Beth allwch chi newid os fysech chi’n rhoi’r amser i chi'ch hun feddwl?
Oes gennych chi her yn y gwaith?
Neu ydych chi'n awyddus i wybod sut gallwn ni eich cefnogi gydag arloesi, gwella neu newid?
Mae ein sesiynau galw heibio arloesedd yn rhoi cyfle i chi gael sgwrs anffurfiol gyda'n tîm a darganfod mwy am y cymorth sydd ar gael gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
Weithiau, nid yr ateb sydd ei angen, ond y lle i ddod o hyd iddo.
Gofod i feddwl
Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol yn aml yn golygu delio â heriau cymhleth. Weithiau, mae dod o hyd i ffordd ymlaen yn dechrau trwy greu lle i feddwl yn wahanol.
Mae ein sesiynau galw heibio yn rhoi'r cyfle hwnnw i chi.
Gallwch:
- drafod her rydych chi’n ei hwynebu
- archwilio safbwyntiau a phosibiliadau gwahanol
- fyfyrio ar syniad neu ddull gweithredu
- ddarganfod mwy am ein gwaith arloesi, ymchwil a chymorth arall
- gael sgwrs anffurfiol am yr hyn a allai eich helpu chi i symud ymlaen.
Mae'r sesiynau yn agored a heb strwythur, felly nid oes agenda penodol ac nid oes angen i chi aros am y sesiwn gyfan.
Ydy'r sesiynau'n bwrpasol i mi?
Mae'r sesiynau galw heibio yn agored i bobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n croesawu rheolwyr, arweinwyr tîm, staff gwella a datblygu, darparwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau ac arfer.
Efallai bydd gennych chi her benodol yr hoffech ei drafod. Neu efallai yr hoffech chi ddarganfod mwy am yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
Ein sesiynau
Mae'r holl sesiynau yn rhedeg ar-lein rhwng 10am a 12pm.
- Dydd Mercher 28 Hydref 2026
- Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 27 Ionawr 2027
- Dydd Mercher 24 Chwefror 2027
- Dydd Mawrth 23 Mawrth 2027
Gallwch chi ymuno ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Nid oes angen aros am y ddwy awr lawn.
Sut mae ymuno?
Llenwch ein ffurflen ar-lein i gael y ddolen ar gyfer y sesiwn o'ch dewis.
Eisiau gweld sut mae hyfforddi arloesi wedi helpu timau eraill?
Mae taith pob sefydliad yn wahanol. Ond y ffordd fwyaf pwerus o ddeall hyfforddiant arloesedd yw clywed gan bobl sydd wedi ei brofi.
Archwiliwch ein hastudiaethau achos i weld sut mae hyfforddi wedi helpu timau i fynd i'r afael â heriau cymhleth, datblygu ffyrdd newydd o weithio a gwella canlyniadau i bobl.