Skip to Main content

Pontio: Diogelu drwy'r cyfnod pontio

Wedi'i ysgrifennu gan Dr Grace Krause a'i olygu gan Dr Kat Deerfield a Dr Flossie Caerwynt

Crynodeb

Yn y crynodeb tystiolaeth hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil a thystiolaeth gyfredol ar ddiogelu drwy’r cyfnod pontio a’r hyn y mae’n ei olygu i ymarfer gofal cymdeithasol.

Mae’r ymchwil yn dangos nad yw anghenion cymorth pobl ifanc yn diflannu pan fyddan nhw’n troi’n 18 oed. Gall effeithiau trawma yn ystod plentyndod barhau i gael effaith wrth i bobl ifanc symud tuag at oedolaeth, a gall rhai mathau o niwed waethygu yn ystod llencyndod.

Rydyn ni’n edrych ar sut mae diogelu drwy’r cyfnod pontio yn herio’r ffiniau traddodiadol rhwng gwasanaethau plant ac oedolion, yn cydnabod y gwahanol gyd-destunau lle gall niwed ddigwydd, ac yn ystyried sut orau i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn ymwneud â gweithgarwch troseddol.

Rydyn ni hefyd yn archwilio’r heriau y gall gweithwyr gofal cymdeithasol eu hwynebu wrth roi diogelu drwy’r cyfnod pontio ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys effaith emosiynol y gwaith, pwysau sy’n gysylltiedig â llwyth gwaith ac amodau gweithio, yn ogystal â strwythurau sefydliadol nad ydynt bob amser yn cefnogi’r dull hwn o weithio.

Cyflwyniad

Gall y cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn fod yn gyfnod heriol i bobl ifanc. I bobl ifanc sy'n gwynebu pryderon diogelu, boed hynny o fewn y teulu neu o'r tu allan iddo, gall y cyfnod o bontio i fod yn oedolyn ddod â pheryglon a heriau penodol.

Mae'r crynodeb o dystiolaeth hwn yn archwilio'r egwyddor o ddiogelu drwy'r cyfnod pontio. Rydyn ni’n ystyried y ffactorau sy'n gwneud y maes hwn yn gymhleth, a'r hyn a all gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i gyflawni'r gwaith hwn.  

Person yn edrych ar ei ffôn wrth eistedd i fyny yn y gwely

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ymdrechion diogelu sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc wrth iddyn nhw drawsnewid i fod yn oedolion.

Cysyniadau Allweddol

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ymdrechion diogelu sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc wrth iddyn nhw drawsnewid i fod yn oedolion. Mae hyn yn wahanol i ddulliau sy'n canolbwyntio ar blant yn unig neu oedolion yn unig. Mae eiriolwyr diogelu drwy'r cyfnod pontio yn dadlau bod gofal cymdeithasol weithiau wedi'i strwythuro fel system ddeuaidd, lle mae rhywun yn cael ei ystyried naill ai'n blentyn neu'n oedolyn. Ond nid yw hyn bob amser o fudd i bobl ifanc a all fod yn agored i niwed (Holmes a Cooper, 2025). Gall pobl ifanc wynebu niwed cymhleth a rhyng-gysylltiedig yn ystod eu cyfnod o bontio i fod yn oedolion. Mae Holmes a Cooper (2025) yn dadlau bod angen dull integredig i fynd i'r afael â'r niwed hwn; dull sy'n gallu cefnogi anghenion iechyd meddwl a chorfforol tra hefyd yn ymateb i ffactorau cyd-destunol. Gall y ffactorau hyn gynnwys deinameg teuluol, addysg, amgylcheddau cymdeithasol, ac anfanteision strwythurol, fel tlodi, hiliaeth, a chysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.

Mae Firmin (2024) yn dadlau bod gwasanaethau amddiffyn plant yn aml yn seiliedig ar ddull unigolyddol, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach deall sut y gellir ddiogelu pobl ifanc. Mae hi'n dadlau, o fewn y rheolau unigolaidd hyn, bod rhieni'n cael eu hystyried yn gyfrifol am les eu plant, ac nad yw’r wladwriaeth ond yn ymyrryd pan fydd rhieni'n methu â chyflawni eu cyfrifoldeb. Mae hi hefyd yn dadlau bod gwasanaethau amddiffyn plant yn canolbwyntio ar newid ymddygiad rhieni a phlant. Pan ddaw hi'n fater o blant neu bobl ifanc sy'n wynebu niwed cymhleth y tu allan i'w teulu, mae'r systemau hyn yn annigonol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar newid ymddygiad unigol pobl ifanc neu eu teuluoedd, mae gan ddiogelu drwy'r cyfnod pontio ffocws mwy cyfannol. Mae hyn yn ystyried y ffactorau personol ac amgylcheddol sydd eu hangen ar bobl ifanc er mwyn bod yn ddiogel.

Mae ffyrdd gwahanol o weithredu diogelu drwy'r cyfnod pontio. Mae rhai ymchwilwyr yn dadlau na ddylai diogelu drwy'r cyfnod pontio fod yn seiliedig ar un syniad 'o'r brig i lawr' ynghylch sut i wneud pethau. Yn hytrach, mae nhw yn dadlau y dylai ystyried cyd-destunau lleol a chael ei lunio gan brofiadau pobl ifanc unigol (gweler Cocker et al., 2021; Ruch et al., 2024).

Mae Holmes a Cooper (2025) wedi awgrymu chwe egwyddor sy'n diffinio diogelu drwy'r cyfnod pontio:

  1. Wedi'i lywio gan dystiolaeth: defnyddio ymchwil a phrofiadau gan ymarferwyr a phobl sy'n cael mynediad at ofal i lunio a chefnogi arferion diogelu
  2. Persbectif cyd-destunol neu ecolegol: canolbwyntio ar yr amgylcheddau gwahanol y mae pobl ifanc yn symud ynddyn nhw a cheisio gwneud y rhain i gyd yn ddiogel, yn hytrach na chanolbwyntio ar unigolion yn unig
  3. Trawsnewidiol neu ddatblygiadol o ran dyluniad: Edrych ar anghenion pobl ifanc yn gyfannol i'w gwneud yn briodol i'r gwahanol anghenion a allai fod ganddyn nhw ar wahanol gamau o ddatblygiad
  4. Ethos perthynol: mae dulliau'n canolbwyntio ar gryfhau perthnasoedd. Mae hyn yn golygu y dylai nhw ganolbwyntio ar y person ac cael eu llywio gan drawma, yn ogystal â grymuso pobl ifanc i feithrin gallu. Mae hefyd yn golygu defnyddio iaith gynhwysol a pharchus ac osgoi bod yn stigmateiddiol neu'n beio dioddefwyr
  5. Rhoi sylw i faterion ecwiti, cydraddoldeb a chynhwysiant: mynd i'r afael â materion strwythurol a gwahaniaethu pan fydd yn effeithio ar bobl ifanc a bod yn rhagweithiol wrth-ormesol
  6. Cyfranogol ar bob lefel: sicrhau bod cefnogaeth yn seiliedig ar gryfderau unigolion a galluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau dros eu bywyd eu hunain a chyd-ddylunio gwasanaethau. 

Mae Huegler et al. (2025) yn pwysleisio bod rhaid ystyried diogelu drwy'r cyfnod pontio o fewn cyd-destun ehangach. Mae nhw yn nodi, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc sy'n wynebu argyfwng yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i fyw bywydau llawn a ffyniannus, a bod angen newid ehangach – yr hyn a maen nhw'n galw yn “newid systemau cyfan sy'n pontio ffiniau” (Huegler et al., 2025). Mae hyn yn golygu gwella’r integreiddio rhwng y gwasanaethau y mae pobl ifanc yn eu defnyddio, yn ogystal â gwrando'n ofalus ar sut mae pobl ifanc yn deall eu llesiant eu hunain a'r math o fywyd mae nhw am ei fyw. 

Dau gêr yn ffitio gyda'i gilydd

Mae ffyrdd gwahanol o weithredu diogelu drwy'r cyfnod pontio.

Termau cysylltiedig

Mae termau amrywiol yn ymwneud â diogelu sy'n gysylltiedig â diogelu drwy'r cyfnod pontio. Mae diogelu cymhleth, ac yn enwedig diogelu cyd-destunol, yn gysyniadau pellach a all ein helpu i ddeall sut mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a meysydd eraill yn ailfeddwl ffyrdd o gadw pobl ifanc yn ddiogel. 

Mae diogelu cymhleth yn ddull sy'n edrych ar bryderon diogelu plant a phobl ifanc mewn perthynas â niwed sy'n digwydd y tu allan i'w teuluoedd. Yn benodol, mae'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag ecsbloetio troseddol plant, rhwydweithiau cyflenwi cyffuriau (county lines), caethwasiaeth fodern a ecsbloetio rhywiol plant. Mae diogelu cymhleth wedi cael ei ddefnyddio i lywio sawl tîm diogelu amlasiantaeth ym Manceinion Fwyaf sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n ymwneud ag ecsbloetio troseddol plant (Firmin et al., 2019). 

Yn yr un modd, mae diogelu cyd-destunol yn edrych ar niwed sy'n digwydd y tu allan i’r teulu drwy ganolbwyntio ar wahanol fathau o berthnasoedd sydd gan blant a phobl ifanc, a deall y cyd-destunau mae nhw’n ynymwneud â nhw. Mae diogelu cyd-destunol yn canolbwyntio ar gryfhau'r cydweithio rhwng pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i helpu i lywio penderfyniadau. Mae hefyd yn edrych ar sut mae niwed yn cael ei lunio gan anghydraddoldebau a ffactorau amgylcheddol eraill. Nod y dull yw bod yn seiliedig ar gryfderau a hawliau, ac i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth (Firmin et al., 2019).

Er nad ydym yn ysgrifennu'n benodol am ddiogelu cyd-destunol a diogelu cymhleth yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n cydnabod bod gorgyffwrdd sylweddol rhwng gwahanol ddulliau o ddiogelu. Rydyn ni wedi defnyddio ymchwil sy'n defnyddio amrywiaeth o dermau i edrych ar faterion  sy'nymwneud â diogelu a'r cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn. 

Polisi ac arweiniad

Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2019) 

Mae'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru, a  gynhyrchwydgan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn nodi'r nod o atal plant yng Nghymru rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. I wneud hyn, mae'r glasbrint yn amlinellu cynlluniau i “Ddatblygu system cyfiawnder ieuenctid sy'n trin plant yn deg ac â pharch, ac sy'n eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau a gwneud newidiadau a dewisiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Cefnogi plant i fyw bywydau cadarnhaol, iach di-droseddu, gan wella llesiant a gwneud cymunedau'n fwy diogel”. Mae'r cynllun yn cynnig gwneud hyn drwy fabwysiadu dull sy'n rhoi “plant yn gyntaf”, sy'n rhoi'r ffocws ar ddiwallu anghenion unigol y plentyn sydd wedi dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae'r gweithdrefnau diogelu ar gyfer plant ac ar gyfer oedolion wedi'u hamlinellu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r holl weithdrefnau llesiant yn canolbwyntio ar fod yn seiliedig ar yr unigolyn ac ar alluogi gwahanol sefydliadau i gydweithio i roi buddiannau'r unigolyn yn gyntaf. Y gwahaniaeth mawr rhwng y rheoliadau diogelu ar gyfer oedolion a phlant yn y Ddeddf yw ei bod yn rhoi canllawiau ar ddiogelu pob plentyn. Fodd bynnag, er mwyn i bryder diogelu fod yn berthnasol o dan y Ddeddf yn achos oedolyn, bydd angen hefyd anghenion gofal cymdeithasol eraill. 

Mae egwyddorion diogelu ar gyfer oedolion a phlant wedi'u hamlinellu ar wefan Diogelu Cymru, sy'n rhoi trosolwg o'r canllawiau perthnasol. 

Chwyddwydr

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn ein gwahodd i feddwl mwy am gymhlethdodau'r materion.

Beth sy'n gwneud diogelu drwy'r cyfnod pontio mor gymhleth?

Mae ymchwil i ddiogelu drwy'r cyfnod pontio yn tynnu sylw at nifer o densiynau sy'n codi wrth gefnogi pobl ifanc i fod yn ddiogel. Mae Huegler a Ruch (2022) yn dadlau mai un o'r pethau sy'n gwneud diogelu drwy'r cyfnod pontio mor heriol yw ein bod yn aml yn meddwl am bethau o safbwynt deuaidd nad ydyn nhw bob amser yn ddefnyddiol. Er enghraifft, rydyn ni’n gwahaniaethu rhwng oedolion a phlant, neu rhwng dioddefwyr a chyflawnwyr troseddau,  gan fod hynny'nhelpu ni i wneud synnwyr o'r byd. Ond weithiau nid yw'r categorïau hyn bob amser yn gwbl ar wahân i'w gilydd. Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn aml yn delio â phobl ifanc sydd rhwng y categorïau hyn, sy'n golygu y gall fod yn anodd iddyn nhw gael y cefnogaeth mae nhw ei hangen. 

Yn yr adrannau canlynol, rydyn ni’n edrych yn benodol ar:

  • gwahaniaethau rhwng gwasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion
  • cydbwyso hawliau a diogelwch
  • cefnogi pobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. 

Rydyn ni’n archwilio rhai o ganfyddiadau'r ymchwil am bobl ifanc yn yr amgylchiadau hyn, a sut mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn ein gwahodd i feddwl mwy am gymhlethdodau'r materion hyn.

Gwasanaethau i blant ac i oedolion

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn awgrymu, wrth i bobl ifanc droi'n18 oed ac felly ddim yn cael eu hystyried yn blant yn swyddogol mwyach, nid yw eu hanghenion yn llai tyngedfennol. Fodd bynnag, mae eu gallu i gael gafael ar y math cywir o gymorth yn aml yn mynd yn llawer mwy cyfyngedig (Holmes a Smale, 2018). Ar unllaw, mae tuedd fod llawer llai o gymorth ar gael wrth i bobl ifanc symud i wasanaethau oedolion (Codd a Hewitt, 2021; Broad et al., 2017; Beynon et al., 2022). Ar y llaw arall, mae gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y mae diogelu yn gweithio ar gyfer plant ac oedolion, ac rydyn ni’n trafod gwahaniaethau hyn yn y crynodeb hwn.

Un o'r materion sy'n gwneud diogelu drwy'r cyfnod pontio yn gymhleth yw bod y rheolau ynghylch pa wybodaeth y mae modd ei rhannu, a phwy sy'n gwneud penderfyniadau am fywyd person ifanc, yn newid pan  fyddan nhw’n troi'n18 oed. Mae diogelu plant yn canolbwyntio ar amddiffyn pob plentyn rhag niwed, tra bod diogelu oedolion yn aml yn cael ei ddeall fel rhywbeth sy'n canolbwyntio'n fwy ar ddiogelu oedolion sydd ag anghenion gofal cymdeithasol eraill. Ond, gall hyn arwain at roi'r gorau i ddarparu cymorth i bobl ifanc pan fyddan nhw’n 18 oed, er bod pryderon diogelu yn parhau i fodoli. Mae awduron briffio Llywodraeth y DU ar ddiogelu drwy'r cyfnod pontio (Research in Practice, 2021) yn pwysleisio, os yw cynghorau yn rhoi'r gorau i ddarparu cymorth yn 18 oed tra bod pryderon diogelu yn parhau, mae hyn yn dangos camddealltwriaeth o ddyletswyddau'r cynghorau. Maen nhw’n dadlau, gan ei bod yn amhosibl i unrhyw un gydsynio i gael ei gam-drin, y dylai arferion diogelu barhau y tu hwnt i'r oedran o 18 oed lle mae pryder ynghylch cam-drin.

Cynhaliwyd ymchwil gan Huegler et al. (2025) ar gyfarfodydd diogelu drwy'r cyfnod pontio. Fe wnaethon nhw nodi, er mai bwriad y panel oedd cefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed, mae pobl ifanc dros 18 oed yn cael llawer llai o sylw gan weithwyr proffesiynol. Er enghraifft, nododd yr ymchwilwyr, mewn un achos, fod gweithwyr proffesiynol wedi trafod pryderon ynghylch grŵp o gyfoedion rhwng 14 ac 18 oed. Ni wnaethon nhw sôn o gwbl am yr unigolyn 18 oed yn y grŵp, er bod ei enw wedi ymddangos ar agenda'r cyfarfod. Pan rannodd yr ymchwilwyr y sylw hwn â'r gweithwyr proffesiynol yn y cyfarfod, cawson nhw eu synnu. Nododd y gweithwyr proffesiynol eu bod yn ystyried bod y bobl ifanc iau yn y grŵp hwn fel y rhai oedd yn arbennig o agored i niwed. 

Plentyn ar siglen

Mae'n bwysig deall glasoed fel cyfnod unigryw yn ystod bywyd.

Deall glasoed fel cyfnod ar wahân

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu ei bod hi'n bwysig deall glasoed fel cyfnod unigryw yn ystod bywyd. A’i fod yn wahanol iawn i blentyndod ac i fod yn oedolyn o ran y risgiau y gall pobl eu hwynebu. Mae peth ymchwil yn awgrymu bod rhai mathau o niwed yn gwaethygu wrth i bobl ifanc droi’n 18 oed (Sawyer et al., 2018).

Mae Holmes a Smale (2018) hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth sy'n dangos bod llawer o'r problemau a allai arwain at blentyn ddod i gysylltiad â gwasanaethau diogelu  yn gallu parhau i effeithioarnyn nhw pan fyddan nhw’n oedolion. Mae peth ymchwil yn awgrymu bod esgeulustod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau neu ymddygiad troseddol yn ddiweddarach yn ystod glasoed ac fel oedolyn (Brandon et al., 2014; Kotch et al., 2008). Mae tlodi ac amddifadrwydd yn ystod plentyndod yn aml yn parhau i fod yn bresennol wrth i bobl dyfu'n oedolion, gan eu gwneud yn arbennig o agored i ecsbloetio rhywiol a throseddol (Wilson a Butler, 2014).

Gall pobl ifanc wynebu niwed penodol sy'n gysylltiedig â'i gilydd, megis cam-drin rhywiol, corfforol ac emosiynol, esgeulustod, digartrefedd, iechyd meddwl gwael, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau, ac  ecsbloetiotroseddol (Hanson a Holmes, 2014). Mae dulliau traddodiadol o ddiogelu plant yn tueddu i ganolbwyntio ar niwed sy'n digwydd o fewn teuluoedd ac ar ymddygiad rhieni a gofalwyr. Mae dulliau diogelu drwy'r cyfnod pontio yn cydnabod, wrth i blant dyfu'n hŷn, eu bod hefyd mewn mwy o berygl o ddioddef niwed sy'n digwydd y tu allan i'w cartrefi a'u teuluoedd (Holmes a Smale, 2018). Mae hyn oll yn arwain at yr angen i ailystyried y ffin rhwng plentyndod a byd oedolion fel llinell glir sy'n gwahanu'r ddau gyfnod. 

Dioddefwyr a throseddwyr

Gall y gwahaniaeth rhwng gwasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion fod yn arbennig o heriol  i bobl ifanc  sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Ar gyfer pobl dan 18 oed, mae Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Cymru (Llywodraeth Cymru, 2019) yn nodi dull gweithredu penodol. Mae’n canolbwyntio ar ddeall y profiadau trawmatig a’r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEau) sy’n aml yn arwain at blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol. Mae’r dull hwn yn arwain at ddeall bod angen cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac ar eu hanghenion unigol, ar blant sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol.

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn awgrymu y dylid deall y ffaith bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad sy’n  cael eu stigmateiddioneu sy’n cael ei ystyried yn droseddol yn amlach fel mater diogelu. Mae Holmes a Smale (2018) yn awgrymu, bod ymddygiad peryglus neu brofiadau niweidiol pobl ifanc, weithiau'n cael eu hystyried yn “dewisiadau ffordd o fyw” maen nhw wedi'u gwneud o'u gwirfodd. Ond, gall ymddygiadau fel cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol, ymddygiad rhywiol sy’n cael ei ystyried yn amhriodol neu’n niweidiol i’w hoedran, neu ymddygiadau peryglus eraill, yn aml fod yn arwydd bod y person ifanc wedi dioddef cam-drin neu ecsbloetio (Holmes a Smale, 2018). Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol yn aml yn wynebu amgylchiadau cymhleth. Gallan nhw fod mewn sefyllfa i gael eu hecsbloetio  neu eu gorfodi i achosi niwed i eraill . Gall pobl ifanc sydd ag awtistiaeth, neu sy’n cael trafferthion gyda chamddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl gwael, fod yn arbennig o agored i 'r mathau hyn o sefyllfaoedd a dylanwadau (Research in Practice, 2021).

Mae ymchwil ar ecsbloetio troseddol plant yng Nghymru (Maxwell a Wallace, 2021; Maxwell, 2026) yn awgrymu nad yw plant a phobl ifanc sy’n cael eu gorfodi a’u trin i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol yn aml yn ymddangos i wasanaethau fel “dioddefwyr stereoteipaidd”. Gall pobl ifanc sy’n agored i niwed gael eu gweld fel troseddwyr sy’n achosi niwed i eraill yn unig, yn hytrach na fel dioddefwyr ecsbloetio sy’n dioddef niwed eu hunain.

Mae Maxwell a Wallace (2021) hefyd yn nodi bod gweithwyr proffesiynol yn mynegi pryderon ynghylch a oedd oedolion ifanc, a gafodd eu hecsbloetio’n droseddol pan oeddent yn blant, yn gallu gwneud  penderfyniadaugwybodus. Mae ecsbloetio troseddol plant yn aml yn cynnwys gwahanol fathau o feithrin perthynas at ddibenion ecsbloetio (grooming) a thrin seicolegol, ac nid yw effaith y profiadau hyn yn dod i ben yn awtomatig pan fydd rhywun yn troi’n 18 oed. 

Person yn edrych dan straen

Gall gweithio ym maes diogelu drwy'r cyfnod pontio fod yn brofiad gofidus iawn.

Cefnogi gweithwyr i ymgymryd â diogelu drwy'r cyfnod pontio

Mae diogelu drwy'r cyfnod pontio yn faes cymhleth i weithio ynddo, ac mae pobl sy'n gwneud y gwaith hwn yn wynebu llawer o heriau. Ond mae ymchwil yn dangos bod nifer o bethau a thrallodusall helpu. Yn yr adrannau canlynol, rydyn ni’n archwilio'r hyn mae ymchwil yn ei ddweud all gefnogi gweithwyr i  ymgymryd âdiogelu drwy'r cyfnod pontio. Rydyn ni’n edrych yn benodol ar:

  • cefnogaeth ynglŷn â natur gymhleth a thrallodus y gwaith
  • rôl strwythurau sefydliadol
  • pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol a sut y gellir ei gefnogi yn y gweithle. 

Cymorth gyda gwaith sy'n emosiynol heriol

Mae gallu myfyrio ar eich gwaith a'ch emosiynau eich hun yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i ymdopi â sefyllfaoedd cymhleth a gofidus.  Fe wnaethon ni archwilio pwysigrwydd myfyrio yn ein crynodeb ynghylch cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd. Yn y crynodeb hwnnw, fe wnaethom ddisgrifio ymchwil Ferguson (2016) ar y rhesymau pam nad yw gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda theuluoedd weithiau'n sylwi ar niwed mewn sefyllfaoedd llawn straen. Mae Ferguson yn dadlau, pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn profi emosiynau eithafol yn y gwaith, y gallan nhw gymryd camau “gweithredu anfyfyriol”. 

Mae "gweithredoedd anfyfyriol" yn digwydd pan fydd pobl yn gwneud pethau heb stopio i feddwl yn ofalusam yr hyn maen nhw'n ei wneud. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i weithwyr ddeall pam maen nhw'n gwneud pethau mewn ffordd benodol. Gall hyd yn oed olygu eu bod yn gwneud pethau maen nhw'n gwybod nad ydyn nhw’n cyd-fynd ag arfer da, heb sylweddoli hynny. Mae Ferguson yn awgrymu bod angen i reolwyr greu mannau diogel i weithwyr cymdeithasol archwilio eu teimladau a chynllunio eu hymweliadau â theuluoedd, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n tynnu'n ôl nac ynosgoi sefyllfaoedd anodd (2016).

Yn yr un modd, mae Ruch et al. (2024) yn disgrifio sut y gall gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr gofal cymdeithasol eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n wynebu sefyllfaoedd anodd brofi gofid a gorbryder eithafol yn eu gwaith. Mae'r ymchwilwyr yn nodi ei bod yn bwysig i sefydliadau gydnabod hyn a chreu lle i weithwyr brosesu'r emosiynau hyn. Maen nhw’n dadlau, y gall anwybyddu’r emosiynau eithafol hyn arwain at weithwyr cymdeithasol fabwysiadu ffordd o feddwl sy'n dibynnu ar ddeuaethau syml iawn yn unig . Yn y cyd-destun hwn, mae deuaethau yn cyfeirio at y syniad mai dim ond dau grŵp sydd wedi'u diffinio'n glir sy'n bodoli, fel oedolion/plant neu ddioddefwyr/troseddwyr. Mae Ruch et al. (2024) yn dadlau, er mwyn sicrhau diogelu drwy'r cyfnod pontio llwyddiannus, ei bod yn bwysig i weithwyr proffesiynol ddeall cymhlethdodau sy'n mynd y tu hwnt i safbwyntiau deuol. Mae nhw yn dadlau bod gofid eithafol yn ei gwneud hi'n anoddach i weithwyr cymdeithasol gydnabod y cymhlethdodau hyn. 

Cefnogi pobl ifanc mewn argyfwng

Gall gweithio ym maes diogelu drwy'r cyfnod pontio fod yn brofiad gofidus iawn. Nododd prosiect ymchwil a oedd yn edrych ar ddau dîm diogelu drwy'r cyfnod pontio yn Lloegr fod gweithio gyda phobl ifanc mewn argyfwng eithafol yn aml yn anrhagweladwy ac yn emosiynol ddwys. Soniodd y cyfranogwyr yn benodol am yr anawsterau o weithio gyda phobl ifanc a aeth "ar goll" a phobl ifanc a oedd dan fygythiadau o drais neu yr oedd eu bywydau mewn perygl (Huegler et al., 2025).

Yn yr un modd, disgrifiodd y gweithwyr cymdeithasol a gafodd eu cyfweld gan Ruch et al. (2024) fod y gwaith  fel “bywyd a marwolaeth”("life and death"). Weithiau, fe  roedd ganddyn nhw'r teimlad bod eu tasgau'n bron yn amhosibl oherwydd bod y bobl ifanc yr oeddent yn gweithio gyda nhw mewn cymaint o berygl (Ruch et al., 2024). Mae Huegler et al. (2025) yn nodi y gall y risgiau eithafol sy'n gysylltiedig â diogelu yn ystod y cyfnod pontio ei gwneud hi’n anoddach i weithwyr proffesiynol ganolbwyntio ar ofal sy'n seiliedig ar y person. Gall hefyd fod yn arbennig o anodd i weithwyr gydnabod anghenion cymhleth hirdymor yr unigolion. Mae gan bobl sy'n gweithio yn y maes hwn lwythi gwaith uchel, a all olygu bod yn rhaid iddyn nhw flaenoriaethu pryderon diogelu uniongyrchol dros anghenion hirdymor. Mae'r ymchwilwyr hefyd yn adrodd bod y gweithwyr hyn yn poeni y gallan nhw gael eu beio'n bersonol pan fydd pethau'n mynd o chwith. 

Edrychodd Ruch et al. (2024) ar botensial grwpiau myfyriol i gefnogi ymarfer. Maen nhw’n dadlau mai rhan o'r hyn sy'n gwneud gwaith diogelu drwy'r cyfnod pontio yn bosibl yw creu lle i weithwyr proffesiynol fyfyrio ar eu gwaith a derbyn cefnogaeth. Dywedodd cyfranogwyr yn yr astudiaeth fod grwpiau myfyriol yn bwysig i'w helpu i fyfyrio a theimlo cysylltiad cryfach â gweithwyr eraill a'r bobl ifanc yr oeddent yn eu cefnogi. Roedd rhannu eu rhwystredigaethau a'u pryderon yn y grwpiau yn eu helpu i deimlo eu bod eu profiadau a'u heriau'n cael eu cydnabod (Ruch et al., 2024). Fe wnaethon nhw ddweud hefyd fod y grwpiau hyn yn rhoi lle iddyn nhw feddwl yn feirniadol am eu gwaith eu hunain, a oedd yn eu helpu i ddeall cymhlethdodau'r gwaith hwn. Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y gall darparu mannau cefnogol o'r fathi bobl sy'n gweithio ym maes diogelu drwy'r cyfnod pontio eu helpu i lywio cymhlethdodau eu rolau (Ruch et al. 2024). 

Gliniadur

Dywedodd y gweithwyr cymdeithasol yn yr astudiaeth fod systemau ehangach yn aml yn anghefnogol i bobl ifanc.

Strwythurau sefydliadol

Mae ymchwil ar ddiogelu drwy'r cyfnod pontio yn dangos bod strwythurau sefydliadol o amgylch gweithdrefnau diogelu weithiau'n ei gwneud hi'n anodd i weithwyr gofal cymdeithasol gefnogi diogelu.

Weithiau, mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn adrodd bod y strwythurau y maen nhw’n gweithio ynddyn nhw yn ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw gefnogi pobl ifanc yn y ffordd yr hoffen nhw . Mae Huegler et al. (2025) yn nodi bod pethau'n cael eu gwneud yn anoddach gan doriadau i gyllid cyhoeddus, yn ogystal â diwylliant lle mae gweithwyr gofal cymdeithasol unigol yn cael y bai pan fydd pethau'n mynd o chwith.

Siaradodd rhai gweithwyr cymdeithasol a gyfwelwyd am weithio ym maes diogelu drwy'r cyfnod pontio gan Ruch et al. (2024) am yr anawsterau o weithio mewn amgylcheddau nad oedd nhw’n cefnogi eu gwerthoedd. Fe wnaethon nhw ddisgrifio fod ganddyn nhw awydd cryf i weithio mewn ffordd a oedd yn cael ei harwain gan y berthynas rhyngddyn nhw a'r bobl ifanc roedden nhw'n eu cefnogi. Ond , roedden nhw'n dweud bod y ffordd yr oedd eu sefydliadau'n gweithredu yn ei gwneud hi'n anodd cyflawni hyn ar hyn o bryd. Dywedodd y gweithwyr cymdeithasol yn yr astudiaeth fod systemau ehangach yn aml yn anghefnogol i bobl ifanc. Fe wnaethon nhw ddweud hefyd, hyd yn oed pan oedd sefydliadau'n dweud eu bod yn gweithredu newidiadau cadarnhaol, fod hyn yn aml yn golygu newid iaith a gofyn am fwy o ddata. Siaradodd pobl am orfod blaenoriaethu'r perthnasoedd â'r bobl ifanc yr oeddent yn eu cefnogi dros ddyletswyddau gweinyddol (Ruch et al., 2024). 

Mae data o arolwg gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2025 hefyd yn dangos anawsterau sy'n ymwneud ag amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol. Pan ofynnwyd i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru beth oedd eu prif ffynhonnell o straen, nododd bron i hanner ddyletswyddau gweinyddol fel rhywbeth a oedd yn achosi straen iddyn nhw. Dywedodd tua hanner fod llwythi gwaith gormodol yn achosi straen iddyn nhw, ac roedd 18 y cant yn dweud nad  oedden nhwbob amser yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith. Roedd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn adrodd lefelau uwch o gorbryder na'r boblogaeth gyffredinol, gyda bron i hanner y gweithwyr cymdeithasol yn nodi mai llwyth gwaith uchel oedd eu prif ffynhonnell straen (Krause et al., 2026).

Nid yw bob amser yn glir beth yw'r ffordd orau o gadw pobl ifanc yn ddiogel pan mae nhw’n wynebu heriau cymhleth. Ac yn aml mae'n rhaid i'r rhai sy'n eu cefnogi weithio mewn cyd-destunau lle nad oes ganddyn nhw ddigon o gyllid a chefnogaeth. Mae ymchwil yn awgrymu bod angen gwell cyllid ar gyfer gwasanaethau ac amodau gwell i weithwyr gofal cymdeithasol. Heb y gwelliannau hyn, mae'n anodd i bobl sy'n gweithio ym maes diogelu drwy'r cyfnod pontio roi'r amser a'r sylw sydd eu hangen ar bobl ifanc (Ruch et al., 2024).

Casgliadau

Yn draddodiadol, mae gweithdrefnau diogelu wedi cael trafferth ymateb yn llawn i'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth  bontio o fod yn blant i fod yn oedolion. Nod diogelu drwy'r cyfnod pontio yw mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn y ddarpariaeth drwy ddatblygu dulliau newydd o gefnogi pobl ifanc.

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni wedi edrych ar ymchwil sy'n archwilio sut y gall gweithwyr gofal cymdeithasol ddeall yn well y sefyllfaoedd cymhleth y mae pobl ifanc sy'n wynebu niwed yn aml yn profi. Rydyn ni hefyd wedi amlinellu ymchwil ar yr hyn a all gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ymgysylltu â'r cymhlethdodau sy'n rhan o weithdrefnau diogelu. 

Darllen ychwanegol

  1. Ruch, G., Damman, J., Huegler, N. and Bowyer, S. (2024) ‘I was detecting a kind of, a from the heart kind of dialogue’: understanding the role of reflective spaces for transitional safeguarding innovation’, Journal of Social Work Practice, 38 (2), tt. 175-190, doi:10.1080/02650533.2024.2327046, ar gael ar https://doi.org/10.1080/02650533.2024.2327046. 
  2. Huegler, N., Damman, J. L., Ruch, G. and Bowyer, S. (2025) ‘”We were persistently othering them out”: Reconceptualising ‘safeguarding’ for young people experiencing extra-familial risks and harms during transition to adulthood’, Health Education Journal, 84 (4), tt. 432-445, doi:10.1177/00178969241299338, ar gael ar https://doi.org/10.1177/00178969241299338. 
  3. Firmin, C. (2024) ‘Binaries and Blurred Lines: The Ethical Stress of Child Protection Social Work in the Grey of Extra-Familial Harm’, Ethics and Social Welfare, 18 (4), tt. 404-421, doi:10.1080/17496535.2024.2414963, ar gael ar  https://doi.org/10.1080/17496535.2024.2414963. 
  4. Maxwell, N., Wallace, C. (2021) Camfanteisio troseddol ar y blant yng Nghymru, ar gael ar https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/145780/ (cyrchwyd: 26 Ionawr 2026). 
  5. Holmes, D. and Smale, E. (2018) Transitional safeguarding - adolescence to adulthood, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/all/publications/2018/august/transitional-safeguarding-adolescence-to-adulthood-strategic-briefing-2018/ (cyrchwyd: 6 Awst 2026). 
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Beynon, C., Morgan, L., Evans, L., Darlington, O., Brace, L., Roberts, M. and Woodfine, L. (2022) Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal: Adolygiad cyflym o lenydduiaeth, data a phrofiadau unigolion sydd â phrofiad o ofal a darparwyr gwasanaethau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gael yn  Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal - Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant 

(cyrchwyd: 6 Awst 2026). 

Brandon, M., Glaser, D., Maguire, S., McCroy, E., Lushey, C. and Ward, H. (2014) Missed opportunities: indicators of neglect–what is ignored, why, and what can be done? London, Department for Education, ar gael ar https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/379747/RR404_-_Indicators_of_neglect_missed_opportunities.pdf (cyrwchwyd: 6 Awst 2026). 

Broad K. L., Sandhu V. K., Sunderji N. and Charach A. (2017) ‘Youth experiences of transition from child mental health services to adult mental health services: a qualitative thematic synthesis’, BMC Psychiatry, 17 (380), doi:10.1186/s12888-017-1538-1. 

Cocker, C., Cooper, A., Holmes, D., and Bateman, F. (2021) ‘Transitional Safeguarding: Presenting the case for developing Making Safeguarding Personal for Young People in England’, Journal of Adult Protection 23 (3), tt. 144-157, doi:10.1108/JAP-09-2020-0043. 

Codd J. and Hewitt, O. (2021) ‘Having a son or daughter with an intellectual disability transition to adulthood: A parental perspective’, British Journal of Learning Disabilities, 49 (1), tt. 39-51, doi:10.1111/bld.12327. 

Ferguson, H. (2016) ‘How children become invisible in child protection work: Findings from research into day-to-day social work practice’, British Journal of Social Work, 47 (4), tt.1007-1023, doi:10.1093/bjsw/bcw065. 

Firmin, C. (2024) ‘Binaries and Blurred Lines: The Ethical Stress of Child Protection Social Work in the Grey of Extra-Familial Harm’, Ethics and Social Welfare, 18 (4), tt. 404-421, doi:10.1080/17496535.2024.2414963. 

Firmin, C., Horan, J., Holmes, D. and Hopper, G. (2019) Safeguarding during adolescence – the relationship between Contextual Safeguarding, Complex Safeguarding and Transitional Safeguarding, Research in Practice, University of Bedfordshire, Rochdale Borough Council and Contextual Safeguarding Network, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/children/publications/2019/january/safeguarding-during-adolescence-the-relationship-between-contextual-safeguarding-complex-safeguarding-and-transitional-safeguarding-2019/ (cyrchwyd: 11 Mehefin 2026). 

Hanson, E. and Holmes, D. (2014) That Difficult Age: Developing a more effective response to risks in adolescence, Research in Practice, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/children/publications/2014/november/that-difficult-age-developing-a-more-effective-response-to-risks-in-adolescence-evidence-scope-2014/ (cyrchwyd: 1 Gorffenaf 2026). 

Holmes, D. and Cooper, A. (2025) Transitional Safeguarding briefing for sector leaders. Research in Practice, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/all/publications/2025/october/transitional-safeguarding-briefing-for-sector-leaders-strategic-briefing-2025/ (cyrchwyd: 1 Gorffenaf 2026). 

Holmes, D. and Smale, E. (2018) Transitional safeguarding - adolescence to adulthood, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/all/publications/2018/august/transitional-safeguarding-adolescence-to-adulthood-strategic-briefing-2018/ (cyrchwyd: 6 Awst 2026). 

Huegler, N., Damman, J. L., Ruch, G. and Bowyer, S. (2025) ‘”We were persistently othering them out”: Reconceptualising ‘safeguarding’ for young people experiencing extra-familial risks and harms during transition to adulthood’, Health Education Journal, 84 (4), tt. 432-445, doi:10.1177/00178969241299338. 

Huegler, N. and Ruch, G. (2022) ‘Risk, Vulnerability and Complexity: Transitional Safeguarding as a Reframing of Binary Perspectives’, Practice, 34 (1), tt. 25-39, doi:10.1080/09503153.2021.1932787. 

Kotch, J. B., Lewis, T., Hussey, J. M., English, D., Thompson, R., Litrownik, A. J., Runyan, D. K., Bangdiwala, S. I., Margolis, B. and Dubowitz, H. (2008) ‘Importance of early neglect for childhood aggression’, Pediatrics, 121 (4), tt. 725-731, doi:10.1542/peds.2006-3622. 

Krause, G., Deerfield, K., Reynolds, R., and Caerwynt, F. (2026) Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025, Y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael ar Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025 - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi (cyrchwyd: 2 Chwefror 2026). 

Maxwell, N., Wallace, C. (2021) Child Criminal Exploitation in Wales, available at https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/145780/ (cyrchwyd: 26 Ionawr 2026). 

Maxwell, N. (2026) ‘Shove that. There’s always hope’: young people’s lived experience of child criminal exploitation, Journal of Youth Studies, 29 (1), 54–70, doi:10.1080/13676261.2024.2397025. 

Research in Practice (2021) Bridging the gap: Transitional safeguarding and the role of social work with adults, ar gael ar https://www.researchinpractice.org.uk/all/publications/2021/june/bridging-the-gap-transitional-safeguarding-and-the-role-of-social-work-with-adults-knowledge-briefing/ (cyrchwyd: 6 Awst 2026). 

Ruch, G., Damman, J., Huegler, N. and Bowyer, S. (2024) ‘I was detecting a kind of, a from the heart kind of dialogue’: understanding the role of reflective spaces for transitional safeguarding innovation’, Journal of Social Work Practice, 38 (2), tt. 175-190, doi:10.1080/02650533.2024.2327046. 

Sawyer, S., Azzopardi, P., Wickremarathne, D. and Patton, G. (2018) ‘The age of adolescence’, The Lancet Child and Adolescent Health, 2 (3), tt. 223-228, doi:10.1016/S2352-4642(18)30022-1.  

Llywodraeth Cymru (2019) Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, ar gael ar glasbrint-ar-gyfer-cyfiawnder-ieuenctid.pdf (cyrwhwyd: 6 Awst 2026). 

Wilson, B. and Butler, L. D. (2014) ‘Running a gauntlet: A review of victimization and violence in the pre-entry, post-entry, and peri-/post-exit periods of commercial sexual exploitation’, Psychological Trauma: Theory, Research, Practice, and Policy, 6 (5), tt. 494-504, doi:10.1037/a0032977.