Skip to Main content

Grŵp ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn Sir Gâr

Dyddiad diweddaru diwethaf: 15 Gorffennaf 2024

Beth yw'r prosiect?

Mae'r grŵp ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir Gâr yn fan lle gall aelodau rannu adnoddau, diweddariadau a digwyddiadau i hyrwyddo gwneud penderfyniadau sydd wedi'u cyfoethogi gan dystiolaeth mewn gwaith cymdeithasol.  

Mae'r aelodau hefyd yn dod ynghyd i drafod ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd ac i gysylltu ymarferwyr ag ymchwilwyr ac aelodau o Gymuned Dystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Nod y grŵp yw annog ymarferwyr gofal cymdeithasol i ymgysylltu ag ymchwil gofal cymdeithasol a'i gyflwyno i'w ymarfer. 

Cwblhaodd y grŵp set dysgu gweithredol i osod ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn gyda chefnogaeth Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ac arweinydd symudedd gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.

Grŵp o bobl mewn gweithle yw set dysgu gweithredol sy'n cwrdd â'r bwriad penodol o ddatrys problemau yn y gweithle. Prif nod set dysgu gweithredol yw dod i ffwrdd â set o gamau gweithredu realistig a fydd yn helpu i ddatrys neu ddeall y problemau. 

Blaenoriaethau presennol y grŵp yw: 

  • ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal
  • cam-drin plant i rieni
  • niwroamrywiaeth
  • effaith COVID
  • gwydnwch tîm.

Mae'r grŵp yn denu mwy o ddiddordeb ac yn ddiweddar cafodd ei ofyn i gefnogi cydlynu cynhadledd ar gyfer gofalwyr di-dâl. 

Pam mae'n cael ei gynnal?

Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn wynebu nifer o rwystrau rhag ymgysylltu'n ystyrlon ag ymchwil gofal cymdeithasol, gan gynnwys amser a mynediad.

Mae'r grŵp hwn wedi'i greu i helpu i chwalu'r rhwystrau hyn ac adeiladu hyder ymarferwyr i ymgysylltu â thystiolaeth.

Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?

Mae'r gwaith yn digwydd yn Sir Gâr, ac mae aelodau'r grŵp yn cyfarfod ar-lein ac mewn person.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae dros 80 o weithwyr cymdeithasol wedi cofrestru i fod yn rhan o'r grŵp hwn. Mae tîm DEEP a symudedd gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cefnogi'r grŵp i weithredu dulliau gwahanol a chreadigol i rannu ymchwil gofal cymdeithasol.

Mae'r grŵp yn gwahodd siaradwyr gwadd yn rheolaidd i rannu eu gwybodaeth, fel Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot, sydd hefyd yn ceisio gwreiddio diwylliant ymchwil.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

Mae gweithwyr cymdeithasol wedi bwydo nôl bod rhannu gwybodaeth a phrofiad ar draws timau a disgyblaethau wedi bod yn brofiad gwerthfawr. 

Mae cyfarfod mewn person yn cael ei groesawu ac mae'n cefnogi creu cysylltiadau ar draws yr awdurdod a thu hwnt, gan rannu gwybodaeth. 

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwerthfawrogi sut mae'r grŵp wedi'i wreiddio'n ymarferol ac yn ceisio mynd i'r afael â blaenoriaethau ymarfer yn uniongyrchol.  

Darganfod mwy

I gael gwybod mwy am y grŵp hwn, cysylltwch â Mair Davies yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir Gâr ar mair.davies@sirgar.gov.uk.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Mair Davies

Email address:

mairdavies@sirgar.gov.uk