Skip to Main content

Adroddiad blaenoriaethu ymchwil: pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

30 Mai 2025
Canolig

Roedden ni eisiau gwybod pa ymchwil y byddai pobl yn hoffi ei weld am bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. 

O ganlyniad, fe wnaethom ofyn i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth a darparwyr gofal cymdeithasol beth oedd yn bwysig iddyn nhw. 

Roedd hyn yn rhan o ymarfer a ddaeth â llawer o bobl at ei gilydd i benderfynu ar gwestiynau a ddylai gael mwy o ffocws mewn ymchwil yn y maes hwn. Gallwch chi ddysgu mwy am y broses hon ar ein tudalen helpu i osod blaenoriaethau ymchwil

Trwy'r broses hon, fe wnaethom benderfynu ar restr o'r 10 blaenoriaeth ymchwil uchaf ar bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Gallwch chi weld y rhestr a rhywfaint o wybodaeth am y broses yn y darn newyddion hwn am y blaenoriaethau buddugol

Mae'r adroddiad hwn yn esbonio sut y gwnaethom benderfynu ar y 10 blaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn canolbwyntio ar adborth pobl  yn ein harolygon a'n gweithdy, a pham eu bod yn dweud bod y blaenoriaethau hyn yn bwysig i gefnogi gwaith yn y dyfodol. 

Darllen yr adroddiad