Skip to Main content

Deall eich potensial digidol

Rydyn ni'n cefnogi sefydliadau gofal cymdeithasol a'u staff i ddeall eu potensial digidol yn well.

I wneud hyn, rydyn ni wedi creu'r ddyfais botensial ddigidol, a fydd yn eich helpu i gael darlun mwy cyflawn o'ch sgiliau a'ch gallu digidol cyfredol eich hun a'ch sefydliad.

Mae'r ddyfais hefyd yn rhoi cipolwg i ni o’r sefyllfa ledled Cymru. Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddon ni adroddiad cenedlaethol yn seiliedig ar ymatebion 1,200 o bobl i’r ddyfais ar draws 295 o sefydliadau.

Sut i gael mynediad at y ddyfais

Os ydych chi ar ein Cofrestr, fe wnaethon ni e-bostio dolen i'r ddyfais i chi ym mis Tachwedd 2025. Edrychwch yn eich ffolder 'junk' os nad ydych chi'n gallu dod o hyd iddo.

Os nad ydych chi ar y Gofrestr, neu os nad ydych chi wedi derbyn eich dolen, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Mae'r ddolen yn unigryw i'ch cyflogwr. Mae hyn yn golygu pan fydd staff yn cwblhau’r ddyfais, bydd eu canlyniadau dienw yn bwydo i mewn i ganfyddiadau cyffredinol eu sefydliad.

Os nad ydych chi’n siŵr sut i ddefnyddio’r ddyfais, efallai y bydd ein canllaw ar ddefnyddio’r ddyfais yn ddefnyddiol i chi.

Sut mae'n gweithio

  • Bydd y ddyfais yn gofyn i chi ateb cwestiynau am eich hyder digidol a dulliau digidol eich sefydliad. Bydd hyn yn cymryd tua 10 i 30 munud, yn dibynnu ar eich rôl.
  • Yna byddwn ni’n anfon eich canlyniadau i'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn symudol rydych chi wedi'i rhoi i ni, ynghyd â chanllawiau am eich cryfderau a'ch meysydd i'w gwella. Byddwn ni hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am adnoddau a hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad digidol.
  • Os ydych chi’n arweinydd, byddwn ni hefyd yn anfon dolen atoch i ganlyniadau cyffredinol eich sefydliad, gan ddangos eich parodrwydd digidol mewn gwahanol feysydd. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu diweddaru wrth i fwy o bobl o'ch sefydliad ddefnyddio'r ddyfais. Ni fydd unrhyw unigolyn yn gallu cael ei adnabod o'r canlyniadau cyffredinol.
Mwy o wybodaeth i arweinwyr - Cliciwch i ehangu

Bydd pob aelod o staff sy’n cwblhau’r ddyfais yn chwarae rhan bwysig i’ch helpu i ddeall parodrwydd digidol eich sefydliad. Felly, anogwch cymaint o bobl â phosib i'w gwblhau.

Rhannwch ddolen eich sefydliad gyda:

  • staff gofal cymdeithasol yn eich lleoliadau cofrestredig
  • eich tîm arweinyddiaeth gofal cymdeithasol
  • eich adran TG sy'n gyfrifol am leoliadau gofal cymdeithasol.

Byddwn ni'n anfon dolen atoch i ganlyniadau cyffredinol eich sefydliad, gan ddangos eich parodrwydd digidol mewn gwahanol feysydd. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu diweddaru wrth i fwy o bobl o'ch sefydliad ddefnyddio'r ddyfais. Ni fydd unrhyw unigolyn yn gallu cael ei adnabod o'r canlyniadau cyffredinol.

Gan 'arweinwyr', rydyn ni'n golygu rolau fel cyfarwyddwr, prif swyddog gweithredol, rheolwr gwasanaeth, pennaeth adran neu Unigolyn Cyfrifol.

Pam ddylech chi ddefnyddio ein dyfais botensial ddigidol?

Fel unigolyn

Trwy ddefnyddio'r ddyfais botensial ddigidol, byddwch yn dod i ddeall eich sgiliau a'ch galluoedd digidol presennol yn well.

Bydd y ddyfais hefyd yn eich cyfeirio at adnoddau a hyfforddiant defnyddiol i gefnogi eich taith ddysgu ddigidol.

Bydd gwybod mwy am eich galluoedd digidol presennol a sut i gael mynediad at yr adnoddau a’r hyfforddiant perthnasol yn eich cefnogi i wneud y gorau o dechnolegau digidol yn eich rôl.

Fel sefydliad

Bydd y ddyfais botensial ddigidol a'r adnoddau mae'n amlygu yn galluogi eich sefydliad i:

  • ddarganfod lle mae angen cefnogaeth a hyfforddiant i fynd i'r afael â bylchau sgiliau digidol
  • ddeall galluoedd digidol staff gofal cymdeithasol ar draws y sefydliad
  • wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ddefnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth
  • asesu a yw eich seilwaith digidol yn addas.

Dywedwch wrth eraill am y ddyfais

Dywedwch wrth ddarparwyr eraill am y ddyfais fel y gallwn ni helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.

Y fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ddyfais, y mwyaf gwybodus fyddwn ni fel cenedl am ba gefnogaeth sydd ei hangen i wella parodrwydd a hyder digidol y gweithlu a sefydliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gyda'ch help chi, bydd hyn yn gwella:

  • gallu arweinwyr i wneud penderfyniadau strategol a dyrannu adnoddau yn fwy effeithiol
  • ein dealltwriaeth o anghenion datblygu a bylchau sgiliau yn y gweithlu
  • gallu sefydliadau i brofi datrysiadau digidol arloesol
  • cydweithio a chefnogaeth gyffredinol
  • mynediad cyfartal at gyfleoedd a chefnogaeth gan ddefnyddio adnoddau digidol
  • gallu'r gweithlu i roi gofal mwy personol o dan bwysau a disgwyliadau cynyddol.

Pam ydyn ni'n gwneud y gwaith hwn?

Gall gwybod mwy am eich hyder digidol eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn barod i wneud y gorau o dechnolegau presennol a newydd, datblygu dulliau newydd ac arloesol o weithio, a sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Ein nod yw helpu pobl a sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau i ddatblygu eu hyder digidol, gan wella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Rydyn ni eisiau deall lle mae’r bylchau, fel y gallwn ni a'n partneriaid gynnig y cymorth a'r hyfforddiant cywir i ddatblygu gweithlu sy’n hyderus yn ddigidol. Rydyn ni hefyd eisiau hybu'r arloesedd digidol sydd eisoes yn digwydd ym maes gofal cymdeithasol.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod sefydliadau'n gallu defnyddio technoleg yn effeithiol i ddarparu gwell gwasanaethau.

Mae'r ddyfais botensial ddigidol wedi'i ddatblygu i helpu sefydliadau ac unigolion i ddysgu mwy am eu parodrwydd a'u hyder digidol, gan roi'r pŵer iddyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am sut i wella eu galluoedd digidol a'u canlyniadau.

Trwy ddefnyddio'r ddyfais, byddwch chi'n ein helpu i gael dealltwriaeth gliriach o barodrwydd digidol y gweithlu a sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn ni'n defnyddio hyn i lywio ein gwaith gyda phartneriaid ynghylch penderfyniadau ariannu, adnoddau a hyfforddiant, gan helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wella eu hyder a'u sgiliau digidol.

Cysylltwch

Os hoffech chi wybod mwy am y ddyfais, e-bostiwch digital@socialcare.wales.