Skip to Main content

Adrodd stori ar gyfer dysgu a datblygu

Mae straeon yn ffordd ardderchog i greu sbardun ar gyfer siarad a dysgu gyda'n gilydd. Mae'r enghreifftiau yn yr adran hon yn dangos rhai dulliau defnyddiol.

Mae llawer o ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio dulliau adrodd straeon i helpu pobl i ddysgu a datblygu eu sgiliau

Adrodd Cymunedol

Ysgrifennwyd gan Hayley Trowbridge

Mae Adrodd Cymunedol yn ddull digidol o adrodd stori ar y cyd gyda chymheiriaid. Mae'n cefnogi pobl i gymryd rhan mewn ymchwil, llunio polisi, datblygu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau. Mae'n helpu pobl i adrodd eu straeon eu hunain, yn eu ffyrdd eu hunain trwy destun, ffotograffau, sain a fideo.

Mae tri cham i'r broses: 

  • hel straeon: cefnogi pobl i rannu straeon am bynciau sydd o bwys iddyn nhw
  • curadu straeon: nodi'r mewnwelediadau allweddol mewn set o straeon a dosbarthu'r canfyddiadau 
  • cynnull straeon: cysylltu mewnwelediadau stori â phobl sydd mewn sefyllfa i wneud newid. 

Mae Adrodd Cymunedol yn fframwaith ar gyfer defnyddio straeon pobl i greu newid go iawn. Gallwch chi ddarganfod mwy am y dull drwy'r fideo hwn: https://www.youtube.com/watch?v=ILRvHwHEKzY

Mae People's Voice Media wedi bod yn datblygu'r dull adrodd stori digidol ers 2007 ac wedi adeiladu cymuned o bobl a sefydliadau o'i cwmpas. Mae'r Rhwydwaith Gohebwyr Cymunedol bellach yn rhychwantu'r DU ac Ewrop. Mae ganddo fwy na 50 o sefydliadau partner gweithredol o wahanol sectorau ym meysydd polisi, ymchwil a gwasanaethau, ac mae wedi hyfforddi dros 2,000 o Ohebwyr Cymunedol.

Darganfod mwy:

https://www.youtube.com/watch?v=VjOTRmIyS8M

https://peoplesvoicemedia.co.uk

Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans

Ysgrifennwyd gan Emily Underwood-Lee

Cafodd y Ganolfan, sydd ym Mhrifysgol De Cymru, ei sefydlu yn 2005. Hwn yw ganolfan ymchwil academaidd hynaf y DU sy'n ymroddedig i astudio adrodd straeon a'i chymwysiadau.

Mae’r Ganolfan wedi tyfu i fod yn ganolbwynt ymchwil sefydledig gyda dylanwad fyd-eang ar ddysgu yn y maes. Ac ar ddefnydd a gwerth adrodd straeon o ran clywed lleisiau ymylol, deall profiadau, ac fel offeryn ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol.

Mae'r Ganolfan yn croesawu ysgolheigion ar bob lefel ac yn cynnal cymrodyr gwadd yn rheolaidd, gyda chymuned gynyddol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae gennym raglen barhaus o weithgareddau gan gynnwys cynadleddau blynyddol, symposia, seminarau, a digwyddiadau. Mae ein Rhwydwaith Ymarfer Myfyriol Adrodd Storïau yn grŵp ar-lein ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gweithio gyda, straeon personol, o fewn lleoliadau datblygu cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi Casglu: gofod coffi-a-chlonc rheolaidd ar-lein ar gyfer storïwyr, pobl sy'n gweithio gyda stori, a'r rhai y mae eu hymarfer yn gorgyffwrdd ag adrodd straeon ar lafar.

Darganfod mwy:

Hafan | Prifysgol De Cymru

Cleifion yn adrodd eu stori

Ysgrifennwyd gan Pip Hardy

Cafodd 'Patient Voices' ei sefydlu yn 2003 gan Pip Hardy a Tony Sumner. Mae'n defnyddio platfform digidol ar gyfer straeon person cyntaf.  

Roedd sefydlu’r rhaglen yn ffordd i greu cydbwysedd pŵer rhwng darparwyr gofal iechyd a'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Ac yn roi cyfle i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddeall anghenion cleifion a theuluoedd. Mae'n grymuso ac yn argyhoeddi'n well na unrhyw arolwg neu ystadegau sych. 

Erbyn hyn mae tua 1000 o straeon ar y wefan, pob un ar gael am ddim i'w defnyddio mewn mentrau gwella addysg a gwasanaethau. Mae'r rhaglen wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys gwobr y British Medical Journal am ragoriaeth mewn addysg gofal iechyd.

Darganfod mwy:

www.patientvoices.org.uk

Eiliadau Hud/Trasig

Ysgrifennwyd gan Nick Andrews

Mae Eiliadau Hud/Trasig yn ddull adrodd stori ar gyfer dysgu a datblygu. Mae'n seiliedig ar Gydgynllunio ar Sail Profiad (EBCD) (Bate a Robert, 2007). Mae'n casglu ac archwilio straeon byrion o brofiad ar y cyd, gyda ffocws ar yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau.

Daw straeon oddi wrth ymarferwyr a'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi. Yna, caiff y straeon eu trafod a'u harchwilio mewn grwpiau, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n eu gwneud yn rhai 'hud' neu 'drasig' a'r goblygiadau ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer.

Darganfod mwy:

Mae rhagor o fanylion am y dull hwn yn Llawlyfr DEEP sydd ar gael ar ein tudalen: Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).

Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC)

Ysgrifennwyd gan Nick Andrews

Mae'r fideo hwn yn archwilo'r dull a'i fuddion o ogwydd pobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol, iechyd a'r trydydd sector. Cafodd ei ffilmio mewn digwyddiad MSC a gynhaliodd DEEP ym mis Mawrth 2025.

Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael yn y gosodiadau.

Mae Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) yn ddull dysgu ac adrodd stori er mwyn gwerthuso. Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio mewn gwasanaethau, prosiectau neu raglenni sy'n canolbwyntio ar newid (Davies a Dart, 2005). Mae straeon sy'n archwilio newid yn cael eu casglu dros gyfnod penodol o amser ac maen nhw'n dilyn strwythur penodol:

  • wrth feddwl yn ôl dros y _ mis diwethaf, pa newidiadau da neu ddrwg sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r gwasanaeth/prosiect/rhaglen?
  • o'r newidiadau hyn, pa un yw'r mwyaf arwyddocaol i chi a pham?
  • ynglŷn â'r newid mwyaf arwyddocaol hwn, a allwch chi ddisgrifio sut brofiad oedd o'r blaen, beth yw'r profiad nawr a beth oedd wrth wraith y newid?
  • rhowch deitl bachog i'ch stori.

Gall ddetholiad o straeon MSC cael ei archwilio a'i drafod mewn Paneli Dewis Stori, sy'n cynnwys unigolion sydd â phwerau gwneud penderfyniadau strategol a rhanddeiliaid eraill. Mae'r paneli hyn yn siarad am y straeon. Maen nhw'n cynhyrchu adroddiad sy’n rhannu pa stori oedd y mwyaf arwyddocaol iddyn nhw, beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r holl straeon a’r goblygiadau ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer. Gall y straeon cael eu harchwilio mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, gall dadansoddiad ansoddol archwilio pa themâu sy'n bresennol yn y straeon.

Darganfod mwy:

Mae rhagor o fanylion am y dull hwn yn Llawlyfr DEEP sydd ar gael ar ein tudalen:  Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) neu ym mlog Nick: Tu hwnt i rifau: Newid Mwyaf Arwyddocaol fel dull gwerthuso yng Nghymru sy'n seiliedig ar ddysgu.

Llun addurniadol yn dangos dau berson yn siarad o ongl uwch eu pennau. Mae'r ffotograff gyda dyfynodau lliwgar o'i gwmpas

Straeon am iechyd a salwch

Y Labordy Arferion Naratif

Ysgrifennwyd gan Laura Mazzoli-Smith

Mae ymchwilwyr yn gweithio gyda straeon digidol ac yn archwilio sut mae adrodd stori yn dod yn dystiolaeth mewn ymchwil a gofal iechyd. Mae straeon yn cyflwyno’r gwahanol elfennau o brofiad byw (er enghraifft, y profiad meddygol, cymdeithasol a diwylliannol).

Mae gwaith y Labordy yn dwyn straeon personol a chymunedol ynghyd i herio anghydraddoldebau a strwythurau pŵer presennol.

Mae'r Labordy Arferion Naratif (The Narrative Practices Lab) yn rhan o'r Llwyfan Ymchwil Darganfod ar gyfer y Dyniaethau Meddygol yn Sefydliad y Dyniaethau Meddygol ym Mhrifysgol Durham. Mae'n fenter saith mlynedd sy'n defnyddio arferion adrodd stori a naratif mewn cyd-destun iechyd.

Darganfod mwy:

https://medhumsplatform.org/labs/narrative-practices/

Ymholiad Gwerthfawrogol

Ysgrifennwyd gan Roger Rowett

Mae Ymholiad Gwerthfawrogol (Appreciative Inquiry) yn ddull sy’n gwerthfawrogi’r gorau mewn sefydliad, grŵp neu unigolyn. Mae'n tarddu o seicoleg gadarnhaol, adrodd straeon, ac egwyddorion megis y gred ein bod yn adeiladu ein delwedd o'r byd trwy ein rhyngweithio ag eraill. Mae methodoleg adnabyddus yn rhan o'r dull, sef pum nodwedd sy'n mynd â phobl trwy broses:

  • diffinio
  • darganfod
  • breuddwydio
  • dylunio
  • tynged.

Mae'r dull yn cael ei roi ar waith ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd, a llawer o wahanol sefydliadau.


Darganfod mwy:

Darllen ychwanegol

COSIE. (2020) Working with lived experience as a tool for co-creation, ar gael yn https://cosie.turkuamk.fi/arkisto/uploads/2021/05/412fb459-lived_experience_toolkit_final.pdf (cyrchwyd: 27 Mawrth 2025).

Grob, R., Schlesinger, M., Barre, L.R., Bardach, N., Lagu, T., Shaller, D., Parker, A.M., Martino, S.C., Finucane, M.L., Cerully, J.L. a Palimaru, A. (2019) 'What words convey: the potential for patient narratives to inform quality improvement', Milbank Q, 97 (1), tt.176-227, doi: 10.1111/1468-009.12374. 

Hardy, P. a Summers, T. (2018) Cultivating compassion, how digital storytelling is transforming healthcare, Basingstoke, Palgrave. 

Matthews, N. a Sunderland, N. (2019) Digital storytelling in health and social policy: listening to marginalised voices, Llundain, Routledge. 

Snow, T., Bandaranayaka, A., Fyfe, R., a Wolff, L. (2021) Storytelling for systems change: listen to understand, Centre for Public Impact, ar gael yn  https://centreforpublicimpact.org/resource-hub/storytelling-for-systems-change-listening-to-understand/ (cyrchwyd: 4 Ebrill 2025).

Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Bate P a Robert G. (2007) Bringing User Experience to Healthcare Improvement: The Concepts, Methods and Practices of Experience-Based Design, Abingdon: Radcliffe.

Davies, R. a Dart, J. (2005) The Most Significant Change (MSC) Technique: A guide to its use, ar gael yn https://www.mande.co.uk/wp-content/uploads/2005/MSCGuide.pdf (cyrchwyd: 18 Rhagfyr 2024)