Skip to Main content

Adrodd stori er mwyn siapio’r broses sicrhau ansawdd: o fesur canlyniadau i ddeall effaith

04 Chwefror 2026

Yn y blog gwadd hwn, mae Fay Turner (Swyddog Sicrhau Ansawdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) yn archwilio sut i ddefnyddio dulliau adrodd stori at ddibenion dysgu a gwerthuso.

Pan ddechreuais i rôl newydd Sicrhau Ansawdd (QA), daeth rhai pethau’n amlwg yn weddol gyflym. Er bod ein system QA yn un da, roedd y pethau oedd yn wir bwysig i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn cael eu hanwybyddu. Roedd llawer o'r wybodaeth yn canolbwyntio ar weithgareddau oedd eisoes wedi'i fonitro trwy ddata perfformiad. Ond nid oedd y straeon cyfoethog, dynol - sut mae pobl yn byw, yn teimlo ac yn ffynnu - yn cael eu hamlygu.

Mae’r Fframwaith Perfformiad a Gwella 2021 yn annog awdurdodau lleol i ddod o hyd i well cydbwysedd rhwng data gweithgaredd a phrofiad byw. Mae'n ein herio i ddefnyddio tystiolaeth nid yn unig ar gyfer mesur perfformiad, ond ar gyfer gyrru gwelliant ystyrlon. Mae hyn wedi helpu QA i esblygu. Yn hytrach na chanolbwyntio ar archwiliaeth neu allbwn gall fod yn broses fwy creadigol, sy'n canolbwyntio ar y person. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwrando mewn ffordd wahanol

Wrth gasglu barn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, ymarferwyr, rheolwyr a rhanddeiliaid ehangach, daeth neges gyson i'r amlwg. Roedd pobl ar bob lefel yn gwerthfawrogi system QA sy'n cefnogi ymarfer myfyriol yn hytrach na gwyliadwriaeth. 

Roedd angen i ni ddangos yn well sut mae canllawiau cenedlaethol sy'n hyrwyddo tystiolaeth sy'n seiliedig ar brofiad yn helpu i siapio gwella perfformiad. Yn araf bach, mae'r momentwm hwn wedi tyfu.

Creu cyfle i adrodd stori

Ar draws rhai meysydd gwasanaeth, dechreuodd timau arbrofi gyda dulliau deialog seiliedig ar stori i archwilio cymhlethdod ymarfer gwaith cymdeithasol. Helpodd y sgyrsiau hyn i daflu goleuni ar leisiau unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Roedd y pwyslais o ganolbwyntio ar ganlyniadau’n unig yn lleihau, ac yn newid i sut oedd y canlyniadau hynny’n cael eu profi gan unigolion.

Mae'r dull hwn yn helpu i gryfhau egwyddorion llais a rheolaeth y Ddeddf o fewn yr awdurdod lleol. Trwy roi lle i bobl rannu a mynegi'r hyn sy'n bwysig neu bwysicaf iddynt, rydyn ni’n cael mewnwelediad cyfoethocach i sut y gall gwasanaethau gefnogi llesiant yn well. Mae'r sgyrsiau hyn hefyd yn ein helpu i nodi dangosyddion cynnar o angen sydd heb eu diwallu gan gefnogi atal ac ymyrraeth gynnar.

Dechreuodd timau arbrofi gyda dulliau deialog seiliedig ar stori i archwilio cymhlethdod ymarfer gwaith cymdeithasol. Helpodd y sgyrsiau hyn i daflu goleuni ar leisiau unigolion, teuluoedd a gofalwyr

Newid diwylliant

Dros amser, mae'r effaith ganlyniadol yn dod yn fwy gweladwy. Mae QA bellach yn teimlo'n fwy creadigol ac yn llai am dasgau’n unig. Mae timau arweinyddiaeth yn ymgorffori dysgu ar y cyd mewn ymarfer bob dydd. Mae ymgysylltiad rheolwyr yn tyfu'n organig wrth i QA gael ei gydnabod fwyfwy fel offeryn i gefnogi dysgu a datblygu. 

Mae tystiolaeth drwy adrodd stori yn dathlu cryfderau ac yn nodi patrymau. Mae’n hyrwyddo dull cyd-gynhyrchu o wella perfformiad. Rydyn ni’n symud yn llawer agosach at weledigaeth y Fframwaith Perfformiad a Gwella. Mae hyn yn golygu deall beth yw natur ein gweithredu a pha mor dda y mae'n gweithio i'r bobl sydd wrth wraidd ein gwasanaethau.

Deall tu hwnt i rifau

Efallai mai'r newid mwyaf yw newid meddylfryd. Nid yw QA bellach yn ymwneud â chyfrif gweithredoedd yn unig - mae'n ymwneud â deall effaith. Mae chwilfrydedd, rhannu perchnogaeth a deialog ystyrlon bellach yn siapio ein dull gweithredu. Mae ymarferwyr ac arweinwyr yn cysylltu'n ddyfnach â phrofiad byw pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. Gall realiti rheng flaen fod yn sail felly i benderfyniadau strategol.

Trwy agosáu at bum egwyddor y Ddeddf ac ymrwymo i ddysgu parhaus, mae ein system QA nid yn unig wedi cryfhau, mae'n fwy dynol o ganlyniad.

Awdur y blog

Fay Turner

Fay Turner

Swyddog Sicrhau Ansawdd, Pen-y-bont ar Ogwr

Fel Swyddog Sicrhau Ansawdd yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n gweithio ledled y gyfarwyddiaeth yn goruchwylio fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer timau gwaith cymdeithasol sy'n cynnal achosion. Mae fy rôl yn cefnogi goruchwyliaeth gan reolwyr ac uwch arweinwyr i sicrhau ansawdd ymarfer a hyrwyddo dysgu sefydliadol.

Camais allan o waith cymdeithasol statudol yn 2023 yn dilyn dros ddegawd o fewn Caerffili 16 Plws. Fel rhan o'r tîm rheoli, ymgymerais ag ystod o gyfrifoldebau ond fy ffocws oedd adeiladu partneriaethau strategol cryf i ategu llwybrau llety effeithiol i bobl ifanc sydd wedi profi gofal yn eu cyfnod pontio i annibyniaeth.