Skip to Main content

Sut y gallwn gefnogi pobl i ddefnyddio gwybodaeth wrth ymarfer

06 Awst 2025

Mae Emma Taylor-Hill, ein harweinydd symudedd gwybodaeth, yn myfyrio ar feysydd gwaith diweddar y tîm, a’r hyn sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y dyfodol agos.

Ein tudalen newydd ar y Grŵp Gwybodaeth

Fe wnaethom lansio ein tudalen Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer ym mis Mehefin i rannu sut rydyn ni’n helpu pobl i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth yn eu gwaith. 

Ers hynny, rydyn ni wedi derbyn llawer o geisiadau am sesiynau wedi'u teilwra ar bynciau sy'n bwysig i bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol.

Ein dull gweithredu

Mae ein cynnig yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau creadigol, lle gallwn ni ddarparu gofod diogel i dimau, grwpiau a chydweithwyr amlddisgyblaethol ddod at ei gilydd i archwilio ymchwil a thystiolaeth. 

"Mae’r misoedd diwetha’ wedi bod yn brysur. Ac rydyn ni’n falch o rannu ein cynnig gyda chynulleidfa ehangach. Rydyn ni am helpu pobl sy'n gweithio yn y sector i roi ymchwil a thystiolaeth ar waith mewn ffordd sy'n cefnogi eu hanghenion a'u heriau penodol orau." 

– Emma Taylor-Hill, Arweinydd symudedd gwybodaeth.

Cipolwg o'n gwaith diweddar

Fe welwch o’r enghreifftiau hyn, y math o gefnogaeth y gallwn ni ei ddarparu.

  • Sgyrsiau ymchwil: cymryd risg cadarnhaol

Roedd y sesiwn hon ar gyfer grŵp ymarfer wedi'i gyfoethogi â thystiolaeth sy'n cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol. Rhannodd Dr Catherine Poulter dystiolaeth ymchwil a chafodd y grŵp ei gefnogi i archwilio'r risg sy'n gysylltiedig â dementia trwy astudiaethau achos. 

  • Sesiwn sgiliau ymchwil: anhwylder personoliaeth 

Dangosodd y sesiwn, ar gyfer tîm anabledd cymhleth a thîm iechyd meddwl cymunedol lleol, esiamplau o ddefnyddio sgiliau ymchwil yn ymarferol. Fe wnaethom rannu gwybodaeth ac archwilio rhagfarn a rhagdybiaethau am anhwylder personoliaeth. Roedd hyn yn annog myfyrio ar ddefnyddio sgiliau cyfathrebu i fabwysiadu dull perthynol a gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person. 

  • Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer: sesiwn wybodaeth

Fe wnaethom gynnal y sesiwn hon ar gyfer grŵp o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. Fe wnaethom rannu ein cynnig a hyrwyddo mynediad i e-lyfrgell y GIG. Mae eu helpu i gymhwyso gwybodaeth i ymarfer yn cefnogi gofynion eu Rhaglen Gadarnhau i ddefnyddio ymchwil fel rhan o'u myfyrdod beirniadol a'u datblygiad parhaus.

  • Cymorth wedi'i deilwra: Diogelu drwy’r cyfnod pontio

Fe wnaethom gynnal y sesiwn hon fel rhan o ddiwrnod datblygu i fyfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol a oedd wedi cymhwyso yn y tair blynedd diwethaf. Fe wnaethom ddefnyddio mewnwelediadau ar y pwnc a ddaeth o'n sioeau teithiol ymchwil yn 2025.

Beth sydd ar y gorwel?

Mae gennym fwy o sesiynau ar y gweill yn y misoedd nesaf.

  • Cymuned ymholi: dysgu o brofiad byw: Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal gyda thîm gwasanaethau oedolion.
  • Myfyrio ar dystiolaeth: cefnogi gwneud penderfyniadau am atgyfeirio at leoliadau preswyl: Bydd y sesiwn hon yn rhan o ddiwrnodau datblygu gwasanaeth ar gyfer timau gwasanaethau oedolion. Byddwn ni’n teilwra'r sesiwn i anghenion y grŵp trwy ddarganfod pa sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd y gallai fod angen eu datblygu.
  • Sioeau teithiol ymchwil: digwyddiadau newydd ar gyfer hydref 2025: Yn dilyn diddordeb gan fyrddau diogelu rhanbarthol, byddwn ni’n cyflwyno mwy o sesiynau ar Ddiogelu drwy'r cyfnod pontio yng Nghwm Taf a Gorllewin Morgannwg, gyda mwy o sioeau teithiol wedi'u cynllunio ar gyfer gwanwyn 2026.

Cysylltu â ni

Eisiau gwybod mwy neu fwcio sesiwn gyda ni? 

Anfonwch e-bost at: symudeddgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.

Awdur y blog

Emma Taylor-Hill

Emma Taylor-Hill

Arweinydd symudedd gwybodaeth

Rwy’n Arweinydd symudedd gwybodaeth ac yn rhan o’r tîm Ymchwil, Data ac Arloesi yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Mae fy rôl yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o gefnogi pobl i roi tystiolaeth ar waith, a chysylltu’r bydoedd ymarfer ac ymchwil fel y gallwn ni wneud synnwyr o dystiolaeth gyda’n gilydd. 

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn y tîm hyfforddi a datblygu. Fy hoff rannau o’r rôl honno oedd gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a hefyd cynnal grŵp Ymchwil ar Waith.