Skip to Main content

Pontio: cefnogi pobl ifanc i ddeall gwasanaethau i oedolion

Dyddiad diweddaru diwethaf: 16 Medi 2026

Ysgrifennwyd gan Dr Flossie Caerwynt, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Grace Krause

Yn y crynodeb o dystiolaeth hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfoes ar sut mae pobl ifanc sy'n pontio i fod yn oedolion yn deall pa wasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi. 

Mae'r ymchwil a gwmpesir yn y crynodeb hwn yn canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal ac ar bobl ifanc sy'n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol. 

Rydyn ni’n dadansoddi'r broses o geisio cymorth i ddangos ble mae pobl ifanc yn profi rhwystrau i ddealltwriaeth.

Rydyn ni hefyd yn trafod ymchwil ar bobl ifanc nad ydyn nhw wedi ymgysylltu â gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, i ddangos sut mae hyn yn cysylltu â rhwystrau i ddealltwriaeth a rhannu gwybodaeth.

Cyflwyniad

Yn ein hymarfer gosod blaenoriaethau ar gyfer pontio i ofal oedolion, gofynnon ni i bobl ifanc â phrofiad o ofal a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol beth oedden nhw’n meddwl y dylid gwneud mwy o ymchwil amdano. Un peth a glywon ni yw bod pobl ifanc weithiau'n wynebu problemau wrth ddeall pa wasanaethau sydd ar gael yn ystod ac ar ôl y cyfnod o bontio i fod yn oedolyn. Roedd y problemau hyn yn cynnwys:

  • diffyg gwybodaeth glir ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael neu ar goll gan wasanaethau i oedolion
  • anhawster gwybod sut i gael mynediad at gefnogaeth
  • rhannu gwybodaeth yn wael rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.

Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn, dywedodd pobl wrthym ni fod angen:

  • gwybodaeth well am y gefnogaeth sydd ar gael
  • gwybodaeth glir ar sut i gael mynediad at y gefnogaeth hon.

Mae'r crynodeb o dystiolaeth hwn yn nodi ymchwil sy'n egluro mwy am y problemau hyn a sut y gellir mynd i'r afael â nhw. 

Mae ymchwil yn dangos nad yw darparu gwybodaeth am wasanaethau i oedolion yn unig yn ddigon i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae angen i bobl ifanc fod yn abl ac yn fodlon chwilio am y wybodaeth hon, cael mynediad ati, ei deall a gweithredu arni. Mae'r ymchwil a grynhoir yma yn egluro'r rhwystrau a all atal mynediad a dealltwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

Ofn cael eu gwrthod

Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl ifanc wedi profi gwasanaethau’n cael eu hatal ar ôl barnu nad oedden nhw’n ddigon cymwys, neu’n rhy gymwys i elwa. Gall hyn wneud pobl ifanc yn amharod i geisio gwybodaeth am gefnogaeth.

Ddim yn gwybod beth sydd ar gael

Mae angen i bobl wybod beth i chwilio amdano yn y lle cyntaf, cyn y gallan nhw geisio gwybodaeth am y gefnogaeth a allai fod ar gael iddyn nhw. Os nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad sut beth fyddai atebion posibl, gall hynny olygu nad ydyn nhw'n gallu chwilio am wybodaeth.

Gwybodaeth anhygyrch neu annibynadwy

Os cyflwynir gwybodaeth mewn fformatau anhygyrch neu annibynadwy, gall hyn niweidio ymddiriedaeth pobl ifanc mewn gweithwyr proffesiynol.

Gwybodaeth sy'n cymryd gormod o amser neu egni i'w deall

Gall llawer o bethau wneud gwybodaeth yn anodd ei darganfod neu ei deall, ac mae angen i bobl gael yr amser a'r egni i wneud hyn. Os nad oes gan bobl ddigon o amser nac egni, gall ei gwneud hi'n amhosibl iddyn nhw ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir a chael mynediad ati.

Gall deall a mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn helpu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn cynhyrchu gwybodaeth sy'n gwbl hygyrch ac yn ddealladwy i bobl ifanc.

Pontio ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu

Mae hawl pobl i ddeall y gwasanaethau y gallan nhw gael mynediad atynt wedi'i diogelu mewn sawl ffordd wahanol. Mae gan bob person ifanc sy'n pontio i fod yn oedolyn yr hawl i gael gwybodaeth hygyrch am y gwasanaethau y gallant gael mynediad atyn nhw. Mae ganddyn nhw hefyd yr hawl i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall y wybodaeth hon.

Mae Cod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlyniadau llesiant cenedlaethol yn eu gwaith. Dau o'r canlyniadau hyn yw:

                ‘Rwy’n gwybod ac yn deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael ac yn eu 
               defnyddio er mwyn fy helpu i sicrhau fy llesiant’.

‘Gallaf gael gafael ar yr wybodaeth gywir, pan fydd ei hangen arnaf, yn y ffordd rwyf am ei chael a defnyddio’r wybodaeth hon i reoli a gwella fy llesiant’.

Mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw dealltwriaeth i ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi manylion ynghylch pa mor hygyrch y dylai gwybodaeth am wasanaethau fod. Mae'n dweud bod rhaid i wasanaethau awdurdodau lleol:

'…cael eu hysbysebu yn y fath fodd fel y bydd pobl ar draws yr holl gymunedau amrywiol yn gwybod beth y gall y gwasanaeth ei gynnig ac yn deall sut y gallan gael mynediad ato'.

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffyrdd sydd wedi'u teilwra ar gyfer plant ac oedolion. Rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu gweithwyr cymorth un-i-un pan fo angen.

Mae galluedd meddyliol pobl hefyd yn effeithio ar sut maen nhw'n deall pa wasanaethau y gallan nhw gael mynediad atynt. Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) yn nodi bod rhaid cymryd 'pob cam ymarferol' i gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i ddarparu gwybodaeth i bobl yn y fformat hygyrch sy'n gweddu orau i'w hanghenion. Yn yr un modd, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (2006) yn cynnwys gofyniad i:

'…darparu mynediad i bobl ag anableddau at y gefnogaeth y gall fod ei hangen arnynt wrth arfer eu galluedd cyfreithiol'.

Y broses o geisio cymorth

Mae cael mynediad at gefnogaeth fel arfer yn cynnwys darganfod pa opsiynau gofal a chefnogaeth sydd ar gael, penderfynu pa un sydd orau, a darganfod sut i gael mynediad iddo. Mewn ymchwil academaidd, gelwir y broses hon yn ceisio cymorth

Fel rhan o'u hymchwil i ansefydlogrwydd tai pobl ifanc yn yr Unol Daleithiau, mae Samuels et al. (2018) yn disgrifio'r broses o geisio cymorth ar gyfer pobl ifanc. Maent yn dangos, er mwyn i geisio cymorth fod yn llwyddiannus, fod yn rhaid i'r person sy'n ceisio cymorth fod yn barod ac yn gallu:

  • cydnabod y byddai'n elwa o gefnogaeth
  • derbyn cefnogaeth
  • rhannu gwybodaeth am ei sefyllfa yn ôl yr angen i gael mynediad at gefnogaeth
  • nodi pa fath o gefnogaeth a allai fod o fudd iddo
  • cael mynediad at wybodaeth am opsiynau cefnogaeth addas a'i deall.

Mae'r adrannau canlynol yn manylu ar y gofynion hyn. Rydyn ni’n trafod sut mae pobl ifanc yn deall pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, a pha rwystrau all amharu ar eu dealltwriaeth.

Pwy sy'n gyfrifol am fynediad pobl ifanc at ofal?

Mae'r system bresennol yng Nghymru yn disgwyl i bobl ifanc gymryd y rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb am drefnu eu gofal eu hunain. Gall hyn greu rhwystr mawr i gael mynediad at ofal. 

Yn ein crynodeb o dystiolaeth ar eiriolaeth a phobl ifanc yn pontio  i ofal oedolion rydym yn trafod sut mae rhieni'n aml yn ymgymryd â'r dasg o drefnu cefnogaeth. Mae hyn yn golygu bod risg y gall pobl ifanc na all eu rhieni ymyrryd, neu na fyddan nhw’n gwneud hynny, golli’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. 

Ar yr un pryd, mae'n bwysig bod pobl ifanc sydd â rhieni sy'n cymryd rhan weithredol yn dal i gael eu cefnogi i ddeall a chymryd rheolaeth dros eu gofal eu hunain.

Mae parodrwydd pobl ifanc i gymryd rhan ym mhob agwedd ar geisio cymorth yr un mor bwysig â'u gallu i wneud hynny. Mae ymchwil yn dangos bod llawer iawn o gyfrifoldeb yn cael ei roi ar bobl ifanc i reoli eu cyfnod pontio. 

Er mwyn cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar gyfer pontio da, mae angen i bobl ifanc fod yn frwdfrydig, dyfalbarhau, bod yn benderfynol a bod yn amyneddgar (Armstrong-Heimsoth et al., 2020). Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil ehangach ar fynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, sy'n dangos bod angen i bobl fod yn frwdfrydig ac yn ddyfeisgar (Hodge et al., 2015).

Nid yw pob person ifanc yn fodlon nac yn gallu cael mynediad at wasanaethau na cheisio cefnogaeth ar ei ben ei hun. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n bodloni'r gofynion ar gyfer dod o hyd i'r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw a'i deall, ac efallai y byddan nhw'n colli allan ar wasanaethau buddiol. 

Ond nid oes llawer o ymchwil i pam efallai na fydd pobl ifanc yn ceisio cymorth. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod hi'n anodd i ymchwil gynnwys pobl ifanc nad ydyn nhw wedi cael mynediad at gefnogaeth, gan nad yw'r broses arferol o recriwtio cyfranogwyr trwy wasanaethau yn gweithio. 

Mae pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio hefyd yn tueddu i symud yn aml a chael cyflogaeth lai cyson. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd cysylltu â nhw (Armstrong-Heimsoth et al., 2020). 

Oherwydd yr ymchwil gyfyngedig sydd ar gael, mae llawer o'r wybodaeth a drafodir yn y crynodeb o dystiolaeth hwn yn dod o ymchwil gyda phobl ifanc a gafodd fynediad at wasanaethau o ryw fath yn y pen draw. Mae angen mwy o ymchwil i ddeall profiadau pobl ifanc nad ydynt wedi cael mynediad at gefnogaeth o gwbl.

Rhwystrau i ofyn am wybodaeth

Mae yna lawer o resymau pam y gallai pobl ifanc fod yn amharod i dderbyn cefnogaeth, neu i rannu manylion am eu sefyllfa gyda darparwyr gwasanaethau. Mae'r rhain yn peri cymaint o rwystr i ddealltwriaeth â diffyg gwybodaeth hygyrch.

Dau berson yn cerdded gyda'i gilydd. Mae un yn defnyddio ffrâm gerdded

Mae ennill ymddiriedaeth pobl ifanc yr un mor bwysig â sicrhau eu bod yn deall y gwasanaethau sydd ar gael.

I rai pobl ifanc, gall ymgysylltu â gwasanaethau beri risgiau posibl. Mae ymchwil Samuels et al. i ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, yn dangos sut mae rhai pobl ifanc yn pwyso a mesur y risgiau a'r manteision posibl o gael mynediad at gefnogaeth (2018). 

Adroddodd pobl ifanc fod y gwasanaethau asesu a ddefnyddiwyd i benderfynu pa gefnogaeth y gallent ei chael yn ymwthiol weithiau. Ac roedd rhai gwasanaethau'n niweidio pobl ifanc yn ddamweiniol drwy fethu â darparu cefnogaeth gynhwysol. 

Er enghraifft, dywedodd rhai pobl ifanc LHDT+ eu bod wedi dod ar draws gwahaniaethu a thrais wrth aros mewn llochesi. 

Dywedodd rhai pobl ifanc hefyd y gallai gwasanaethau waethygu pethau’n anfwriadol drwy eu gwahanu oddi wrth ffrindiau neu rwydweithiau cefnogaeth teuluol. Yn yr achosion hyn, byddai pobl ifanc weithiau’n penderfynu ei bod hi’n well peidio â defnyddio gwasanaethau. 

Mae ymchwil arall hefyd wedi dangos nad yw pobl ifanc yn debygol o ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol os ydyn nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n cael cefnogaeth wrth rannu manylion amdanyn nhw eu hunain neu eu sefyllfa (Prendergast et al., 2024). 

Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau, mae ennill eu hymddiriedaeth yr un mor bwysig â sicrhau eu bod yn deall y gwasanaethau sydd ar gael.

Tri pherson yn siarad o gwmpas bwrdd

Gall pobl ifanc deimlo nad yw'n werth gofyn am gymorth os ydyn nhw'n disgwyl y byddan nhw'n cael eu gwrthod.

Gall pobl ifanc hefyd fod yn amharod i geisio cymorth oherwydd eu bod yn poeni am gael eu gwrthod neu eu barnu, naill ai gan eu ffrindiau a'u teulu neu gan y gweithwyr proffesiynol maen nhw'n ceisio cymorth ganddyn nhw. 

Dangosodd Curry ac Abrams (2015) fod ofn cael eu gwrthod yn arwain pobl ifanc sy'n gadael gofal maeth i osgoi gofyn i bobl eraill am gymorth pan oedden nhw ei angen. 

Roedd y bobl ifanc yn yr astudiaeth honno’n teimlo nad oedd hi’n werth y straen o ofyn am gymorth pe bydden nhw ond yn mynd i gael eu troi i ffwrdd.

Gall pobl ifanc hefyd fod yn amharod i geisio cymorth oherwydd eu bod yn poeni am gael eu gwrthod neu eu barnu, naill ai gan eu ffrindiau a'u teulu neu gan y gweithwyr proffesiynol maen nhw'n ceisio cymorth ganddyn nhw. Dangosodd Curry ac Abrams (2015) fod ofn cael eu gwrthod yn arwain pobl ifanc sy'n gadael gofal maeth i osgoi gofyn i bobl eraill am gymorth pan oedden nhw ei angen. Roedd y bobl ifanc yn yr astudiaeth honno’n teimlo nad oedd hi’n werth y straen o ofyn am gymorth pe bydden nhw ond yn mynd i gael eu troi i ffwrdd.

Os yw pobl ifanc yn teimlo y gallai gweithwyr proffesiynol eu gwrthod, gall hynny effeithio'n ddifrifol ar eu parodrwydd i geisio cymorth. Mae hyn yn arbennig o wir os ydyn nhw wedi cael eu gwrthod wrth geisio cymorth yn y gorffennol. 

Yn ymchwil Glynn (2021), adroddodd y rhai sy'n gadael gofal yn Iwerddon fod eu lefel o gymhwysedd yn cael ei barnu gan ddarparwyr gwasanaethau. 

Yna cyfyngwyd ar eu mynediad at wasanaethau yn ôl eu lefel o gyfrifoldeb a aseswyd. Gwrthodwyd mynediad at wasanaethau i bobl ifanc y barnwyd nad oedden nhw’n ddigon cyfrifol. Er enghraifft, roedd y rhai â hanes o gamddefnyddio sylweddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gefnogaeth gyda thai. 

Adroddodd y bobl ifanc hynny hefyd fod eu diffyg preswylfa sefydlog wedi ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i weithwyr proffesiynol eu hystyried yn gyfrifol. 

O safbwynt y bobl ifanc, roedd hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol yn gweithredu fel porthgeidwaid yn hytrach na'u helpu i gael mynediad at y gefnogaeth oedd ei hangen arnynt (Glynn, 2021). Adroddodd ymchwil Hiles et al (2014) i brofiadau pobl ifanc o adael gofal yn y DU ganfyddiadau tebyg. 

Mae stigma ynghylch gofal yn cyfrannu at ofn pobl ifanc o gael eu gwrthod neu eu barnu. Mae ymchwil Amaral (2011) yn dangos bod pobl sy'n gadael gofal yn yr Alban weithiau'n ystyried gofyn am gefnogaeth fel gwendid, gan eu gwneud yn amharod i gael mynediad at wasanaethau. 

Hefyd, roedd y stigma sy'n gysylltiedig â threulio amser mewn gofal yn golygu bod y bobl ifanc hyn yn amharod i gael mynediad at wasanaethau yr oedden nhw’n eu cysylltu â bod mewn gofal, fel y rhai a ddarperir gan awdurdodau lleol. Yn yr un modd, dangosodd ymchwil Koya et al (2022) fod gofalwyr ifanc weithiau'n cuddio eu cyfrifoldebau gofalu rhag ofn cael eu bwlio. 

Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n gallu chwilio am wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw mewn ffyrdd a allai ddatgelu eu sefyllfa i eraill, fel drwy chwilio'r rhyngrwyd ar ddyfais a rennir neu mewn adeiladau cyhoeddus. Gall y rhai sy'n gadael  gofal sy'n amharod i ddatgelu eu hunaniaeth wynebu problemau tebyg.

Dau berson o dan gysgodfan bws. Mae un yn defnyddio cadair olwyn

Efallai y bydd pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd dychmygu pa gefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol.

Rhwystrau i ddealltwriaeth

I geisio cymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol, mae angen i bobl ifanc allu nodi pa wasanaeth neu gefnogaeth fyddai o fudd iddyn nhw. 

Mae hyn yn golygu bod angen iddyn nhw allu dychmygu ateb posibl yn seiliedig naill ai ar eu gwybodaeth eu hunain, neu ar wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw. 

Os na all pobl ifanc ddychmygu bod unrhyw fath o ateb posibl yn bodoli, yna mae'n annhebygol y byddant yn trafferthu chwilio am un. Ond mae dychmygu pa gefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol yn anodd, yn enwedig i bobl ifanc. 

Eglurodd cyfranogwr yn ymchwil Butterworth et al. i bobl ifanc sy'n pontio i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion (2017) ei bod hi'n anodd iawn iddyn nhw ofyn am wybodaeth am wasanaethau pan nad oedden nhw'n gwybod beth i ofyn amdano neu beth allai eu helpu.

Er mwyn i bobl ifanc ddychmygu beth allai eu helpu, mae angen rhywfaint o wybodaeth arnyn nhw am y gwasanaethau sydd ar gael. 

Efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth ar bobl ifanc nag oedolion eraill i lywio systemau a gwasanaethau newydd (Beverley et al., 2007; Christianson-Barker et al., 2025). Ond mae pobl ifanc sy'n symud i ofal oedolion yn adrodd nad ydyn nhw bob amser yn deall beth sy'n digwydd, ac nad oes ganddyn nhw'r wybodaeth sydd ei hangen i deimlo'n hyderus wrth wneud penderfyniadau (Broad et al., 2017; O’Loughlin, 2012). 

Mae ymchwil Armstrong-Heimsoth et al. (2020) yn dangos bod pobl sy'n gadael gofal maeth yn yr Unol Daleithiau wedi pwysleisio dro ar ôl tro’r angen am fwy o wybodaeth am wasanaethau a allai eu helpu i addasu i fywyd fel oedolyn. Roedden nhw eisiau gwybodaeth am gyflogaeth, addysg, bwyd, tai, trafnidiaeth a gofal iechyd. 

Er mwyn i bobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus wrth symud i ofal oedolion, mae'n bwysig bod ganddyn nhw wybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael, a manteision ac anfanteision pob un (Baxter et al., 2008; Mitchell, 2014).

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd angen i bobl ifanc ei wneud i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â phontio i ofal a chefnogaeth i oedolion, gweler ein crynodeb o dystiolaeth ar safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd ar y broses bontio.

Ar hyn o bryd, nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod pa gefnogaeth y gallant ei chael, na sut i gael gwybodaeth am wasanaethau. Canfu Prendergast et al. (2024) adroddiadau cyson nad yw pobl sy'n gadael gofal yn gwybod pa gefnogaeth y gallan nhw ei chael. 

Canfu eu hymchwil hefyd nad yw'r rhai sy'n gadael gofal yn cael digon o wybodaeth i deimlo'n gyfforddus yn gwneud penderfyniadau am bontio i fod yn oedolion. Dangosodd ymchwil Llywodraeth y DU i brofiadau pobl sy'n gadael gofal yn Lloegr, pan oedd pobl sy'n gadael gofal yn ymddangos eu bod yn gwneud yn dda, roedden nhw'n llai tebygol o gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael, gan y tybiwyd nad oedd ei hangen arnynt (2022). 

Ond mae gofal ataliol yn bwysig i atal problemau bach rhag gwaethygu. Yn ogystal â lleihau eu rheolaeth dros eu pontio, dangoswyd bod methu â chynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n gadael gofal yn niweidio eu llesiant cyffredinol (Llywodraeth y DU, 2022; Sims-Schouten a Hayden, 2017). 

Mae'r enghraifft hon yn dangos sut mae'r porthgadw a adroddir gan bobl ifanc yn mynd y ddwy ffordd, gan effeithio ar bobl am fod â gormod o gymhwysedd yn ogystal â dim digon.

Hyd yn oed pan fyddan nhw’n ymwybodol o wasanaeth a fyddai o fudd iddynt ac yn fodlon ei ddefnyddio, mae angen i bobl ifanc wybod sut i'w ddefnyddio o hyd cyn y gallant weithredu ar eu dealltwriaeth. 

Mae pobl ifanc sy'n pontio i fod yn oedolion yn aml yn ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Hyd yn oed pan maen nhw'n gwybod bod cefnogaeth i fod yn bodoli, maen nhw'n aml yn dweud nad yw ar gael neu ei bod yn amhosibl dod o hyd iddi (Prendergast et al., 2024). 

Mae hyn yn rhan o broblem ehangach ar draws gofal cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn nodi bod systemau iechyd a gofal yn ddryslyd ac yn llethol. Gall hyn olygu nad ydyn nhw'n cael mynediad at wasanaethau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw (Hodge et al., 2015). 

Er mwyn atal hyn rhag digwydd, mae angen darparu gwybodaeth gwbl hygyrch i bobl ifanc am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau, a pha gefnogaeth maen nhw'n ei chynnig.

Gwybodaeth hygyrch

Mae anghenion, profiadau a ffyrdd o fyw pobl i gyd yn effeithio ar y math o wybodaeth y byddan nhw’n ei chael yn fwyaf hygyrch (Baxter et al., 2008). Efallai y byddai rhai pobl yn well ganddynt wybodaeth ar lafar, tra byddai’n well gan eraill ddogfennau printiedig neu fideos. 

Gellid cyfuno sawl fformat yn un adnodd, fel tudalen we (Terras et al., 2021; Waight ac Oldreive, 2020). Efallai y bydd rhai pobl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, yn derbyn fersiynau hawdd eu darllen o adnoddau. Ond nid dyma'r fformat mwyaf hygyrch bob amser, fel y byddwn yn ei drafod yn ddiweddarach yn y crynodeb hwn. 

Mae Lakhani et al. (2018) yn dangos y gallai pobl ag anableddau dysgu ffafrio gwybodaeth brofiadol. Mae hyn yn golygu gwybodaeth sy'n dod o brofiad uniongyrchol. Er enghraifft, i ddysgu am gyfleuster lle gallan nhw gael mynediad at gefnogaeth, efallai y bydd yn well ganddyn nhw ymweld ag ef eu hunain. I rai pobl ag anableddau difrifol neu ddwys, efallai mai dyma'r unig fath o wybodaeth y gallan nhw ymgysylltu â hi.

Gan fod gwybodaeth hygyrch yn edrych yn wahanol i wahanol bobl, mae angen i wasanaethau gofal cymdeithasol dargedu'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau pan fyddan nhw angen cefnogaeth. Pan fo gwybodaeth yn generig, mae angen i bobl ddefnyddio eu gwybodaeth eu hunain i ddeall sut mae'n berthnasol iddyn nhw. 

Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth gyffredinol yn llai hygyrch. Pan fydd gwybodaeth wedi'i thargedu at y bobl sy'n ei defnyddio, nid oes angen cymaint o wybodaeth gefndirol arnyn nhw i'w deall (Baxter et al., 2008). 

Ond er bod llawer o ffyrdd o wneud gwybodaeth yn hygyrch, mae yna rai egwyddorion craidd a rennir o hyd. Mae Townsley et al. (2003) yn dadlau, er mwyn bod yn gwbl hygyrch, bod angen i wybodaeth fod:

  • wedi'i phrofi'n uniongyrchol gyda'r gynulleidfa darged
  • yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf am hygyrchedd
  • wedi'i llywio gan y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am anghenion y gynulleidfa darged.

Mae'n arbennig o bwysig bod pob math gwahanol o wybodaeth yn cyfleu'r un ffeithiau. Efallai bod hyn yn ymddangos yn amlwg, ond mae ymchwil yn dangos nad yw hynny bob amser yn wir. Er enghraifft, mae fersiynau hawdd eu darllen o ddogfennau yn ffurf gyffredin o wybodaeth hygyrch mewn gofal cymdeithasol. 

Fe'u darperir yn gyffredin i bobl ag anableddau dysgu i esbonio pa wasanaethau sydd ar gael a sut maen nhw'n gweithio. Ond dydyn nhw ddim bob amser yn gynrychioliadau cywir o'r cynnwys gwreiddiol (Waight ac Oldreive, 2020). 

Yn eu dadansoddiad o wybodaeth hawdd ei darllen a ddarparwyd gan NHS England, mae Buell et al. (2023) yn dangos bod y fersiynau hawdd eu darllen yr edrychon nhw arnyn nhw’n defnyddio mwy o'r hyn a elwir yn 'fynegiadau o rwymedigaeth'. 

Mae hyn yn golygu bod pethau'n cael eu disgrifio'n amlach o ran gofynion yn hytrach nag opsiynau. Yn yr astudiaeth hon, roedd y wybodaeth hawdd ei darllen yn pwysleisio cyfyngiadau yn fwy na'r wybodaeth safonol. Er enghraifft, roedd y fersiwn hawdd ei darllen o adnodd yn esbonio cyllidebau iechyd personol yn nodi 'rhaid i chi ddefnyddio'r arian ar…'. 

Dywedodd y fersiwn safonol, ar y llaw arall, 'byddwch chi'n gallu…'. Roedd testunau hawdd eu darllen yn yr astudiaeth hefyd yn creu rhaniad rhwng yr awdur ('ni') a'r darllenydd ('chi') pan nad oedd rhaniad o'r fath yn ymddangos yn y fersiwn safonol. Gall gwahaniaethau fel y rhain wneud pethau'n llai cynhwysol yn anfwriadol. 

Gallan nhw ddirymu'r bobl sy'n dibynnu ar fersiynau hawdd eu darllen drwy roi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn iddyn nhw. Nid yw hyn yn golygu na ddylid defnyddio fersiynau hawdd eu darllen, ond y dylai gwasanaethau sicrhau eu bod yn cyfleu gwybodaeth yn gywir.

Mae faint o ymddiriedaeth sydd gan bobl ifanc mewn gweithwyr proffesiynol yn cael ei effeithio gan ansawdd y wybodaeth maen nhw'n ei chael. Mae eu hymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol hefyd yn effeithio ar barodrwydd pobl ifanc i rannu manylion. 

Mae Mitchell (2014) yn dangos bod diffyg ymddiriedaeth yn rhwystr mawr i ddewis gwybodus i bobl ifanc anabl sy'n symud i ofal oedolion. Dywedodd cyfranogwyr yn ymchwil Mitchell fod eu hymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol wedi'i niweidio oherwydd eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir yn y gorffennol.

Mae pa mor dda y mae pobl yn deall gwybodaeth yn cael ei effeithio gan ba mor barod ydyn nhw i ymgysylltu â hi. Mae hyn yr un mor bwysig â pha mor abl ydyn nhw i ymgysylltu â hi. Mae hyn yn golygu nad yw rhoi gwybodaeth i bobl yn unig yn ddigon. 

Gall cynnig cefnogaeth i helpu i lywio a dadansoddi'r wybodaeth ei gwneud yn fwy hygyrch. Mae ymchwil Terras et al. (2021) yn dangos, hyd yn oed os yw gwybodaeth yn gwbl hygyrch, efallai na fydd pobl yn teimlo'n hyderus yn ei llywio ar eu pen eu hunain. 

Fe wnaethon nhw ganfod bod pobl yn dal i ffafrio cael cefnogaeth ychwanegol ar gael i'w helpu i wneud yn siŵr eu bod wedi deall y wybodaeth yn gywir, hyd yn oed pan oedd yn hygyrch ac wedi'i theilwra ar eu cyfer. 

Yn yr un modd, mae Beverly et al. (2007) yn dadlau mai dim ond un rhan o sbectrwm o gefnogaeth sy'n amrywio o gyngor i eiriolaeth ddylai fod yn wybodaeth.

Costau deall

Er mwyn i bobl ifanc ddeall y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, mae angen mwy na dim ond gwybodaeth mewn fformat hygyrch arnynt. Mae angen iddyn nhw hefyd gael yr amser a'r egni i ddod o hyd i'r wybodaeth ei hun a'i phrosesu. Mae cael mynediad at wybodaeth ac ymgysylltu â hi bob amser yn golygu cost. 

Mae'r costau hyn yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Ond mae'r costau bob amser yn cynnwys rhywfaint o amser ac egni (Baxter et al., 2008). 

Mae gwahanol bobl yn hoffi cael mynediad at wybodaeth a'i deall mewn gwahanol ffyrdd. Bydd mynd y tu allan i'w dull a'u cyd-destun dewisol yn costio mwy. 

Mae pethau a all effeithio ar sut mae'n well gan berson gael mynediad at wybodaeth a'i deall gynnwys (Townsley et al., 2003):

  • ei gefndir diwylliannol
  • yr iaith neu ieithoedd mae'n eu siarad a'u deall
  • unrhyw gyflyrau neu anableddau iechyd corfforol neu feddyliol
  • ei oedran
  • ei gefndir addysgol a'i brofiadau.

Pan fydd gwybodaeth am wasanaeth yn costio llawer i'w deall, gall ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl gael mynediad at ofal gan y gwasanaeth hwnnw. 

Mae hyn yn gwneud y gwasanaeth yn llai cyfartal (Stevens et al., 2011). Er enghraifft, efallai y bydd angen i bobl nad oes ganddyn nhw fynediad hawdd i'r rhyngrwyd deithio i ddod o hyd i gyfrifiadur. Gall hyn ychwanegu cost ariannol yn ogystal ag amser ac egni. 

Neu efallai bod ganddyn nhw ofynion hygyrchedd penodol nad oes darpariaeth ar eu cyfer, fel yr angen am dudalen we sy'n addas ar gyfer  darllenwyr sgrin. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddyn nhw ddod o hyd i rywun a all gyfleu'r wybodaeth iddyn nhw (Baxter et al., 2008). 

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos, er y gellid ystyried bod gwybodaeth yn hawdd i'w chanfod, ei chyrchu a'i deall, efallai nad yw'n hygyrch i bobl y mae cyfyngiadau ar eu hamser a'u hegni. 

Fel y trafodwyd yn gynharach, mae'n haws i bobl ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau os oes ganddyn nhw ryw syniad eisoes o'r hyn sy'n bodoli. Po leiaf y mae pobl eisoes yn ei wybod am ofal cymdeithasol, y mwyaf o amser ac egni sydd eu hangen arnyn nhw i ddod o hyd i wybodaeth. 

Mae hyn yn golygu bod cost dod o hyd i wybodaeth yn uwch i bobl sydd â llai o wybodaeth gefndirol. Yn yr achosion hyn, mae pobl yn aml yn gwneud dewisiadau yn seiliedig ar arfer, neu ar wybodaeth a chyngor a gynigir gan ffrindiau neu deulu (Baxter et al., 2008). 

Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o ddibynnu ar ffynonellau gwybodaeth cyfarwydd, yn enwedig rhai anecdotaidd, nag y maent i chwilio am wybodaeth newydd. Gall hyn fod yn wir hyd yn oed os nad yw eu ffynonellau cyfarwydd yn gywir nac yn ddibynadwy (Beverley et al., 2007; Baxter et al., 2008).

Mae cost gwybodaeth yn un o'r rhwystrau mwyaf i ddeall gwasanaethau yn ystod y cyfnod o bontio i fod yn oedolyn. Efallai na fydd darparu cefnogaeth i ddod o hyd i wybodaeth a'i deall yn mynd i'r afael â'r broblem hon yn llawn. Gallai'r gefnogaeth hon leihau cost cael mynediad at wybodaeth. 

Ond bydd yn dal i gymryd mwy o amser ac ymdrech nag y byddai i ddibynnu ar arfer (Baxter et al., 2008). Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r costau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu er mwyn deall y gwasanaethau y gallan nhw gael mynediad atyn nhw.

Casgliad

Mae ymchwil gyfredol yn dangos, er mwyn deall y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, bod angen i bobl ifanc sy'n pontio i ofal oedolion fod yn barod i ymgysylltu â gwybodaeth ac yn gallu gwneud hynny. 

Dylai gwasanaethau ddarparu gwybodaeth hygyrch sydd wedi'i theilwra i anghenion grwpiau penodol o bobl ifanc. Mae angen i ddarparwyr hefyd feddwl am y ffactorau eraill sy'n ei gwneud hi'n bosibl i bobl ifanc ymgysylltu â'r wybodaeth hon. 

Rhaid i'r wybodaeth hon fod yn gywir a rhaid iddi gyfleu'n glir beth yw'r gwasanaeth a sut i gael mynediad ato. 

Ac mae angen i bobl ifanc ymddiried y bydd gwasanaethau’n eu cefnogi heb farnu, neu byddan nhw yn amharod i geisio gwybodaeth ganddyn nhw.

Darllen ychwanegol

Dyma restr o'r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi dealltwriaeth pobl ifanc o ofal oedolion sydd naill ai'n agored i bawb neu ar gael am ddim ar e-Lyfrgell GIG Cymru.

  1. Armstrong-Heimsoth, A., Hahn-Floyd, M., Williamson, H.J., Kurka, J.M., Yoo, W. and Rodriguez De Jesus, S.A. (2020) ‘Former Foster System Youth: Perspectives on Transitional Supports and Programs’, Journal of Behavioural Health Services and Research, 48, tt. 287-305, doi:10.1007/s11414-020-09693-6, ar gael yn https://doi.org/10.1007/s11414-020-09693-6.
  2. Baxter, K., Glendinning, C. and Clarke S. (2008) ‘Making informed choices in social care: the importance of accessible information’, Health and Social Care in the Community, 16, tt. 197-207, doi:10.1111/j.1365-2524.2007.00742.x, ar gael yn https://doi.org/10.1111/j.1365-2524.2007.00742.x.
  3. Buell, S., Pounds, G., Langdon, P. and Bunning, K. (2024) ‘Easy read health information for people with intellectual disabilities: A linguistic discourse analysis. What happens to language when it’s simplified’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 37 (6), doi:10.1111/jar.13293, ar gael yn https://doi.org/10.1111/jar.13293.
  4. Mitchell, F. (2014) ‘Informed Choice for Disabled Young People in Transition: A Secondary Analysis of Qualitative Data’, Practice: Social Work in Action, 26 (4), tt. 259-270,doi:10.1080/09503153.2014.934800, ar gael yn https://doi.org/10.1080/09503153.2014.934800.
  5. Prendergast, L., Davies, C., Seddon, D., Hartfiel, N. and Edwards, R.T. (2024) ‘Barriers and enablers to care-leavers engagement with multi-agency support: A scoping review’, Children and Youth Services Review, 159, doi:10.1016/j.childyouth.2024.107501, ar gael yn https://doi.org/10.1016/j.childyouth.2024.107501.
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Amaral, M. (2011) ‘Care leavers’ engagement with services: Motivational factors which sustain a positive relationship’, Scottish Journal of Residential Child Care, 11 (1), ar gael yn  https://www.celcis.org/application/files/1316/2316/8131/2011_Vol_11_1_Amaral_Care_leavers_engagement.pdf (cyrchwyd: 5 Mehefin 2026).

Armstrong-Heimsoth, A., Hahn-Floyd, M., Williamson, H.J., Kurka, J.M., Yoo, W. and Rodriguez De Jesus, S.A. (2020) ‘Former Foster System Youth: Perspectives on Transitional Supports and Programs’, Journal of Behavioural Health Services and Research, 48, tt. 287-305, doi:10.1007/s11414-020-09693-6.

Baxter, K., Glendinning, C. and Clarke S. (2008) ‘Making informed choices in social care: the importance of accessible information’, Health and Social Care in the Community, 16, tt. 197-207, doi:10.1111/j.1365-2524.2007.00742.x.

Beverley, C.A., Bath, P.A. and Barber, R. (2007) ‘Can two established information models explain the information behaviour of visually impaired people seeking health and social care information?’, Journal of Documentation, 63 (1), tt. 9-32, doi:10.1108/00220410710723867.

Broad K.L., Sandhu V.K., Sunderji N., Charach A. (2017) ‘Youth experiences of transition from child mental health services to adult mental health services: a qualitative thematic synthesis’, BMC Psychiatry, 17, 380, doi:10.1186/s12888-017-1538-1.

Buell, S., Pounds, G., Langdon, P. and Bunning, K. (2024) ‘Easy read health information for people with intellectual disabilities: A linguistic discourse analysis. What happens to language when it’s simplified’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 37 (6), doi:10.1111/jar.13293.

Butterworth, S., Singh, S.P., Birchwood, M., Islam, Z., Munro, E.R., Vostanis, P., Paul, M., Khan, A. and Simkiss, D. (2017) ‘Transitioning care-leavers with mental health needs: ‘they set you up to fail!’, Child and Adolescent Mental Health, 22 (3), tt. 138-147, doi:10.1111/camh.12171.

Christianson-Barker, J., Lomness, A., Youssef, N., Yaghi, D., Ng, F., Hockman, L., Mills, R. and Hole, R. (2025) ‘Scoping Review on the Use of Navigation Services to Improve Accessibility of Programming for People With Intellectual Disabilities’, Journal of Applied Research In Intellectual Disabilities, 38 (4), doi:10.1111/jar.70101.

Curry, S.R. and Abrams, L.S. (2015) ‘Housing and Social Support for Youth Aging Out of Foster Care: State of the Research Literature and Directions for Future Inquiry’, Child and Adolescent Social Work Journal, 32 (2), tt. 143-153, doi:10.1007/s10560-014-0346-4.

Glynn, N. (2021) ‘Understanding care leavers as youth in society: A theoretical framework for studying the transition out of care’, Children and Youth Services Review, 121, doi:10.1016/j.childyouth.2020.105829.

Hiles, D., Moss, D., Thorne, L., Wright, J. and Dallos, R. (2014) ‘”So what am I?” – Multiple perspectives on young people’s experience of leaving care’, Children and Youth Services Review, 41, tt. 1-15, doi:10.1016/j.childyouth.2014.03.007.

Hodge, S., Thetford, C., Knox, P. and Robinson, J. (2015) ‘Finding your own way around: Experiences of health and social care provision for people with a visual impairment in the United Kingdom’, British Journal of Visual Impairment, 33 (3), tt. 200-211, doi:10.1177/0264619615596198.

Koya, K., Chowdhury, G. and Green, E. (2022) ‘Young informal carers' information needs communicated online: Professional and personal growth, finance, health and relationships’, Journal of Information Science, 50 (3), tt. 738-750, doi:10.1177/01655515221136829.

Lakhani, A., McDonald, D. and Zeeman, H. (2018) ‘Perspectives of self-direction: a systematic review of key areas contributing to service users' engagement and choice-making in self-directed disability services and supports’, Health and Social Care in the Community, 26 (3), tt. 295-313, doi:10.1111/hsc.12386.

Mental Capacity Act 2005, ar gael yn: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2005/9/contents/enacted (cyrchwyd: 24 Tach 2025).

Mitchell, F. (2014) ‘Informed Choice for Disabled Young People in Transition: A Secondary Analysis of Qualitative Data’, Practice: Social Work in Action, 26 (4), tt. 259-270, doi:10.1080/09503153.2014.934800.

O’Loughlin, S. (2012) ‘The transition from child and adolescent to adult services in eating disorders: a qualitative study of service user and carer perspectives’, PhD Thesis, University of Glasgow.

Prendergast, L., Davies, C., Seddon, D., Hartfiel, N. and Edwards, R.T. (2024) ‘Barriers and enablers to care-leavers engagement with multi-agency support: A scoping review’, Children and Youth Services Review, 159, doi:10.1016/j.childyouth.2024.107501.

Samuels, G.M., Cerven, C., Curry, S.R., Robinson, S.R. (2018) ‘"Nothing is for free…": Youth Logics of Engaging Resources While Unstably Housed’, Cityscape: A Journal of Policy Development and Research, 20 (3), tt. 35-68, ar gael yn https://docs.huduser.gov/archives/portal/periodicals/cityscpe/vol20num3/ch2.pdf (cyrchwyd: 5 Mehefin 2026).

Sims-Schouten, W. and Hayden, C. (2017) ‘Mental health and wellbeing of care leavers: Making sense of their perspectives’, Child & Family Social Work, 22, tt. 1480-1487, doi:10.1111/cfs.12370.

Stevens, M., Glendinning, C., Jacobs, S., Moran, N., Challis, D., Manthorpe, J., Fernandez, J., Jones, K., Knapp, M., Netten, A. and Wilberforce, M. (2011) ‘Assessing the Rose of Increasing Choice in English Social Care Services’, Journal of Social Policy, 40 (2), tt. 257-274, doi:10.1017/S004727941000111X. 

Terras, M.M., Jarrett, D. and McGregor, S.A. (2021) ‘The Importance of Accessible Information in Promoting the Inclusion of People with an Intellectual Disability’, Disabilities, 1, tt. 132-150, doi:10.3390/disabilities1030011.

Townsley, R., Rodgers, J. and Folkes, L. (2003) ‘Getting Informed: Researching the Production of Accessible Information for People with Learning Disabilities’, Journal of Integrated Care, 11 (3), tt. 39-43, doi:10.1108/14769018200300034.

UK Government (2022) ‘’Ready or not’: care leavers’ views of preparing to leave care’, ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/ready-or-not-care-leavers-views-of-preparing-to-leave-care/ready-or-not-care-leavers-views-of-preparing-to-leave-care#being-involved-in-decisions-and-plans-about-their-future (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).

United Nations (2006) Convention on the Rights of Persons with Disabilities, ar gael yn: https://www.ohchr.org/en/instruments-mechanisms/instruments/convention-rights-persons-disabilities (cyrchwyd: 24 Tachwedd 2025).

Waight, M. and Oldreive, W. (2020) ‘Investigation accessible information formats with people who have learning disabilities’, Learning Disability Practice, 23 (2), tt. 23-30, doi:10.7748/ldp.2020.e2031.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Rhan 2 Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol), ar gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2024-07/cod-ymarfer-rhan-2-ar-swyddogaethau-gofal-cymdeithasol-cyffredinol-fersiwn-2024_0.pdf (cyrchwyd: 24 Tachwedd 2025).