
Ein 10 blaenoriaeth ymchwil fuddugol: ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion
Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod gennym 10 blaenoriaeth ymchwil fuddugol.
Rydyn ni wedi defnyddio dulliau ymgysylltu amrywiol i ddarganfod beth sydd gan wahanol grwpiau i'w ddweud am flaenoriaethau ymchwil data cysylltiedig yn y maes gofal cymdeithasol i oedolion.
Rydyn ni wedi ffocysu ar ba ofal cymdeithasol i oedolion sydd angen ar bobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt hwn yn dilyn proses dryloyw a gafodd ei hadolygu ar bob cam gan ein gweithgor a'n tîm ymroddedig, gan gynnwys arbenigwr gosod blaenoriaethau.
Ein proses
Rhwng mis Awst a mis Hydref 2024, cafodd ymateb pobl eu casglu drwy arolwg a sgyrsiau wyneb yn wyneb. O 48 ymateb unigol, daeth 128 awgrym am y math o ofal cymdeithasol sydd angen ar bobl nawr ac yn y dyfodol. Ymatebodd staff gofal cymdeithasol rheng flaen a strategol, cydweithwyr trydydd sector a phobl gyda phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Fe wnaethon ni ddadansoddi’r awgrymiadau ac ymgynghori ag arbenigwyr data i ddeall ble oedd modd defnyddio ymchwil data cysylltiedig. Edrychon ni hefyd am ymchwil sydd eisoes yn bodoli sy’n ymateb i'r awgrymiadau hyn. Rydyn ni hefyd wedi ystyried pa ddata sydd ar gael yn barod i ymchwilwyr a pha ddata sydd angen eu caffael.
Cafodd yr awgrymiadau eu grwpio mewn themâu eang er mwyn cyrraedd 15 maes blaenoriaeth buddugol i'w hateb gan ymchwil data cysylltiedig.
Y 10 blaenoriaeth fuddugol
Ar 12 Mawrth, daeth ymarferwyr a phobl â phrofiad byw at ei gilydd i fynychu gweithdy terfynol i drafod y 15 thema. Roedd gofyn i'r cyfranogwyr bleidleisio ar y themâu yr oedden nhw’n teimlo oedd fwyaf pwysig. O’r broses hon, daeth ein 10 thema fuddugol.
Dewisodd ein cyfranogwyr y 10 thema blaenoriaeth hyn i'w hateb gan ymchwil:
- Deall yr effaith mae gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar (fel addasiadau cartref neu deleofal) yn ei gael ar ddefnydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol arall.
- Deall anghenion gwahanol grwpiau er mwyn sicrhau bod comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol y dyfodol yn ymateb iddyn nhw. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys gofalwyr di-dâl, pobl niwroamrywiol, pobl ag anableddau dysgu, a phobl ifanc ag anableddau corfforol.
- Deall pa ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant staff gofal cymdeithasol, a sut y gallai'r ffactorau hynny hefyd effeithio ar recriwtio a chadw.
- Rhagweld galw a phenodi adnoddau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys tai a llety gyda gofal a chymorth a gwasanaethau dydd.
- Archwilio'r berthynas rhwng ariannu gofal cymdeithasol ac ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu.
- Deall y berthynas rhwng ffactorau sy'n effeithio ar y gweithlu - fel lefelau staffio, telerau ac amodau, anghenion hyfforddi, sgiliau iaith a sgiliau perthnasol eraill - a'r gofal a chymorth sydd ar gael.
- Deall sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar draws oes unigolyn a'r berthynas rhwng iechyd cyffredinol pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a’r ddarpariaeth sydd ar gael.
- Deall ble mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd. A sut mae hyn yn effeithio ar bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn ogystal â'r gwasanaethau dan sylw.
- Deall y berthynas rhwng ynysu cymdeithasol, unigrwydd a darparu gofal cymdeithasol.
- Deall effaith yr amser aros mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar unigolion sydd angen gofal a chymorth.
Cafodd y pum blaenoriaeth ganlynol eu trafod yn ystod y gweithdy, heb gyrraedd y 10 buddugol:
- Deall pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael ledled Cymru a sut maen nhw’n cael eu defnyddio.
- Deall gwahaniaethau o ran costau sy'n gysylltiedig â darpariaeth gofal cymdeithasol yn ôl y math o wasanaeth, os yw’n ardal wledig neu drefol, yn ogystal ag effaith newidiadau cyllid ar ddarpariaeth.Understand differences in the costs associated with social care provision across service type and rural and urban areas, as well as the impact of funding changes on provision.
- Archwilio rôl arloesedd a thechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.
- Gwirio effeithiolrwydd mesurau i leihau allyriadau carbon mewn gofal cymdeithasol.
- Deall nodweddion ac anghenion unigolion sy'n talu am eu gofal cymdeithasol eu hunain.
"Cafodd y gweithdy ei gynllunio'n feddylgar i ddod ag unigolion â phrofiad byw, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ynghyd i lunio blaenoriaethau ymchwil data cysylltiedig yng Nghymru...Er bod pawb yn dod o gefndiroedd gwahanol ac yn dod â gwahanol safbwyntiau, roedd ymdeimlad cryf o barch a chydraddoldeb ar draws y grŵp. Roedd tîm Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cynhwysedd a hygyrchedd, ac roedd yn bleser gweithio gyda nhw."
- Alice Butler, Gweithiwr Cynnwys y Cyhoedd a Phroffesiynol, Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r 10 thema blaenoriaeth fuddugol, gan gynnwys unrhyw drafodaeth berthnasol.
Byddwn ni hefyd yn siarad â sefydliadau am rannu eu data yn ymwneud â'r 10 thema blaenoriaeth a gweithio gydag ymchwilwyr i droi'r blaenoriaethau'n gwestiynau ymchwil.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth
Ewch i’n tudalen ar ein gwaith yn arwain ar y thema gofal cymdeithasol gydag Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru neu'r blog ar ymchwil data cysylltiedig sy'n archwilio buddion yr ymagwedd hon.
Gallwch chi gysylltu'n uniongyrchol drwy anfon e-bost at: ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru.