
Adrodd stori ar gyfer hyrwyddo a recriwtio
Mae'r cyfryngau'n dueddol o ganolbwyntio ar pan fydd pethau wedi mynd o chwith o fewn gofal cymdeithasol. Mae hyn yn creu darlun anghytbwys sy'n cuddio llawer o straeon positif am ofal a chefnogaeth dda.
Gall adrodd straeon chwarae rhan bwerus wrth herio ystrydebau negyddol ac annog pobl i weithio yn y sector. Gall straeon hefyd cael eu defnyddio i gefnogi recriwtio ar sail gwerthoedd, gan ddarparu senarios ystyrlon i bobl ymgysylltu â nhw a datgelu eu gwerthoedd.
Mae adrodd stori yn ddefnyddiol iawn ar gyfer recriwtio a chadw: gall ein helpu i ddarganfod a chadw'r bobl gywir
Adrodd stori er mwyn hyrwyddo gofal cymdeithasol
Gofalwn Cymru
Ysgrifennwyd gan Andrew Bell
Mae Gofalwn Cymru'n rhannu straeon gan bobl sy’n gweithio mewn, ac yn defnyddio, gofal a chymorth. Mae'r rhain yn cael eu rhannu trwy fideo a geiriau. Maen nhw'n arddangos effaith gadarnhaol y rolau niferus mewn gofal ar gyfer y gweithiwr a'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi. Mae'r straeon hyn yn ganolbwynt i ymgyrchoedd a chyhoeddusrwydd mewn fformatau print, ar-lein a darlledu.
Darganfod mwy:

Defnyddio straeon wrth recriwtio
Curious about Care
Ysgrifennwyd gan Mark Wilberforce
Offeryn recriwtio am ddim yw Curious about Care. Cafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Efrog ac mae'n defnyddio straeon bywyd go iawn o'r sector gofal. Mae yna 11 senario sy'n cynnwys 'penbleth gofal' ffuglennol. Mae pob sefyllfa yn rhoi darlun o realiti gwaith gofal ac yn sbarduno trafodaeth am sut i ddiwallu anghenion pobl. Gall hyn helpu cyflogwyr nodi os yw gwerthoedd yr ymgeisydd yn gweddu i'r swydd neu ddatgelu anghenion sefydlu neu hyfforddi penodol.
Er bod yr offeryn wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio fel rhan o gwis cyflym i ymgeiswyr ei gwblhau ar eu ffonau, tabledi neu gyfrifiaduron, mae modd ei addasu mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae rhai recriwtwyr wedi defnyddio'r straeon animeiddiedig mewn cyfweliadau i ddechrau sgwrs. Mae nhw'n llai na munud o hyd, a drwy eu hanfon ymlaen llaw, gall ymgeiswyr gynllunio eu hymateb yn hytrach na chael eu 'rhoi yn y fan a'r lle'.
Darganfod mwy: