Yn y blog hwn, mae Nick Andrews yn amlinellu nodweddion allweddol Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) a sut mae'n cael ei ddefnyddio i gasglu ac archwilio tystiolaeth yng Nghymru.
'Nid popeth rhifadwy sy'n werth cyfrif, ac nid yw'n bosib cyfrif popeth sy'n werthfawr.'
- William Bruce Cameron
Mae gwasanaethau a rhaglenni gwaith sy'n canolbwyntio ar newid a gwella yn tueddu'n gynyddol i ddefnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'r gofyniad i gasglu tystiolaeth o ganlyniadau pobl yn cael ei adlewyrchu yn Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Serch hynny, gall fod yn heriol casglu a mesur canlyniadau newid mewn ffordd ystyrlon.
Rwyf wedi cael y fraint o weithio ar MSC yng Nghymru gyda phobl ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y celfyddydau mewn iechyd a datblygu cymunedol.
Beth yw MSC?
Mae Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) yn ddull adrodd stori o gasglu ac archwilio canlyniadau newid. Cafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd a datblygiad rhyngwladol (Davies a Dart, 2005).
Mae ysgrifennu stori MSC yn wahanol i greu astudiaeth achos. Mae astudiaeth achos yn stori trydydd person am unigolyn tra bod stori MSC yn stori person cyntaf gan unigolyn. Perygl astudiaeth achos yw gall y cynnwys gael ei arwain gan yr hyn sy'n bwysig i'r person sy'n casglu'r stori, yn hytrach na'r person y mae ei stori'n cael ei hadrodd.
Mae gan MSC dair nodwedd hanfodol, sy'n ffurfio cylch rhinweddol:
- casglu straeon
- archwilio a dethol stori
- adborth ar ddysgu ac ymateb.
Mae MSC yn dechrau trwy wahodd pobl i rannu eu straeon am yr hyn sydd wedi newid yn dilyn ymyrraeth, gwasanaeth neu raglen.
Yn hytrach na gofyn am ganlyniadau sydd eisoes wedi eu pennu, mae MSC yn gofyn cwestiwn agored. Er enghraifft:
"Wrth edrych yn ôl dros y chwe mis diwethaf, pa newidiadau da neu ddrwg sydd wedi digwydd i chi o ganlyniad i'r gwasanaeth?"
Mae pobl yn cael eu cefnogi i restru'r holl newidiadau maen nhw wedi'u profi.
Er enghraifft:
- newid personol: corfforol, seicolegol, cymdeithasol, agwedd
- newid mewn pobl eraill: cydweithwyr neu gyfoedion
- newid mewn cymunedau, grwpiau neu sefydliadau: gweithgareddau, perthnasoedd, gwaith papur.
Unwaith mae pobl wedi nodi'r newidiadau i gyd, mae'r cwestiwn canlynol yn cael ei ofyn:
"O'r newidiadau rydych chi wedi eu dewis, pa un yw'r un mwyaf arwyddocaol a pham?"
Ar ôl dethol y newid mwyaf arwyddocal iddyn nhw'n bersonol, mae nhw'n ateb y cwestiwn hwn:
"Wrth feddwl am y newid hwn, gallwch chi ddisgrifio ychydig am eich sefyllfa o'r blaen, y sefyllfa bresennol, a beth wnaeth arwain at y newid?"
Archwilio a dethol stori
Mewn gwerthusiad mae'n bosibl i ymchwilydd ddadansoddi casgliad o straeon MSC yn ôl thema. Ond mae MSC yn canolbwyntio ar ddysgu'n bennaf. Y prif diben yw gwerthuso straeon ar y cyd, gydag ystod o randdeiliaid allweddol - yn enwedig rhai sydd â phŵer a dylanwad dros ddylunio a chyflwyno gwasanaeth neu brosiect.
Adborth ar ddysgu ac ymateb
Wedi i'r panel archwilio'r straeon maen nhw’n dewis yr un maen nhw'n ei weld fel yr un mwyaf arwyddocaol. Wedyn, maen nhw’n crynhoi eu myfyrdodau mewn adroddiad adborth. Gall yr adroddiad cael ei rannu'n eang, gan gynnwys gyda'r uniogolion a wnaeth rhannu eu straeon.
Mae'r adroddiad yn cynnwys:
- dyddiad cyfarfod y panel
- pwy oedd ar y panel
- pa stori a ddewisodd y panel a pham
- yr hyn a ddysgodd y panel o archwilio'r straeon
- pa gamau gweithredu neu ymatebion y mae'r panel yn eu hargymell mewn ymateb i'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu.
Defnydd MSC yng Nghymru
Dechreuodd fy nhaith MSC yng Nghymru yn 2017, pan fues i’n cefnogi gwerthusiad o waith atal yn Sir Fynwy a Sir Benfro. Roedd y gwaith hwn yn gymhleth ac yn cynnwys nifer o bartneriaid statudol a thrydydd sector, a oedd yn rhoi cynnig ar nifer o ymyriadau. Roedden nhw eisiau dysgu ar y cyd, i gael dealltwriaeth o'r hyn oedd yn digwydd, beth oedd yn gweithio neu ddim yn gweithio, a pham.
Ers hynny, rwyf wedi defnyddio'r dull hwn mewn sawl prosiect ar gyfer gwerthuso a datblygu.
- Connect 5, rhaglen hyfforddi llesiant iechyd meddwl, Gwent.
- Datblygu cymunedol yng Nghaerdydd gyda Action in Caerau and Ely (ACE).
- Gwasanaeth eiriol cymheiriaid rhieni, Castell-nedd Port Talbot.
- Gwasanaeth cymundedol wedi ei gyd-gynhyrchu i adsefydlu pobl ar ôl strôc ac anafiadau i'r pen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
- Coleg Adfer Iechyd Meddwl, Caerdydd.
- Prosiect celfyddydau iechyd a llesiant yng Ngorllewin Cymru gyda People Speak Up!
- Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl , wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Ym mis Mawrth 2025, daeth unigolion o iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector ynghyd i rannu eu profiadau MSC a'r dysgu sydd wedi dod ohono. Roedd y digwyddiad, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn hynod gadarnhaol a rhannodd llawer o'r cyfranogwyr eu profiadau gyda ni ar ffilm. Gallwch chi weld y ffilm yma: Adrodd stori ar gyfer dysgu a datblygu.
Fy nhaith MSC
Pan ddechreuais i’r gwaith hwn, gwelais MSC fel offeryn gwerthuso defnyddiol. Ers hynny rydw i wedi darganfod bod gan MSC gymaint mwy i'w gynnig.
- Gall fod yn therapiwtig.
- Mae'n ein helpu i adeiladu perthnasoedd a chyd-ddealltwriaeth.
- Gall egnïo ac ysgogi pobl.
Gall MSC fod yn therapiwtig
Oherwydd bod MSC yn dechrau trwy wrando ar, a gwerthfawrogi, straeon pobl, mae'n dweud wrth bobl eu bod yn bwysig ac yn arwyddocaol.
Rydyn ni wedi gweld bod yr agwedd hon ar MSC yn arbennig o bwysig wrth weithio gyda phobl sy'n cael eu hymyleiddio neu eu demoneiddio mewn rhyw ffordd.
Gall MSC adeiladu perthnasoedd a chyd-ddealltwriaeth
Mae paneli dethol straeon MSC yn gwneud mwy na galluogi gwerthuso straeon ar y cyd. Maen nhw'n helpu pobl i fyfyrio ar yr hyn maen nhw'n ei feddwl a pham.
Trwy wrando, siarad a rhesymu gyda'i gilydd yn ofalus, mae cyfranogwyr yn dysgu nid yn unig o'r straeon, ond hefyd am ei gilydd; eu gwerthoedd a'r hyn sy'n fwyaf pwysig iddyn nhw. Mae’n ddatblygiad o'r hyn y mae Anne Edwards ym Mhrifysgol Rhydychen yn ei alw'n 'wybodaeth gyffredin' (Edwards, 2012) sy’n bwysig ar gyfer cyd-gynhyrchu a gweithio rhyng-broffesiynol.
Gall MSC egnïo ac ysgogi pobl
Mae stori'n tynnu sylw'r pen a'r galon, gan ysbrydoli tosturi, cysylltiad a dysgu ystyrlon. Mae siarad a meddwl gyda'n gilydd am stori'n ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl. Mae hyn yn cyferbynnu â gofal a chefnogaeth sy'n cael ei yrru gan broses.
Eisiau mwy o wybodaeth?
Mae pŵer adrodd stori a sut i’w ddefnyddio mewn ymarfer yn cael ei archwilio yn ein Fframwaith adrodd stori ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Darllenwch fy nghrynodeb ar MSC a gwyliwch ein fideo yma: Adrodd stori ar gyfer dysgu a datblygu.
Mae ein tudalen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) yn rhoi mwy o wybodaeth ar DEEP ac yn cysylltu i wybodaeth am ddulliau eraill a chyfleoedd dysgu.
Cyfeiriadau -
Cliciwch i ehangu
Cliciwch i gau
Davies, R., a Dart, J. (2005) The ‘Most Significant Change’ (MSC) technique: A guide to its use, ar gael yn https://www.mande.co.uk/wp-content/uploads/2005/MSCGuide.pdf (cyrchwyd: 18 Mehefin 2025).
Edwards, A. (2012) 'The role of common knowledge in achieving collaboration across practices', Learning Culture and Social Interaction, 1 (1), tt. 22–32.