Skip to Main content

Gwella perfformiad drwy Fframwaith Sicrhau Ansawdd Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad diweddaru diwethaf: 8 Hydref 2026

Mae’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd yn cefnogi uwch reolwyr gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella perfformiad drwy ganolbwyntio ar effaith a straeon, gan ddefnyddio data a dysgu o ymarfer.

Mae’r fframwaith yn darparu ffordd strwythuredig i dimau gwaith cymdeithasol asesu pa mor dda y mae ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn cael ei adlewyrchu yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Drwy gylch sicrwydd ansawdd misol, mae timau’n nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a themâu sy’n dod i’r amlwg er mwyn cefnogi dysgu a gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau.

Mae’r fframwaith yn dod ag ystod o weithgareddau sicrwydd ansawdd ynghyd, gan gynnwys archwiliadau, cylchoedd ansawdd, gwybodaeth am berfformiad a gwerthuso ansoddol. Mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i symud y tu hwnt i fonitro cydymffurfiaeth a phrosesau, gan gefnogi dealltwriaeth fwy cytbwys o brofiadau pobl, ansawdd ymarfer a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni.

Mae dulliau adrodd straeon yn nodwedd allweddol o’r fframwaith. Ochr yn ochr â dulliau sicrwydd ansawdd traddodiadol, mae timau’n defnyddio deialog stori, Newid Mwyaf Arwyddocaol a dulliau ansoddol eraill i ddeall beth sy’n bwysig i bobl a’r gwahaniaeth y mae gwasanaethau’n ei wneud yn eu bywydau.

Yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd, mae panel deialog stori yn defnyddio straeon unigol i gefnogi myfyrio, dysgu a gwella gwasanaethau. Y Ngofal Cymdeithasol Oedolion, mae panel deialog stori yn cael ei dreialu ochr yn ochr â chylch sicrwydd ansawdd misol y fframwaith i gryfhau dealltwriaeth o brofiadau pobl a chefnogi dysgu o ymarfer. 

Mae protocol canmoliaethau a chwynion ar draws y gyfarwyddiaeth hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl rannu eu straeon a’u hadborth, gan sicrhau bod profiadau byw yn cyfrannu at wella gwasanaethau a dysgu sefydliadol.

Pam mae'r gwaith yn cael ei gyflawni?

Cafodd y fframwaith ei ddatblygu i gryfhau’r ffordd y mae timau’n dysgu o weithgareddau sicrwydd ansawdd ac yn defnyddio tystiolaeth i wella ymarfer a chanlyniadau.

Yn aml, roedd dulliau blaenorol yn cael eu gweld fel rhai oedd yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth ac wedi’u datgysylltu oddi wrth ymarfer o ddydd i ddydd. Er bod archwiliadau a gwybodaeth am berfformiad yn nodi themâu cyffredin, roedd llai o gyfle i ddeall pam yr oedd problemau’n digwydd, sut roedd pobl yn profi gwasanaethau a beth allai gefnogi gwelliant ystyrlon. 

Creodd hyn angen am broses fwy hyblyg a symlach sy’n dod â gweithgareddau sicrwydd ansawdd ynghyd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Nod y fframwaith yw creu dull mwy integredig drwy ddod â thystiolaeth o archwiliadau, data perfformiad, adborth gan ymarferwyr, adborth gan bartneriaid a phrofiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd. Drwy drafodaethau myfyriol a dysgu ar y cyd, mae timau'n cael eu hannog i ganolbwyntio ar ansawdd ymyriadau a’r canlyniadau y mae pobl yn eu cyflawni.

Mae cydgynhyrchu gyda thimau rheoli wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y fframwaith. Mae deialog stori ac adborth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn helpu i sicrhau bod profiadau pobl yn llywio dysgu, datblygu ymarfer a gwneud penderfyniadau ar bob lefel o’r sefydliad.

Ble a phryd mae’r gwaith yn digwydd?

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rhoddwyd y fframwaith ar waith ym mis Mehefin 2023 ac mae’n parhau i ddatblygu ac esblygu fel rhan o ddull ehangach y cyngor o sicrhau ansawdd, dysgu a gwelliant parhaus.

Who's involved?

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cefnogi’r gwaith datblygu drwy ei gynnig gwerthuso, y rhaglen Datblygu Ymarfer wedi’i Gyfoethogi gan Dystiolaeth (DEEP) a’r gwasanaeth hyfforddi arloesi, gyda ffocws ar werthuso sy’n seiliedig ar ddeialog, dysgu systemau a newid sefydliadol.

Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu gyda chyfraniad uwch arweinwyr, rheolwyr gweithredol, ymarferwyr a phobl sy’n cael mynediad at wasanaethau.

Beth mae'n nhw wedi'i ddysgu?

Mae dod â dulliau ansoddol a meintiol ynghyd wedi helpu timau i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyfoethog o ymarfer, perfformiad a chanlyniadau.

Mae hyn wedi cefnogi myfyrio mwy ystyrlon ar sut beth yw ymarfer da a sut y gall gwasanaethau barhau i wella.

Mae’r gwaith wedi helpu i symud gweithgareddau sicrwydd ansawdd o fod yn broses a oedd yn seiliedig yn bennaf ar gydymffurfiaeth i fod yn ddull sy’n canolbwyntio ar ddysgu, gan roi mwy o bwyslais ar effaith, profiadau byw a chanlyniadau.

Mae dulliau gwerthuso creadigol fel deialog stori, Newid Mwyaf Arwyddocaol a Mapio Effaith 'Ripple' wedi helpu timau i ddeall newid yn well a’r gwahaniaeth y mae gwasanaethau’n ei wneud i bobl.

Mae’r fframwaith hefyd wedi cryfhau goruchwyliaeth arweinyddiaeth drwy helpu timau i nodi patrymau, themâu a chyfleoedd i wella ar draws gwasanaethau. Mae wedi annog mwy o chwilfrydedd proffesiynol, myfyrio beirniadol ac ymgysylltu â thystiolaeth wrth wneud penderfyniadau.

Mae adborth gan staff wedi bod yn gadarnhaol, gyda threfniadau sicrwydd ansawdd yn cael eu gweld fwyfwy fel rhai sy’n cefnogi dysgu a datblygiad.

Mae’r fframwaith bellach yn darparu strwythur cyson ar gyfer gweithgareddau sicrwydd ansawdd ar draws gwasanaethau plant ac oedolion, gan ganiatáu i wasanaethau ymateb i flaenoriaethau lleol a materion sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r dull wedi cael cydnabyddiaeth gadarnhaol drwy weithgarwch arolygu a sicrhau Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd, nododd arolygwyr ym mis Gorffennaf 2025 y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Dysgu fel dull effeithiol o fonitro a gwerthuso ymarfer, gan gydnabod ei ffocws ar ddysgu, chwilfrydedd proffesiynol a deall profiadau byw.

Yng Ngofal Cymdeithasol Oedolion, nododd arolygwyr ym mis Gorffennaf 2026 fod trefniadau sicrwydd ansawdd sefydledig ar waith, wedi’u cefnogi gan fframwaith cynhwysfawr, archwiliadau rheolaidd a chylchoedd ansawdd. Nodwyd hefyd ymrwymiad y cyngor i welliant parhaus.

Mae’r hyn maen nhw wedi'i ddysgu o’r prosiect yn parhau i ddangos nad yw gwella sicrwydd ansawdd yn ymwneud yn unig â chyflwyno offer a phrosesau newydd. Mae hefyd yn ymwneud â chefnogi newid diwylliannol a chreu’r amodau ar gyfer ymarfer myfyriol sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth ar draws gwasanaethau.

Cysylltwch

Os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â fay.turner@bridgend.gov.uk.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Fay Turner