Skip to Main content

Archwilio tebygrwydd rhwng y Newid Mwyaf Arwyddocaol a Mapio Effaith 'Ripple' (REM)

16 Hydref 2025

Mae Gill Toms o'r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir (DEEP) yn myfyrio ar ddigwyddiad diweddar ynglŷn â defnyddio'r dulliau gwerthuso hyn sy'n seiliedig ar ddeialog mewn gofal cymdeithasol.  

Cynhaliodd DEEP ddigwyddiad ym mis Medi eleni gyda Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru (RIC) ar y Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) a Mapio Effaith 'Ripple' (REM).  Daeth y digwyddiad â gweithwyr proffesiynol ar draws gofal cymdeithasol a sectorau cysylltiedig at ei gilydd - gan gynnwys cydweithwyr o awdurdodau lleol, y trydydd sector, y GIG a Llywodraeth Cymru.

Pam wnaethon ni ddewis archwilio MSC a REM?

Mae MSC a REM yn ddulliau cyfranogol sy'n canolbwyntio ar ddeialog, adrodd stori a myfyrio. Maen nhw’n ein helpu i ddeall nid yn unig beth sydd wedi newid, ond sut a pham mae'r newidiadau hynny'n bwysig, sy'n allweddol mewn lleoliadau cymhleth fel gofal cymdeithasol.

MSC ar waith

Yn ystod y bore, roedd cyfres o gyflwyniadau hwylus a ddangosodd sut mae MSC wedi cael ei ddefnyddio mewn gwahanol gyd-destunau:

  • rhannodd Jessie Buchanan sut mae MSC wedi cael ei ddefnyddio mewn datblygu cymunedol
  • siaradodd Diane Seddon am ddefnyddio MSC i werthuso canlyniadau seibiant byr ar gyfer gofalwyr di-dâl
  • Trafododd Mike Corcoran fanteision defnyddio MSC mewn cyd-gynhyrchu
  • Esboniodd Kat Applewhite a Gemma Struthers sut mae'r Rhwydwaith Maethu wedi defnyddio MSC i ddangos newid ystyrlon
  • rhannodd Michael Gray ganfyddiadau ei ymchwil ar y defnydd o MSC yng Nghymru hyd yn hyn.

REM ar waith

Yn y prynhawn, rhannodd Natalie Pryor a Chloe Mangnall sut maen nhw wedi cefnogi timau i ddefnyddio REM mewn gwaith datblygu ymarfer. Yna arweiniodd Hayley Trowbridge weithdy fel y gallai pobl gael blas ar sut mae REM yn gweithio.

Tebygrwydd allweddol rhwng MSC ac REM

Cwestiwn a gododd sawl gwaith yn ystod y dydd oedd: 'A yw’n bosib defnyddio MSC a REM gyda'i gilydd?'

Mae REM, fel MSC, yn ddull strwythuredig o werthuso a datblygu ymarfer. Gallwn addasu i anghenion gwahanol ond fel arfer mae'n cynnwys:

  • dull cyfranogol, gan gynnwys rhanddeiliaid drwy'r broses
  • agwedd gwerthfawrogol sy’n troi o gwmpas yr hyn sy'n gweithio’n dda (nid yw heriau’n cael eu hanwybyddu ond nid ydyn nhw chwaith yn ganolbwynt dysgu)
  • cyfle am ddeialog a myfyrio grŵp
  • mapio effaith y gwaith.

Mae'r holl elfennau hyn i'w gweld yn MSC. Gall y ddau hefyd fod yn gylchol, pan fydd effeithiau'n cael sylw yn rheolaidd ac mae cymuned ddysgu'n codi o'r broses.

Yn MSC a REM, mae dysgu yn weithgaredd grŵp. Rydych chi'n dod ag ystod o randdeiliaid at ei gilydd i drafod naill ai'r straeon (MSC) neu'r effeithiau (REM).

Gwahaniaethau allweddol rhwng MSC ac REM

Prif ffocws MSC yw rhannu a dysgu o stori newid yr unigolyn. Yn REM mae'n stori ar y cyd wrth i weithgareddau ac effeithiau gael eu mapio. Rwy'n credu bod y gwahaniaeth hwn yn allweddol.

Mae MSC yn canolbwyntio mwy ar brofiadau unigol pobl o newid. Mae REM yn canolbwyntio mwy ar y newidiadau cymunedol.

Yr ail beth sy’n wahanol am REM yw'r mapio gweledol. Mae hyn yn cysylltu'r gwaith sy’n cael ei wneud â'r effeithiau sy’n cael eu harsylwi. Mae hyn yn golygu bod yr allbwn o REM yn fwy gweledol a gall hyn helpu i rannu a dathlu'r gwaith gydag eraill.

Gallwch weld enghraifft o'r mapio gweledol hwn yn y fideo hwn  a gynhyrchwyd gan brosiect ARC West y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).

Efallai bod REM yn ddull mwy hyblyg nag MSC ac yn gallu cael ei ddefnyddio ar wahanol gamau o brosiect:

  • ar y dechrau: er mwyn diffinio llwyddiant, siapio gwerthuso ac ysgrifennu stori newid ar gyfer y gwaith
  • yn ystod: lle gall gweithdai rheolaidd greu cymuned ddysgu sy'n olrhain cynnydd
  • ar ôl gorffen: er enghraifft drwy gynnal gweithdy i gyfleu effaith.

Mae MSC ar y llaw arall yn ffurf ôl-weithredol o werthuso: mae'n edrych yn ôl ar y newidiadau sydd wedi'u profi.

Gallwn ni ddefnyddio MSC ac REM gyda'i gilydd?

Rydyn ni’n credu bod tebygrwydd rhwng MSC a REM. Nid yw REM i fod yn ddull gwerthuso annibynnol. Byddai'n ddiddorol arbrofi cyfuno cryfderau'r ddau ddull. Efallai y gellid defnyddio REM i lywio pa themâu 'newid' i'w harchwilio mewn straeon MSC. Efallai y gellid defnyddio straeon MSC fel 'data' cychwynnol ar gyfer map REM, y mae rhanddeiliaid wedyn yn ymhelaethu trwy drafodaeth.

Caiff ein cyd-drefnydd Sarah Bartlett o Hwb RIC Gogledd Cymru'r gair olaf:

"Gall fod yn anodd mesur a yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn helpu, yn enwedig pan rydyn ni'n gweithio mewn sefyllfaoedd cymhleth. Y prif beth rwy'n cymryd o'r diwrnod yw pwysigrwydd ymyriadau bach ar lefel ddynol, fel cymryd amser i fod yn bresennol i rywun neu fod yn hyblyg yn eich ymagwedd. Gall dulliau gwerthuso fel MSC a REM ein helpu i ddeall y pethau bach sy'n wirioneddol bwysig i bobl."

Mwy o wybodaeth

Dysgwch fwy am MSC yma: Tu hwnt i rifau: Newid Mwyaf Arwyddocaol fel dull gwerthuso yng Nghymru sy'n seiliedig ar ddysgu.

Rydyn ni’n gobeithio cynnal sesiwn byr sy’n cyflwyno’r dull REM yn y flwyddyn newydd. Cadwch olwg ar ein tudalen Digwyddiadau.

Awdur y blog

Gill Toms

Gill Toms

Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)

grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Mae gen i gefndir mewn seicoleg ac ymchwil. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys dementia a seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Rwy'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gweithio yn DEEP ers cwpl o flynyddoedd. 

Rwyf wedi mwynhau dysgu mwy am ofal cymdeithasol gan ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rwy'n teimlo'n ffodus i fod mewn rôl lle gallaf ddysgu cymaint gan eraill. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau cerdded mynyddoedd ac arfordir Gogledd Cymru a dysgu Cymraeg.