Skip to Main content

Cymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le

Mae ein Cymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le yn ofod i bobl sydd â diddordeb mewn ymagweddau at ofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar le.

Mae defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar le yn golygu cydweithio mewn ardal neu gymuned i fynd i’r afael ag anghenion unigryw’r bobl yn y lleoliad penodol hwnnw.

Yn ein cymuned, mae’r aelodau’n dysgu gyda’i gilydd, cael cyfleoedd i rannu eu llwyddiannau a’u heriau a meithrin perthnasoedd.

Rydyn ni'n gwybod, rhwng gwaith a chyfrifoldebau eraill, y gall fod yn anodd dod o hyd i'r amser a'r gofod i ddysgu a gwneud cysylltiadau newydd. Nod ein cymuned yw gwneud hynny’n haws, gan ddarparu cymorth ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i aelodau.

Mae’r gymuned yn cwrdd ar-lein ac wyneb yn wyneb, a gall aelodau gadw mewn cysylltiad hefyd drwy ein llwyfan digidol.

Mae gennym ni hefyd gronfa o adnoddau a digwyddiadau sy'n ymwneud â gofal sy’n seiliedig ar le.

Ymunwch â’r Gymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le

Neu anfonwch e-bost at lilla.ver@gofalcymdeithasol.cymru am fwy o wybodaeth.

Prif gyswllt

Lilla Vér

Lilla Vér

Rwy'n gofalu am ein Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le. Fy rôl i yw creu a meithrin gofod i bobl ddysgu gyda'i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae fy mhrofiadau blaenorol yn cynnwys datblygu llwybrau cymorth yn y systemau cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau, a rheoli prosiectau.