
A yw cymuned yn iawn i chi?
Mae sefydlu cymuned ymarfer yn ymrwymiad hirdymor ac yn cynnwys llawer o waith.
Felly, mae'n bwysig gwybod ai cymuned yw'r dull cywir ar gyfer y canlyniadau rydych chi'n ceisio eu cyflawni.
Dyma rai o'r pethau y bydd angen i chi feddwl amdano wrth benderfynu os taw cymuned yw'r dull cywir i chi.
Am beth mae cymunedau'n dda?
Mae cymunedau yn cefnogi sefydliadau i ddeall a dysgu o farn aelodau.
Maen nhw'n gwerthfawrogi pwysigrwydd profiad uniongyrchol aelodau o amgylch pynciau penodol ac yn eu cefnogi i ddatblygu hyn ymhellach gyda'i gilydd.
Trwy gefnogi cymunedau i adeiladu perthnasoedd a chydweithio, gall sefydliadau ddysgu ble i weithredu orau er mwyn cyflawni eu nodau hirdymor.

Sut mae cymuned lwyddiannus yn edrych?
Bydd datblygu ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn, cysondeb, parhad, pwrpas a chyflawniad yn creu lle croesawgar a diogel i gymuned ffynnu.
Mae angen meithrin ac ysbrydoli cymunedau er mwyn cefnogi aelodau i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae pobl yn ymuno â chymunedau ymarfer i fanteisio ar rannu ac adeiladu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, trwy gyfathrebu rheolaidd â phobl sy'n gwneud rolau tebyg neu sydd â diddordebau tebyg.
Gall cymunedau alluogi pobl i gydweithio ag eraill y tu allan i'w sefydliadau eu hunain ac ehangu eu profiad.
Maen nhw'n gweithio orau pan fydd gennych nod neu weledigaeth hirdymor. Er enghraifft, i gyrraedd nod penodol dros amser ond heb y wybodaeth uniongyrchol o'r hyn y bydd ei angen i'w gyflawni.
Mae cymunedau yn ffyrdd gwych o fod yn agored am y ffyrdd gorau o gyflawni eich nodau a gweithio ar ddatrys hynny gydag eraill.
Maen nhw'n gweithio orau pan fydd pobl yn cymryd rhan weithredol ac yn teimlo lefel o gyfrifoldeb am gefnogi ei gilydd. Mae hyn yn eu helpu i ddysgu trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda'i gilydd.
Mae cymunedau ymarfer yn dod mewn sawl siâp a maint. Efallai na fydd rhai hyd yn oed yn cael eu galw'n gymunedau ymarfer. Efallai y byddwch hefyd yn eu gweld yn cael eu galw'n gymunedau o ddiddordeb, gweithredu neu le.
Pan allai cymuned helpu
Gallai sefydlu cymuned fod y dull cywir i chi os:
- rydych chi eisoes yn gweithio gyda grŵp penodol o bobl, ond mae rhyngweithio â'r grŵp wedi'i gyfyngu i gyfarfodydd byr neu achlysurol ac rydych chi'n meddwl y gallai cyswllt mwy rheolaidd helpu i yrru cydweithredu
- rydych chi'n gweithio gyda grŵp o bobl sy'n awyddus i rannu gwybodaeth a dysgu gan eraill sydd â diddordebau tebyg neu ar thema benodol
- mae gennych chi syniad ar gyfer gweledigaeth hirdymor, ond mae yna wahanol ffyrdd y gallech chi weithio tuag at y nod hwnnw
- rydych chi eisiau dysgu am a chan bobl a allai eich helpu i gyflawni eich nod
- rydych chi'n gweithio mewn ardal gymhleth ac mae angen i chi allu addasu i, ymateb i, a manteisio ar newidiadau i'r ardal rydych chi'n gweithio ynddo.

Sut y gallai cymuned helpu
Trwy sefydlu cymuned, gallwch:
- canolbwyntio ar berthnasoedd, cysylltiadau a chreu mwy o gyfleoedd i ryngweithio. Er enghraifft, trwy ddigwyddiadau neu blatfform ar-lein
- gwneud mwy o gyfleoedd i aelodau rannu eu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd trwy rannu ffyrdd o weithio, astudiaethau achos neu enghreifftiau bywyd go iawn
- datblygu ffyrdd i aelodau ddarparu adborth, a gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr adborth hwnnw
- cynllunio mewn cynnydd bach (dull 'ystwyth') i ganiatáu hyblygrwydd a'i gwneud hi'n haws rheoli newid.
Pryd efallai nad cymuned yw'r dull cywir
Mae'r ymdrech sydd ei angen i ddod â chymuned at ei gilydd, ac yna tyfu a chynnal y gymuned honno, yn golygu bod yna sefyllfaoedd lle efallai nad yw cymuned yn addas.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- pan fydd gennych chi weithgaredd penodol mewn golwg, neu brosiect gyda dyddiad gorffen penodol, fel grŵp gorchwyl a gorffen neu weithgor. Mae aelodau'r grwpiau hyn yn debygol o fod angen gweithio gyda'i gilydd ar adeg benodol, felly efallai mai fformat cyfarfod yw'r dull gorau, gyda'r cyfle i gydweithio ar ddogfennau trwy offer ar-lein
- pan fyddwch chi'n cyflwyno ymyrraeth gyda grŵp bach o bobl dros nifer o wythnosau, fel ymyrraeth llesiant i ymarferwyr. Efallai y bydd angen i'ch grŵp ddod i adnabod ei gilydd mewn man diogel, felly efallai y bydd cyfarfodydd rheolaidd yn fwy addas yn yr achos hwn
- pan fyddwch chi'n chwilio am fewnbwn i fentrau newydd gan ystod o randdeiliaid, lle gallai eu barn gael ei throsglwyddo i gyrff sy'n gweithredu polisïau neu fentrau newydd. Gallai gweithgareddau ymgynghori fel y rhain fod yn fwy addas i grwpiau ffocws, fforymau neu holiaduron
- pan fyddwch chi eisiau hyrwyddo menter, polisi neu weithgaredd. Gallai'r math hwn o weithgaredd fod angen mewnbwn gan staff cyfathrebu i adnabod cynulleidfaoedd, gweithio ar gynnwys, cytuno ar sianeli cyfathrebu a datblygu ffyrdd o roi gwybod i bobl
- wrth weithio gyda grŵp llai (llai nag 20 o bobl). Os oes gennych chi gymuned fach iawn, efallai y bydd faint o ymdrech sydd ei angen i gynnal y gymuned yn gorbwyso'r manteision. Gallech ystyried cynnal cyfarfodydd rheolaidd neu ddefnyddio platfform negeseuon ar-lein yn y sefyllfa hon
- pan nad oes angen buddsoddiad, ymdeimlad o atebolrwydd, nac adeiladu perthnasoedd dyfnach rhwng aelodau, ond eich bod eisiau rhannu gwybodaeth fel arferion da, neu roi cyfle i bobl greu cysylltiadau mewn maes penodol. Gallai hyn fod yn fwy addas ar gyfer rhwydwaith neu fforwm ffurfiol lle gall pobl gymryd rhan yn achlysurol yn dibynnu ar y gweithgaredd.
Beth nesaf?
Os ydych chi wedi penderfynu mai sefydlu cymuned yw’r dull cywir i chi, gallwch wneud cais am gymorth gan ein tîm o reolwyr cymuned drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Angen mwy o wybodaeth?
Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i’n prif dudalen cymorth a datblygu cymunedau ymarfer, neu drwy anfon e-bost at cymunedau@gofalcymdeithasol.cymru.
Efallai y byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani drwy ddarllen ein cwestiynau cyffredin a’n telerau ac amodau.