Skip to Main content

Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025

Lluniwyd gan Dr Grace Krause, golygwyd gan Dr Kat Deerfield, Dr Rhian Reynolds a Dr Flossie Caerwynt

Yn y papur briffio hwn, rydyn ni wedi casglu canfyddiadau o’n gwaith ymchwil er mwyn archwilio profiadau’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’u llesiant. 

Rydyn ni’n ystyried sut mae llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yn cymharu â'r boblogaeth gyffredinol, a’r cysylltiad rhwng llesiant ac amodau gwaith. 

Hefyd, rydyn ni’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn sydd ar y gweill a'r hyn sydd wedi ei gynllunio er mwyn cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Y gweithlu gofal cymdeithasol mewn niferoedd

Mae'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cyflogi amcangyfrif o 82,875 o bobl ledled y wlad. Mae hyn yn gynnydd o 0.7 y cant o'i gymharu â'r llynedd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b). Mae oddeutu 65,000 o bobl yn y gweithlu wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn 2025, fe wnaethom gynnal ein harolwg gweithlu Dweud eich Dweud am y trydydd tro, er mwyn canfod sut yr oedd pobl yn teimlo am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Cawsom ymatebion gan 3,546 o weithwyr gofal, 492 o reolwyr gofal cymdeithasol, 750 o weithwyr cymdeithasol, a 293 o bobl mewn rolau eraill. Ymatebodd cyfanswm o 5,707 o bobl i'n harolwg. Fe wnaethom hefyd gynnal dau grŵp ffocws a 21 o gyfweliadau unigol i ddysgu mwy am brofiadau gweithwyr gofal cymdeithasol.

Er bod yr arolwg yn gofyn rhai pethau sydd yr un fath â’r llynedd (Krause et al., 2025a, Krause et al., 2025b), mae gwahaniaethau sylweddol hefyd. O ganlyniad, mae rhai pethau oedd ym mhapur briffio'r llynedd ar lesiant heb eu cynnwys y tro hwn.

Dyma rai o’r pethau pwysig rydyn ni wedi’u dysgu gan y bobl a ymatebodd i arolwg Dweud eich Dweud 2025 (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a):

  • dywedodd 82.77 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol fod eu morâl yn dda
  • ar y cyfan, roedd sgôr gweithwyr gofal cymdeithasol ar gyfer bodlonrwydd ar fywyd a hapusrwydd yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol
  • roedd sgôr gweithwyr gofal cymdeithasol ar gyfer pryder yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol
  • dywedodd 54.4 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith ar ôl cyrraedd adref 
  • awgrymodd 43.52 y cant eu bod yn cael digon o gymorth i ddelio â straen
  • prif achosion straen oedd llwyth gwaith (35.37 y cant), llwyth gwaith gweinyddol neu waith papur (27.19 y cant) a phoeni am bethau y tu allan i’r gwaith (23.76 y cant)
  • awgrymodd 45.92 y cant eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylent fod wedi aros gartref
  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cyd-weithwyr (80.72 y cant) a’u rheolwr (72.64 y cant)
  • dydy 12.67 y cant o’r gweithlu ddim yn teimlo’n ddiogel yn y gwaith, ac mae hyn yn codi i 18.09 y cant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol
  • mae 38.11 y cant o’r gweithlu yn cael tâl salwch sy’n fwy na'r tâl salwch statudol, ond mae hyn yn gostwng i 30.6 y cant o weithwyr gofal
  • dywedodd 66.15 y cant fod y staff iawn yn eu lle i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol. 

Sut mae llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yn cymharu â gweddill y boblogaeth?

Roedd yr arolwg Dweud eich Dweud yn gofyn i weithwyr gofal cymdeithasol am eu hamodau gwaith ac am eu hiechyd a'u llesiant yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Cafodd y mesur 'ONS4' ei ddefnyddio er mwyn gwerthuso llesiant personol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2025). Mae’n bosib defnyddio'r mesur hwn i gymharu'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r boblogaeth yn gyffredinol. 

Fe wnaethom gymharu canlyniadau arolwg Dweud eich Dweud â chanlyniadau o bob cwr o Gymru (Llywodraeth Cymru, 2025) ac ar draws y DU (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2025). Gwelsom fod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi sgorio boddhad â bywyd, teimlo bod bywyd yn werth chweil a hapusrwydd yn uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU. Fodd bynnag, roedd sgôr y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru gryn dipyn yn uwch ar gyfer pryder na chyfartaleddau Cymru a'r DU (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). Roedd gwahaniaethau mewn sgoriau rhwng mathau o weithwyr gofal cymdeithasol. 

Boddhad â bywyd

lle mae 0 yn golygu “ddim yn fodlon o gwbl” a 10 yn golygu “cwbl fodlon”

  • Gweithlu gofal cymdeithasol: 7.78 (DU: 7.45, Cymru: 7.64).

Teimlo bod y pethau rydych chi'n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil

lle mae 0 yn golygu “ddim yn werth chweil o gwbl” a 10 yn golygu “yn gwbl werth chweil”

  • Gweithlu gofal cymdeithasol: 8.25 (DU: 7.73; Cymru: 7.89).

Hapusrwydd

“Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi'n teimlo ddoe, lle mae 0 yn golygu ‘ddim yn hapus o gwbl’ a 10 yn golygu ‘cwbl hapus’?”

  • Gweithlu gofal cymdeithasol: 7.75 (DU: 7.39; Cymru: 7.61).

Pryder

lle mae 0 yn golygu “ddim yn bryderus o gwbl” a 10 yn golygu “yn bryderus iawn”

  • Gweithlu gofal cymdeithasol: 5.30 (DU: 3.23; Cymru: 2.92).

Mae gwahaniaethau sylweddol wrth gymharu â chanfyddiadau'r llynedd. Am y tro cyntaf ers i ni ddechrau gofyn i bobl am eu llesiant fel hyn, nododd gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru sgoriau llesiant uwch na chyfartaledd y DU a Chymru. Ond maen nhw hefyd yn sgorio'n sylweddol uwch o ran pryder. 

Nid yw'n glir beth allai fod wedi achosi'r newidiadau hyn yn y data ar gyfer y flwyddyn hon. 

Pa ffactorau sy'n effeithio ar lesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Mae canfyddiadau'r arolwg ar iechyd a llesiant staff yn cynnwys pethau fel:

  • llwyth gwaith a lefelau staffio
  • teimlo'n ddiogel yn y gwaith
  • bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • cael cefnogaeth a gwerthfawrogiad
  • lleisio barn
  • cael diwylliant tîm cadarnhaol
  • newidiadau a allai gefnogi iechyd a llesiant.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o'r ffactorau hyn yn effeithio ar drosiant staff (Urban Foresight a Deerfield, 2024).

Llwyth gwaith a lefelau staffio

Yn ôl y gweithlu, yr achos mwyaf cyffredin o straen oedd llwyth gwaith. Roedd hyn yn wir ym mhob grŵp gwaith. Awgrymodd tua hanner y rheolwyr (50.41 y cant) a gweithwyr cymdeithasol (49.52 y cant) mai llwyth gwaith oedd y prif beth oedd yn achosi straen iddynt. Dywedodd 31.07 y cant o weithwyr gofal yr un peth. 

Yr ail brif beth oedd yn achosi straen oedd dyletswyddau gweinyddol. Roedd hyn yn uwch ar gyfer rheolwyr gofal (40.83 y cant) a gweithwyr cymdeithasol (47.21 y cant). Hwn hefyd oedd y pedwerydd ateb mwyaf cyffredin gan weithwyr gofal, gyda 21.27 y cant yn enwi dyletswyddau gweinyddol fel ffynhonnell straen. 

Llwyth gwaith oedd yr achos mwyaf o straen ar draws y gweithlu, gyda dyletswyddau gwaith papur fel yr ail achos mwyaf cyffredin

Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o ddweud bod pryderon y tu allan i'r gwaith yn effeithio arnynt (23.76 y cant). Straen sy'n gysylltiedig â bywyd y tu allan i'r gwaith oedd y trydydd ymateb mwyaf cyffredin ymysg gweithwyr cymdeithasol (27.35 y cant) a rheolwyr (25.98 y cant). 

Gwyddom fod llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn ymuno â'r sector oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yn ôl y gweithlu, helpu pobl i gael bywyd da yw un o'r prif bethau roeddent yn ei fwynhau am eu gwaith (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). Dywedodd un person:

  • “Dwi'n teimlo'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u helpu. Maen nhw'n bobl fregus, a dyna ’dwi wrth fy modd yn ei wneud. Felly, y ffordd orau i mi gysylltu â’r gymuned yw ymuno â gofal cymdeithasol.” (Rhys, gweithiwr cymorth)

Ond dywedodd rhai ymatebwyr fod amodau gwaith weithiau'n ei gwneud yn anodd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gyflawni eu gwaith hyd eithaf eu gallu: 

  • “’Da chi hefyd o dan bwysau i orwneud pethau. Felly [...] pan fyddwch chi'n gwneud hyn i gyd [...] ’da chi dan straen [...] ac mae’n bosibl na fyddwch chi [...] ar eich gorau.” (Stacey, gweithiwr cartref gofal i oedolion)

Disgrifiodd rhai cyfranogwyr amodau gwaith gwael, gan gynnwys shifftiau hir ac oriau estynedig – wedi’i achosi’n aml iawn gan brinder staff: 

  • “Y broblem ar hyn o bryd ydy bod staff yn cael eu gorweithio a ddim yn cael digon o dâl. Does dim digon o weithwyr cymorth ar gael. Mae lefelau uchel o salwch. Ie, dwi ddim yn gwybod sut mae gwella hynny. Heb roi llawer iawn o arian [i mewn].” (Celia, gweithiwr cymorth)

Er mwyn cael cydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith, disgrifiodd ymatebwyr sut gallai amodau wella yn yr amgylchiadau cywir:

  • “Llai o amser yn y gwaith. [...] Gan gadw mwy at yr oriau rydyn ni'n cael ein cyflogi i'w gwneud. Ond eto, does dim modd gwneud hynny gyda nifer y gweithwyr sydd gennym ni...” (Rhian, gweithiwr cymorth)

Osgoi cymryd absenoldeb salwch

Un o effeithiau absenoldebau ar lefelau staffio yw nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n gallu cymryd amser i ffwrdd o bosibl. Neu nad ydynt yn cael gwneud hynny os yw’r angen yn codi. 

O’r holl ymatebwyr, dywedodd 45.92 y cant eu bod wedi gweithio o leiaf ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf er eu bod yn ddigon sâl i gymryd absenoldeb salwch. Dywedodd rhai eu bod wedi gwneud hyn rhwng dwywaith a phum gwaith (31.44 y cant), a chyfaddefodd 14.48 y cant eu bod wedi gwneud hyn fwy na phum gwaith. 

Dim ond 27.44 y cant o bobl ddywedodd nad oedden nhw erioed wedi mynd i'r gwaith pan oeddent wedi bod mor sâl y dylent fod wedi aros gartref. Efallai fod cysylltiad rhwng hyn a’r ffaith nad yw llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn gymwys i gael absenoldeb salwch â thâl (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). 

Fodd bynnag, nid oedd cynnydd yn y niferoedd o bobl yn gweithio’n sâl mewn grwpiau o weithwyr ar gontractau ansicr gyda llai o fynediad at absenoldeb salwch â thâl. Rheolwyr (19.26 y cant) oedd fwyaf tebygol o fod wedi gweithio mwy na phum gwaith pan oeddent yn sâl.

Cyfaddefodd bron i hanner ymatebwyr ein harolwg eu bod wedi mynd i'r gwaith sawl tro pan ddylen nhw fod wedi aros adref yn sâl 

Prinder amser

Tynnodd y cyfranogwyr sylw at y ffaith eu bod dan bwysau aruthrol i gwblhau tasgau neu hyfforddiant o fewn amserlenni penodol ac oriau gwaith cyfyngedig:

“’Da chi'n cofio am y risgiau bob amser [...] felly weithiau wrth weithio gyda phobl, ’da chi eisiau i bethau gael eu gwneud yn brydlon oherwydd nad ydych chi eisiau i bethau fynd ymlaen yn rhy hir, achos mae sefyllfaoedd yn gallu gwaethygu, ac felly mae gennych chi lawer o gyfyngiadau amser i gyflawni pethau o fewn amser penodol.” 

Lyla, gweithiwr cymorth

“Er ein bod yn cael ein hannog i gwblhau'r hyfforddiant yn ystod oriau gwaith, does dim amser oherwydd mae gen i fy nyletswyddau arferol i ganolbwyntio arnyn nhw. Mae'n rhaid cwblhau’r hyfforddiant o fewn hyn a hyn o amser, ond yn realistig, alla i ddim ei wneud yn y gwaith. Does dim amser... Felly, mae disgwyl i mi ei wneud gartref yn fy amser fy hun, a dydw i ddim yn cael fy nhalu am hynny, ond dwi'n gweithio, felly mae'n eithaf rhwystredig.” 

Harry, gweithiwr gofal

Pan ofynnwyd cwestiynau penagored am dâl ac ad-daliadau, gwelsom fod costau teithio hefyd yn broblem i ymatebwyr. 

Rydyn ni hefyd yn trafod costau teithio yn ein papur ar delerau ac amodau, ar gael yma: Gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025.

Yn benodol, dywedodd pobl nad oedd ganddynt ddigon o amser yn aml iawn i deithio rhwng cleientiaid ac roedd hyn yn golygu bod amser teithio'n mynd yn ddi-dâl:

  • “Un o'r heriau sy'n ein hwynebu yw'r amser prin rydyn ni'n ei gael i deithio rhwng cleientiaid, gan ein bod yn gwneud gwaith gofal cartref. Weithiau dim ond pum munud rydyn ni'n ei gael i deithio pellter sydd mewn gwirionedd yn cymryd 10 i 15 munud. Gall y pwysau hwnnw wneud i ni roi ein troed i lawr, dim ond i fod yn brydlon – oherwydd bydd y rheolwyr yn ffonio, yn dweud ein bod yn hwyr i'n galwadau.” (Tanya, gweithiwr gofal cartref)

Roedd gweithwyr gofal cartref yn dweud bod dyrannu amser ar gyfer pob ymweliad yn ffynhonnell gyffredin o rwystredigaeth a straen. Roedden nhw’n dweud bod y cyfyngiadau hyn yn gwrthdaro â faint o ofal a sylw yr oedd angen iddynt eu darparu:

  • “Dwi'n ei chael hi'n anodd cadw at gyfyngiadau amser. Maen nhw'n dweud wrtha i fod gen i hanner awr i fynd i mewn, rhoi cawod i rywun, eu helpu i ymolchi, rhoi brecwast iddyn nhw, a rhoi meddyginiaeth iddyn nhw. Alla i ddim a wna i ddim gwneud hynny. [...] Efallai fod un person yn gyflym iawn, yn gallu neidio i mewn i'r gawod a dyna ni. Ond gall gymryd llawer mwy o amser i helpu rhywun arall. Felly dyna ni. Ond dyna'r pethau anoddaf, yn fy marn i, y cyfyngiadau amser. Ac wedyn dwi'n cael pum munud i deithio 15 milltir.”  (Lisa, gweithiwr gofal cartref)

Teimlo'n ddiogel yn y gwaith

Er bod 62.47 y cant o'r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu rôl, dywedodd 12.67 y cant nad oeddent yn teimlo'n ddiogel. Roedd y niferoedd hyn yn amrywio yn ôl grŵp swydd. Er bod 11.86 y cant o weithwyr gofal a 12.4 y cant o reolwyr yn dweud nad oeddent yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith, roedd hyn yn codi’n sylweddol i weithwyr cymdeithasol (18.09 y cant).

Roedd pobl yn y grwpiau ffocws a'r arolwg yn siarad am ddiogelwch corfforol mewn dwy ffordd wahanol:

  • sut y gallai diffyg hyfforddiant neu adnoddau digonol wneud eu swyddi'n gorfforol beryglus
  • y risg y bydd pobl sy'n cael gofal a chymorth yn ymosod arnynt neu'n aflonyddu arnynt. 

Hyfforddiant ac adnoddau 

Pwysleisiodd llawer o'r cyfranogwyr fod diffyg hyfforddiant ac adnoddau’n effeithio ar ffactorau risg corfforol i bobl sy'n darparu ac yn defnyddio gofal a chymorth:

“Roedden ni'n defnyddio teclyn codi â llaw gyda menyw 22 stôn. Roedd hynny'n anodd yn gorfforol ac yn anodd iddi hi oherwydd ei bod yn cael ei hysgwyd ychydig mwy gan nad ydy hi mor hawdd i ni ei droi ac ati.” 

Rhian, gweithiwr cymorth

“Felly, tua dwy flynedd yn ôl, roeddwn i'n cefnogi dyn. Mae o'n gymhleth iawn [...] Ac fel ro'n i'n ei gynnal o, mi ddisgynnodd yn ôl arna i. Felly roedd ei bwysau i gyd arnaf fi, ac fe wnes innau wedyn daro fy nghefn ar silff. [...] Do’n i ddim yn teimlo ein bod ni wedi cael yr hyfforddiant iawn i ofalu am y dyn yma. [...] Do’n i ddim yn teimlo bod yr adnoddau gynnon ni i ofalu amdano'n iawn.” 

Dani, uwch weithiwr cymorth

Dywedodd y cyfranogwyr nad oedd yr hyfforddiant yn adlewyrchu sefyllfaoedd go iawn, yn ddigon ymarferol nac yn ennyn diddordeb yn ddigonol. Disgrifiwyd opsiynau e-ddysgu fel rhy oddefol, a oedd yn methu paratoi unigolion ar gyfer natur gymhleth y swydd. 

  • “Dwi'n meddwl y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru gyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ledled Cymru. Pawb yn cael eu hyfforddi mewn ystafell [...] Ond mae pawb angen yr un hyfforddiant yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn dilyn y pum egwyddor. Dylai’r rhain gael eu dysgu i ni. Meddyginiaeth: dylai hyn gael ei ddysgu i ni. ‘Da chi'n gwybod, y llwybr cywir, y person cywir, y dos cywir, yr amser cywir. Dydy pobl ddim yn cael hyfforddiant wyneb yn wyneb. Mae'r cyfan ar-lein. Ac i mi, dyna lle mae camgymeriadau enfawr yn gallu digwydd. Gall unrhyw un wylio fideo, ticio bocs, 'Ie, ‘dwi ‘di gwylio hwnna'.”  (Lisa, gweithiwr gofal cartref)

Dywedodd pobl y byddai'n well ganddynt ddull mwy ymarferol a oedd yn cynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, senarios bywyd go iawn a goruchwylio yn y gwaith.

  • “Hyfforddiant, hyfforddiant, hyfforddiant, hyfforddiant. Oherwydd dwi'n bersonol wedi elwa o'r holl hyfforddiant. Hynny yw, hyfforddiant corfforol [...] Coeliwch fi: hyfforddiant corfforol, nid hyfforddiant ar-lein neu hyfforddiant ar YouTube, sydd ddim yn gweithio... Efallai y byddwch chi [...] yn ei gael [yn anghywir] ac yn rhoi'r ffidil yn y to ac yn torri asgwrn rhywun.” (Daisy, gweithiwr cartref gofal i oedolion)

Perygl o ymosodiad corfforol neu aflonyddu 

Yn ogystal, roedd rhai cyfranogwyr wedi profi ymddygiad ymosodol corfforol neu fygythiol gan unigolion yr oeddent yn eu cefnogi, yn enwedig unigolion gydag anghenion cymorth cymhleth. Roedd rhai pobl hefyd yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan ddiffyg adnoddau neu gefnogaeth:

  • “Mae rhywun wedi ymosod arna i sawl gwaith. Mae gen i greithiau ar fy mreichiau o un o'r ymosodiadau. Na, doedd o ddim yn saff. Ac i fod yn hollol onest, doedd dim ots gan y cwmni.”  (Simon, gweithiwr cymorth)

Dywedodd y cyfranogwyr y gallent reoli'r risg hon yn well pan oeddent wedi cael hyfforddiant digonol neu wedi datblygu perthynas gref â'r bobl roedden nhw'n eu cefnogi:

“Roedd o’n gymhleth iawn. Roedd ganddo ddau stoma a byddai'n gorwedd yn ei ysgarthion. Ond pan fyddai'n codi, byddai'n ymosod arnoch chi, a byddai’r ysgarthion yn mynd arnoch chi. Doedd o ddim yn swil yn hynny o beth. Dim ond unwaith y digwyddodd hynny, ac roeddwn i'n lwcus iawn nad oedd wedi ymosod arna i, roeddwn i wedi creu perthynas efo fo.” 

Dani, uwch weithiwr cymorth

“...ymddygiad cleientiaid, ymddygiad bygythiol. Dwi'n meddwl bod hynny'n gallu bod yn frawychus weithiau. Ond os 'da chi wedi cael yr hyfforddiant perthnasol i wybod sut i ddelio gyda hynny, dydy o ddim yn gymaint o broblem.” 

Liam, gweithiwr gofal cartref

Bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu

Yn ein harolwg, fe wnaethom ofyn am brofiadau pobl o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Roedd adroddiadau o gam-drin – gan gynnwys bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu – ar draws pob grŵp o ymatebwyr. Roedd y cyfraddau ymhlith gweithwyr cymdeithasol yn gyson uwch na grwpiau eraill o weithwyr. 

  • nododd 7.7 y cant o'r holl ymatebwyr eu bod wedi profi bwlio gan reolwyr neu uwch staff
  • ymhlith gweithwyr cymdeithasol cododd y gyfran oedd yn nodi bwlio gan reolwyr neu uwch staff  i 11.06 y cant
  • dywedodd 7.36 y cant eu bod wedi profi gwahaniaethu gan reolwyr neu uwch staff (yn codi i 10.13 y cant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol)
  • nododd 7.4 y cant eu bod wedi profi bwlio gan gydweithwyr
  • dywedodd 5.35 y cant eu bod wedi wynebu gwahaniaethu gan gydweithwyr.

Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod wedi profi ymddygiad gwahaniaethol neu amhriodol gan yr unigolion roeddent yn eu cefnogi:

  • “Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n mynd at ddyn hŷn. Roedd o’n closio ata i ac yn fy nghyffwrdd i chydig bach gormod os 'da chi'n gwybod be ’dwi'n feddwl. Ac alla i ddim dweud... Dwi'm yn siŵr... Alla i ddim cofio oedd ganddo fo ddementia neu oedd ganddo broblem iechyd meddwl. Alla i ddim. Ond roedd o... roedd o’n siarad chydig bach yn... be ydi'r gair? Dwi'm yn gallu meddwl am air...roedd ei sylwadau’n anweddus braidd.” (Jody, gweithiwr cymorth)

Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys sylwadau hiliol, sylwadau rhywiol, a theimlad cyffredinol o ddiffyg parch oherwydd eu cefndir neu eu hunaniaeth:

  • “Dwi ‘di profi ychydig o hiliaeth, gan gleientiaid yn bennaf. Dydy o ddim yn digwydd yn aml, dim ond yn achlysurol. Ond roedd un adeg pan aeth pethau'n eithaf drwg. Cafodd y digwyddiad hwnnw ei riportio, a deliwyd ag ef.” (Gloria, gweithiwr gofal)

Rhannodd cyfranogwyr effaith emosiynol gwahaniaethu, a waethygwyd gan ddiffyg cefnogaeth gan gydweithwyr neu reolwyr:

  • “Mae gennym ni bobl fel ‘na, ’da chi’n dod o hyd iddyn nhw ym mhob man, dydyn nhw ddim eisiau i'r bobl Ddu ofalu amdanyn nhw, wyddoch chi. [...] Digwyddodd rhywbeth bythefnos yn ôl yn y gwaith ac roeddwn i wedi fy mrifo. [...] roedd un o'm cydweithwyr yn ceisio dweud wrtha i am fynd â phreswylydd i gael gofal personol a'i roi yn ei wely. Ond dydy o ddim yn hoffi i bobl Ddu ofalu amdano. [...] Es i ato ac roedd o fel, 'F*** off”. Anfonodd fi i ffwrdd.[...] Felly yn bendant roedd y rheolwr yn trio fy ngwthio at y dyn yn fwriadol [...].ers hynny, dwi ddim yn hapus yn mynd i'r gwaith. Bob tro dwi'n mynd i'r gwaith, dwi'n teimlo'n drist.” (Frank, gweithiwr cymorth)

Cael cefnogaeth a gwerthfawrogiad

Pan ofynnwyd iddynt am y gefnogaeth roedden nhw’n ei chael yn gyffredinol, dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod bob amser neu gan fwyaf yn cael cefnogaeth dda gan reolwyr (72.64 y cant) a chymheiriaid (80.72 y cant). Nododd y mwyafrif (82.77 y cant) morâl cadarnhaol. Yn yr un modd, awgrymodd ymatebwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan reolwyr (67.78 y cant), cydweithwyr (78.08 y cant), a'r unigolion a'r teuluoedd maen nhw'n eu cefnogi (80.54 y cant). Ond roedd llai yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner (56.27 y cant) a'r cyhoedd (50.32 y cant) (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). 

Mae'r farn gyffredinol yn y gweithlu nad yw'r cyhoedd yn gwerthfawrogi eu gwaith yn cyferbynnu â rhywfaint o'r data sydd gennym ar farn y cyhoedd ynghylch gofal cymdeithasol. Yn ôl arolwg o 1000 o aelodau’r cyhoedd yn 2023, roedd 72 y cant o bobl yn dweud bod ganddynt hyder yn y bobl oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023a). 

Nododd y mwyafrif morâl cadarnhaol a'u bod yn derbyn cefnogaeth dda gan reolwyr a chydweithwyr. Roedd llai yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd neu gydweithwyr mewn sefydliadau eraill

Dywedodd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod lefel y gefnogaeth a gawsant gan eu sefydliadau wedi cael effaith fawr ar eu teimladau o fod yn ddiogel. Dywedodd rhai bod ganddynt fynediad at gymorth ac roedd hyn wedi eu helpu i deimlo'n fwy diogel yn y gwaith (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).

Fodd bynnag, disgrifiodd cyfranogwyr hefyd sut roedd amodau gwaith gwael yn effeithio'n uniongyrchol ac yn negyddol ar eu hiechyd meddwl ac ar faint roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd yr amodau hyn yn cynnwys pethau fel oriau hir, diffyg cydnabyddiaeth, amserlenni anhyblyg, a chael eu gwneud i deimlo bod modd cael rhywun arall yn eu lle, a oedd yn gadael llawer yn teimlo'n flinedig, yn isel ac yn ddi-gefn:

  • “Dwi wedi bod i ffwrdd o'r gwaith ers mis Tachwedd [...] Dydy fy nghwmni ddim hyd yn oed wedi fy ffonio. [...] Maen nhw wedi llenwi fy swydd. Dydw i ddim hyd yn oed wedi cael galwad ffôn i weld sut ydw i ar ôl 10 mlynedd o roi fy mywyd iddyn nhw [...] hyd yn oed i ddweud, 'Drycha [Dani], dim ond trefniant dros dro ydy hyn’. Dydw i ddim wedi cael dim byd. Felly fe wnaeth hynny i mi deimlo'n flin. Hynny, a dim byd fel 'sut wyt ti?'. ’Da chi'n gwybod be dwi'n feddwl? [...] Felly dwi ‘di bod drwy bob emosiwn. Dwi ’di bod yn flin. Dwi ’di bod yn ypset.” (Dani, uwch weithiwr cymorth)

Gall faint mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi effeithio ar sut mae pobl yn gwneud eu gwaith hefyd, fel y dywedodd un cyfranogwr:

  • “Pan fydd gofalwr wedi cael ei werthfawrogi. Pan fydd gofalwr yn hapus, byddwch yn gwybod yn iawn oherwydd bydd hynny i’w weld yn ei waith [...] ‘Da chi’n gwybod, byddwch yn ei weld yn sgwrsio â'r preswylydd, yn chwarae gyda'r preswylydd [...] yn bendant bydd yn gwneud mwy. A bydd i’w weld yn yr hyn y mae’n ei wneud dros y preswylydd.” (Frank, gweithiwr cymorth)

Lleisio barn

Dywedodd nifer o'r cyfranogwyr yr hoffent gael mwy o gyfleoedd i bobl rannu eu profiadau'n ddiogel, heb ofni beirniadaeth na rhoi eu hunain mewn perygl o ganlyniadau negyddol:

“Dwi'n meddwl bod llawer o bobl ofn codi eu llais [...] os byddwch chi'n gwneud hynny, efallai y byddwch chi'n cael eich symud ymlaen, os 'da chi'n deall 

be sydd gen i?” - Dani, uwch weithiwr cymorth

“Ond mae’n fater hefyd o weithwyr cymorth yn ofni cyfleu'r safbwyntiau yma, rhag ofn eu bod nhw wedyn yn tynnu sylw...” - Rhian, gweithiwr cymorth

Disgrifiodd llawer o'r cyfranogwyr ddiwylliant ‘o'r brig i lawr’ a oedd yn cyfrannu at y teimlad o ddiffyg cefnogaeth. Teimlai rhai bod adborth i gyd yn ‘unffordd’, heb unrhyw fecanwaith i staff roi adborth ar reoli:

“Dwi'n meddwl y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru geisio [...] dod o hyd i ffordd o estyn allan at ofalwyr a gadael iddyn nhw roi [...] adroddiad am eu rheolwyr, am eu harweinyddiaeth. Gadael iddyn nhw gael eu hasesu gan y bobl maen nhw'n eu harwain. Cael gwybod a yw'r person hwn yn arweinydd da neu'n arweinydd gwael. [...] os byddwch chi'n asesu gweithwyr o danoch chi, byddan nhw'n eich asesu chithau hefyd. Os ydych chi’n dweud rhywbeth gwael am weithiwr, 'da chi fel arweinydd yn bendant yn gwneud rhywbeth o'i le.” 

Frank, gweithiwr cymorth

"... dwi'n teimlo y dylai fod lle agored ehangach i bobl allu rhannu pethau a siarad amdanynt. Dylen nhw allu dweud rhywbeth heb deimlo y gallai hynny roi eu swydd mewn perygl.” 

Dani, uwch weithiwr cymorth

Roedd gweithwyr rhyngwladol yn teimlo eu bod yn arbennig o fregus oherwydd bod eu fisas angen nawdd gan gyflogwr. Roeddent yn dweud bod dibynnu ar gyflogwr yn eu gadael yn fwy agored i gael eu trin yn wael. Roeddent yn dweud, er enghraifft, eu bod yn cael eu bygwth â nawdd eu cyflogwr pan oeddent yn cwyno am bethau. 

  • “Wedyn yr heriau eraill roeddwn i'n eu hwynebu: 15 munud ar gyfer cleient gyda chlefyd Parkinson. [...] Roedd yn rhaid i mi ffonio [...] 999 i ddod i nôl y cleient. Weithiau bydd yr ambiwlans yn dod yn hwyrach, ryw awr a mwy wedyn. Yna, byddwn yn wynebu’r her bod y galwadau canlynol yn cael eu canslo. A dydych chi ddim yn cael eich talu. Ond roedden ni'n arfer cael ein talu am hynny. Os ’da chi'n gofyn iddyn nhw, dim ond am ein bod ni'n weithwyr noddedig o dramor, byddan nhw'n ein bygwth ni gyda chanslo’r nawdd.” (Tanya, gweithiwr gofal cartref)

Cael diwylliant tîm cadarnhaol

Dywedodd rhai cyfranogwyr nad oedd camgymeriadau'n cael eu goddef yn eu gweithle a bod diwylliant o feio mewn gofal cymdeithasol. Roedden nhw’n teimlo bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn aml yn cael eu beirniadu yn hytrach na chael cynnig y gefnogaeth briodol:

  • “Ie, dwi ’di clywed straeon am bobl yn cael eu hatal dros dro oherwydd digwyddiadau, yn cael llythyrau rhybudd ac yn cael eu cwestiynu. Mae camgymeriadau'n gallu digwydd wrth gwrs, ond yn aml iawn, nid mater o fod yn esgeulus ydy o. Er enghraifft, os ydy myfyriwr yn aflonyddu, mae disgwyl i ni warchod diogelwch – nid yn unig er mwyn y myfyriwr, ond er mwyn pawb arall hefyd. Ond ar yr un pryd, dydan ni ddim i fod i achosi gofid i'r myfyriwr. Felly, wrth geisio ei atal rhag niweidio ei hun neu ddifrodi eiddo, mae disgwyl i ni hefyd 'adael iddo'. Mae'n ddryslyd. Os byddaf yn ceisio camu i mewn, efallai y byddaf yn cael fy meio am wneud pethau'n waeth. Os nad ydw i’n gwneud hynny, dwi'n cael fy meio am beidio gwneud dim. Mae'n teimlo fel eich bod chi bob amser mewn perygl o gael eich beio, beth bynnag wnewch chi.” (George, gweithiwr cymorth)

Roedd rhai cyfranogwyr hefyd yn teimlo bod y sector gofal yn dod yn rhy fasnachol a bod hyn yn cael ei ystyried yn bwysicach nag anghenion y gweithlu a'r bobl sy'n cael cymorth. Roedden nhw’n disgrifio'r teimlad o beidio â chael eu clywed na'u gwerthfawrogi gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau:

  • “Dwi'n teimlo, o fewn y gwasanaeth [gofal], mae’n fater o fudd ariannol i raddau helaeth. [...] Dydw i ddim yn teimlo bod nunlle’n poeni mewn gwirionedd. Dwi'n meddwl ei fod i gyd yn fater o fusnes a gwneud arian, lle mae cyllidebau'n bwysicach na'r unigolyn.” (Carys, gweithiwr cymorth)

Ar y llaw arall, dywedodd cyfranogwyr fod deinameg tîm gadarnhaol yn siapio eu profiad cyffredinol o waith. Roedden nhw’n tynnu sylw at bwysigrwydd cael rheolwr a thîm cefnogol o'u cwmpas, a oedd yn eu helpu i ddelio â phwysau emosiynol y gwaith. Dywedodd gweithwyr oedd yn teimlo eu bod yn rhan o dîm cryf eu bod yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall a'u bod yn gallu ymdopi â heriau: 

“Dwi'n credu bod fy nhîm, fy nghydweithwyr a'r bobl dwi'n gweithio gyda nhw yn bobl ragorol. ’Da ni bob amser yno i'n gilydd. ’Da ni yno i gefnogi ein gilydd. Dwi'n meddwl bod y rheolwr tîm yn gefnogol iawn, mae hi bob amser yn gofalu amdanoch chi.” 

George, gweithiwr cymorth

“Unwaith eto, dwi'n meddwl, fy nhîm i ’di hwn. Pe bawn i mewn tîm arall lle nad oedd y bobl mor gyfeillgar a chefnogol, efallai y byddwn i'n meddwl yn wahanol. Ond dwi'n meddwl, oherwydd fy mod i’n gwybod, pryd bynnag y bydd angen cymorth arnaf, os oes angen ysgwydd arnaf, mae rhywun yno bob amser. Mae pawb tua’r un oed ac o gefndiroedd tebyg, felly dwi'n credu bod deinameg y tîm yn enfawr. Mae gennym ni fantra ‘y tîm gyntaf, y person yn ail’, felly beth bynnag ‘da chi'n ei wneud, ‘da chi bob amser yn ymwybodol bod hyn ar gyfer y tîm hefyd, nid dim ond chi.” 

Mark, prif weithiwr cymdeithasol

Roedd diwylliant tîm cadarnhaol hefyd yn cyfrannu at lesiant yn y gweithle:

“Mae'n siŵr fy mod i'n ffodus nad ydw i erioed wedi gorfod cael [cymorth iechyd meddwl]. Hynny yw, dydw i ddim yn dweud efallai na fu adeg lle byddwn i wedi. Ond efallai fod hynny'n brawf o'r gefnogaeth sydd gen i – does dim angen i mi fynd i chwilio am y pethau yna.” 

Mark, prif weithiwr cymdeithasol

“Dwi ’di clywed am gartrefi eraill, hyd yn oed o dan yr un cyngor, lle mae pobl wrth eu bodd yn mynd yno i weithio, yn enwedig staff asiantaeth. [...] ‘Ti’n gweithio yn y cartref ’na neu'n gwybod amdano fo?’ Ydw meddwn i, ond dydw i ddim wedi bod yno. ‘O mam bach. Os ti'n mynd yno, mae’r staff mor glên. Maen nhw'n gweithio efo'i gilydd wyddost ti’. Gwaith tîm. Os oes ’na waith tîm, os oes undod, ti'n gwybod, ’dwyt ti ddim yn ei deimlo fo. Does neb yn teimlo'r llwyth gwaith. Does neb yn teimlo dan straen pan fod ’na waith tîm.” 

Frank, gweithiwr cymorth

Rôl rheolwyr cefnogol 

Disgrifiodd y cyfranogwyr eu teimladau ynghylch cael eu cefnogi yn y gwaith a'u perthynas â'u rheolwyr. Disgrifiodd llawer eu rheolwyr fel unigolion hawdd siarad â nhw, cefnogol ac ymatebol:

“[…] pan wnes i sôn am y gwahaniaethu, roedden nhw yno i mi go iawn.”                                                                                             Gloria, gweithiwr gofal

“Mae gen i reolwr llinell da iawn, mae’n gefnogol iawn.”                                                                                                                           Jody, gweithiwr cymorth

Rhoddodd rhai enghreifftiau o reolwyr yn meithrin diwylliannau cadarnhaol lle'r oedd gwaith tîm, empathi a chyfle i rannu gwerthoedd.

“Fel y dywedais, mae fy rheolwr yn rhoi llawer o bwyslais ar y tîm, ac [...] mae pawb yn adnabod ei gilydd yn dda iawn. ‘Da chi'n gwybod, mae llawer o bethau cymdeithasol yn digwydd ar ôl gwaith, ac mae ’na bwyslais ar ‘y tîm yn gyntaf, fi'n ail’ [...] Mae unrhyw staff newydd sy'n ymuno â'r tîm yn cael eu cyflwyno i hynny, ac mae'n dod yn rhan o'u hethos bryd hynny.” 

Mark, prif weithiwr cymdeithasol

“Mae popeth yn dibynnu ar gael arweinydd da. Oherwydd os oes gennych chi reolwr da, dylai allu siarad â phawb a dweud ein bod ni'n gweithio fel tîm. Ac fe ddylech chi allu deall bod gan bawb eu teimladau eu hunain.” 

Frank, gweithiwr cymorth

Nid oedd profiadau rhai pobl mor gadarnhaol, ac roeddent yn teimlo nad oeddent yn cael eu cefnogi cystal. Roedden nhw’n disgrifio rheolwyr a oedd yn brin o ymwybyddiaeth emosiynol neu nad oeddent mor agos-atoch.

  • "Her arall rydw i wedi'i hwynebu yw peidio cael fy nhrin yn briodol gan reolwyr. Er enghraifft, pan godais bryder am arweinydd tîm yn fy nilyn yn ystod fy ymweliadau, roedd digwyddiad lle dechreuodd chwilio drwy fy mag tra roeddwn i gyda chleient. Es i i'r gegin i nôl rhywbeth, a phan ddes i'n ôl, dyna be oedd yn digwydd. Rhoddais wybod i'r prif reolwr a chyfeirio at y canllaw i weithwyr. Ond ei hymateb hi oedd, 'O, dwi'n ymddiried yn fy rheolwyr i lawr y grisiau'. Fe wnaeth hynny i mi deimlo nad oeddwn i wir yn rhan o'r cwmni." (Tanya, gweithiwr gofal cartref)

Cododd rhai cyfranogwyr y pwynt bod angen i reolwyr gael hyfforddiant a oedd yn eu helpu i ddeall eu staff yn well a meithrin perthnasoedd cryfach a mwy tosturiol â'u timau:

  • “Os oes unrhyw beth y gallai Gofal Cymdeithasol Cymru ei wneud i wella bywyd gweithwyr – rhoi gwybod fod gan y gweithwyr deimladau ydy hynny. [...] Dwi'n gweld pobl yn ofnus. ‘Mae’r rheolwr o gwmpas, mae’r rheolwr o gwmpas’. Ac mae hynny'n golygu bod y rheolwr yn gwneud rhywbeth [...] sydd ddim yn iawn [...]. dylai geisio rhoi gwybod iddo: ‘Ceisiwch fod yn gyfeillgar â nhw. [...] ‘Da chi'n uwch na nhw o ran swydd ond byddwch yn gyfeillgar, ffoniwch nhw, siaradwch â nhw, ‘Sut mae’r swydd yn mynd? Gobeithio nad wyt ti'n cael unrhyw heriau? [...] Beth alla i ei wneud i dy helpu di i fwynhau'r swydd?’” (Frank, gweithiwr cymorth)

Newidiadau a allai gefnogi iechyd a llesiant

Roedd un cwestiwn penagored yn yr arolwg yn gofyn i ymatebwyr am newidiadau i'w rôl er mwyn cefnogi eu hiechyd a'u llesiant. 

Daeth tair prif thema i'r amlwg o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Lefelau staffio

Y thema a gafodd ei thrafod fwyaf oedd lefelau staffio. Roedd hyn yn cynnwys a oedd digon o staff fel bod pobl yn gallu cyflawni eu dyletswyddau:

  • “Bydd cael digon o staff ar ddyletswydd yn fy helpu i ymlacio gan na fydd gormod o waith na phwysau arna i.”
  • “’Da ni i gyd yn cael ein gorweithio, gormod o alwadau.”

Cyflog

Awgrymodd rhai ymatebwyr fod eu cyflog yn rhy isel i ddiwallu eu hanghenion ac adlewyrchu'r hyn a oedd yn ofynnol ohonynt:

  • “Mae angen mwy o gyflog...dydy o ddim yn ddigon i dalu costau.”
  • “Cyflog gwell i adlewyrchu'r cyfrifoldebau rydyn ni'n eu hysgwyddo.”

Gwell cefnogaeth gan reolwyr

Dywedodd ymatebwyr eu bod am deimlo bod eu rheolwyr yn gwrando arnynt, a bod eu barn yn cael ei pharchu a'i chefnogi. 

Roedden nhw'n dweud bod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod eu rolau'n achosi straen. Pan oedden nhw'n teimlo bod diffyg cefnogaeth gan reolwyr, roedd hyn yn cael effaith negyddol ar eu llesiant:

  • “Bod fy rheolwr yn gwrando arna i ac yn gwerthfawrogi fy marn.”
  • “Mae angen mwy o ofal ar weithwyr gofal cymdeithasol...mae'n straen yn emosiynol ac yn gorfforol.”

Beth sydd ar y gweill a beth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae gwaith eisoes wedi dechrau i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gyflwyno ein fframwaith iechyd a llesiant ar gyfer y gweithlu, ein strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydlu grŵp arbenigol i gynghori ar gyd-uchelgais y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol. Hefyd, rydyn ni wedi llunio dau grynodeb tystiolaeth yn ymwneud â chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru:

Fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol

Rydyn ni wedi datblygu fframwaith iechyd a llesiant ar gyfer y gweithlu: Mae eich llesiant yn bwysig (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023b). Nod y fframwaith hwn yw helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i greu gweithle sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo llesiant y gweithlu. Mae'r fframwaith yn cynnwys pedwar ymrwymiad sy'n helpu cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith diogel. Rydyn ni hefyd wedi datblygu adnoddau i gefnogi hyn.

Rydyn ni’n cynnal sesiynau gwybodaeth, hyfforddiant a gweithdai i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle. Ewch i dudalen digwyddiadau Gofal Cymdeithasol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd dysgu diweddaraf. 

Mae ein rhwydwaith llesiant yn agored i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant er mwyn rhannu syniadau ac ymarfer. Gallwch chi ymuno drwy anfon e-bost at llesiant@gofalcymdeithasol.cymru.

Rydyn ni hefyd wedi datblygu modiwlau e-ddysgu sy'n ymwneud â llesiant y gweithlu. Ym mis Ionawr 2025, fe wnaethom gynnal ein hwythnos ‘llesiant y gweithlu’ gyntaf, a oedd yn cynnwys digwyddiadau ar-lein am ddim i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau. 

Ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, rydyn ni wedi creu canllaw i gefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Mae'r canllaw yn esbonio egwyddorion diwylliannau cadarnhaol a pham eu bod yn bwysig. Mae’n cynnwys dolenni ag adnoddau, rhaglenni ac offer i'ch helpu i ddefnyddio'r egwyddorion.

Cynllun cyflawni gofal cymdeithasol 2024 i 2027

Cafodd Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ei lansio yn 2020. Mae’n nodi ein hamcanion ar gyfer y gweithlu dros 10 mlynedd. Mae'r cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027 yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi digwydd. Ac mae’n cynnwys camau’n seiliedig ar yr adborth daeth allan o’n gwaith ymgysylltu, ymgynghori ac arolwg y gweithlu. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu yn erbyn saith thema strategaeth y gweithlu. Mae hyn yn cefnogi’r uchelgais o greu gweithlu llawn cymhelliant, ymrwymedig, sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. A gyda’r capasiti, gallu a’r hyder i gwrdd ag anghenion pobl yng Nghymru. 

Mae’n cynnwys amcanion sy’n cefnogi llesiant y gweithlu, denu a recriwtio, modelau gwaith di-dor, hyder a sgiliau digidol, addysg a dysgu, arweinyddiaeth a chynllunio am anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol. Mae gweithio di-dor yma yn golygu bod gwahanol rannau o’r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio’n agos i gefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ganddo hefyd dair egwyddor sylfaenol sy’n perthyn i bob cam gweithredu, sef y Gymraeg, cynhwysiant a llesiant.

Mae ein hadroddiad blynyddol 2024 i 2025 yn nodi'r cynnydd yn unol â'r cynllun gweithredu. Yn 2026 byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid allweddol i greu trydydd fersiwn o gynllun cyflawni strategaeth y gweithlu i’w gyhoeddi’n gynnar yn 2027. Mae’r gwaith hyn bellach yn cael ei oruchwylio gan grŵp, aml asiantaeth, traws sector. Rydyn ni’n cadeirio’r grŵp hwn ynghyd â Llywodraeth Cymru. 

Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth

Yn 2024, lansiodd Llywodraeth Cymru’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth. Y pwrpas sy’n cael ei nodi yn mandad 2024 i 2025 yw:

Rhoi arweiniad canolog i'r sector drwy fod yn sbardun i welliannau yn y broses o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn genedlaethol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad defnyddwyr gwasanaethau (Llywodraeth Cymru, 2025b).

Fel rhan o hyn, mae gan y Swyddfa Genedlaethol gyfrifoldeb dros ‘[d]datblygu, gwasanaeth gofal cenedlaethol Cymru, ei roi ar waith, a’i ddarparu’ (Llywodraeth Cymru, 2024a). Bydd hwn yn wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol ar gyfer plant, teuluoedd, ac oedolion, a fydd yn rhad ac am ddim pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen. 

Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn cefnogi partneriaeth gymdeithasol o fewn y sector gofal cymdeithasol drwy’r Fforwm Gwaith Teg a Phartneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Mae’r gefnogaeth hyn yn anelu at ddarparu gwaith teg yn y sector, gan gynnwys cyflog teg.

Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn gweithio tuag at gynnig adnoddau canolog ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd dysgu a chefnogi cynaliadwy, cefnogi’r gwaith o weithredu safonau cenedlaethol, a chasglu data a’i ddefnyddio i greu newid cadarnhaol. Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn cefnogi’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu a gweithredu arferion da a strategaeth yn y sector. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo arferion cynhwysol fel strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol: 2022 a Chynllun gweithredu LHDTC+ Cymru (Llywodraeth Cymru, 2024b).

Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r gweithlu sy’n cael ei ddefnyddio yn y gyfres hon

Mae'r gyfres cipolwg ar y gweithlu yn myfyrio ar ymchwil ddiweddar y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i gynnal a’i gomisiynu sy’n ymwneud â’r gweithlu. Mae'r papur briffio hwn ar gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dwyn ynghyd wybodaeth o brosiectau ac adroddiadau diweddar, gan gynnwys: 

  • Gofal Cymdeithasol Cymru: Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2025. Mae hwn yn adrodd ar ganlyniadau arolwg oedd ar agor i bawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnwys data ar 5,707 o weithwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
  • Adroddiad casgliad data’r gweithlu, 2024. Mae’r adroddiad hwn yn adrodd ar ddata a gasglwyd gan ddarparwyr am eu gweithlu. Mae’n cynnwys data ar tua 53,000 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b).
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Gofal Cymdeithasol Cymru (2023a, heb ei gyhoeddi) Arolwg o Farn y Cyhoedd

Gofal Cymdeithasol Cymru (2023b) Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/adnoddau-iechyd-a-llesiant/mae-eich-llesiant-yn-bwysig-fframwaith-iechyd-a-llesiant-y-gweithlu (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).

Gofal Cymdeithasol Cymru (2025a) Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2025: ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/arolwg-dweud-eich-dweud-y-gweithlu-2025-adroddiad-llawn-a-chrynodeb-o-ymatebion (cyrchwyd: 26 Tachwedd, 2025).

Gofal Cymdeithasol Cymru (2025b) Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol 2024, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data/adroddiadaur-gweithlu (cyrchwyd: 26 Tachwedd, 2025).

Krause, G., Deerfield, K. a Reynolds, R. (2025a) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/telerau-ac-amodau-2024 (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).

Krause, G., Deerfield, K. a Reynolds, R. (2025b) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/llesiant-2024 (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).

Llywodraeth Cymru (2022) Sefydlu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sefydlu-gwasanaeth-gofal-chymorth-cenedlaethol (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).

Llywodraeth Cymru (2024a) Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, ar gael yn https://www.llyw.cymru/swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth (cyrchwyd: 9 Rhagfyr 2025).

Llywodraeth Cymru (2024b) Lansio'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn swyddogol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/lansior-swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-yn-swyddogol (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).

Llywodraeth Cymru (2025a) Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau, ar gael yn https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).

Llywodraeth Cymru (2025b) Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth: adroddiad blynyddol 2024 i 2025, ar gael yn https://www.llyw.cymru/swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-adroddiad-blynyddol-2024-i-2025 (cyrchwyd: 12 Rhagfyr 2025).

Urban Foresight a Deerfield (2024) Gwella llesiant a chadw'r gweithlu: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/gwell-llesiant-a-chadw (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025) Personal well-being user guidance, ar gael yn https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/wellbeing/methodologies/personalwellbeingsurveyuserguide (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).