Skip to Main content

Pontio: eiriolaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu

Ysgrifennwyd gan Dr Flossie Caerwynt, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Grace Krause

Mehefin 2026 

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n rhannu’r ymchwil ddiweddaraf am rôl eiriolaeth ym mhroses bontio pobl ifanc ag anableddau dysgu o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.  

Rydyn ni’n archwilio pwysigrwydd eiriolaeth wrth gefnogi pobl ifanc i fynegi eu barn a helpu i gynnal eu hawliau. Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut y gall eiriolaeth helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu i gael mwy o reolaeth yn ystod cyfnodau pontio. 

Rydyn ni hefyd yn trafod gwahanol fathau o eiriolaeth ac yn tynnu sylw at rwystrau i eiriolaeth lwyddiannus yn ystod y broses bontio.

Cyflwyniad

Mae symud i ofal cymdeithasol oedolion yn un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol y bydd pobl ifanc sy’n defnyddio gofal yn ei brofi. Ond nid oes llawer o ymchwil ar sut i reoli’r pontio hwn yn llwyddiannus (Jacobs et al., 2021; Kelly et al., 2022).  

Mae cymhlethdod o gynnwys pobl ag anghenion cymorth uchel yn golygu bod y rhan fwyaf o’r ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar rieni. Yn aml, mae pryderon am anghydbwysedd pŵer rhwng ymchwilwyr a phobl ifanc, a gall fod yn anodd sicrhau bod pobl ifanc yn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth i gymryd rhan mewn ymchwil (Jacobs et al., 2021). Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o astudiaethau academaidd yn casglu barn rhieni a gweithwyr proffesiynol yn hytrach na phobl ifanc (Jacobs et al. 2021; Casey, 2021).  

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni wedi ceisio cynnwys ymchwil sy’n cynnwys pobl ifanc ag anableddau dysgu gymaint â phosibl. Ond mae’n bwysig cydnabod nad yw’r math hwn o ymchwil ar gael mor hawdd. 

Arwyddbost

Mae oedolaeth yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl .

Pontio ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu

Gall prosesau pontio llwyddiannus gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan fwy gweithredol mewn penderfyniadau am eu gofal. Mae hyn yn digwydd ar adeg pan maen nhw’n dod yn fwyfwy annibynnol mewn rhannau eraill o’u bywydau (Pilnik et al., 2010).  

Mae’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb am reoli’r pontio yn cael ei roi ar ysgwyddau pobl ifanc (Pearson et al., 2021). Mae hyn fel arfer yn golygu bod angen i bobl ifanc wneud yn siŵr eu bod wedi dod o hyd i ofal digonol, ac wedi ei drefnu ar gyfer eu hunain ar ôl iddyn nhw gyrraedd 18 oed. Y disgwyliad yw y bydd pobl ifanc yn gwneud hyn fel rhan o ymgymryd â lefelau annibyniaeth ‘oedolion’. Ond i bobl ifanc ag anableddau dysgu, nid yw cyrraedd oedolaeth bob amser yn golygu eu bod yn barod i fod (neu eisiau bod) yn annibynnol (Pearson et al., 2021). Nid yw syniadau eraill am sut beth yw bod yn oedolyn bob amser yn cael eu cydnabod mewn gofal cymdeithasol (Pilnik et al., 2010). 

Mae pobl ifanc ag anableddau dysgu yn wynebu llawer o heriau yn ystod y cyfnod pontio i ofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys (Clarke et al., 2011; Casey, 2021): 

  • cydlynu gwael rhwng gwasanaethau 
  • diffyg gwybodaeth hygyrch am y pontio 
  • dim digon o gefnogaeth yn ystod ac ar ôl y pontio 
  • methiant gwasanaethau i wrando ar bobl ifanc neu i gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol. 

Problem gyffredin arall y mae pobl ifanc ag anableddau dysgu yn ei hwynebu yw diffyg gwasanaethau priodol pan fyddan nhw’n troi’n 18 oed. Mae hyn weithiau’n cael ei achosi gan gapasiti cyfyngedig gwasanaethau, ac mae’n cael ei waethygu gan lai o opsiynau gofal seibiant (Šiška et al., 2024, Jacobs et al., 2020). Deunaw oed yw hefyd uchafswm oedran ar gyfer llawer o wasanaethau ieuenctid yn y DU, ac nid oes gan y gwasanaethau hyn bob amser ddarpariaeth gyfwerth uniongyrchol i oedolion. Mae teuluoedd yn adrodd bod hyn yn creu diwylliant o allgáu pobl ifanc ag anableddau dysgu lle nad yw eu hanghenion cymorth wedi newid (Šiška et al., 2024). 

Cyhaliodd Casey (2021) gyfweliadau â rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu am bobl ifanc awtistig ag anghenion cymorth uchel yn yr Alban. Ei bwriad oedd dysgu am eu profiadau negyddol o’r broses bontio. Mae ei hymchwil yn dangos bod hyn yn effeithio ar lesiant pobl ifanc a’u teuluoedd. Er enghraifft, gallan nhw deimlo fel nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros y pontio (Casey, 2021). Yn ôl ymchwil Casey, pan roedd pontio wedi digwydd yn llwyddiannus, priodolwyd y llwyddiant i lwc, eiriolaeth rhieni, neu gymorth gan weithiwr gofal cymdeithasol cefnogol. Mae hyn yn tynnu sylw at eiriolaeth fel elfen allweddol mewn profiadau pontio cadarnhaol. 

Allgáu rhag gwneud penderfyniadau

Mae polisïau gofal cymdeithasol yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynnwys pobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Ond er gwaethaf hyn, mae ymchwil yn dangos bod penderfyniadau pwysig yn aml yn cael eu gwneud heb bresenoldeb neu fewnbwn y person sy’n derbyn y gofal (Jacobs et al., 2018; Jacobs et al., 2021; Pearson et al., 2025). Mae adolygiad Medforth a Boyle o ymchwil pontio yn dangos bod pobl ifanc ag anghenion cymorth uchel yn arbennig o debygol o gael eu gadael allan o’r broses o wneud penderfyniadau (Medforth a Boyle, 2023). Gallwch ddarganfod mwy yn ein crynodeb tystiolaeth ar Cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal

Tri pherson yn siarad o gwmpas bwrdd

Mae eiriolaeth yn helpu i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hallgáu o wneud penderfyniadau.

Er mwyn pontio’n llwyddiannus, mae angen i bobl ifanc allu gwneud penderfyniadau am eu gofal. Gall eiriolaeth eu helpu i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a chefnogi pawb sy’n ymwneud â’r pontio i weithio gyda’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys bod yn agored am bethau fel cynllunio, cyllidebau a gwasanaethau (Jacobs et al., 2021).  

Fodd bynnag, rhwystr mawr i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yw anghytundeb am beth sy’n cyfrif fel cael dewis am eich gofal. Yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, gall y term ‘dewis’ olygu tri pheth gwahanol (Harris, 2003): 

  1. y broses o benderfynu ar ffordd o weithredu 
  2. gweithred sy’n mynegi penderfyniad 
  3. set o’r opsiynau sydd ar gael. 

Mae Jacobs et al. (2020) wedi gwneud ymchwil helaeth i bontio i oedolaeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu yn yr Alban. Fe fuon nhw’n cyfweld â rhieni a gweithwyr proffesiynol yn bennaf, yn ogystal ag arsylwi’r bobl ifanc yn uniongyrchol. Siaradodd rhieni yn bennaf am ddewis yn nhermau’r diffiniad cyntaf, sef y gallu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am y ffordd orau bosibl o weithredu. Ar y llaw arall, siaradodd rheolwyr awdurdodau lleol am ‘ddewis’ yn nhermau’r trydydd diffiniad. Eu hagwedd oedd bod mwy nag un dewis yn golygu y gallai pobl gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, hyd yn oed os oedd rhai o’r opsiynau a oedd ar gael yn amhriodol (o safbwynt y rhieni). O ganlyniad, dywedodd llawer o rieni eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n rhan o’r broses gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd, tra bod gweithwyr proffesiynol yn dadlau eu bod nhw (Jacobs et al., 2020).

Rôl eiriolaeth mewn pontio

Mae gwasanaethau eiriolaeth yn helpu i wneud yn siŵr bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed a’i hystyried. Er enghraifft, helpu pobl ifanc i rannu eu safbwynt mewn ffyrdd y gall gweithwyr proffesiynol eu deall (Pona a Hounsell, 2012). Gall gwasanaethau eiriolaeth gefnogi pobl ifanc a/neu eu teuluoedd i gael mwy o reolaeth dros eu cyfnod pontio. Maen nhw hefyd yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn cynllunio eu gofal (Gilmartin a Slevin, 2009; Casey, 2021).  

Mae ymchwil pontio yn dangos bod eiriolaeth yn hanfodol i sicrhau bod hawliau cyfreithiol pobl ifanc yn cael eu cynnal. Mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc sydd ddim yn gallu cymryd rhan yn uniongyrchol yn y prosesau gwneud penderfyniadau presennol. Gall hyn fod oherwydd gwahaniaethau cyfathrebu, anableddau eraill ble nad yw’r broses bresennol yn addasu’n ddigonol ar eu cyfer, neu bryderon am alluedd (Medforth a Boyle, 2023; Mitchell, 2015; Jacobs et al., 2021). Gall cefnogaeth eiriolaeth helpu i oresgyn y rhwystrau hyn a chodi lleisiau pobl ifanc anabl (Jacobs et al., 2021).  

Grŵp o dri o bobl gyda dau yn cerdded ac un yn defnyddio cadair olwyn

Gall cymryd rhan mewn eiriolaeth ddod â llawer o fanteision i bobl ifanc.

Mathau o eiriolaeth

Mae sawl math o eiriolaeth. Nid oes yr un yn nacáu’r llall, a gall pobl ddefnyddio mwy nag un math o eiriolaeth. Mae pedwar prif fath o eiriolaeth sy’n berthnasol i bobl ifanc ag anableddau dysgu wrth bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.  

  • Gwasanaethau eiriolaeth annibynnol: mae’r rhain yn cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol neu wirfoddolwyr sydd wedi’u cyflogi gan awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth y GIG i weithredu fel eiriolwyr (Morgan, 2011). 
  • Eiriolaeth gan deulu neu ffrindiau: pan fydd perthynas neu gyswllt agos arall yn eiriolwr ar ran y person ifanc. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw pan fydd rhieni yn eirioli dros eu plant (Jacobs, 2020). 
  • Eiriolaeth gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol: mewn rhai achosion, gall pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol weithredu fel eiriolwyr answyddogol. Gall fod yn anodd cydbwyso eiriolaeth a dyletswyddau proffesiynol yn yr achosion hyn (Dalrymple, 2003). 
  • Hunan-eiriolaeth: pan fydd pobl ifanc yn cael cefnogaeth i eirioli dros eu hunain, fel arfer trwy gymryd rhan mewn grŵp hunan-eiriolaeth. Gall y grwpiau hyn fod yn annibynnol neu’n rhan o wasanaethau presennol (Morgan, 2011; McCarthy a McTaggart, 2025). 

Ac eithrio hunan-eiriolaeth, gall pob math o eiriolaeth fod naill ai yn eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo neu’n eiriolaeth heb ei chyfarwyddo (Morgan, 2011): 

Eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo yw pan fydd gan unigolyn y gallu i ddweud yr hyn y dylid eirioli amdano. Mewn theori, byddai eiriolwyr wedyn yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn union heb unrhyw fewnbwn eu hunain, ond yn ymarferol mae lefel y mewnbwn yn amrywio.  

Eiriolaeth heb ei chyfarwyddo yw pan fydd eiriolwr yn gweithredu ar ran rhywun nad yw’n gallu mynegi ei ddymuniadau, neu yr ystyrir ei fod heb alluedd. Yn yr achosion hyn, gall rhieni neu ofalwyr roi cyfarwyddyd i’r eiriolwr, neu gall yr eiriolwr wneud yn siŵr bod hawliau cyfreithiol y person ifanc yn cael eu cynnal yn unig. Mae eiriolaeth heb ei chyfarwyddo yn gyffredin iawn mewn trefniadau pontio sy’n ymwneud â phobl ifanc ag anableddau dysgu. 

Eiriolaeth mewn deddfwriaeth

Mae hawl pobl ifanc o dan 18 oed i fod yn rhan o gynllunio eu gofal yn cael ei diogelu gan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Gwnaeth Cymru CCUHP yn rhan o’i chyfraith ddomestig yn 2011 ar ffurf Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn egluro bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP yn ei holl bolisïau.  

Yn ogystal â hyn, mae hawl pobl ag anableddau dysgu i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei diogelu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i ddarparu mynediad i bobl ag anableddau i’r cymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw i ymarfer eu galluedd cyfreithiol (Cenhedloedd Unedig 2006; Bigby et al., 2022a). 

Mae’r hawl i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn rhan ganolog o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Ddeddf yn nodi bod rhaid caniatáu i bobl ifanc leisio eu barn, a rhaid i benderfynwyr gymryd y farn honno o ddifrif (Davies et al., 2019). Mae gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gallu lleisio eu barn yn cynnwys darparu mynediad at eiriolwr pan fo angen. Mae eiriolaeth yn un arall o egwyddorion sylfaenol craidd y Ddeddf. Mae Rhan 10 (Eiriolaeth) Cod Ymarfer y Ddeddf yn dweud: 

‘Mae’n rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol ar gyfer person nad yw’n gallu goresgyn y rhwystr(au) i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu heb gael cymorth gan unigolyn priodol, ond nad oes unigolyn priodol ar gael (Llywodraeth Cymru, 2014, pwyslais yn y gwreiddiol). 

Mae’r Cod yn mynd ymlaen i ddweud na chaiff ‘unigolyn priodol’ fod yn un o’r canlynol (Llywodraeth Cymru, 2014): 

  • rhywun nad yw’r person eisiau cael cymorth ganddo 

  • rhywun sy’n annhebygol o allu cynorthwyo cyfranogiad yr unigolyn yn ddigonol, neu na fydd ar gael i wneud hynny  

  • rhywun sydd wedi’i enwi mewn ymchwiliad i gam-driniaeth neu esgeulustod, neu y mae ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniad awdurdod lleol i ystyried camau gweithredu gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion, neu weithgarwch amddiffyn plentyn. 

Yn eu gwerthusiad o’r Ddeddf, mae Llewellyn et al. (2021) yn disgrifio sut mae’r gofynion eiriolaeth wedi gweithio’n dda. Maen nhw wedi arwain at fwy o ddefnydd o wasanaethau eiriolaeth a mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd eiriolaeth. Fodd bynnag, mae Llewellyn et al. yn nodi bod yna lawer o leoedd yng Nghymru o hyd nad oes ganddyn nhw ddigon o wasanaethau eiriolaeth ar gyfer maint y boblogaeth (Llewellyn et al., 2021). 

Tri o bobl yn cael sgwrs wrth fwrdd

Mae rhieni yn eiriolwyr pwysig yn ystod y cyfnod pontio i ofal oedolion.

Eiriolaeth rhieni

Rhieni yw’r eiriolwyr mwyaf cyffredin dros bobl ifanc ag anableddau dysgu. Mae’r rhan fwyaf hefyd yn brif ofalwr eu plentyn (Jacobs, 2020; Kruithof et al., 2020). Yn ogystal â bod eisiau gweithredu er lles pennaf eu plentyn, mae gan rieni wybodaeth sylweddol am eu plentyn a’i anghenion cymorth. Fel arfer, nhw sydd â’r ddealltwriaeth orau o ffordd eu plentyn o gyfathrebu. Mae hyn yn golygu eu bod nhw mewn sefyllfa dda i eirioli ar ran eu plentyn (Casey, 2021). Mae hefyd yn haws i rieni wthio’n ôl yn erbyn rhwystrau strwythurol nac ydi hi i staff gofal cymdeithasol neu weithwyr cymdeithasol (Jacobs et al., 2020). Mae rhieni yn tueddu i ddefnyddio cyfuniad o eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo a heb ei chyfarwyddo. 

Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn ymchwil Jacobs et al.’ (2021) yn credu mai eiriolaeth rhieni a oedd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Defnyddiodd rhai yr ymadrodd ‘y rhai sy’n gweiddi uchaf’ i ddisgrifio eiriolwyr teulu a oedd yn gallu codi eu lleisiau i gyflawni canlyniadau ar ran y person ifanc. Mae hyn yn awgrymu nad yw pob teulu yn gallu eirioli neu’n barod i wneud hynny, neu efallai na fyddan nhw’n gallu gwneud hynny’n llwyddiannus (Jacobs et al., 2021). Gan fod rhieni yn eiriolwyr mor bwysig ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu, mae pobl ifanc sydd heb rieni fel eiriolwyr o dan anfantais (Jacobs et al., 2020). Ond mae bwlch yn yr ymchwil am brofiadau pobl ifanc sydd heb rieni sy’n eiriolwyr (Jacobs, 2020). Yn un o’r ychydig astudiaethau sy’n bodoli, edrychodd Lee et al. (2022) ar brofiad pobl ifanc ag anghenion cymorth uchel wrth bontio i ofal oedolion yn yr Unol Daleithiau. Dangoswyd bod gwasanaethau gwell ar gael i’r rhai sydd â rhieni sy’n eirioli’n weithredol o’i gymharu â phobl ifanc eraill (Lee et al., 2022). Gallwch ddysgu mwy am sut mae rhieni yn profi’r broses bontio hon yn ein crynodeb tystiolaeth ar bontio a safbwyntiau pobl ifanc a’u teuluoedd

Eiriolaeth a gwybodaeth

Er mwyn i gymryd rhan mewn penderfyniadau fod yn ystyrlon, mae angen i bobl ifanc wybod a deall yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Ac mae’n rhaid iddyn nhw allu dylanwadu ar benderfyniadau am eu gofal. Ond, efallai y bydd pobl ifanc ag anableddau dysgu, neu eu heiriolwyr, yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ond yn methu â gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon. Gallai hyn fod oherwydd nad oes ganddyn nhw fynediad at wybodaeth sy’n esbonio eu dewisiadau mewn ffordd y gall nhw ei deall. Neu efallai nad oes ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i gyfathrebu eu dewisiadau (Harris, 2003). Heb y paratoadau cywir a’r gefnogaeth gywir, gall cyfarfodydd cynllunio lethu pobl ifanc a gall hyn eu gwneud yn gyndyn o gymryd rhan yn y dyfodol (Chandroo et al., 2018). 

Cynhaliodd Kruithof et al. (2020) adolygiad o ymchwil i’r hyn y mae rhieni plant ag anableddau dysgu yn ei wybod am anghenion cymorth eu plentyn. Mae’r ymchwil hon yn dangos bod gwybodaeth rhieni yn hanfodol i sicrhau parhad gofal i blant. Ond mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn fwy tebygol o wrando ar weithwyr proffesiynol eraill nag ar rieni. Mae hyn yn golygu bod rhieni yn wynebu heriau wrth gyfathrebu eu harbenigedd mewn ffordd sy’n sicrhau y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw (Kruithof et al., 2020).  

Drws agored

Mae mynediad at wybodaeth yn bwysig ar gyfer eiriolaeth lwyddiannus.

Mae eiriolwyr proffesiynol yn gwybod sut i gael effaith ar y broses o wneud penderfyniadau. Ond gall hyn fod yn broblem i rieni a hunan-eiriolwyr sydd heb ddigon o gefnogaeth. Er mwyn eirioli dros eu hunain, neu ddweud wrth eu heiriolwyr beth mae nhw ei eisiau, mae angen i bobl ifanc allu cael mynediad at wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael (Smyth a Bell, 2006). I gael rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd cael y wybodaeth hon, gweler ein crynodeb dystiolaeth ar gefnogi dealltwriaeth pobl ifanc o’r gwasanaethau sydd ar gael i oedolion. 

Dywedodd rhai o’r rhieni a oedd yn rhan o astudiaeth Casey y gallai ceisio bod yn eiriolwyr cryf arwain at gael eu labelu fel pobl ‘anodd’ gan weithwyr proffesiynol (Casey, 2021). Fodd bynnag, pan fydd ganddyn nhw fynediad at wybodaeth am wasanaethau, gall rhieni sydd ddim wedi’u hyfforddi fel eiriolwyr gymryd rhan mewn eiriolaeth (Li et al., 2024). Mae eu gwybodaeth am anghenion eu plentyn wedyn yn cael ei chefnogi gan wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael. Heb y wybodaeth hon, mae’n anodd i rieni wybod beth ddylen nhw fod yn eirioli amdano (Casey, 2021). Yn ôl gweithwyr proffesiynol, pan oedd rhieni yn eirioli dros eu plentyn heb ddigon o wybodaeth, roedd yn debygol o fod yn aneffeithiol gan achosi mwy o darfu na chynnydd (Casey, 2021). 

Eiriolaeth a chyfathrebu

Mae angen i wasanaethau eiriolaeth allu addasu i wahanol ffyrdd o gyfathrebu. Mae hyn yn golygu bod angen hyfforddiant arbennig ar eiriolwyr i roi cefnogaeth briodol i bobl ifanc ag anableddau dysgu wrth iddyn nhw symud i ofal oedolion (Jacobs et al., 2018). Gall hyfforddi mewn gwahanol ddulliau cyfathrebu fod yn ddefnyddiol i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â phontio. Dylai gwasanaethau eiriolaeth arbenigol hefyd fod ar gael i gefnogi pobl ifanc ag anableddau difrifol neu ddwys i gael eu clywed (Casey, 2021). 

Perthnasoedd cryf yw sylfaen eiriolaeth lwyddiannus. Gall fod yn anodd i bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol dreulio amser yn dod i adnabod pobl ifanc ag anableddau dysgu a’u dulliau cyfathrebu. Mae materion fel cadw a recriwtio staff yn effeithio ar gyfraddau trosiant staff, a all hefyd effeithio ar gysondeb gofal. Dyma reswm arall pam mae’r rhan fwyaf o eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu yn cael ei gwneud gan rieni, gan eu bod fel arfer yn treulio llawer o amser gyda’u plant (Kruithof et al., 2020; Jacobs, 2020).  

Er mwyn i eiriolaeth fod yn llwyddiannus, mae angen i eiriolwyr fod wedi adnabod y person ifanc am gyfnod sylweddol o amser. Yn ddelfrydol, dylen nhw fod â pherthynas gref â theulu a ffrindiau’r person ifanc a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’i ofal. Mae hyn yn hanfodol os yw eiriolaeth am ymateb i arddull gyfathrebu pob person ifanc (Casey, 2021; Knight ac Oliver, 2007). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwysigrwydd perthnasoedd wrth symud i ofal oedolion yn ein crynodeb dystiolaeth ar bontio a safbwyntiau pobl ifanc a’u teuluoedd

Gydag eiriolaeth heb ei chyfarwyddo, mae yna risg bob amser o fethu â chrynhoi’n llawn neu o gamddeall dymuniadau person ifanc. Anaml iawn y mae rhieni sy’n eirioli dros eu plant yn mynegi pryderon y gallen nhw fod yn camddehongli eu dymuniadau (Jacobs, 2020). Ond mae ymchwil yn dangos bod hyn yn digwydd weithiau (Kruithof et al., 2020). Mae siawns real iawn efallai na fydd eiriolwr o unrhyw fath yn adlewyrchu barn y person mae’n eirioli drosto yn gywir. Pan fydd pobl yn meddwl eu bod yn dehongli’r hyn y mae person ifanc yn ei gyfathrebu, efallai y byddan nhw mewn gwirionedd yn cyflwyno eu barn nhw eu hunain am yr hyn y dylai’r person hwnnw fod eisiau (Winstanley, 2010). Mae ymchwil yn dangos bod eiriolaeth rhieni yn aml yn cael ei siapio gan eu gweledigaeth o sut y dylai bywyd eu plentyn fod. Efallai y byddan nhw’n cymryd yn ganiataol yn ddiarwybod mai dyma beth mae eu plentyn ei eisiau hefyd, hyd yn oed os nad yw eu plentyn erioed wedi cyfathrebu hyn (Bigby et al., 2022a). 

Gall fod dryswch hefyd ynghylch pa fathau o gyfathrebu sy’n cyfrif wrth gymryd rhan mewn cynllunio pontio. Dywedodd y rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn rhan o ymchwil Jacobs (2020) nad oedd pobl ifanc ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio eu prosesau pontio. Ond arsylwodd fod pobl ifanc yn defnyddio eu hymddygiad i gyfathrebu eu teimladau, fel sut roedden nhw’n teimlo am eu hamgylchedd neu weithgareddau roedden nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw. Yn y ffordd yma, roedden nhw’n cyfrannu eu barn at y broses o wneud penderfyniadau. Mae Jacobs yn dadlau bod rhieni a gweithwyr proffesiynol yn credu mai dim ond cyfathrebu ffurfiol (siarad, ysgrifennu, neu arwyddo) oedd yn cyfrif fel cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau. Oherwydd hyn, nid oedden nhw bob amser yn cydnabod bod pobl ifanc yn mynegi eu dewisiadau mewn ffordd wahanol (fel pwyntio â llygaid, mynegiant wyneb, neu ystumiau; Jacobs, 2020; Sense, 2023). Mae Bigby et al. (2022b) yn canfod pethau tebyg yn eu hymchwil i sut y gall rhieni gefnogi eu plant ag anableddau dysgu i wneud penderfyniadau. Dyma pam ei bod mor bwysig cael gwasanaeth eiriolaeth sydd wedi’i deilwra i gefnogi pobl ifanc yn y ffordd o’u dewis.

Dau berson yn siarad gyda'i gilydd. Mae gan un ben a phapur

Mae pobl angen gwasanaethau eiriolaeth sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion.

Rhwystrau i lwyddiant eiriolaeth

Dim ond pan fydd y gwasanaethau dan sylw wedi’u paratoi’n briodol ac yn barod i gymryd rhan y gall eiriolaeth fod yn llwyddiannus. Nid oes llawer o bwynt cymryd rhan mewn eiriolaeth nad yw’n cael unrhyw ddylanwad ar y broses bontio. Ar hyn o bryd, dim ond ychydig iawn o effaith y mae llawer o’r gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth yn y DU yn gallu ei chael ar ymarfer. Mae hyn oherwydd problemau dyfnach gyda chyllid ac argaeledd gwasanaethau (McCarthy a McTaggart, 2025; Jacobs et al., 2020).  

Nid dyma’r unig bethau sy’n atal eiriolaeth rhag bod yn llwyddiannus. Mae Harris yn nodi, hyd yn oed pan fydd pobl yn gwybod y gallan nhw ddylanwadu, efallai y byddan nhw’n amharod i wneud hynny os ydyn nhw’n ofni canlyniadau negyddol (Harris, 2003). Mae Barnes wedi ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng gweithwyr hawliau plant (sy’n eirioli ar ran pobl ifanc) a gweithwyr cymdeithasol. Cyfwelodd y ddau fath o weithwyr proffesiynol a phobl ifanc â phrofiadau o weithio gyda nhw. Dywedodd pobl ifanc a gweithwyr hawliau nad ydyn nhw weithiau yn barod i fynnu bod hawliau’n cael eu cynnal, neu i godi pryderon, oherwydd eu bod yn poeni y gallai effeithio’n negyddol ar ofal. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n poeni y gallai pobl ifanc gael eu gorfodi i newid darparwr gofal pe bai staff yn ymateb yn negyddol i fater yn cael ei godi (Barnes, 2012). Oherwydd hyn, dywedodd rhai gweithwyr hawliau eu bod yn gwneud penderfyniadau ynghylch pa un o geisiadau’r bobl ifanc i eirioli amdano, ac i ba raddau (Barnes, 2012). Mae tystiolaeth hefyd o rieni yn gwneud penderfyniadau tebyg, hyd yn oed pan fydd eu plant wedi gwneud eu dewisiadau yn glir (Casey et al., 2023). 

Casgliad

Mae’r crynodeb dystiolaeth yma'n amlinellu ymchwil gyfredol ar sut y gall eiriolaeth gefnogi pobl ifanc wrth symud i ofal oedolion. Mae’n canolbwyntio ar eiriolaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu, sy’n aml wedi’u heithrio o’r prosesau gwneud penderfyniadau. Mae’r ymchwil yn dweud bod eiriolaeth yn hanfodol i sicrhau bod hawl gyfreithiol pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn cael ei chynnal. Mae’n dangos ei bod yn bwysig i eiriolaeth gael ei theilwra i anghenion a dulliau cyfathrebu unigolion. Ac mae’n dangos, er mwyn i eiriolaeth weithio’n dda, rhaid i eiriolwyr fod yn wybodus iawn am y gwasanaethau sydd ar gael, yn ogystal â’r broses gynllunio.

Darllen ychwanegol

Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu sydd naill ai ar gael drwy fynediad agored neu’n rhad ac am ddim ar e-Lyfrgell GIG Cymru.  

  1. Casey, H., Desmond, D. a Coffey, L. (2023) ‘Irish mothers’ experiences of providing support in decision-making to adults with intellectual disabilities: A qualitative study’, British Journal of Learning Disabilities, 52, tt. 110-120, doi:10.1111/bld.12553.
  2. Jacobs, P., Macmahon, K. a Quayle, E. (2020) ‘Who decides? – transitions from school to adult services for and with young people with severe intellectual disabilities’, Disability and Society, 35(7), tt. 1058-1084, doi:10.1080/09687599.2019.1669435, ar gael yn https://www.research.ed.ac.uk/en/publications/who-decides-transitions-from-school-to-adult-services-for-and-wit/ (cyrchwyd: 8 Mai 2026).
  3. Jacobs, P., Quayle, E., Wilkinson, H. a MacMahon, K. (2021) ‘Relationships matter! – Utilising ethics of care to understand transitions in the lives of adults with severe intellectual disabilities’, British Journal of Learning Disabilities, 49, tt. 329-340, doi:10.1111/bld.12380.
  4. Kruithof, K., Willems, D., van Etten-Jamaludin, F. ac Olsman, E. (2020) ‘Parents’ knowledge of their child with profound intellectual and multiple disabilities: An interpretive synthesis’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 33, tt. 1141-1150, doi:10.1111/jar.12740.
  5. Morgan, G. (2011) ‘Independent advocacy, neuro-disability and spirituality? A history of advocacy with a case study from the Independent Mental Capacity Advocate (IMCA) service’, Social Care and Neurodisability, 2(4), tt, 208-217, doi:10.1108/20420911111188461.
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Barnes, V. (2012) ‘Social Work and Advocacy with Young People: Rights and Care in Practice’, British Journal of Social Work, 42, tt. 1275-1292, doi:10.1093/bjsw/bcr142.

Bigby, C., Douglas, J., Smith, E., Carney, T., Then, S. a Wiesel, I. (2022a) ‘Parental strategies that support adults with intellectual disabilities to explore decision preferences, constraints and consequences’, Journal of Intellectual & Development Disability, 47(2), tt. 165-176, doi:10.3109/13668250.2021.1954481.

Bigby, C., Douglas, J., Smith, E., Carney, T., Then, S. a Wiesel, I. (2022b) ‘“I used to call him a non-decision-maker – I never do that anymore”: parental reflections about training to support decision-making of their adult offspring with intellectual disabilities’, Disability and Rehabilitation, 44(21), tt. 6356-6364, doi:10.1080/09638288.2021.1964623.

Casey, B.R. (2021) Transition of autistic-school leavers with complex needs to residential adult services: parent and school professional views, and the implications of those views for transition policy and practice, Traethawd PhD, University of Stirling.

Casey, H., Desmond, D. a Coffey, L. (2023) ‘Irish mothers’ experiences of providing support in decision-making to adults with intellectual disabilities: A qualitative study’, British Journal of Learning Disabilities, 52, tt. 110-120, doi:10.1111/bld.12553.

Chandroo, R., Strnadová, I. a Cumming, T.M. (2018) ‘A systematic review of the involvement of students with autism spectrum disorder in the transition planning process: Need for voice and empowerment’, Research in Developmental Disabilities, 83, tt. 8-17, doi:10.1016/j.ridd.2018.07.011.

Clarke, S., Sloper, P., Moran, N., Cusworth, L., Franklin, A. a Beecham, J. (2011) ‘Multi-agency transition services: greater collaboration needed to meet the priorities of young disabled people with complex needs as they move into adulthood’, Journal of Integrated Care, 19(5), tt. 30-40, doi:10.1108/14769011111176734.

Dalrymple, J. (2003) ‘Professional Advocacy as a Force for Resistance in Child Welfare’, British Journal of Social Work, 33, tt. 1043-1062, doi:10.1093/bjsw/33.8.1043.

Davies, C., Fraser, J. a Waters, D. (2019) ‘Establishing a framework for listening to children in healthcare’. Journal of Child Health Care, 27(2), tt. 279-288, doi:10.1177/1367493519872078.

Gilmartin, A. a Slevin, E. (2009) ‘Being a member of a self-advocacy group: experiences of intellectually disabled people’, British Journal of Learning Disabilities, 38, tt. 152-159, doi:10.1111/j.1468-3156.2009.00564.x.

Harris, J. (2003) ‘Time to make up your mind: why choosing is difficult’, British Journal of Learning Disabilities, 31, tt. 3-8, doi:10.1046/j.1468-3156.2003.00181.x.

Jacobs, P., MacMahon, K. a Quayle, E. (2018) ‘Transition from school to adult services for young people with severe or profound intellectual disability: A systematic review utilizing framework synthesis’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 31, tt. 962-982, doi:10.1111/jar.12466.

Jacobs, P., Macmahon, K. a Quayle, E. (2020) ‘Who decides? – transitions from school to adult services for and with young people with severe intellectual disabilities’, Disability and Society, 35(7), tt. 1058-1084, doi:10.1080/09687599.2019.1669435, ar gael yn https://www.research.ed.ac.uk/en/publications/who-decides-transitions-from-school-to-adult-services-for-and-wit/ (cyrchwyd: 8 Mai 2026).

Jacobs, P., Quayle, E., Wilkinson, H. a MacMahon, K. (2021) ‘Relationships matter! – Utilising ethics of care to understand transitions in the lives of adults with severe intellectual disabilities’, British Journal of Learning Disabilities, 49, tt. 329-340, doi:10.1111/bld.12380.

Jacobs, P.C. (2020) Transitions in the Lives of Adults With Severe Intellectual Disability: An Ecological Life Course Perspective, Traethawd PhD, University of Edinburgh, ar gael yn https://era.ed.ac.uk/items/38b01fb5-e25d-4e59-a010-19fc3cc80739 (cyrchwyd: 20 Mai 2026).

Kelly, B., Webb, P., Davidson, G., Pinkerton, J. a McShane, T. (2022) ‘Raising the profile of care leavers with mental health and/or intellectual disabilities: A contribution from Northern Ireland’, Children and Youth Services Review, 136, doi:10.1016/j.childyouth.2022.106434.

Knight, A. ac Oliver, C. (2007) ‘Advocacy for disabled children and young people: benefits and dilemmas’, Child and Family Social Work, 12, tt. 417-425, doi:10.1111/j.1365-2206.2007.00500.x.

Kruithof, K., Willems, D., van Etten-Jamaludin, F. ac Olsman, E. (2020) ‘Parents’ knowledge of their child with profound intellectual and multiple disabilities: An interpretive synthesis’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 33, tt. 1141-1150, doi:10.1111/jar.12740.

Lee, C., Burke, M.M., DaWalt, L.S., Li, C. a Taylor, J.L. (2022) ‘The role of parental advocacy in addressing service disparities for transition-aged youth on the autism spectrum’, Autism, 26(4), tt. 1001-1006, doi:10.1177/13623613211057660.

Li, C., Cheung, W.C., Burke, M.M., Taylor, J.L. a DaWalt, S. (2024) ‘Examining the associations among knowledge, empowerment, and advocacy among parents of transition-aged youth with autism’, Autism, 28(8), tt. 2080-2089, doi:10.1177/13623613231221126.

Llewellyn M., Verity F., Wallace S. a Tetlow S. (2021) Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Gwerthuso Proses, Caerdydd, Llywodraeth Cymru, GSR rhif adroddiad 02/2021, ar gael yn https://www.llyw.cymru/gwerthusiad-o-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-llesiant-cymru-2014-gwerthuso-prosesau (cyrchwyd: 16 Mehefin 2026).

Llywodraeth Cymru (2014) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 10 (Eiriolaeth), ar gael yn https://www.llyw.cymru/gwasanaethau-eirioli-cod-ymarfer (cyrchwyd: 1 Gorffennaf 2025).

McCarthy, J. a McTaggart, V. (2025) ‘Fostering self-advocacy development in service-based self-advocacy groups’, Journal of Intellectual & Developmental Disability, doi:10.3109/13668250.2025.2474199.

Medforth, N. a Boyle, C. (2023) ‘Challenges, Complexity, and Developments in Transition Services for Young People with Disabilities, Mental Health, and Long-Term Conditions: An Integrative Review’, Comprehensive Child and Adolescent Nursing, 46(3), tt. 180-200, doi:10.1080/24694193.2023.2245473.

Mitchell, F. (2015) ‘Facilitators and barriers to informed choice in self-directed support for young people with disability in transition’, Health and Social Care in the Community, 23(2), tt. 190-199, doi:10.1111/hsc.12137.

Morgan, G. (2011) ‘Independent advocacy, neuro-disability and spirituality? A history of advocacy with a case study from the Independent Mental Capacity Advocate (IMCA) service’, Social Care and Neurodisability, 2(4), tt, 208-217, doi:10.1108/20420911111188461.

Pearson, C., Watson, N., Gangneux, J. a Norberg, I. (2021) ‘Transition to where and to what? Exploring the experiences of transitions to adulthood for young disabled people’, Journal of Youth Studies, 24(10), tt. 1291-1307.

Pearson, C., Cullingworth, J., Salmon, K., McLaughlin, J., Watson, N., Shildrick, T. a Bailey, A. (2025) ‘Policy Failure in the Lives of Young Disabled People: In Search of Good Transitions’, Social Policy & Administration, 60(1) tt. 1-11, doi:10.1111/spol.13131.

Pilnik, A., Clegg, J., Murphy, E. ac Almack, K. (2010) ‘Questioning the answer: questioning style, choice and self-determination in interactions with young people with intellectual disabilities’, Sociology of Health & Illness, 32(3), tt. 415-436, doi:10.1111/j.1467-9566.2009.01223.x.

Pona, I. a Hounsell, D. (2012) ‘The value of independent advocacy for looked after children and young people’, The Children’s Society, ar gael yn https://assets.childrenscommissioner.gov.uk/wpuploads/2017/06/Independent-Advocacy-Impact-and-outcomes-for-children-and-young-people-UCLAN-and-NCB_0.pdf (cyrchwyd: 20 Mai 2026).

Sense (2023) ‘Non-formal communication’, ar gael yn https://www.sense.org.uk/information-and-advice/ways-of-communicating/non-formal-communication/ (cyrchwyd: 27 Ebrill 2026).

Šiška, J., Beadle-Brown, J., Tichá, R., Stancliffe, R., Abery, B. a Káňová, Š. (2024) ‘Advances and gaps in policy, practice, and research in transition for students with intellectual and developmental disabilities across four countries’, Journal of Policy and Practice in Intellectual Disabilities, 2(1), doi:10.1111/jppi.12524.

Smyth, C.M. a Bell, D. (2006) ‘From biscuits to boyfriends: the ramifications of choice for people with learning disabilities’, British Journal of Learning Disabilities, 34(4), tt. 227-236, doi:10.1111/j.1468-3156.2006.00402.x.

United Nations (2006) Convention on the Rights of the Child, ar gael yn https://www.unicef.org.uk/what-we-do/un-convention-child-rights/ (cyrchwyd: 24 Ebrill 2026).

United Nations (2006) Convention on the Rights of Persons with Disabilities, ar gael yn https://www.ohchr.org/en/instruments-mechanisms/instruments/convention-rights-persons-disabilities (cyrchwyd: 27 Hydref 2025).

Winstanley, C. (2010) Transition planning for young people with severe learning disabilities: social positions and power relationships, Traethawd PhD, University of Birmingham, ar gael yn https://etheses.bham.ac.uk/id/eprint/1183/ (cyrchwyd: 20 Mai 2026).