
Safonau data
Rydyn ni'n gwybod, pan fydd gan weithwyr proffesiynol fynediad at y wybodaeth gywir am y bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw, gallan nhw wneud penderfyniadau gwell am eu gofal a chymorth. Gall hyn arwain at ganlyniadau gwell.
Ond dydy rhoi mynediad i weithwyr proffesiynol i'ch gwybodaeth ddim mor syml ag y gallai swnio. Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw fel data ar lawer o wahanol systemau cyfrifiadurol, ac efallai na fydd y systemau hyn wedi'u cysylltu â'i gilydd.
Hyd yn oed os fydde ni'n cysylltu'r cyfrifiaduron hyn gyda'i gilydd, bydden nhw ddim yn gallu cyfnewid data â'i gilydd oherwydd nad ydyn nhw'n siarad iaith gyffredin.
Dyma pam mae angen safonau data arnom. Os oes modd disgrifio'r data sy'n cynnwys gwybodaeth amdanom ni yn yr un ffordd, yna gallai systemau cyfrifiadurol ddeall ei gilydd a phasio data o un system i'r llall.

Mae safon data yn ffordd benodol o ddisgrifio darn o ddata. Pan fyddwn ni'n siarad am ddata, efallai y bydd yn helpu i feddwl amdano fel darn o wybodaeth.
Enghraifft: Beth yw'r dyddiad?
Gallwn ni ysgrifennu dyddiad mewn sawl ffordd wahanol:
- 1 Mehefin 2028
- 30-Tach-12
- 07/04/2025
Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gweld y rhain ac yn eu hadnabod yn gyflym fel dyddiad.
Yn y DU, rydyn ni'n darllen yr olaf o'r dyddiadau hynny fel 7 Ebrill. Yn yr Unol Daleithiau, bydden nhw'n ei ddarllen fel 4 Gorffennaf, oherwydd mae'r mis yn dod yn gyntaf mewn dyddiadau Americanaidd.
Mae hyn yn dangos pa mor hawdd y gall fod i ddrysu'r ystyr y tu ôl i ddarn o ddata os nad oes gennym ni ffordd safonol o'i ddisgrifio.
Beth os oedden ni i gyd yn disgrifio dyddiadau fel blwyddyn pedair rhif ac yna mis tair llythyren a diwrnod dau rif? Byddai'r dyddiad uchod yn cael ei ddisgrifio fel:
- 2025-EBR-07
Os yw pawb yn defnyddio'r un fformat yna mae'n gwneud synnwyr i'r peiriannau (a'r bobl) sydd angen rhannu'r wybodaeth hon gyda'i gilydd.
Yn yr achos hwn, rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siŵr ei bod hi'n anodd cymysgu'r elfennau dyddiad, oherwydd ein bod ni wedi eu fformatio'n wahanol. Mae'r mis bellach yn defnyddio fformat tair llythyren yn hytrach na rhif. Rydyn ni wedi creu ffordd safonol o ddisgrifio dyddiad, neu safon ddata.
Nid yw pob safon ddata mor syml â hyn, ond mae'n helpu i ddangos y math o aliniad y byddai angen digwydd ar draws data iechyd a gofal cymdeithasol.
Beth yw rhyngweithrededd data?
Mae rhyngweithrededd data yn ffordd o ddisgrifio data sy'n gallu cael ei rannu rhwng systemau cyfrifiadurol.
Er mwyn dod yn rhyngweithiol, neu i allu rhannu data, mae angen i ni ddysgu'r cyfrifiaduron i siarad yr un iaith.
Rydyn ni'n galw'r iaith hon yn fframwaith rhyngweithredu data ac mae'r iaith hon yn cynnwys yr holl safonau data.
Pa fframwaith ydyn ni'n defnyddio yng Nghymru?
Yng Nghymru, rydyn ni wedi penderfynu defnyddio fframwaith o'r enw Adnodd Rhyngweithredu Gofal Iechyd Cyflym, neu FHIR (ynganu fel y gair 'fire' yn Saesneg). Dyma'r iaith y mae data iechyd yn ei siarad, sydd eisoes yn dal miloedd o safonau data sy'n ymwneud â gofal iechyd person.
Dydy e ddim yn cynnwys llawer o wybodaeth am ofal cymdeithasol eto. Os ydyn ni am ddefnyddio'r iaith hon i rannu data iechyd a gofal, mae angen i ni ei addysgu am ddata gofal cymdeithasol.
Ond cyn i ni wneud hyn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn hyderus bod pobl yn golygu'r un peth pan fyddan nhw'n siarad am y data. Mae angen i ni gytuno beth yw'r safon ar gyfer pob darn o ddata gofal cymdeithasol rydyn ni'n ei ychwanegu at yr iaith hon.
Gall hyn fod yn anodd, oherwydd dydyn ni ddim bob amser yn cytuno.
Meddyliwch am yr enghraifft dyddiad uchod. Bydd gan y rhan fwyaf ohonom ffordd o ysgrifennu dyddiad, a byddai'r rhan fwyaf ohonom eisiau i hynny fod y safon. Ond weithiau mae angen i ni ddod i gytundeb a dewis fformat gwahanol, neu feddwl a yw ffordd arall yn well neu yn haws dod i gonsensws arni.
Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i gytuno beth yw'r safonau data hyn, yn ogystal â gweithio gyda'r bobl sy'n adeiladu'r systemau, fel eu bod yn gallu siarad yr iaith well sydd bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddata gofal cymdeithasol.
Darllenwch blog am FHIR gan Owen Davies, ein Rheolwr Data a Gwybodaeth.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i ddatblygu safonau data?
Gall gymryd amser hir i ddatblygu safonau data, ond y newyddion da yw nad oes angen i ni ddatblygu safonau data ar gyfer ein holl wybodaeth. Gallwn ddechrau gyda'r darnau o wybodaeth sy'n bwysicaf i'w rhannu rhwng y bobl sy'n gweithio i ddarparu ein hiechyd a'n gofal.
Gallwn hefyd ychwanegu safonau data newydd at fframwaith FHIR dros amser. Nid oes rhaid i ni eu datblygu i gyd ar unwaith. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwella'r iaith wrth i amser fynd heibio ac yn gallu rhannu mwy a mwy o ddata.
Gyda phwy fydd fy data yn cael ei rannu?
Dim ond â’r bobl sydd angen ei weld fel rhan o’u gwaith y bydd eich data yn cael ei rannu.
A dim ond ar yr adeg y bydd angen iddyn nhw ei weld y bydd ganddyn nhw fynediad at eich gwybodaeth.
Mae yna reolau llym iawn ynglŷn â phwy sy'n cael gweld eich gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol a phryd y maen nhw'n cael ei gweld.
Mae'r systemau cyfrifiadurol yn amddiffyn eich gwybodaeth rhag cael ei rhannu'n amhriodol ac yn atal pobl na ddylai gael mynediad at eich gwybodaeth rhag ei gweld byth.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Rydyn ni'n gweithio i ddatblygu'r safonau data ar gyfer gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.
Mae'r systemau cyfrifiadurol a fydd yn gallu deall iaith FHIR hefyd yn dechrau cael eu gweithredu.
Y rhan fwyaf o'r amser, ni fyddwch yn gweld eich data yn cael ei rannu gan fod hyn yn digwydd yn awtomatig, ond dylai olygu eich bod chi'n cael profiad llawer gwell o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n golygu na fydd yn rhaid i chi ailadrodd eich stori dro ar ôl tro. Mae hefyd yn golygu y bydd eich gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol yn fwy gwybodus ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwell gyda chi am eich iechyd a'ch gofal.
Bydd gwell data yn golygu gwell penderfyniadau a gwell gofal a chefnogaeth.
Darganfod mwy
E-bostiwch ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith ar safonau data.