Skip to Main content

Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol Cymru 2018-2023

19 Mawrth 2024

Myfyrdodau gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Lisa Trigg ar y gwaith pwysig sydd eisoes wedi ei gyflawni fel rhan o strategaeth ymchwil gofal cymdeithasol flaenorol Cymru.

Cyn bo hir byddwn ni’n lansio Ymlaen, ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd ei datblygu ar y cyd gyda nifer o bartneriaid.

Mae'r strategaeth newydd yn disodli Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol Cymru 2018-2023. Roedd y strategaeth honno'n seiliedig ar bum maes ffocws a rhai camau gweithredu ategol, a gafodd eu cyflawni gyda’n partneriaid.

Mae’n amser da i dynnu sylw at y gwaith gwych a ddigwyddodd o dan faner y strategaeth gyntaf.

Maes ffocws un: cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil gofal cymdeithasol

Daeth y rhan fwyaf o’r gwaith yn y maes hwn o dan ofal Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’n partneriaid academaidd yng Nghymru.

Roedd Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe wedi treialu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yng Nghymru. Dyma’r unig un o’r 10 safle prawf yn y DU i brofi’r safonau mewn gofal cymdeithasol yn unig. Mae gwaith Cymru yn cael sylw yn straeon gweithredu’r prosiect.

Datblygodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru weledigaeth ar y cyd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd (cyfathrebu gyda phobl am waith ymchwil) a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Daethant ag aelodau o'r cyhoedd ynghyd gyda phobl sy'n gweithio mewn rolau ymchwil a rolau cysylltiedig i gyd-ddylunio a lansio Gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol – darganfod eich rôl yn 2020.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd wedi newid y polisi yng Nghymru ynghylch sut i dalu aelodau o’r cyhoedd am gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Mae'r polisi newydd yn rhoi cyngor clir i ymchwilwyr ar sut i gynnwys pobl yn effeithiol mewn ymchwil, ac yn cefnogi aelodau o'r cyhoedd i gadw cofnod o’u cyfraniad a'r amser maen nhw’n ei roi.

Maes ffocws dau: blaenoriaethau ymchwil

Bu Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio ar ddau brosiect gosod blaenoriaethau gyda’i gilydd, mewn cydweithrediad â’r James Lind Alliance (JLA). Cafodd fersiwn newydd, mwy cryno o broses y JLA ei ddefnyddio. A gwnaethom nodi manteision ac anfanteision defnyddio proses wahanol.

Roedd y prosiectau’n canolbwyntio ar ofal a chymorth cynaliadwy i oedolion hŷn a dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ateb y 10 cwestiwn ymchwil cafodd eu nodi ar gyfer y ddau brosiect. Ac, o ganlyniad, rydyn ni’n gweithio gyda chyllidwyr ymchwil i ariannu'r pynciau cywir, gofyn am ymchwil newydd sbon neu ofyn am grynodebau o ymchwil.

Rydyn ni eisoes wedi defnyddio’r wybodaeth daeth o’r prosiectau hyn i helpu i lunio rhaglen y sioeau teithiol ymchwil yn 2023. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r gwaith hwn yn ein sgyrsiau am flaenoriaethau gyda Chanolfan Dystiolaeth newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Maes ffocws tri: deall gofal cymdeithasol mewn data

Lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru borth data gofal cymdeithasol Cenedlaethol Cymru ac mae’n cefnogi ei ddatblygiad cyfredol. Rydyn ni wedi bod yn ychwanegu data newydd yn barhaus ac wedi cymryd cyfrifoldeb dros y gwaith o gynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth gan Daffodil Cymru. Cafodd rhain eu cynnal yn flaenorol gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus.

Mae’r porth nawr yn cynnwys y data mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu gan awdurdodau lleol fel rhan o’r Fframwaith Perfformiad a Gwella, data cofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a gwybodaeth am ddarparwyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cafodd y gwaith i hyrwyddo’r defnydd o ymchwil data cysylltiedig yng Nghymru ei gychwyn. Erbyn hyn, Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n arwain ar thema gofal cymdeithasol rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gan ganolbwyntio ar ddata gofal cymdeithasol oedolion. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol i oedolion oherwydd mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda data sy’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol plant eisoes yn fwy datblygedig.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn rhannu’r data o’r gofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol gyda Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe. Y prosiect cyntaf i ddefnyddio'r data oedd yr astudiaeth ar ganlyniadau i ofalwyr: dadansoddiad yn defnyddio data rheolaidd (OSCAR), dan arweiniad tîm ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae llawer o ddiddordeb mewn defnyddio'r data hwn ar gyfer ymchwil ac rydyn ni’n chwilio am gyllid ar gyfer prosiectau yn y dyfodol gyda'n partneriaid ymchwil.

Maes ffocws pedwar: datblygu’r gweithlu a sefydliadau

Dros amser daethom i ddeall mwy am y gwahanol anghenion ymchwil yn y gweithlu. Mae yna bobl sy’n gweithio’n ymarferol sydd eisiau defnyddio a chynhyrchu gwaith ymchwil i’w helpu i wneud eu gwaith yn well. Ond rydyn ni hefyd yn cefnogi pobl sydd am ddatblygu gyrfaoedd ym maes ymchwil gofal cymdeithasol.

Cynhaliodd Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru gynllun cystadleuol ar gyfer awdurdodau lleol i gynyddu capasiti gwaith ymchwil. Rhoddodd grantiau bach (uchafswm o £10,000) i naw prosiect a gafodd eu paru ag ymchwilydd i helpu â phob un.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi eu hanghenion sgiliau ac rydyn ni’n datblygu fframwaith i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau ymchwil, arloesi a gwella yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd wedi ymuno â'r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i wella sgiliau ymchwil ymarferwyr a’u helpu i fod yn fwy 'hyderus o ran ymchwil'. 

Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu gofalgar sy’n helpu pobl i ddefnyddio tystiolaeth yn eu gwaith. Mae’n brosiect Cymru gyfan gyda staff ym Mhrifysgol Abertawe ac ym Mhrifysgol Bangor. Cymerodd Gofal Cymdeithasol Cymru gyfrifoldeb dros ariannu DEEP gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2023.

Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi datblygu cwricwlwm DEEP. Mae'n cynnwys:

  • casglu, arfarnu a chyflwyno tystiolaeth
  • siarad a dysgu gyda'n gilydd
  • defnyddio tystiolaeth a rhoi'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar waith
  • creu amgylcheddau sy’n cefnogi dysgu ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu.

Gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym wedi cydnabod y gallai fod cyfleoedd gwell i bobl ddatblygu gyrfaoedd ymchwil. Archwiliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hyn yn ei adroddiad Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil a gwnaeth argymhellion ar gyfer gwella'r cyfleoedd hyn.

Ar yr un pryd, parhaodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ariannu ymchwilwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu gyrfaoedd ym maes ymchwil gofal cymdeithasol. 

Yn ystod cyfnod y strategaeth, maen nhw wedi ariannu 13 cymrodoriaeth ac 20 o ysgoloriaethau PhD, yn ogystal ag ariannu ysgoloriaethau PhD ar y cyd gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd wedi ariannu 17 o grantiau ymchwil gofal cymdeithasol, gwerth ychydig dros £4 miliwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn: Ein prosiectau a ariennir | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (ymchwiliechydagofalcymru.org).

Mae Sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cenedlaethol Lloegr (NIHR) hefyd wedi agor mwy o gynlluniau ariannu i gynnwys ymchwilwyr o Gymru, gan gynnwys cynllun newydd i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol oedolion a phlant.

Rhoddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid i gynyddu capasiti gwaith ymchwil gydag ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE). 

Cafodd adnoddau oedd eisoes yn bodoli eu hyrwyddo i ddatblygu ymchwilwyr ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

Mae’r gwaith o gynyddu capasiti gwaith ymchwil bellach yn cael ei gefnogi gan ymchwilwyr drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Maes ffocws pump: cyfathrebu a defnyddio ymchwil

Comisiynodd Gofal Cymdeithasol Cymru y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) i gynnal ymchwil am ddefnyddio tystiolaeth ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, i’n helpu i ddatblygu ein dull o gyfathrebu a defnyddio ymchwil. Roedden ni’n canolbwyntio i ddechrau ar awdurdodau lleol, ymchwilwyr a llunwyr polisïau, ac yna gwnaethom gynnal darn bach o ymchwil yn fewnol i gasglu barn darparwyr a chomisiynwyr. 

Cafodd yr ymchwil hon ei defnyddio i ddatblygu cynnig o dystiolaeth i gefnogi awdurdodau lleol, ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddefnyddio, rhannu, cynhyrchu a chael gafael ar waith ymchwil. Ac rydym wedi sefydlu ‘cymunedau’ o amgylch gwahanol bynciau i gysylltu pobl ledled Cymru, gan gynnwys ein Cymuned Dystiolaeth.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i ariannu ExChange, sy’n cael ei gynnal gan CASCADE. Mae ExChange yn dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth ynghyd i rannu tystiolaeth a phrofiadau. Mae ExChange wedi darparu ystod eang o symposia, cynadleddau a gweithdai arweinyddiaeth, yn ogystal ag adnoddau, blogiau, fideos a phodlediadau.

Bu Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i sicrhau bod e-lyfrgell y GIG ar gael i reolwyr gofal cymdeithasol cofrestredig a gweithwyr cymdeithasol.

Heb anghofio…

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi nifer o ganolfannau ymchwil cysylltiedig, gan gynnwys CADR a CASCADE. Yn 2023, sefydlodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), sy’n hwb enfawr i ddatblygu’r dirwedd ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru ymhellach.

Mae'r rhwydwaith Galluogi ymchwil mewn cartrefi gofal (ENRICH) Cymru bellach yn cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn cael ei gynnal gan CADR. Mae’n gweithio’n agos gyda rhwydweithiau cenedlaethol ENRICH a rhwydweithiau tebyg eraill ledled y DU. Ei nod yw cefnogi a hwyluso twf ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 10 Canolfan Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol ledled Cymru, gyda’r nod o gydlynu gweithgarwch ymchwil, arloesi a gwella i hyrwyddo gwell gweithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Academïau Dysgu Dwys i ddatblygu gallu o ran arwain ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Edrych i’r dyfodol

Ar ôl blynyddoedd o wario llai o arian cyhoeddus mae diffyg pobl ac adnoddau gan awdurdodau lleol i greu’r math o ddiwylliant sy'n meithrin a chynnal ymchwil.

Rydyn ni wrthi’n rhoi’r offer a’r adnoddau yn eu lle i’w gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gynhyrchu, defnyddio, deall a chael gafael ar wahanol fathau o dystiolaeth.

Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn gafodd ei gyflawni gyda’n partneriaid yn ystod y strategaeth ddiwethaf. Ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiannau hynny yn ein rhaglen waith nesaf.

Rhowch gipolwg ar ein strategaeth newydd Ymlaen. Mae’n dangos ein gwaith cyfredol ynghyd â’r gwaith rydyn ni’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol.

Cysylltwch â ni

Rydyn ni’n croesawu eich barn am ein strategaeth Ymlaen. 

Os hoffech chi rannu eich adborth neu gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.