Sut i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yn well wrth bontio i ofal oedolion: crynodeb tystiolaeth newydd!
Rydyn ni wedi cyhoeddi crynodeb tystiolaeth newydd sy'n archwilio sut mae pobl ifanc a'u teuluoedd yn wynebu heriau sylweddol wrth iddyn nhw symud o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Mae tyfu i fyny'n galed, ond i bobl ifanc sy'n defnyddio gofal a chymorth mae'n fwy cymhleth fyth. Wrth iddynt weithio allan beth maen nhw ei eisiau o fywyd, maen nhw hefyd yn wynebu newidiadau pwysig i'r systemau cymorth o'u cwmpas.
Mae'r ymchwil yn tanlinellu'r angen am wasanaethau i ymateb yn fwy effeithiol i'r cam allweddol hwn a darparu cymorth sy'n diwallu anghenion unigolion a'u teuluoedd.
Beth yw'r heriau i bobl ifanc a'u teuluoedd?
Mae'r ymchwil sydd ar gael yn tynnu sylw at feysydd penodol sy'n achosi anhawster yn ystod pontio, megis:
- mynediad cyfyngedig at gymorth
- diffyg gwybodaeth glir
- bod neb yn gwrando arnyn nhw.
Gall y pethau hyn golygu fod pobl ifanc yn teimlo'n ansicr a heb gefnogaeth ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau.
Mae tyfu i fyny'n anodd i bawb ond i bobl ifanc sy'n defnyddio gofal a chymorth gall fod yn fwy cymhleth fyth. Maen nhw'n ystyried y math o fywyd yr hoffen nhw ei gael tra'n llywio newidiadau i'w gofal a chymorth
Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni'n edrych yn benodol ar yr ymchwil ynghylch beth mae pobl ifanc a'u teuluoedd yn ei ddweud sy'n bwysig ar gyfer pontio da i wasanaethau oedolion. Maen nhw'n pwysleisio y dylai pontio gael eu siapio gan yr hyn sy'n bwysicaf i'r unigolyn.
Yn y crynodeb, rydyn ni'n tynnu sylw at bwysigrwydd y canlynol i bobl ifanc:
- caniatáu iddynt ddiffinio sut beth yw "bywyd da" iddyn nhw
- eu helpu i wneud eu dewisiadau eu hunain
- cydnabod gwerth eu perthnasoedd
- darparu gofal a chefnogaeth sy'n gyson ac yn hyblyg.
Beth sy'n gwella'r broses bontio?
Mae rhai pethau'n cefnogi gwell profiad o bontio, gan gynnwys:
- darparu gwybodaeth glir, hygyrch am y broses
- cynnig cefnogaeth ddibynadwy a chyson
- cefnogi'r teulu cyfan.
Mae perthnasoedd, cysylltiadau cymunedol a pharhad o gymorth blaenorol yn cael eu nodi fel ffactorau allweddol a all hwyluso'r newid i wasanaethau oedolion. Fodd bynnag, mae ymchwil hefyd yn nodi'r angen am well cyfathrebu gan wasanaethau a dulliau mwy hyblyg sy'n addasu i anghenion unigol.
Beth sydd nesaf?
Ewch i: Pontio: safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd.
Dyma'r cyntaf mewn cyfres o grynodebau tystiolaeth sy'n edrych ar wahanol agweddau ar bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i wasanaethau oedolion. Rydyn ni’n cynhyrchu'r gyfres hon mewn ymateb i'n hymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil diweddar.
Roeddem am ddarganfod pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o’r broses bontio.
Byddwn ni'n cyhoeddi mwy o grynodebau tystiolaeth sy'n ymdrin ag agweddau eraill ar bontio cyn bo hir. Cadwch lygad yn agored am fwy o wybodaeth ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.