Skip to Main content

Catalyddion Cymunedol

Dyddiad diweddaru diwethaf: 18 Mehefin 2024

Beth yw'r prosiect?

Mae Catalyddion Cymunedol yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi pobl leol i sefydlu a datblygu micro-fentrau.

Mae micro-fenter yn fusnes bach sy’n cyflogi wyth neu lai o weithwyr llawn amser sy’n darparu gofal personol neu gymorth i bobl yn eu cartrefi neu eu cymuned.

Mae Catalyddion Cymunedol yn canolbwyntio ar helpu pobl yn y gymuned i fyw’r bywyd y maen nhw’n dymuno ei gael.

Mae’n gwneud hyn drwy rymuso a chefnogi pobl fel rhan o’r bwriad i sefydlu micro-fentrau ledled Cymru.

Mae hefyd yn eu helpu i fodloni’r safonau ‘Gwneud pethau’n iawn’, fel eu bod yn ddiogel, yn gyfreithlon, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gynaliadwy.

Mae gan Catalyddion Cymunedol rwydwaith dysgu ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan. Mae’n helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i lywio'r newidiadau mewn arfer a deddfwriaeth sy'n effeithio ar ficro-fentrau.

Pam mae’n cael ei gynnal?

Mae'r prosiect yn cyfrannu at ddarparu gofal sy’n fwy personol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae gofal wedi bod yn fwy heriol i'w ddarparu yn y gorffennol.

Mae'n gallu cyrraedd grwpiau a chymunedau sy'n aml yn cael eu hanwybyddu a chefnogi pobl yn y cymunedau hynny i mewn i gyflogaeth gofal cymdeithasol.

Mae’r cynnydd yn nifer y micro-fentrau sy’n darparu gofal hefyd yn golygu bod yna ostyngiad mewn amseroedd aros am ofal personol yn yr ardaloedd lle maen nhw’n gweithredu. Mae cynnydd hefyd yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol.

Mae ffocws lleol y prosiect yn golygu ei fod hefyd yn cyfrannu at gadw arian yn yr economi leol, gan gefnogi'r busnesau a'r bobl sydd ynddo.

Yn ogystal â chefnogi mentrau gofal a chymorth newydd sbon i lansio, gall Catalyddion Cymunedol hefyd helpu micro-fentrau presennol i gwblhau'r Safonau Gwneud Pethau'n Iawn. 

Gall Catalyddion Cymunedol hefyd helpu busnesau lleol i arallgyfeirio er mwyn darparu gofal a chymorth i bobl leol. Er enghraifft, garddwyr yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel darparu cwmnïaeth a chefnogaeth i bobl leol a chaffis sy’n cynnig cyflenwadau prydau poeth i bobl hŷn ac anabl. Mae hwn yn cyfrannu at ddatblygu yr hyn y gall y gymuned ei gynnig.

Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?

Dechreuodd y prosiect yn 2009 ac mae'n parhau.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn Wrecsam, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd. Mae gwaith hefyd wedi digwydd ym Mhowys a Sir Benfro a chefnogwyd prosiect yn Sir Ddinbych.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan gontractau gan gynghorau yn yr ardaloedd lle mae’r gwaith yn digwydd ac sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Mae’r prosiect hefyd wedi arddangos ei waith trwy'r Gymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le, Gofal Cymdeithasol Cymru ac wedi cysylltu ag aelodau.

Beth maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn?

Mae’r prosiect wedi wynebu heriau megis meithrin ymddiriedaeth yn lleol ac yn genedlaethol, ennyn digon o ddiddordeb mewn sefydlu micro-fentrau cymunedol, ac annog cynghorau lleol i roi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd.

I oresgyn yr heriau hyn, mae’r prosiect Catalyddion Cymunedol wedi:

  • treulio amser mewn lleoliadau cymunedol, dod i adnabod pobl a gwasanaethau lleol
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd pobl, a chodi proffil y prosiect yn sylweddol o ganlyniad
  • rhoi amser penodedig i siarad â chynghorau a staff gofal cymdeithasol i egluro'r gwaith a dangos sut y gall roi mwy o opsiynau i bobl leol o ran y cymorth y maen nhw’n ei ddefnyddio.

Maen nhw hefyd yn amlygu pwysigrwydd archwilio’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned a sicrhau cefnogaeth gan staff gofal cymdeithasol strategol ac allweddol.

Yn y dyfodol, mae tîm y prosiect yn gobeithio helpu i greu mwy o gefnogaeth yn y gymuned, y tu allan i gartrefi pobl, fel grwpiau nofio i bobl ag anableddau, caffis dementia neu glybiau hapchwarae.

Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn cefnogi pobl sydd â phrofiad fyw i sefydlu eu microfentrau cymunedol eu hunain.

Darganfod mwy

Gallwch chi gysylltu â'r prosiect mewn amryw o ffyrdd:

Darganfod mwy

Contact name:

Tom Hughes