Cefnogi arweinyddiaeth ddigidol ym maes gofal cymdeithasol
Yn 2025, fe gomisiynon ni waith i ddylunio a gwerthuso rhaglen cymorth arweinyddiaeth ddigidol i helpu i fynd i'r afael â bwlch sylweddol mewn hyder ymhlith arweinwyr gofal cymdeithasol.
Mae data o'n ddyfais botensial ddigidol yn dangos nad yw 25 y cant o arweinwyr awdurdodau lleol bron byth neu byth yn teimlo eu bod wedi'u galluogi i arwain newid digidol.
Fel rhan o gam cyntaf y gwaith, casglodd tîm Mimulus HQ dystiolaeth o bob rhan o'r sector a phrofi gwahanol ddulliau dysgu.
Bwriad y gwaith hwn oedd sicrhau bod buddsoddiad yn y dyfodol yn seiliedig ar brofiadau go iawn ac ar yr hyn mae arweinwyr yn dweud sydd ei angen arnyn nhw.
Beth ddysgon ni?
Daeth ymchwil Mimulus HQ o hyd i nifer o rwystrau sy'n effeithio ar drawsnewid digidol ar draws y sector:
Does dim dealltwriaeth gyffredin o'r hyn mae "digidol" yn ei olygu
Does dim diffiniad cytûn o ddigidol, sy'n arwain at ddisgwyliadau gwahanol ac ansicrwydd.
Mae arweinwyr yn dechrau o fannau gwahanol
Roedd gan gyfranogwyr lefelau gwahanol o brofiad, lefel gyfrifoldeb a hyder digidol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnig un rhaglen ddysgu sy'n diwallu anghenion pawb.
Mae amser a chapasiti yn heriau mawr
Roedd llwythi gwaith trwm yn effeithio ar gyfranogiad, gyda cyfradd presenoldeb o 50 y cant ar gyfartaledd mewn sesiynau.
Cymorth ymarferol sy'n gweithio orau
Roedd cyfranogwyr yn gyson yn ffafrio dysgu y gellid ei ddefnyddio yn eu rolau o ddydd i ddydd. Roedden nhw'n gwerthfawrogi offer ymarferol, enghreifftiau ac arweiniad ymarferol yn fwy na theori.
Mae'r dirwedd ddigidol yn teimlo'n dameidiog
Mynegodd llawer o arweinwyr rwystredigaeth ynghylch nifer y rhaglenni a'r ffrydiau gwaith digidol sy'n gorgyffwrdd, a'r diffyg cydlynu cenedlaethol.
Beth oedd yr argymhellion?
Nododd Mimulus HQ chwe argymhelliad ar gyfer datblygu cynnig arweinyddiaeth ddigidol effeithiol.
1. Cysylltu dysgu â fframwaith cymhwysedd
Dylai'r cynnig dysgu gael ei alinio â fframwaith cymhwysedd arweinyddiaeth ddigidol ffurfiol. Byddai hyn yn helpu i osod arweinyddiaeth ddigidol fel rhan hanfodol o'r rôl, yn hytrach na maes datblygu dewisol.
2. Gwneud arweinyddiaeth ddigidol yn rhan o'r disgwyliadau craidd
Dylai Gofal Cymdeithasol Cymru ddefnyddio ei rôl fel rheoleiddiwr i ymgorffori cymwyseddau digidol mewn fframweithiau cymwysterau perthnasol.
3. Grwpio dysgwyr yn ôl lefel aeddfedrwydd digidol
Dylai carfanau yn y dyfodol ddod â phobl ynghyd sydd â lefelau tebyg o hyder digidol a nodau dysgu cyffredin. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn ystyrlon i bawb sy'n cymryd rhan.
4. Adeiladu ar ddysgu presennol ar draws gwasanaethau cyhoeddus
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i addasu'r rhaglen Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio astudiaethau achos perthnasol ac iaith gliriach a mwy hygyrch.
5. Creu hwb adnoddau ganolog
Sefydlu hwb adnoddau sy'n rhoi mynediad i arweinwyr at offer ymarferol, templedi a deunyddiau dysgu pan fydd arnyn nhw eu hangen.
6. Creu rhwydwaith arweinwyr o fewn y gymuned ymarfer ddigidol
Datblygu gofod penodol ar gyfer uwch arweinwyr o fewn y Gymuned Ddigidol bresennol. Byddai hyn yn galluogi arweinwyr i gysylltu â chyfoedion, rhannu heriau a dysgu o brofiadau ei gilydd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar y ffordd orau o symud yr argymhellion ymlaen.
Yn ddiweddar fe lansion ni ein Cymuned Ddigidol, sy'n helpu aelodau i feithrin cysylltiadau ar draws sefydliadau a disgyblaethau, a rhannu offer digidol, adnoddau ac arferion da gyda'i gilydd.