybodaeth a phrofiad pawb.
- Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n amhrisiadwy wrth helpu i gynllunio a chefnogi symudedd gwybodaeth.
- Mae sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn hygyrch yn allweddol. Ni ddylai ymchwilwyr gymryd yn ganiataol bod gan bawb wybodaeth ymchwil a dylen nhw ddefnyddio iaith glir.
Mwy o wybodaeth
Ysgrifennodd y Ganolfan a'i chydweithwyr, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, bapur i fyfyrio ar eu prosesau symudedd gwybodaeth, a rhannu rhwystrau a gwersi o'r broses.
Gallwch chi ddarllen yr adroddiad a defnyddio'r adnoddau gweledol sy'n cefnogi'r gwaith.
Darllenwch flog gwadd Dr Micaela Gal ar symudedd gwybodaeth.
Mae modd hefyd i chi gysylltu'n uniongyrchol â thîm Gofal Cymdeithasol Cymru: symudeddgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.