Skip to Main content

Adrodd stori ar gyfer llesiant

Gall adrodd straeon gael effaith bwerus ar lesiant. Gall straeon ffuglennol ein helpu i wneud synnwyr o'r byd a sylweddoli nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain. Gall rhannu ein straeon personol ein hunain fod hyd yn oed yn fwy pwerus. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut y gall adrodd straeon wella llesiant pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal cymdeithasol.

Llun addurniadol yn dangos person yn gwenu yn gwisgo scarff pen ac yn defnyddio dwylo i ddisgrifio wrth siarad.

Gallwn ni adrodd straeon i wella llesiant pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal cymdeithasol. Mae rhoi cyfle i bobl deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u deall yn gallu cael effaith bwerus ar eu bywydau

Adrodd straeon trwy'r celfyddydau

Prosiect 'Re-Live'

Ysgrifennwyd gan Karin Diamond

Mae Re-Live yn sefydliad sy'n helpu pobl i fyfyrio ar eu profiad bywyd. Mae'n ymroddi i wella llesiant pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol trwy archwilio a rhannu straeon bywyd.

I ymarferwyr, mae rhannu straeon bywyd yn gallu cryfhau deinameg tîm, lleihau gor-lethu, a meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o amrywiaeth ddiwylliannol. Gall hyn arwain at amgylchedd gwaith mwy cefnogol a chynhwysol.

I bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, mae’n cadarnhau hunaniaeth, yn meithrin ymddiriedaeth gyda gofalwyr ac ymarferwyr, ac yn lleihau straen. Mae gofalwyr di-dâl yn elwa ar berthnasoedd gofalu agosach ac yn cael mewnwelediad gwerthfawr a strategaethau ymdopi. Mae egwyddorion adrodd stori bywyd Re-Live yn blaenoriaethu llesiant emosiynol ac yn pwysleisio dewis, cydsyniad a chynhwysiant.

Darganfod mwy:

www.re-live.org.uk

Barddoniaeth ar lafar

Ysgrifennwyd gan Duke Al

Mae barddoniaeth wedi cael ei defnyddio erioed er mwyn adrodd stori. Mae barddoniaeth ar lafar yn adeiladu ar y traddodiad hwn trwy helpu pobl i rannu straeon a phrofiadau. Mae'n ddull therapiwtig sy'n creu amgylchedd diogel, grymusol. Er enghraifft, gall helpu pobl ifanc i oresgyn stigma a rhannu profiadau am eu hiechyd meddwl. Mae hefyd wedi gweithio'n dda gyda phobl hŷn sy'n cael trafferth gadael eu cartrefi.

Darganfod mwy:

https://www.instagram.com/dukealdurham/

https://x.com/dukealdurham?lang=en

https://www.youtube.com/channel/UCHDxE9dL3aWWrMuARS_xp_Q

Cefnogi llesiant yn y gweithle

CAKE

Ysgrifennwyd gan Kath McDonald

Gofalu am ein gilydd, gofalu am yr hyn sy'n bwysig, cadw mewn cysylltiad ac ymgysylltu a grymuso (CAKE).

Mae CAKE yn adnodd digidol, rhyngweithiol ac am ddim, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi llesiant yn y gweithle. Cafodd ei ddatblygu gan Dr Caroline Dickson a Dr Kath MacDonald.

Mae wedi cael ei brofi, ei werthuso a’i gyflwyno mewn sefydliadau ledled y DU. Ac mae’n defnyddio dulliau creadigol i hwyluso adrodd stori er mwyn cefnogi hunanofal a llesiant yr unigolyn a'r tîm.

Mae'r 'dafell' adrodd stori o fewn y gacen - CAKE - yn helpu pobl i rannu straeon o'r gweithle. Mae'n defnyddio dulliau sy'n cefnogi pobl i deimlo'n ddiogel, a theimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys a'u clywed.

Darganfod mwy:

https://www.listenupstorytelling.co.uk/welcome-to-cake/

Cefnogi llythrennedd emosiynol

Prosiect 'pethau doniol yw'r teimladau'

Ysgrifennwyd gan Steve Killick

Mae’r prosiect hwn wedi creu pecyn cymorth adrodd stori i gefnogi gwaith gyda dysgwyr sy'n agored i niwed mewn ysgolion, gofalwyr maeth a phlant sy’n derbyn gofal. Mae'n helpu i gefnogi dealltwriaeth emosiynol, hyder a llesiant.  

Mae straeon yn cael eu defnyddio i archwilio emosiynau, edrych ar sut maen nhw'n gweithio a sut i'w rheoli mewn ffyrdd sy'n ddiogel ac yn chwareus. Mae sgiliau adrodd stori hefyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu hyder wrth gyfathrebu.

Darganfod mwy:

https://www.cscjes-cronfa.co.uk/api/storage/ed9a0499-6cb5-4fe0-9ae1-747072d7fc2f/STORYTELLERSTOOLKIT_FINAL_ENGLISHAPRIL2020.pdf

https://www.thefosteringnetwork.org.uk/sites/default/files/resources/publications/building-relationships-through-storytelling-31-10-12.pdf

www.stevenkillick.co.uk

Llun addurniadol yn dangos gwahanol fathau o feicroffon

Cefnogi pobl ag anghenion cyfathrebu cymhleth

Rhannu stori

Ysgrifennwyd gan Nicola Grove

Mae rhannu stori yn helpu plant ac oedolion ag anawsterau dysgu a chyfathrebu i gofio a rhannu eu straeon nhw eu hunain. Mae'r wefan yn darparu tystiolaeth ar lwyddiant y dull ac yn cynnwys astudiaethau achos.

Mae'r gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion, cartrefi, gwasanaethau dydd a gwasanaethau eiriolaeth cymheiriaid.*

Darganfod mwy:

https://storysharing.org.uk

*Nid ydyn ni'n cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am wybodaeth ar wefannau trydydd parti nac am wasanaethau a allai olygu cost ychwanegol. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr.

Gwaith stori digidol

Ysgrifennwyd gan Prue Thimbleby

Yn GIG Cymru, mae adrodd stori ddigidol yn ddull allweddol o gasglu adborth. Mae straeon digidol cleifion yn ddelfrydol ar gyfer helpu pobl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn ffordd sy'n arwain at ddysgu a gwella gwasanaethau. Mae'r dull hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol.

Mae'r straeon digidol yn recordiadau llais wedi'u creu gydag un neu fwy o ddelweddau mewn fideo byr.

Mae gan y model dair egwyddor sylfaenol:

  • mae'n stori person cyntaf
  • mae bob amser yn stori fer - llai na thri munud fel arfer
  • mae'r storïwr yn parhau i fod yn gyfarwyddwr y stori - hynny yw, mae'n cael ei chyd-gynhyrchu.

Darganfod mwy:

www.artsinhealth.wales

Hanesion ar lafar

Ysgrifennwyd gan Anna Suschitzky

Am fwy na degawd, mae Mencap Cymru wedi bod yn casglu hanesion ar lafar gan bobl ag anabledd dysgu. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys tri phrosiect sydd wedi eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri:

Mae hanesion ar lafar yn recordiadau sain sy'n rhannu straeon personol ac yn ffordd o gasglu tystiolaeth hanesyddol.

Mae'r straeon yn cael eu rhannu mewn arddangosfeydd ledled Cymru i geisio codi ymwybyddiaeth, herio rhagdybiaethau, a dathlu hanes y bobl a rannodd eu straeon. Mae'r straeon hefyd wedi eu rhannu ymhlith y bobl sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi yng Nghymru i amlygu meysydd o arfer da a nodi lle mae angen mwy o gymorth ar bobl.

Darganfod mwy:

https://youtu.be/s0Xx1p0cHwc

Therapi naratif

Ysgrifennwyd gan Rosslyn Offord

Cafodd therapi naratif ei ddatblygu yn yr 1990au gan Michael White a David Epstein. Heddiw mae'n cael ei ddefnyddio ar draws y byd i helpu unigolion a grwpiau cymunedol.

Mae’r dull yn seiliedig ar:

  • y syniad ein bod yn deall ac yn byw ein bywydau trwy stori
  • y ffaith bod pobl yn creu stori fel ymateb i'w profiadau
  • y syniad bod y straeon mwyaf amlwg yn fawr o help os nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'n wir hunaniaeth.

Mae ymarferwyr therapi naratif yn gwrando'n ofalus am stori sy'n llai amlwg, neu eithriadau i'r brif naratif. Mae'r therapydd yn hwyluso'r adrodd ac yn annog y person i ystyried y stori mewn ffyrdd arbennig. Weithiau mae pobl eraill yn cymryd rhan, fel tystion i'r stori. 

Darganfod mwy:

https://www.theint.co.uk/

Ysgrifennu creadigol

Ysgrifennwyd gan Kate North

Mae ysgrifennu creadigol, lle mae pobl yn gweithredu dychymyg yn ogystal â phrofiadau, yn gallu cefnogi a gwella llesiant pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, ymarferwyr, a chymunedau. 

Mae'n bosib defnyddio dulliau ysgrifennu creadigol ar gyfer ymholi a myfyrio. Maen nhw'n effeithiol mewn ymarfer, yn unigol ac mewn grŵp. Mae ysgrifennu'n ddefnyddiol, mewn cyd-destun proffesiynol, ar gyfer hyfforddiant ac adeiladu tîm. Yn ehangach, mae ysgrifennu creadigol yn cael ei ddefnyddio i archwilio a dadansoddi systemau, arferion, strwythurau a deinameg. 

Darganfod mwy:

https://pure.cardiffmet.ac.uk/en/persons/kate-north

https://lapidus.org.uk/

Darllen ychwanegol

Charon, R. (2006) Narrative medicine: Honoring the stories of illness, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen. 

Drumm, M. (2013) ‘The role of personal storytelling in practice’, Insight 23, ar gael yn https://www.iriss.org.uk/resources/insights/role-personal-storytelling-practice (cyrchwyd: 24 Mawrth 2025). 

Frank, A.W. (1995) The wounded storyteller. Body, illness and ethics (ail argraffiad), Chicago, Gwasg Prifysgol Chicago. 

Gersie, A. a King, N. (1989) Storymaking in education and therapy, Llundain, JKP. 

Hopwood, C., Jennings, S. a Jacksties, S. (2022) The Routledge international handbook of therapeutic stories and storytelling, Llundain, Routledge.

Wilson, M. (2022) Storytelling, Leeds, Emerald Publishing Limited.