![Lisa Trigg](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Lisa.BW.jpg)
Lisa Trigg
Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Ymchwil, Data ac Arloesi
grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymruRydyn ni newydd lansio Ymlaen, y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi ein helpu ni i'w ddatblygu.
Yma, mae Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesedd, yn rhannu peth o’r gwaith a gyfrannodd at ddatblygu’r strategaeth.
Mae’r strategaeth newydd yn disodli’r Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol 2018 i 2023 fe wnaethon ni gyhoeddi mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Rydyn ni wedi ehangu’r strategaeth newydd i gynnwys arloesi a gwella. Nid yw meddwl am ymchwil, arloesi a gwella ar wahân bob amser yn adlewyrchu sut mae pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn meddwl am eu gwaith. Efallai eu bod yn meddwl am ‘ffyrdd newydd o wneud pethau’ neu ‘ddeall beth sy’n gweithio’.
Rydyn ni am wneud i’r strategaeth weithio ar gyfer gofal cymdeithasol, tra’n dal i gydnabod bod y tri llinyn yn haeddu sylw penodol i ni a’n partneriaid.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a gyflawnodd y strategaeth gyntaf mewn blog ar wahân.
Rydyn ni wedi cyfuno ymchwil, arloesi a gwella yn ein strategaeth newydd gan nad ydyn ni o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw fel pethau gwahanol. Rydyn ni’n fwy tebygol o feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, gwneud rhywbeth sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, neu ddeall beth sy'n gweithio.
Mae ymchwil yn golygu ceisio casglu gwybodaeth newydd drwy fynd i'r afael â chwestiynau wedi’u diffinio gyda dulliau systematig a thrylwyr. Mae’r strategaeth yn defnyddio diffiniad eang o ymchwil sy'n cynnwys ymchwil academaidd ond sydd hefyd yn cwmpasu ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar ymarfer. Rydyn ni eisiau i bobl deimlo'n hyderus i wneud eu hymchwil eu hunain yn eu dewis iaith, i werthuso eu ffyrdd o weithio, a defnyddio tystiolaeth i lywio eu hymarfer. Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi ein partneriaid ymchwil academaidd i wneud ymchwil o ansawdd uchel, a byddwn yn hyrwyddo hyn ar draws y maes gofal cymdeithasol.
Mae arloesi’n ymwneud â defnyddio gwybodaeth newydd i wella sut mae pethau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n newydd i leoliad penodol, neu i ofal cymdeithasol. Mae arloesi’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac ar raddfeydd gwahanol. Gall fod yn fater o system sy’n haws gweithio ynddi, newid y ffordd mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu, creu technolegau digidol newydd, neu gyflwyno ffyrdd newydd o fynd i'r afael ag ymarfer. Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn arloesi yn eu gwaith bob dydd, i ymateb i'r hyn sy'n bwysig i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi. Mae cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau gyda'r hyn sy'n bwysig i bobl yn rhan allweddol o'u rôl.
Mae gwella’n fwy anodd i’w ddiffinio ac yn golygu llawer o bethau i wahanol bobl. Mae'n cynnwys newid positif sy’n cynyddu fesul cam, a chwilio am wahanol ffyrdd o gynllunio, rheoli a darparu gofal a chymorth. Mae'n wahanol i arloesi oherwydd ei fod yn cynnwys parhad - mae'r ffyrdd newydd o wneud pethau’n seiliedig ar fodelau sy'n bodoli’n barod.
Cyhoeddon ni'r strategaeth ymchwil gyntaf ar y cyd gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Y tro hwn rydyn ni'n arwain y strategaeth, i adlewyrchu mai ni yw’r sefydliad strategol arweiniol ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni'n gweithio’n agos gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i sicrhau bod ei gynllun strategol yn cefnogi gofal cymdeithasol, a bod y ddwy strategaeth yn ategu ei gilydd.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gydberchennog strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Byddwn ni'n gweithio i sicrhau bod y strategaethau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn cyflawni mwy na chyfanswm eu rhannau.
Ein rôl bwysicaf yw dod â sefydliadau partner ynghyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni ar gyfer y bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hynny’n golygu gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y gorau o’n gwaith, drwy osod blaenoriaethau sy’n adlewyrchu anghenion gofal cymdeithasol a gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n dyblygu nac yn ailadrodd gwaith ein gilydd.
Mae hefyd yn hanfodol gwneud gwell synnwyr o’n gwasanaethau a chymorth amrywiol fel bod pobl mewn gofal cymdeithasol yn gallu eu llywio’n haws.
Galwon ni ar rywfaint o gymorth allanol i sicrhau ein bod ni'n siarad ag ystod eang o bobl a’u bod yn teimlo’n gyfforddus i fod yn onest am yr hyn sydd ei angen.
Helpodd Alexis Pala a Babs Lewis o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyda’r holl sesiynau ymgysylltu ac i sefydlu a chynnal yr ymgynghoriad.
Roedd cael cyfranogiad Alexis a Babs yn arbennig o werthfawr gan eu bod wedi ein helpu gyda’n hymchwil defnyddwyr ar gyfer ein dull o gefnogi arloesedd ac maen nhw'n gyfarwydd â’r hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gweithio.
Cynhaliodd Alexis a Babs 15 ‘paned’ - sgyrsiau un-i-un gyda rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn ymchwil, arloesi a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedden ni am edrych yn ôl ar effaith y strategaeth gyntaf a meddwl beth i'w gario ymlaen i'r nesaf. Roedden ni hefyd am ddarganfod y ffyrdd gorau o gydweithio â'n partneriaid i gyflawni'r strategaeth.
Yna, fe wnaethon ni gynnal tri gweithdy theori newid i feddwl am y strategaeth gyda sefydliadau partner. Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar feithrin y perthnasoedd sydd eu hangen i gyflawni’r strategaeth, ar yr hyn y mae angen i ni ei flaenoriaethu a’i wneud, a pha adnoddau ac asedau sydd ar gael i ni.
Fe wnaethon ni gynnal dau weithdy thematig gyda 21 o randdeiliaid i wrando ar ystod amrywiol o leisiau. Gwahoddwyd pobl â phrofiad proffesiynol neu bersonol o weithio gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, neu sydd â diddordeb yn y pwnc, ac eraill sydd â diddordeb mewn hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg mewn gofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni defnyddio dull o’r enw Strwythurau Rhyddhau i helpu i gael y gorau o’r gweithdai.
Fe wnaethon ni hefyd gynnal gweithdy sganio’r gorwel deuddydd gyda staff ein hunain sy’n ymwneud ag ymchwil, arloesi a gwella. Roedd hyn er mwyn adolygu beth oedd yn dod allan o’r sgyrsiau paned a’r gweithdai ac i drafod y newidiadau yr hoffen ni weld Gofal Cymdeithasol Cymru yn eu gwneud ym maes gofal cymdeithasol.
Yna daeth Alexis a Babs â'r holl dystiolaeth hon ynghyd a'i throsglwyddo i ni. Yna, drafftiodd grŵp bach ohonom y strategaeth.
Fe wnaethon ni rannu’r drafft cyntaf gyda rhai o’r bobl a gymerodd ran yn y sgyrsiau a’r gweithdai, cyn lansio’r ymgynghoriad.
Fe wnaethon ni lansio'r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft ym mis Hydref 2023.
Roedden ni am roi gwahanol ffyrdd i bobl gyfrannu. Yn ogystal â gwahodd pobl i roi adborth ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fe wnaethon ni gyflwyno a thrafod y strategaeth mewn cyfarfodydd mewn person ac mewn nifer o gynadleddau yn yr hydref.
Fe wnaethon ni gynnal gweithdai hefyd gyda phobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen, pobl sy’n arwain sefydliadau darparu a phobl sydd â diddordeb penodol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Hoffen ni ddiolch i’r holl bobl a gymerodd ran yn yr ymgysylltu cynnar a’r rhai a roddodd eu hamser i ymateb i’n hymgynghoriad, mewn person ac yn ysgrifenedig.
Defnyddion ni'r adborth o'r cyfnod ymgynghori i ysgrifennu fersiwn terfynol o'r strategaeth.
Fe wnaethon ni lansio’r strategaeth newydd mewn digwydiad ar-lein ar 22 Mai, yng nhwmni amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid.
Byddwn nawr yn gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni uchelgeisiau'r strategaeth.
Gallwch darllen y strategaeth lawn ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF o'r strategaeth trwy glicio yma.
Cysylltwch â ymlaen@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am y strategaeth a sut byddwn ni'n ei rhoi ar waith.
Byddwn ni hefyd wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych yn teimlo y gallai gwaith eich sefydliad ein helpu i gyflawni'r strategaeth.
Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Ymchwil, Data ac Arloesi
grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru