Skip to Main content

Creu ein crynodebau tystiolaeth: Sut rydyn ni’n penderfynu beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth dda

12 Awst 2025

Yn y blog hwn, mae Dr Grace Krause yn myfyrio ar ddull ac arferion gwaith ein tîm ymchwil.

Eleni buon ni’n cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol (SSCR) y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Rhoddodd gyfle i ni fyfyrio ar sut rydyn ni’n gweithio, yn enwedig mewn perthynas â'n crynodebau tystiolaeth.

Y broses o gynhyrchu crynodeb tystiolaeth

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu crynodebau tystiolaeth i helpu i wneud ymchwil yn haws i'w ddeall a'i gymhwyso mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. 

Dewis pynciau

Rydyn ni’n penderfynu ar ba bynciau i drafod yn seiliedig ar ein hymarferion gosod blaenoriaethau. Mae'r ymarferion hyn yn cynnwys:

  • pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth
  • teuluoedd a gofalwyr
  • pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
  • rhanddeiliaid eraill. 

Yn yr ymarferion hyn, rydyn ni'n gofyn i bobl pa heriau maen nhw'n eu hwynebu a hefyd y meysydd lle hoffen nhw weld mwy o ymchwil. 

Ein dull

Wrth i ni geisio ymateb i’r cwestiynau hyn, daeth yn amlwg bod casglu tystiolaeth mewn ffordd fwy strwythuredig, fel adolygiadau systematig, ddim yn gweithio mor dda ar gyfer ein hamcanion.

Mae angen gwybodaeth hygyrch ac ymarferol ar bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sy’n gallu eu helpu i ddarparu gofal a chymorth i bobl Cymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Nid ydyn ni’n crynhoi a disgrifio'r holl ymchwil sy'n bodoli, yn hytrach rydyn ni’n:

  • canolbwyntio ar yr ymchwil sy'n fwyaf perthnasol ar gyfer pob pwnc
  • tynnu sylw ac amlygu beth sy'n bwysig ar gyfer ymarfer
  • osgoi gorsymleiddio amgylchiadau cymhleth.
Dau berson yn cael sgwrs wrth fwrdd

Mae angen gwybodaeth hygyrch ac ymarferol ar bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a all eu helpu i ddarparu gofal a chymorth i bobl Cymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Dethol ymchwil

Pan fyddwn ni’n cynhyrchu crynodeb tystiolaeth, mae'n rhaid i ni asesu a dethol yr ymchwil fwyaf perthnasol o’r ansawdd uchaf. Mae rhai adolygiadau llenyddiaeth yn diffinio termau chwilio clir ac yna'n cynnwys yr holl erthyglau perthnasol o’r ystod o gyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Fe wnaethon ni benderfynu'n gynnar ar ein taith nad hwn oedd y dull iawn i ni. Nid oedd y cwestiynau y gofynnodd pobl i ni eu hateb gydag ymchwil bob amser yn cyfateb i dermau chwilio penodol. 

Yn aml, mae'n cymryd peth amser i'n swyddogion ymchwil nodi'r ffordd orau i ateb y cwestiynau. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn fwy tebygol o fod yn gwestiynau ynghylch sut i gyflawni canlyniadau penodol, megis gwella mynediad at ofal i bobl hŷn neu wneud yn siŵr gall pobl niwroamrywiol gael mynediad at gymorth sy'n gweithio'n dda iddynt. Nid yw’r cwestiynau hyn bob amser yn ffitio un term chwilio syml, oherwydd maen nhw’n dod ag ystod o ymchwil ar wahanol bynciau at ei gilydd mewn ffordd newydd.

Felly, yn hytrach na chyflwyno trosolwg arwynebol o'r holl ymchwil sydd ar gael, rydyn ni wedi datblygu dull gwahanol. Mae'n ein galluogi i ymateb i'r cwestiynau penodol sydd gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn ogystal â phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. 

Person yn edrych ar clipfwrdd

Rydyn ni’n rhoi cyd-destun ar gyfer yr ymchwil sy’n cael ei gynnwys mewn tair ffordd benodol: 

  1. Cyd-destun gwleidyddol a damcaniaethol

    Mae’r gwaith yn cyd-fynd â gwerthoedd sy’n cael eu nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn nodi y dylai unigolion sy'n defnyddio gofal a chymorth a'u hanghenion fod yn ganolbwynt i ofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y dylen nhw gael llais yn y gofal maen nhw'n ei gael ac y dylai'r gofal hwn gefnogi eu llesiant.

    Mae ein tîm yn cynnwys ymchwilwyr sydd â chefndiroedd proffesiynol amrywiol, mewn gofal cymdeithasol a meysydd ymchwil eraill. Mae hyn yn golygu y gallwn dynnu o ystod eang o ddamcaniaethau a dulliau. Mae tynnu ar ein gwahanol gryfderau yn ein helpu i ddeall natur gymhleth profiad byw, i'r bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gofal a chymorth.

  2. Gwneud lleisiau pobl â phrofiad byw yn flaenoriaeth

    Mae pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn aml yn profi gwahanol fathau o ymylu. Rydyn ni’n cydnabod bod pobl sydd â llai o fynediad at arian, gwleidyddiaeth neu fathau eraill o bŵer hefyd yn cael llai o allu i ddylanwadu ar ymchwil. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn canolbwyntio'n gryf ar agweddau llais, rheoli a chyd-gynhyrchu ar ofal cymdeithasol. Mae ein gwaith yn archwilio lleisiau a phrofiadau pobl nad ydyn nhw’n aml yn cael gwrandawiad ac a allai fod â llai o gyfleoedd i ddod yn ymchwilwyr eu hunain. 

    Mae hyn weithiau'n golygu cynnwys ymchwil na fyddai'n bodloni safonau academaidd traddodiadol. Er enghraifft, weithiau rydyn ni’n defnyddio adroddiadau prosiect gan grwpiau hunan-eiriolaeth, blogiau am brofiadau byw pobl, neu ddeunydd gan sefydliadau'r trydydd sector. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydyn ni bob amser yn sicrhau ein bod yn darparu cyd-destun clir ar gyfer y deunydd rydyn ni'n ei ddefnyddio i helpu pobl i ddeall o ble mae'r wybodaeth yn dod. 

  3. Llywio cymhlethdod 

    Mae pobl sy'n darparu gofal a chymorth yn wynebu heriau cymhleth yn eu gwaith. Mae yna lawer o wahanol amgylchiadau sy'n arwain at bobl yn cael mynediad at ofal a chefnogaeth. Ein nod yw gwneud ymchwil mor hygyrch â phosibl, gan ei gwneud hi'n hawdd ei ddeall a'i gymhwyso yn ymarferol. Yn aml, mae hyn yn golygu ysgrifennu am ganfyddiadau ymchwil ar bynciau penodol ond hefyd am y damcaniaethau sy’n aml yn cael eu defnyddio i archwilio.

Drws agored

Mae ein gwaith yn archwilio lleisiau a phrofiadau pobl nad ydyn nhw’n aml yn cael gwrandawiad ac a allai fod â llai o gyfleoedd i ddod yn ymchwilwyr eu hunain. Mae hyn weithiau'n golygu cynnwys ymchwil na fyddai'n bodloni safonau academaidd traddodiadol

Ymateb i anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae yna lawer o wahanol ddulliau o ddarparu gofal cymdeithasol ac mae llawer o'r rhain yn mynd i'r afael â gwahanol agweddau ar fywydau pobl. Gall gofyn 'beth sy'n gweithio?' mewn gofal cymdeithasol fod yn anodd oherwydd bod gwahanol bethau yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau.

Un o'r pethau pwysicaf i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yw gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a pharchus â phobl maen nhw'n eu cefnogi. Ac mae mwy nag un ffordd o wneud hynny. Felly, yn hytrach na rhoi rheolau uniongyrchol, syml i bobl eu dilyn, rydyn ni’n anelu at roi gwybodaeth ac offer iddyn nhw fyfyrio ar eu hymarfer a gweld pethau o gyfeiriadau newydd. I wneud hyn, rydyn ni wedi gorfod meddwl am ffyrdd newydd o asesu ansawdd ymchwil, gan ganolbwyntio ar berthnasedd a defnyddioldeb dros feini prawf anhyblyg. 

Mwy o wybodaeth

Awdur y blog

Dr Grace Krause

Dr Grace Krause

Prif diben fy rôl yw gwneud ymchwil yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel tîm, rydyn ni'n cymryd ymchwil academaidd, ymchwil gan sefydliadau eraill neu gan bobl gyda phrofiad byw, a data Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn creu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol ac mae gen i brofiad o weithio gydag ystod o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl gydag anabledd dysgu, pobl gyda phrofiad camdrin sylweddau, a goroeswyr gwaith rhyw. 

Mae gen i radd feistr mewn troseddeg a PhD mewn gwyddorau cymdeithasol. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys amryw o feysydd megis addysg, agweddau tuag at frechu, y ffordd mae pobl yn trin credoau moesol, ac anghydraddoldeb yn y gweithle.