Skip to Main content

Buddion adrodd stori

Beth yw manteision defnyddio dulliau adrodd stori mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol?

Rydyn ni wedi nodi pedwar budd allweddol:

  • cefnogi gwrando’n astud
  • creu cyswllt rhwng deall, teimlo a gweithredu (pen, calon a dwylo)
  • meithrin perthnasoedd a chymuned
  • derbyn cymhlethdod mewn ffordd gadarnhaol.

Cefnogi gwrando'n astud

Mae profiadau pobl weithiau'n debyg. Ond rydyn ni i gyd yn unigryw, gyda phersonoliaeth a stori bywyd sy'n siapio pwy ydyn ni. Roedd Tom Kitwood, arloeswr gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cydnabod pa mor bwysig yw gwerthfawrogi pob unigolyn.

"Pan rydych chi wedi cwrdd ag un person â dementia, rydych wedi cwrdd ag un person â dementia." (Kitwood, 1997).

Mae'n hanfodol gwrando ar 'beth sy'n bwysig' i bob person o'u safbwynt nhw. Mae stori unigolyn, gan amlaf, yn dangos: o ble maen nhw wedi dod, ble maen nhw nawr a ble maen nhw eisiau mynd. Gall astudiaeth achos gynnig rhywfaint o ddealltwriaeth i ni, ond mae stori bersonol yn dangos eu profiad nhw o'r byd.

Os ydyn ni'n chwilio am straeon  - a gwrando'n astud - mae siawns go lew dewn ni o hyd i leisiau ymylol, nad ydym yn clywed yn aml.

Dyma enghraifft o stori ddigidol gan ddyn awtistig ifanc sy'n medru adrodd ei story drwy deipio:

Mae gwrando'n astud yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau wrth asesu neu gynllunio gofal a chymorth, drwy ddull mwy personol.  Yn bwysicaf oll, mae'n helpu pobl deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u dilysu ac mae gwerth therapiwtig i hyn.

Llun addurniadol yn dangos deilyn gyda diferion glaw

"Yn aml, y pethau syml sy'n dod â'r pleser mwyaf (a gall y diffyg ohonyn nhw ddod ag ymdeimlad o dristwch a cholled) ac nid yw’n ymddangos bod gwasanaethau bob amser yn dda iawn am gyflawni’r ‘cyffredin.'" (Blood, 2013).

Deall, teimlo a gweithredu

Mae adrodd stori'n bwerus. Mae'n ein helpu i ddysgu oherwydd ei fod yn creu cyswllt rhwng ein deallusrwydd a'n hemosiynau ac wedi'i seilio ar fywyd go iawn neu brofiadau ymarferol. Hynny yw, mae'n cyfuno'r pen (deall), y galon (teimlo) a'r dwylo (gweithredu).

Defnyddiodd prosiect ymchwil DEEP (Andrews et al, 2020) Bywyd Gwell, sef rhaglen Sefydliad Joseph Rowntree. Mae'n ymwneud â'r hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn ag anghenion cymorth uchel, gan gynnwys pwysigrwydd y 'pethau bychain'.

Cafodd stori Carol ei rannu fel rhan o brosiect DEEP. Roedd yn enghraifft ymarferol o gyfuno ein gallu i ddeall, teimlo a gweithredu:

Llun addurniadol sy'n dangos cyllell a fforc ar gefndir tywyll, gyda rhuban aur

"Rwy'n byw mewn cartref gofal ac yn teimlo mai bodoli'n unig yr ydw i'n gwneud. Roedd pethau'n wahanol pan oeddwn i'n byw yn y gymuned. Pan oeddwn i'n byw yn y gymuned, roeddwn i'n teimlo bod gen i fywyd. Rhan fach o'r bywyd hwnnw oedd cael trît ddydd Gwener. Roeddwn i'n anabl ac yn methu gwneud llawer, ond ar foreau Gwener byddwn i'n cael tacsi i Waitrose ac yn trin fy hun i 'prawn cocktail' Heston Blumenthal. Roedd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Nawr rydw i yn y cartref nyrsio, dydw i ddim yn ei gael."

- Carol, sy'n byw mewn cartref nyrsio.

Cafodd stori Carol argraff mawr ar staff y cartref nyrsio. Ysgogodd ymateb emosiynol yn ogystal â deallusol. Roedden nhw'n teimlo drosti ac yn deall ei cholled. Daethon nhw o hyd i ateb ymarferol, gan ddarparu oergell fach i Carol yn ei hystafell. Roedd hyn yn golygu y gallai gael ei thrît ar ddydd Gwener, yn ogystal ag ychydig o prosecco a chaws arbenigol dros y penwythnos. 

Meithrin perthnasoedd a chymuned

Mae meithrin perthnasoedd yn hanfodol ym mhob agwedd ar ofal cymdeithasol, p'un a ydych yn weithiwr cymdeithasol sy'n cefnogi teuluoedd, yn gomisiynydd sy'n gweithio gyda darparwyr, neu'n rheolwr sy'n ymgysylltu â thîm.

"Dydw i ddim yn ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau, dwi'n ffurfio perthnasoedd gyda phobl."

- Karyn McCluskey, Prif Weithredwr, Community Justice Scotland

Mae pwysigrwydd perthnasoedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei grynhoi mewn adroddiad gan y prosiect Perthnasau. Trwy gydol hanes, mae perthynas gryf wedi datblygu wrth i bobl rannu eu straeon a siarad gyda'i gilydd. Mae adrodd stori yn hyrwyddo empathi a dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl eraill. Mae hyn yn meithrin ymddiriedaeth a 'gwybodaeth gyffredin' neu gyd-ddealltwriaeth (Edwards, 2012).

Derbyn cymhlethdod mewn ffordd gadarnhaol

Mae bywydau pobl yn gymhleth ac yn newid o hyd. Mae'r term 'systemau addasol cymhleth' (complex adaptive systems) yn cyfeirio at wahanol darnau o'n bywydau sy'n cysylltu â'i gilydd.

Mae'r term wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio realiti'r byd sydd ohoni a'r rhwydweithiau cymhleth rydyn ni'n eu creu, fel sefydliadau (Health Foundation, 2010). 

Mae archwilio profiadau cymhleth pobl drwy adrodd stori yn aml yn well oherwydd: 

  • gall straeon ein helpu i weld pethau'n gliriach
  • maen nhw'n gallu helpu ni i ddeall rhywbeth sydd heb synnwyr ar ei ben ei hun
  • mae adrodd stori yn rhan annatod o’r natur ddynol.

Creu amgylchedd sy'n cefnogi dysgu drwy adrodd stori

Mae darparu rhywle diogel lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u clywed yn eu hannog i fyfyrio ar straeon yn fwy agored. Mae hyn yn arwain at gyfathrebu mwy cyfoethog ac ystyrlon. Gall hyn ddigwydd mewn amryw ffordd. Mae dulliau megis Sgwrs Archwiliadol (Exploratory Talk) a Chyfathrebu Cydweithredol (Collaborative Communication) yn helpu creu'r amodau lle mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud. 

Mae Sgwrs Archwiliadol yn ddull sy'n ein helpu i holi rywun yn agored, gwrando’n weithredol a wedyn myfyrio (Mannion, 2020 a Mannion a McAllister, 2020). Wrth drafod eu hymateb i'r stori, mae pobl yn cael eu hannog i ddweud pam eu bod yn meddwl, yn credu neu'n teimlo fel maen nhw. Ac mae eraill yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau a chynnig safbwyntiau amgen.
 

Mae dulliau megis Sgwrs Archwiliadol a Chyfathrebu Cydweithredol yn helpu creu'r amodau lle mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud. 

Gall unigolion trafod yn feddyglar a thrwy hynny ymchwilio, cwestiynu ac ehangu eu dealltwriaeth o bwnc. Mae hyn yn helpu pobl i feddwl yn ystyrlon am y stori sy'n cael ei rhannu a dysgu ohoni.

Mae Cyfathrebu Cydweithredol yn helpu pobl i gydweithio’n well trwy feithrin ymddiriedaeth ac annog pobl i wrando’n astud, croesawu adborth a mynd i’r afael â heriau gyda’i gilydd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).

Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddatblygu diwylliant adrodd stori sy'n seiliedig ar arfer da ar ein tudalen Sylfaen foesegol adrodd stori.

Darllen ychwanegol

Grove, N. (2009) Learning to tell: a handbook for inclusive storytelling,  Kidderminster, BILD.

Grove, N. (2014) The Big Book of Storysharing®: A handbook for personal storytelling for children and young people who have severe community difficulties, Llundain, Speechmark. 

Grove, N. (Gol.) (2022) Storytelling, special needs & disabilities: Practical approaches for children and adults, Llundain, Routledge. 

Gubrium, A.C., Hill, A.L. a Flicker, S. (2014) 'A situated practice of ethics for participatory visual and digital methods in public health research and practice: a focus on digital storytelling', American Journal Public Health, 104 (9), tt. 1606-1614. 

Lambert, J. (2013) Digital Storytelling: capturing lives, creating community, Efrog Newydd a Llundain, Routledge. 

Our Voices (2016) Digital Curator toolkit, ar gael yn http://our-voices.eu/verktygslada-for-digital-curation/ (cyrchwyd: 27 March 2025).

Our Voices, Digital Curator 5-day training programme, ar gael yn http://our-voices.eu/our-voices-digital-curator-curriculum/ (cyrchwyd: 4 Ebrill 2025).

Roadtrip Nation, Roadtrip nation storytelling toolkit, ar gael yn https://www.equitablefutures.org/wp-content/uploads/2023/09/Roadtrip-Nation-Storytelling-Toolkit_5x7-Final-1-2.pdf (cyrchwyd: 27 Mawrth 2025). 

Woodward, S., Sheehan, J. a Hanbury, A. (2022) Storytelling toolkit: methods using objects, National Centre for Research Methods, ar gael yn https://www.ncrm.ac.uk/resources/online/storytelling_toolkit/downloads/slides/Storytelling_Toolkit_Booklet_screen.pdf (cyrchwyd: 27 March 2025). 

Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Andrews, N., Gabbay, J., le May, A., Miller, E., Petch, A. ac O’Neill, M. (2020) ‘Story, dialogue and caring about what matters to people: progress towards evidence-enriched policy and practice’, Evidence and Policy, 16 (4), tt. 597–618. 

Blood, I. (2013) A Better Life: Valuing Our Later Years, Efrog: Sefydliad Joseph Rowntree. 

Edwards, A. (2012) The role of common knowledge in achieving collaboration across practices, Learning Culture and Social Interaction, 1 (1): tt. 22–32.

Gofal Cymdeithasol Cymru (2025) Adnoddau ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/gwella-gofal-a-chymorth/ymarfer-syn-seiliedig-ar-gryfderau/adnoddau-ymarfer-syn-seiliedig-ar-gryfderau (cyrchwyd: 23 Mai 2025).

Health Foundation (2010) Evidence Scans: Complex Adaptive Systems, Llundain.

Kitwood, T. (2007) Dementia Reconsidered: The Person Comes First, Buckingham, Gwasg y Brifysgol Agored.

Mannion, J. (2020) The importance of talk rules - and how to make them work for your pupils, ar gael yn https://oracycambridge.org/talk-rules/ (cyrchwyd: 23 Mai 2025).

Mannion, J. a McAllister, K. (2020) Fear is the mind killer: why learning to learn deserves lesson time - and how to make it work for your pupils, John Catt.