Skip to Main content

Tyfu'r Gymuned Ddata ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru

06 Awst 2026

Mae data yn rhan o ymarfer gofal cymdeithasol bob dydd. Boed yn gofnodi gwybodaeth, rhannu diweddariadau rhwng gwasanaethau neu ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau, mae data yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio a ble mae angen gwelliannau.

Dyna pam y lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru'r Gymuned Ddata. Mae'n lle lle gall pobl ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru gysylltu, dysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu profiadau o ddefnyddio data yn ymarferol.

Ein nod yw helpu pobl i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio data, meithrin cysylltiadau cryfach ar draws y sector a chefnogi canlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal a chymorth. Ers lansio, rydym wedi cael ein calonogi gan y diddordeb gan bobl ledled Cymru sydd eisiau dysgu, rhannu a llunio dyfodol data mewn gofal cymdeithasol.

 diddordeb mewn cymryd rhan? P'un a hoffech chi ddod yn aelod o'r Gymuned Ddata neu ymuno â sesiwn i weld beth yw'r cyfan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cymuned Ddata

Dewch yn aelod o Gymuned Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru

Sgwrsio am ddata gofal cymdeithasol

Cofrestrwch ar gyfer ein sesiynau sgwrsio am ddata gofal cymdeithasol

Gan ddibynnu a ydych chi wedi bod yn aelod o un o'n cymunedau o'r blaen, efallai y gofynnir i chi greu cyfrif cyn ymuno â chymuned benodol.

Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu hyd yn hyn

Ers lansio'r Gymuned Ddata, rydym eisoes wedi dechrau archwilio rhai o'r meysydd allweddol sy'n llunio sut mae data'n cael ei ddefnyddio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhoddodd ein digwyddiad cyntaf, Llunio'r Gymuned Ddata gyda'n gilydd, fan cychwyn cyffredin i ni. Myfyriodd cydweithwyr o bob cwr o Gymru ar y dirwedd data, yr hyder y mae pobl eisiau ei feithrin a'r perthnasoedd sy'n gwneud data'n ystyrlon. Daeth syniadau ymarferol i'r amlwg a'n helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl sy'n gweithio gyda data bob dydd.

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad cymunedol, Pam mae safonau data yn bwysig ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhannodd Owen Davies, Pennaeth Rhaglenni Data Strategol, sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu safonau data cenedlaethol i helpu i greu gwybodaeth gliriach a mwy cyson ar draws y sector.

Siaradodd am pam mae safonau data yn bwysig, gan ei gwneud hi'n haws i systemau weithio gyda'i gilydd, lleihau dyblygu a gwella ansawdd y data y mae pobl yn dibynnu arno bob dydd. Disgrifiodd Owen hefyd y dull cydweithredol y tu ôl i'r gwaith, gydag ymarferwyr o bob rhanbarth yn helpu i lunio'r safonau fel eu bod yn adlewyrchu arfer go iawn.

Amlygodd y sesiwn nad ymarfer technegol yn unig yw safonau data. Maent yn ffordd o gefnogi penderfyniadau gwell, teithiau llyfnach trwy ofal a chefnogaeth fwy cydgysylltiedig i bobl ledled Cymru.

Eisiau dysgu mwy am safonau data? Ewch i'n tudalen we safonau data i ddarganfod beth ydynt, gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled Cymru ac archwilio cyfleoedd i gymryd rhan.

Mae data a digidol yn perthyn i bawb

Ochr yn ochr â'n digwyddiadau cymunedol, ymunais yn ddiweddar â Sioe Deithiol Cymorth i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn y Drenewydd, Powys, lle cyflwynais y cymunedau data a digidol newydd i gyflogwyr lleol.

Dechreuon ni gyda chwestiwn syml: Pa ddata neu offer digidol na allech chi fyw hebddynt yn eich rôl?

Rhannodd pobl yn agored, cymharodd brofiadau a chydnabu bod data a digidol eisoes yn rhan o'u harfer bob dydd.

O'r fan honno, archwiliwyd beth yw cymuned ymarfer a'r mathau o bynciau y bydd y cymunedau data a digidol yn eu cynnwys, gan gynnwys:

  • arfer gorau ar gyfer rhannu gwybodaeth
  • lleihau dyblygu ac ysgrifennu nodiadau achos clir
  • offer ac adnoddau digidol
  • dylunio gwasanaethau hygyrch
  • beth mae eraill ledled Cymru yn ei wneud yn y maes hwn.

Roedd y sgyrsiau'n fywiog ac wedi'u seilio ar ymarfer go iawn. Fe wnaethon nhw atgyfnerthu rhywbeth rydyn ni wedi'i glywed yn gyson ers lawnsio: mae data a digidol ar gyfer pawb. Mae gan bob rôl, pob tîm a phob sefydliad ran i'w chwarae.

Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiynau sgwrsio am ddata gofal cymdeithasol

Nid yw pawb eisiau mynychu digwyddiad. Weithiau rydych chi eisiau clywed beth mae eraill yn gweithio arno, gofyn cwestiwn neu rannu syniad.

Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno sesiynau sgwrsio am ddata gofal cymdeithasol.

Bydd y sesiynau galw heibio anffurfiol 30 munud ar-lein hyn yn digwydd bob dau fis. Ni fydd unrhyw sleidiau nac agenda benodol, dim ond cyfle i rannu profiadau, trafod heriau a dysgu gan eraill sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd ein sesiwn gyntaf yn ar 18 Awst. Cofrestrwch yma.

Helpu i lunio beth sydd nesaf

Rydym ni ar ddechrau'r daith hon o hyd, a bydd y Gymuned Ddata yn parhau i dyfu trwy syniadau, profiadau a mewnwelediadau ei haelodau.

P'un a ydych chi eisoes yn gweithio gyda data neu eisiau dysgu mwy am ei rôl mewn gofal cymdeithasol, byddem wrth ein bodd yn eich bod chi'n rhan o'r sgwrs.

Ymunwch â'r Gymuned Ddata, dewch draw i sesiwn sigwrsio am ddata gofal cymdeithasol a helpwch i lunio'r hyn sydd nesaf.

Dysgwch fwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y Gymuned Ddata, os oes gennych chi syniad ar gyfer digwyddiad cymunedol yn y dyfodol neu os hoffech chi rannu eich gwaith gydag aelodau eraill, cysylltwch â Zoe, Rheolwr y Gymuned Ddata.

Awdur y blog

Zoe Davies

Zoe Davies

Rheolwr Cymuned Ddata

zoe.davies@socialcare.wales

Fi yw Zoe, a byddaf yn gofalu am ein Cymuned Ddata.

Fy nod yw creu lle hygyrch, di-farn i ni ddatblygu ein sgiliau data, cysylltu â’n gilydd a rhannu dysgu.

Yn flaenorol, roeddwn yn ddadansoddwr data ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru a Dŵr Cymru.

Rwy’n credu bod gan ddata ym maes gofal cymdeithasol y potensial i drawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau i’r bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.