Skip to Main content

Animeiddiad newydd i gefnogi arfer da wrth rannu data

29 Mai 2026

Rydym wedi lansio animeiddiad byr newydd i gefnogi sefydliadau i rannu data yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn unol ag arfer da.

Adeiladu hyder mewn rhannu data

Mae rhannu data'n dda yn hanfodol i wella canlyniadau i bobl sydd angen gofal a chymorth. Fodd bynnag, gall penderfyniadau ynghylch rhannu gwybodaeth fod yn gymhleth a gofyn am ystyriaeth ofalus o ddyletswyddau cyfreithiol, llywodraethu gwybodaeth a hawliau pobl.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi cyflwyniad clir i arfer rhannu data da. Mae'n egluro:

  • pam mae rhannu data yn bwysig
  • yr egwyddorion a ddylai arwain gwneud penderfyniadau
  • y prosesau sy'n cefnogi rhannu moesegol
  • sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol.

Fe'i bwriedir ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â rhannu data ar draws gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac arweinwyr sefydliadol.

Gwyliwch a rhannwch yr animeiddiad

Mae'r animeiddiad ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, a gallwch ei wylio yma neu ei gysylltu â'ch gwaith o'n sianel YouTube.

Gellir defnyddio'r animeiddiad fel rhan o ddysgu a datblygu, trafodaethau tîm neu fel ysgogiad i adolygu arferion rhannu data presennol.

Animeiddiad rhannu data

Cefnogi rhaglenni data ehangach

Mae rhannu data da yn sail i waith ehangach ar draws Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys Cysylltu Gofal a'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR). Mae dealltwriaeth gyffredin o sut a phryd i rannu gwybodaeth yn helpu i sicrhau y gellir defnyddio data yn briodol i gefnogi gofal, dysgu a gwella gwasanaethau.

Dysgwch fwy am ymchwil data cysylltiedig a darllenwch am fewnwelediadau o leoliad PhD diweddar gan ADR Cymru yma.

E-bostiwch ni ar: data@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am rannu data neu os hoffech gael cymorth.