Skip to Main content

Cysylltu Gofal

Mae rhaglen Cysylltu Gofal Cymru yn darparu'r genhedlaeth nesaf o ddatrysiadau digidol ar gyfer gofal cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, bydd y rhaglen Cysylltu Gofal yn canolbwyntio yn gyntaf ar ddisodli System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) gyda datrysiad digidol newydd a fydd yn cefnogi gwaith adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Bydd dau ddarparwr datrysiadau yn gweithredu yng Nghymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol i ddylunio systemau sy'n diwallu anghenion eu gweithwyr ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i bobl Cymru. Y rhain yw:

  • OLM Systems Eclipse
  • Mosaic, wedi'i ddatblygu gan Access Group.

Mae'r system Cysylltu Gofal hefyd yn ystyried sut rydyn ni'n rhannu data ac yn dechrau'r broses o greu dull safonol o ddisgrifio'r data rydyn ni'n ei gasglu.

Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn i ni allu rhannu data yn electronig rhwng gwahanol systemau. Gallwch ddarganfod pam mae rhannu data yn bwysig drwy ddarllen ein tudalen ar safonau data a FHIR.

Heblaw am safonau data, mae'r rhaglen Cysylltu Gofal yn ystyried sut y gallwn ni wella'r ffordd rydy ni'n defnyddio data a thechnoleg i gefnogi pobl sy'n defnyddio gofal cymdeithasol a'i gwneud hi'n haws i'r bobl sy'n darparu gofal cymdeithasol i'w ddarparu.

Gallai hyn fod yn cefnogi ffyrdd arloesol o gasglu neu gofnodi data neu ddatblygu canllawiau ac adnoddau hawdd eu defnyddio ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel canllawiau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn ddiogel.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn bartner cyflenwi strategol yn y rhaglen. Mae Cysylltu Gofal yn cael ei reoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).

Rydyn ni'n arwain y gwaith o gyd-ddatblygu safonau data gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, helpu awdurdodau lleol i ddeall eu proses ddata fel y gallwn ddod o hyd i ffyrdd i'w gwella, a chynhyrchu canllawiau ac adnoddau ymarfer data.

Darganfod mwy

I ddarganfod mwy, edrychwch ar ein tudalennau data eraill neu e-bostiwch data@gofalcymdeithasol.cymru.