Skip to Main content

Creu ein crynodebau tystiolaeth: Sut rydyn ni’n llywio pynciau ymchwil a bylchau mewn tystiolaeth

02 Mehefin 2026

Yn ein blog y llynedd ar sut rydyn ni’n penderfynu beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth dda, fe wnaethom edrych ar ein dull o ddethol ymchwil ac ymateb i anghenion y gweithlu. Yn y darn hwn, bydd y ffocws ar sut rydyn ni’n mynd i'r afael â thystiolaeth ac yn ymateb i fylchau mewn ymchwil bresennol.

Llywio ymchwil bresennol

Mae ein hagwedd at ymchwil yn amrywio ac yn dibynnu ar y pwnc rydyn ni'n ysgrifennu amdano. Fodd bynnag, rydyn ni fel arfer yn cadw tair egwyddor arweiniol mewn cof.

1. Nid ydym yn cyfyngu ein hunain i feysydd ymchwil penodol

Rydyn ni’n aml yn cynhyrchu crynodebau tystiolaeth ar bynciau lle nad oes llawer o ymchwil bresennol. Mae'n bosib delio â hyn trwy ehangu'r math o ymchwil rydyn ni'n ei chynnwys, gan gasglu ymchwil o wahanol feysydd. Er enghraifft, yn dibynnu ar y pwnc, gallai hyn gynnwys ymchwil yn y meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd, cymdeithaseg a seicoleg. Rydyn ni’n croesawu pob ymchwil berthnasol, ac mae hyn yn sylfaenol i'r ffordd rydyn ni'n gweithredu.

Mae’r tîm yn cynnwys unigolion o gefndiroedd ymchwil gwahanol. Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn darparu persbectif gwahanol a gallwn ddefnyddio arbenigedd amrywiol i fanteisio ar ystod eang o ddeunydd. Ac o ganlyniad, rydyn ni'n gallu dod o hyd i wybodaeth eang, sy'n berthnasol ac yn ddefnyddiol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

2. Rydyn ni’n defnyddio ymchwil ryngwladol lle bo'n briodol

Pwrpas penodol ein gwaith yw cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ond, ar gyfer rhai pynciau gofal cymdeithasol, nid oes llawer o ymchwil yn bodoli mewn cyd-destun Cymreig. Er mwyn delio â hyn, rydyn ni'n tynnu ar ymchwil ryngwladol. Rydyn ni'n ystyried perthnasedd pob ffynhonnell unigol i Gymru ac yn sicrhau ei bod yn darparu mewnwelediadau ymarferol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Trwy ddilyn y broses hon, mae'n bosib tynnu ar yr ymchwil mwyaf diweddar a gwneud yn siŵr bod ein hadnoddau yn ddefnyddiol i'n cynulleidfa.

3. Rydyn ni'n ymwybodol o ffiniau ymchwil bresennol

Nid yw cynnal ymchwil yn rhan o'r broses cynhyrchu crynodeb tystiolaeth. Felly, rhaid i ni weithio o fewn ffiniau ymchwil bresennol. Mae ymchwilwyr yn rhoi mwy o sylw i grwpiau a phynciau arbennig. Mae'n rhaid felly, i ni fod yn hyblyg yn y ffordd yr ydym yn dehongli'r deunydd. Rhaid cydnabod nad yw cael mwy o sylw mewn ymchwil yn gwneud un grŵp yn bwysicach na'r llall. Ac mae'n bwysig hefyd gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn mynd i'r afael ag anghenion yn hytrach nag adlewyrchu tueddiadau ymchwil. Mae hyn yn cynnwys chwilio am ymchwil sy'n ymhelaethu ar leisiau ymylol ac yn canolbwyntio ar brofiad byw. Er ei bod yn bwysig i ni aros yn driw i'r ymchwil, rydyn ni am sicrhau bod pob crynodeb mor gynhwysol â phosibl.

Dau gêr yn ffitio gyda'i gilydd

Mae crynodeb tystiolaeth yn archwilio pwnc y mae pobl wedi dweud wrthym eu bod am ddysgu mwy amdano

Llywio bylchau ymchwil

Mae tebygrwydd rhwng y ffordd yr ydym yn llywio ffiniau ymchwil a’n hymateb wrth ddod ar draws bylchau mewn ymchwil. Rydyn ni’n dewis pwnc ar gyfer crynodeb tystiolaeth mewn ymgynghoriad â phobl sy'n darparu a defnyddio gofal cymdeithasol. Gan fod pobl fel arfer eisiau gwybod am y pethau nad oes adnoddau ar eu cyfer, rydyn ni'n aml yn ysgrifennu am bynciau sydd heb fawr o ymchwil.

Er enghraifft, eleni rydyn ni’n cynhyrchu cyfres am bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Mae pobl wedi gofyn am y pwnc hwn yn benodol oherwydd nad oes llawer o wybodaeth eisoes ar gael. Ond mae hyn hefyd yn golygu nad oes gennym lawer o ymchwil fel man cychwyn, hyd yn oed os ydym yn cynnwys gwahanol feysydd ac ymchwil ryngwladol.

Rydyn ni'n osgoi cynnwys yr holl ymchwil ar bwnc. Mae hyn oherwydd na fydd popeth sydd ar gael yn ddefnyddiol i'n cynulleidfa. Yn hytrach, rydyn ni'n canolbwyntio ar gasglu'r holl wybodaeth berthnasol sydd yn cefnogi'r dulliau gorau. Mae hyn yn golygu bod gan bobl fynediad hawdd i'r wybodaeth orau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Chwyddwydr

Mae canolbwyntio ar enghreifftiau penodol o feysydd ymchwil eraill yn cynnig mewnwelediad a gall ein helpu i greu adnoddau defnyddiol hyd yn oed pan nad oes llawer o ymchwil ar gael

Wrth ddelio â bwlch mewn ymchwil bresennol, rydyn ni'n gweithio'n galed i gydbwyso anghenion pobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol gydag ymchwil sy'n edrych ar brofiadau penodol gwahanol grwpiau. Mae ffocysu fel hyn yn ei gwneud hi'n bosibl casglu mewnwelediad o faes ymchwil arall. Er enghraifft, mae pontio rhwng gwasanaethau gofal plant ac oedolion yn bwnc eang ond heb fawr o ymchwil. Trwy ganolbwyntio ar brofiadau pontio grŵp penodol o bobl ifanc, rydyn ni'n dysgu am anghenion a phrofiadau'r grŵp hwnnw o'r ymchwil ehangach.

Enghraifft arall yw defnyddio ymchwil astudiaethau anabledd i ddeall anghenion pobl ifanc ag anableddau. Rydyn ni'n gallu defnyddio'r wybodaeth hon wedyn i ddeall y math o gymorth a all helpu pobl ifanc yn ystod y broses bontio, a beth sy'n eu helpu i barhau i gael yr ofal mwyaf priodol.

Darlun o amlinelliad o Gymru

Mae edrych ar enghreifftiau penodol yn ein helpu i greu adnoddau defnyddiol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, hyd yn oed pan fo'r ymchwil yn gyfyngedig. Mae'n dechneg ddefnyddiol ac yn un rydyn ni'n dewis yn aml, yn enwedig gyda chysyniadau sy'n gyson mewn gwahanol feysydd. Er enghraifft, yn ein crynodeb tystiolaeth ar gyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n gadael gofal fe wnaethom dynnu ar sawl darn rhyngwladol o ymchwil ar sut i wneud cyd-gynhyrchu'n llwyddiannus. Er bod rhywfaint o'r ymchwil wedi'i seilio mewn gwahanol gyd-destunau gofal cymdeithasol, mae egwyddorion y gwaith yr un fath. 

Ein blaenoriaeth bob tro yw sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y ffocws bob amser yw darparu'r wybodaeth orau sydd ar gael mewn ffordd sy'n hygyrch ac yn berthnasol.

Awdur y blog

Dr Flossie Caerwynt

Dr Flossie Caerwynt

Swyddog Ymchwil

Fel swyddog ymchwil, fy ngwaith i yw gwneud ymchwil academaidd yn ddeniadol ac yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rwy'n gwneud hyn trwy ysgrifennu crynodebau tystiolaeth, sy'n cyfleu egwyddorion allweddol ymchwil i wahanol bynciau sy'n berthnasol i ofal cymdeithasol. 

Cyn dechrau gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, treuliais sawl blwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd academaidd i Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru a Chanolfan Ymchwil Cymdeithas Data Sifil. Yn y rôl honno gweithiais ar sawl prosiect, gan ganolbwyntio'n bennaf ar bolareiddio gwleidyddol a gweithredu amgylcheddol. Trwy hyn, datblygais brofiad o weithio gyda chymunedau a grwpiau ymgyrchu i gynnal ymchwil fanwl i bynciau sensitif yn y DU a thramor. Mae fy niddordebau ymchwil yn eang, ond mae nhw wastad yn canolbwyntio ar gymuned, hunaniaeth a ffordd o fyw.