Skip to Main content

Pontio: cyd-gynhyrchu a chefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal

Ysgrifennwyd gan Dr Flossie Caerwynt, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Grace Krause

Ystyr cyd-gynhyrchu ym maes gofal cymdeithasol yw bod gweithwyr proffesiynol a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn cydweithio i gynllunio a chynnal gwasanaethau. Mae’n gysyniad craidd yn neddfwriaeth gofal cymdeithasol Cymru. 

Gall cyd-gynhyrchu wella canlyniadau i bobl ifanc sy’n pontio i fyd oedolion. 

Ond mae rhai pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn dweud eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd deall cyd-gynhyrchu. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd ei roi ar waith. 

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n archwilio’r hyn y mae ymchwil yn ei ddweud am sut y gall cyd-gynhyrchu helpu i wella profiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal yn ystod eu cyfnod pontio i fyd oedolion. 

Cyflwyniad

Mae pobl ifanc sy’n defnyddio gofal cymdeithasol yn wynebu nifer o heriau pan fyddant yn dod yn oedolion. Mae’r cyfnod pontio o ofal fel arfer yn digwydd yn sydyn iawn ar ôl i bobl ifanc droi’n 18 oed (Atkinson a Hyde, 2019). Gall pobl ifanc sy’n byw yng nghartref y teulu dderbyn cyfrifoldebau oedolyn yn raddol, ond yn aml nid oes gan bobl ifanc sy’n gadael gofal ddigon o amser i ymaddasu i fywyd oedolyn. Yn hytrach, gallan nhw brofi yr hyn y mae rhai ymchwilwyr yn ei alw’n ‘troi’n oedolyn ar unwaith’ (Alderson et al., 2022). 

Gall cyflymder y newid hwn o ofal i annibyniaeth olygu nad yw pobl ifanc yn barod amdano, sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed. 

Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn fwy tebygol na phobl ifanc eraill o brofi’r canlynol:

  • salwch meddwl
  • unigrwydd
  • llesiant cyffredinol gwael
  • digartrefedd
  • camfanteisio rhywiol
  • allgau cymdeithasol
  • dod yn rhieni ifanc
  • cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol
  • cyflawniad academaidd is
  • llai o gyfleoedd gwaith sefydlog.

(Alderson et al., 2022; Atkinson a Hyde, 2019; Everson-Hock et al., 2011; Feather et al., 2023; Harder et al., 2020)

Cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal

Fel arfer, mae gan bobl ifanc sy’n gadael gofal lai o gymorth teuluol na phobl ifanc eraill. Maen nhw hefyd yn tueddu i golli mynediad at gymorth gan wasanaethau yn ystod y cyfnod pontio. Gall hyn niweidio eu llesiant a golygu eu bod yn llai parod ar gyfer byd oedolion. 

Mae sut y mae pobl ifanc yn teimlo am gefnogaeth y gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd yn effeithio ar ba mor esmwyth yw’r cyfnod pontio hwn. Mewn sawl astudiaeth, roedd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn dweud nad oedd gweithwyr proffesiynol yn gwrando arnynt (Alderson et al., 2022; Atkinson a Hyde, 2019). Gall hyn arwain at bobl ifanc yn amau gweithwyr proffesiynol, sydd yn ei gwneud hi’n anoddach iddynt ffurfio perthnasoedd cadarnhaol (Alderson et al., 2022; Atkinson a Hyde, 2019). 

Gwella profiad pontio pobl ifanc sy’n gadael gofal

Mae Feather et al. (2023) yn dangos bod angen tri pheth i sicrhau cyfnod pontio llwyddiannus i bobl ifanc sy’n gadael gofal: 

  1. polisi cymdeithasol cadarn
  2. ymrwymiad i hyrwyddo cymorth cymdeithasol, emosiynol ac ariannol
  3. ymarfer sy’n seiliedig ar berthnasoedd ar sail ymrwymiad i leihau heriau ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal.

1. Polisi cymdeithasol cadarn

Mae ymchwl Feather et al. yn nodi bod angen cefnogaeth polisi ac arweiniad i wella’r broses bontio. Os yw’r rhain ar waith, gallant helpu i sicrhau bod cyfnodau pontio yn cael eu cynnal yn briodol ac yn cael eu gweithredu yn y modd mwyaf llwyddiannus â phosibl (2023).

2. Ymrwymiad i hyrwyddo cymorth cymdeithasol, emosiynol ac ariannol

Mae sicrhau bod cyfraniad pobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu yn ystod prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau yn ddefnyddiol (Liabo et al., 2017). Mae Harder et al. (2020) yn dangos ei bod yn bwysig cefnogi annibyniaeth pobl ifanc sy’n gadael gofal a sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt. Gall methu â chefnogi annibyniaeth olygu bod pobl ifanc yn teimlo’n rhwystredig neu’n ddig, yn ogystal â’u gadael heb eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

3. Ymarfer sy’n seiliedig ar berthnasoedd

Mae ymarfer sy’n seiliedig ar berthnasoedd yn helpu pawb sy’n rhan o’r broses bontio i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall yr arferion hyn gynnig ffordd o sicrhau cydbwysedd rhwng rhoi cyfrifoldeb ac atebolrwydd i bobl ifanc a sicrhau bod ganddynt fynediad at gymorth a chyngor (Feather et al., 2023). Mae ymchwil Liabo et al. (2017) i brofiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal yn dangos y gall cymorth wedi’i bersonoli wella canlyniadau. Mae perthnasoedd cryf yn hybu gwydnwch pobl ifanc, sy’n ei gwneud hi’n haws iddynt ymdopi â newid (Harder et al., 2020).

Mae perthnasoedd sy’n caniatáu i bob llais gael ei glywed yn bwysig i gyd-gynhyrchu a chyfnodau pontio. Mae hyn yn golygu y gall cyd-gynhyrchu fynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn eu hwynebu (Alderson et al., 2022). Er enghraifft, gall cyd-gynhyrchu leihau gorbryder pobl ifanc sy’n gadael gofal drwy roi mwy o reolaeth iddynt dros y cyfnod pontio (Feather et al., 2023).

Rydyn ni’n trafod pwysigrwydd perthnasoedd yn ddiweddarach yn y crynodeb hwn.

Diffinio cyd-gynhyrchu

Gall fod yn anodd deall cyd-gynhyrchu. Mae’n cael ei disgrifio fel ‘cysyniad llithrig, niwlog a dryslyd’ sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio llawer o bethau gwahanol (Masterson et al., 2022). Yn y bôn, ystyr cyd-gynhyrchu yw bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u cynnal gan staff a dinasyddion sy’n cydweithio’n gyfartal. 

Yn achos pobl ifanc sy’n gadael gofal, mae hyn yn golygu rhoi’r un faint o reolaeth dros benderfyniadau a gweithwyr proffesiynol. Mae rhesymau pam nad yw hyn bob amser yn nod realistig, a byddwn yn archwilio’r rhain yn fanylach yn y crynodeb hwn. Mae termau eraill yn cael eu defnyddio o bryd i’w gilydd gyda ‘cyd-gynhyrchu’ (neu yn ei le):

  • cyd-gynllunio – lle mae’r pŵer dros wneud penderfyniadau am gynllunio a dyrannu gwasanaethau ac adnoddau yn cael ei rannu gyda’r bobl sy’n defnyddio gofal  (SCIE, 2022; Slay a Stephens, 2013)
  • cyd-gyflawni – pan mae pobl sy’n defnyddio gofal (yn ddelfrydol, y rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith cyd-gynllunio) yn ymwneud â chynnal y gwasanaeth (SCIE, 2022; Conquer et al., 2024)
  • cyd-werthuso – pan mae pobl sy’n defnyddio gofal yn ymwneud â gwerthuso ac adolygu gwasanaethau (SCIE, 2022).

Ar un adeg, roedd y rhain yn cael eu trin fel gweithgareddau ar wahân a allai gael eu gwneud ar y cyd â chyd-gynhyrchu (neu yn lle hynny). Bellach, maen nhw’n cael eu cydnabod fel gwahanol rannau o gyd-gynhyrchu (SCIE, 2022). Rydyn ni’n defnyddio’r term ‘cyd-gynhyrchu’ yn y crynodeb hwn, oni bai bod y dystiolaeth yn bwrpasol nodi term gwahanol.

Dau berson â dwylo llaw yn llaw wedi'u codi uwch eu pennau

Ystyr cyd-gynhyrchu yw bod staff a dinasyddion yn cydweithio i gynllunio a chynnal gwasanaethau

Cyd-gynhyrchu mewn deddfwriaeth

Mae hawl plant i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt wedi’i diogelu gan Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar wasanaethau gofal cymdeithasol i gynnwys pobl ifanc wrth gynllunio ar gyfer eu cyfnod pontio o ofal. Rhaid caniatáu i bobl ifanc leisio eu barn, a rhaid i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau gymryd eu barn o ddifrif (Davies et al., 2019).

Yng Nghymru, mae rhwymedigaeth i gynnwys pobl sy’n defnyddio gofal yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau yn rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae codau ymarfer y Ddeddf yn nodi bod cyd-gynhyrchu’n hanfodol i gyflawni’r rhwymedigaeth hon. 

Ond, er bod cyd-gynhyrchu’n hanfodol i’r ddeddfwriaeth yng Nghymru, nid yw bob amser yn eglur beth yw ystyr hyn. Mae effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i gwerthuso sawl gwaith ers ei chyflwyno. Mae’r gwerthusiadau hyn yn dangos bod pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal cymdeithasol yn ei chael hi’n anodd deall y ffordd y caiff cyd-gynhyrchu ei ddiffinio yn y Ddeddf (Andrews et al., 2023). Mae pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n ddryslyd ynghylch sut yn union y dylen nhw gyd-gynhyrchu gwasanaethau (Andrews et al., 2023). Daeth yr adroddiad terfynol ar y gwerthusiadau hyn i’r casgliad nad yw’r Ddeddf yn eglur ynghylch sut y mae cyd-gynhyrchu yn wahanol i fathau eraill o waith partneriaeth (Llewellyn et al., 2023). O ganlyniad, efallai bod nifer o brosiectau wedi’u disgrifio fel rhai sydd wedi’u ‘cyd-gynhyrchu’ ond nad dyma a ddigwyddodd mewn gwirionedd (Llewellyn et al., 2023).

Gwerthoedd ac egwyddorion cyd-gynhyrchu

Mae cyd-gynhyrchu yn amrywio gan ddibynnu ar y bobl a’r sefydliadau dan sylw. Oherwydd hyn, gall fod yn ddefnyddiol canolbwyntio ar y gwerthoedd a’r egwyddorion y mae cyd-gynhyrchu yn seiliedig arnynt (Masterson et al., 2022).

Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) yn seilio ei arweiniad ynghylch cyd-gynhyrchu ar bedwar prif werth (2022):

  • cydraddoldeb – cydnabod bod pawb yn cynnig cryfderau i gyd-gynhyrchu ac y dylai cyfraniad pawb gael ei werthfawrogi’n gyfartal
  • amrywiaeth – bod mor rhagweithiol ynghylch cynhwysiant ac amrywiaeth â phosibl fel y gall pawb gymryd rhan yn gyfartal
  • hygyrchedd – ystyried gwahanol anghenion o ran mynediad drwy gydol y broses, er enghraifft, sicrhau bod lleoliadau a chyfathrebu’n hygyrch
  • cydgyfnewidiaeth – sicrhau bod pobl yn cael budd o gymryd rhan.

Er mwyn i gyd-gynhyrchu ddangos pob un o’r pedwar gwerth, rhaid i’r pŵer gael ei gydbwyso’n gyfartal rhwng pawb dan sylw. Mae’n rhaid i hyn fod yn rhan fwriadol o’r broses gyd-gynhyrchu (Bouvaird, 2007; Farr, 2018). Byddwn ni’n trafod ffyrdd o gyflawni hyn yn ddiweddarach yn y crynodeb hwn. 

Cydraddoldeb wrth gyd-gynhyrchu

Mae cyd-gynhyrchu yn helpu pobl i gydweithio a gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd. Mewn theori, cydraddoldeb yw’r nod bob amser wrth gyd-gynhyrchu, ond gall fod yn anodd cyflawni hyn. Mae nifer o resymau pam na fydd pobl yn gallu cymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu yn gyfartal. Gall fod yn anodd cael pawb gyda’i gilydd yn yr un lle ar yr un pryd oherwydd ymrwymiadau eraill, salwch, ac ati (Flinders et al., 2016). Efallai y bydd angen cymorth ar rai i ddeall terminoleg ymchwil neu i roi hwb i’w hyder wrth ryngweithio â gwasanaethau. Efallai y bydd angen hyfforddiant ar weithwyr proffesiynol i greu perthnasoedd cyfartal gyda chyfranogwyr eraill yn y broses gyd-gynhyrchu (Farr et al., 2021). Gall diogelwch hefyd atal cyfranogiad cyfartal. Er enghraifft, pan fydd mynediad cyfyngedig rhwng pobl. Gall hyn fod yn her fawr wrth weithio gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, gyda siawns uwch o brofi mynediad cyfyngedig at aelodau eraill o’r teulu (Jackson et al., 2020).

Mae’n bosib mynd i’r afael â nifer o rwystrau drwy weithio gyda’r bobl sy’n ymwneud â chyd-gynhyrchu a meddwl am eu hanghenion yn ystod y broses. Ond mae’r ddynameg o ran pŵer rhwng plant neu bobl ifanc ac oedolion yn gymhleth. Nid oes llawer o ymchwil wedi ystyried gallu cyd-gynhyrchu i gydbwyso’r anghydbwysedd hwn (Kiili et al., 2021; Lundy, 2011). Oherwydd hyn, mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil sy’n cael ei drafod yn y crynodeb hwn yn ystyried sut y gall cyd-gynhyrchu gydnabod ac ymateb i wahaniaethau o ran pŵer. 

Yr heriau wrth roi cyd-gynhyrchu ar waith

Gall cyd-gynhyrchu da wella gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’n anodd gwybod beth yw cyd-gynhyrchu da, gan ei fod yn amrywio dipyn mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae rhai pethau ymarferol hefyd yn golygu ei bod yn heriol rhoi cyd-gynhyrchu ar waith. Gall y rhain gynnwys:

  • costau (amser, arian, adnoddau)
  • gwrthdaro â safonau mewn polisi neu ddeddfwriaeth (Farr, 2018).
Tri pherson yn siarad o gwmpas bwrdd

Mae Dixon a Ward (2017) yn disgrifio rhai heriau mewn prosiect tai a gyd-gynhyrchwyd ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal. Roedd y cynllun gwreiddiol i gynnwys pobl ifanc o dan 18 oed mewn cydweithrediaeth dai wedi wynebu rhwystrau cyfreithiol. Mewn achosion fel hyn, efallai na fydd yn bosibl defnyddio argymhellion y cyd-gynhyrchu, neu ddim heb newidiadau sylweddol. Rhaid ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn yn ofalus. Os caiff prosiectau eu disgrifio fel rhai sydd wedi’u cyd-gynhyrchu heb ymateb yn briodol i syniadau pawb, gall hynny roi camargraff o gydraddoldeb (Farr, 2018; Chen et al., 2024). 

Mae cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ifanc yn cyflwyno heriau unigryw . Rhaid i weithwyr proffesiynol ddysgu cydweithio â phobl ifanc, yn hytrach na chymryd eu rôl arferol fel arbenigwyr ar wneud penderfyniadau (Fern, 2014). Gall y newid hwn o ran ffordd o feddwl fod yn anodd i bawb. Er enghraifft, arweiniodd Heron a Steckley (2020) fenter a gyd-gynhyrchwyd i wella cynrychiolaeth gan bobl ifanc mewn fforymau gwneud penderfyniadau yn yr Alban. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol a phobl ifanc mewn gofal preswyl. Daeth i’r amlwg bod oedolion yn ei chael hi’n anodd deall sut i gyfrannu heb reoli. Fodd bynnag, roedd y bobl ifanc hefyd yn ei chael hi’n anodd peidio ag ystyried y gweithwyr proffesiynol fel y rhai â’r ‘atebion’. Dywedodd un person ifanc:

‘roedd yn ddryslyd, does neb wedi gwneud hyn o’r blaen a doedden ni ddim yn gwybod sut i weithio’ (Heron a Steckley, 2020).

Gwybodaeth broffesiynol i gymharu â phrofiad bywyd

Un o heriau mwyaf cyd-gynhyrchu yw bod yn gyfforddus ynghylch symud y tu allan i syniadau arferol ynghylch arfer gorau. Mewn prosesau cyd-gynhyrchu, mae pobl sydd wedi defnyddio gofal yn wybodus oherwydd eu profiad personol. Bydd gan y gweithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses wybodaeth drwy gymwysterau a hyfforddiant, yn ogystal â’u profiad ymarferol. Yn aml, mae gwybodaeth drwy gymwysterau yn cael ei hystyried yn fwy gwerthfawr na phrofiad personol (Rose a Kalathil, 2019; Turnhout et al., 2019). Mae hyn yn golygu, os mai pwrpas cyd-gynhyrchu yw dod o hyd i’r dull gweithredu “gorau”, y gall ymarferwyr fod â mwy o bŵer na phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth (Turnhout et al., 2019).

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r rhagfarn hon a dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â hi yn ystod prosesau cyd-gynhyrchu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pŵer yn cael ei ddosbarthu mor gyfartal â phosibl. Un ffordd o gyflawni hyn yw drwy ymwreiddio arferion myfyriol mewn prosesau cyd-gynhyrchu. Gall cynnig lle i drafod y safle pŵer rhwng unigolion a rhagfarnau ar ddechrau a drwy gydol y broses gyd-gynhyrchu fod o gymorth hefyd, gan fod y ddynameg o ran pŵer yn newid yn gyson (Farr, 2018; Rose a Kalathil, 2019; Ärleskog et al., 2021).

Gêm tynnu rhaff gyda thri o bobl ar un ochr ac un person ar yr ochr arall

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r ddynameg pŵer rhwng unigolion. Gall drafod safle a rhagfarn ar y dechrau a thrwy gydol y broses fod yn werthfawr

Newid canfyddiadau am bobl ifanc

Mae gwybodaeth uniongyrchol gan bobl ifanc â phrofiad gofal am ba mor dda y mae gwasanaethau gofal yn diwallu eu hanghenion (Kiili et al., 2021; Fern, 2014). Er hyn, nid yw eu gwybodaeth yn cael ei gwerthfawrogi gymaint â gwybodaeth gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod oedolion yn ei chael hi’n anodd deall gwybodaeth a phrosesau meddwl pobl ifanc. Gall oedolion ddehongli ymddygiad plant a phobl ifanc fel ymddygiad afresymol, sy’n arwain at ragdybiaethau na allant wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth (Davies et al., 2019). Cynhaliodd Fern (2014) waith ymchwil gyda phobl ifanc a oedd wedi gwrthsefyll ymyriadau gan weithwyr cymdeithasol. Dangosodd y canfyddiadau fod ymddieithrio yn aml yn ymateb i ryngweithio di-fudd gyda gweithwyr cymdeithasol yn y gorffennol. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd gwrando ar safbwyntiau a dewisiadau pobl ifanc.

Mae llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn credu’n reddfol fod plant a phobl ifanc yn agored i niwed a bod angen eu gofalu a'u hamddiffyn. Mae’r gred hon yn cael ei hatgyfnerthu gan ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol, sy’n pwysleisio’r angen i ddiogelu pobl ifanc (Jackson et al., 2020). Ond, er bod diogelu yn bwysig, gall hefyd gyfyngu ar gyfranogiad pobl ifanc mewn prosesau cyd-gynhyrchu. Gall gweithwyr proffesiynol geisio diogelu pobl ifanc rhag gormod o straen neu gyfrifoldeb, ond gall hyn danseilio eu hyder a chyfyngu eu gallu i wneud penderfyniadau (Davies et al., 2019). Mae’n bwysig y gall pobl ifanc reoli eu bywydau a chymryd risgiau cadarnhaol wrth droi'n oedolion. Mae mwy o wybodaeth am gymryd risgiau cadarnhaol yn ein crynodeb: Cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal.

Dau berson gyda swigen siarad

Mae pobl ifanc sy’n pontio i fyd oedolion yn elwa o gael rheolaeth dros eu gofal

Mae ystyried bod pobl ifanc yn llai cymwys nag oedolion yn cymhlethu’r cyfnod pontio (Kiili a Larkins, 2016). Hyd yn oed pan mae’r bobl ifanc bron yn oedolion, gall fod cred barhaus nad oes ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau difrifol. Er enghraifft, roedd rhai o’r oedolion a oedd yn rhan o brosiect cyd-gynhyrchu tai Dixon a Ward (2017) yn dadlau y dylai penderfyniadau pwysig gael eu gwneud heb gyfraniad pobl ifanc. Mae perygl y gall y ddadl hon atgyfnerthu’r syniad bod gwybodaeth oedolion neu weithwyr proffesiynol yn fwy gwerthfawr (Dixon a Ward, 2017; Fern, 2014).

Gall gweithwyr proffesiynol boeni y bydd gwasanaethau’n anaddas pan fyddant yn cael eu cynllunio gan bobl ifanc oherwydd bod gormod o bwys ar safbwyntiau a phenderfyniadau a all fod yn seiliedig ar lai o wybodaeth. Yn ogystal â niweidio darpariaeth gwasanaethau, mae ofn y gallai hyn gael effaith negyddol ar lesiant pobl ifanc yn yr hirdymor os yw ansawdd eu gofal yn is (Kiili et al., 2021).

Gall cyd-gynhyrchu greu syniadau sy’n sylweddol wahanol i’r hyn sy’n cael ei weld fel arfer gorau. Mae hyn yn golygu weithiau nad y dull gweithredu mwyaf priodol yn ôl yr ymarferwyr yw’r dewis gorau i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth (Heron a Steckley, 2020). 

Gall dymuniadau pobl ifanc gael eu diystyru, gan ffafrio’r hyn sydd o’r budd mwyaf iddynt ym marn gweithwyr proffesiynol, oherwydd y gred nad ydynt yn ddigon cymwys na gwybodus (Davies et al., 2019). 

Weithiau, oherwydd y syniad na ellir gwahanu plant oddi wrth eu teuluoedd, mae mwy o barodrwydd i wrando ar y rhieni yn hytrach na’r bobl ifanc (Kiili et al., 2021). Gall hyn fod yn broblem i bobl ifanc sy’n pontio i fyd oedolion, gan eu bod yn elwa o’r profiad o gymryd rheolaeth dros eu gofal eu hunain. 

Cyd-gynhyrchu a chyfnod pontio graddol

Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gallu gwneud penderfyniadau’n gynyddol mewn camau sy’n teimlo’n gyfforddus iddynt. Yng nghyd-destun pobl ifanc sy’n gadael gofal, mae hyn yn helpu i’w paratoi i dderbyn cyfrifoldebau oedolyn pan ddaw’r amser (Liabo et al., 2017). Mae hyn yn arwain at well canlyniadau na phontio’n sydyn o un byd i’r llall (Alderson et al., 2022). Mae person ifanc a oedd yn rhan o brosiect cyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal yn Lloegr yn disgrifio sut roedd y broses wedi cefnogi ei gyfnod pontio i fyd oedolion:

‘Mae wedi bod yn hwb mawr i’m hyder. Dwi nawr yn sylweddoli bod fy llais i yr un mor werthfawr â llais fy nghyfoedion. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n creu newid nawr yn hytrach nag aros i rywun arall wneud hynny ar fy rhan. Mae hefyd wedi gwneud i mi deimlo cysylltiad â diwylliannau eraill oherwydd, dim ots o ble mae person arall yn dod, dwi’n gwybod y bydda i bob amser yn dod o hyd i rywbeth yn gyffredin â nhw. Yn gyffredinol, mae wedi gwella fy ngalluoedd dadlau, meddwl yn feirniadol, arwain a datrys problemau a fyddan nhw gen i am weddill fy oes’ (Dixon et al. 2019).

Gall cyd-gynhyrchu helpu i wella canlyniadau drwy roi cyfle i bobl ifanc siapio newid go iawn a chreu system bontio sy’n addas iddynt. 

Cyd-gynhyrchu a pherthnasoedd yn ystod y cyfnod pontio

Mae angen rhwydweithiau cymorth cryf ar bobl ifanc sy’n gadael gofal i lywio’r cyfnod pontio yn llwyddiannus. Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn dweud eu bod yn hoffi cael mynediad at gymorth hyblyg i’w helpu i reoli eu cyfnod pontio (Atkinson a Hyde, 2019; Liabo, et al., 2017). Maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw’n hoffi dibynnu ar weithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau. Byddai’n well gan bobl ifanc pe bai gweithwyr proffesiynol yn gallu gweithredu fel hwyluswyr (Atkinson a Hyde, 2019). Mae angen ymarfer sy’n seiliedig ar berthnasoedd cryf er mwyn i hyn weithio (Feather et al., 2023).

Gall cyd-gynhyrchu helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i ddatblygu rhwydweithiau cymorth wrth ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal y perthnasoedd hynny. Gall pobl ifanc ei chael hi’n anodd cynnal rhwydweithiau cymorth pan nad ydyn nhw’n teimlo bod pobl yn gwrando arnynt, neu os nad yw eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu. Mae hyn yn golygu bod angen i weithwyr proffesiynol gymryd pryderon pobl ifanc sy’n gadael gofal o ddifrif. A bod yn barod i roi cymorth diamod yn ystod y cyfnod pontio er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol (Atkinson a Hyde, 2019). 

Tri o bobl yn cael sgwrs wrth fwrdd

Yn ddelfrydol, dylai cyd-gynhyrchu gynnwys pawb sy’n ymwneud â’r cyfnod pontio ac a hoffai gymryd rhan (gan gynnwys teuluoedd a/neu ffrindiau pobl ifanc sy’n gadael gofal). Mae hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu rhwydwaith cymorth (Alderson et al., 2022). Os oes modd goresgyn heriau cyd-gynhyrchu drwy feithrin ymddiriedaeth a gweithio i ailddosbarthu pŵer, gall y bobl ifanc elwa’n aruthrol. Mae Jackson et al. (2020) yn sôn am y teimlad o rymuso a gafodd pobl ifanc drwy well cyfranogiad yn y system gofal maeth. Dywedodd un cyfranogwr yn y prosiect hwn:

‘Yn llythrennol dwi’n teimlo fel archarwr pan dwi’n dod yma oherwydd bod pobl yn gwrando arnon ni […] rydyn ni’n teimlo […] ein bod ni’n cyflawni rhywbeth. Un diwrnod fe fyddwn ni’n gwneud newid.’

Mae mwy o wybodaeth am bwysigrwydd perthnasoedd wrth symud i ofal oedolion yn ein crynodeb: Pontio: safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd.

Casgliad

Mae’r crynodeb hwn yn rhannu ymchwil ddiweddar ar sut y gall cyd-gynhyrchu wella profiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae’n trafod yr heriau sydd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn i gyd-gynhyrchu fod yn effeithiol. Mae’r heriau hyn yn cynnwys y diffyg gwerth sy’n cael ei rhoi ar wybodaeth pobl ifanc, y syniad na allant wneud penderfyniadau difrifol, a’r diffyg ymddiriedaeth y gallant ei deimlo tuag at weithwyr proffesiynol. 

Mae ymchwil yn dangos bod ffyrdd y gall cyd-gynhyrchu ymateb i’r heriau hyn. Gall y rhain gynnwys mynd i’r afael â gwahaniaethau pŵer, cymryd pobl ifanc o ddifrif, a datblygu perthnasoedd cryf yn ystod y cyfnod pontio. Gall cyd-gynhyrchu da fynd i’r afael â phroblemau sy’n bodoli eisoes wrth symud o ofal. Mae’n lleihau’r siawns o ganlyniadau gwael i bobl ifanc sy’n gadael gofal drwy roi rheolaeth iddynt dros benderfyniadau, gan helpu i ddatblygu rhwydwaith cymorth, a darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau oedolion. 

Darllen ychwanegol

Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol ar bontio o safbwynt pobl ifanc a’u teuluoedd sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.  

  1. Alderson, H., Smart, D., Kerridge, G., Currie, G., Johnson, R., Kaner, E., Lynch, A., Munro, E., Swan, J., a McGovern, R. (2022) ‘Moving from ‘what we know works’ to ‘what we do in practice’: An evidence overview of implementation and diffusion of innovation in transition to adulthood for care experienced young people’, Child & Family Social Work, 28 (3), tt. 869-896, doi:10.1111/cfs.12998.
  2. Atkinson, C. a Hyde, R. (2019) ‘Care leavers’ views about transition: a literature review’, Journal of Children’s Services, 14 (1), tt. 42-58, doi:10.1108/JCS-05-2018-0013.
  3. Farr, M. (2018) ‘Power dynamics and collaborative mechanisms in co-production and co-design processes’, Critical Social Policy, 38 (4), tt. 623-644, doi:10.1177/0261018317747444.
  4. Kiili, J., Itäpuisto, M., Moilanen, J., Svenlin, A. a Malinen, K.E. (2021) ‘Professionals’ views on children’s service user involvement’, Journal of Children’s Services, 16 (2), tt. 145-158, doi:10.1108/JCS-10-2020-0069.
  5. SCIE (2022) Co-production: What it is and how to do it, Llundain: Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, ar gael yn https://www.scie.org.uk/co-production/what-how/ (cyrchwyd: 11 Chwefror 2026).
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Alderson, H., Smart, D., Kerridge, G., Currie, G., Johnson, R., Kaner, E., Lynch, A., Munro, E., Swan, J., a McGovern, R. (2022) ‘Moving from “what we know works” to “what we do in practice”: An evidence overview of implementation and diffusion of innovation in transition to adulthood for care experienced young people’, Child & Family Social Work, 28 (3), tt. 869-896, doi:10.1111/cfs.12998. 

Andrews, N., Calder, G., Blanluet, N. a Baker, R. (2023) Cyd-gynhyrchu: Ymchwil i ategu Adroddiad Terfynol Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Caerdydd, Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR  38/2023, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2023-03/cyd-gynhyrchu--ymchwil-i-ategu-adroddiad-terfynol-gwerthuso-deddf-gwasanaethau-cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014.pdf (cyrchwyd: 11 Chwefror 2026).

Ärleskog, C., Vackerberg, N. a Andersson, A. (2021) ‘Balancing power in co-production: introducing a reflection model’, Humanities and Social Sciences Communications, 8 (108), tt. 1-7, doi:10.1057/s41599-021-00790-1.

Atkinson, C. a Hyde, R. (2019) ‘Care leavers’ views about transition: a literature review’, Journal of Children’s Services, 14 (1), tt. 42-58, doi:10.1108/JCS-05-2018-0013.

Bouvaird, T. (2007) ‘Beyond Engagement and Participation: User and Community Coproduction of Public Services’, Public Administration Review, 67 (5), tt. 846-860, doi:10.1111/j.1540-6210.2007.00773.x.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ar gael yn https://www.unicef.org.uk/wp-content/uploads/2016/08/unicef-convention-rights-child-uncrc.pdf (cyrchwyd: 11 Mawrth 2026).

Conquer, S., Iles, R., Windle, K., Heathershaw, R. a Ski, C.F. (2024) ‘Transforming Integrated Care Through Co-production: A Systematic Review Using Meta-ethnography’, International Journal of Integrated Care, 24 (1), tt. 1-15, doi:10.5334/ijic.7603.

Chen, Y., Croft, C. a Currie, G. (2024) ‘Leveraging normative power in co-production to redress power imbalances’, Public Administration, 103 (1), tt. 1-17, doi:10.1111/padm.13015.

Davies, C., Fraser, J. a Waters, D. (2019) ‘Establishing a framework for listening to children in healthcare’, Journal of Child Health Care, 27 (2), tt. 279-288, doi:10.1177/1367493519872078.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/resources (cyrchwyd: 11 Mawrth 2026).

Dixon, J. a Ward, J. (2017) Making a House a Home: The House Project Evaluation, Department for Education: Children’s Social Care Innovation Programme Evaluation, ar gael yn  https://dera.ioe.ac.uk/id/eprint/28513/ (cyrchwyd: 29 Ionawr 2026).

Dixon, J., Ward, J. a Blower, S. (2019) ‘“They sat and actually listened to what we think about the care system”: the use of participation, consultation, peer research and co-production to raise the voices of young people in and leaving care in England’, Child Care in Practice, 25 (1), tt. 6-21, doi:10.1080/13575279.2018.1521380.

Everson-Hock, E.S., Jones, R., Guillaume, L., Clapton, J., Duenas, A., Goyder, E., Chilcott, J., Cooke, J., Payne, N., Sheppard, L.M. a Swann, C. (2011) ‘Supporting the transition of looked-after young people to independent living: a systematic review of interventions and adult outcomes’, Child: care, health and development, 37 (6), tt. 767-779, doi:10.1111/j.1365-2214.2011.01287.x.

Farr, M. (2018) ‘Power dynamics and collaborative mechanisms in co-production and co-design processes’, Critical Social Policy, 38 (4), tt. 623-644, doi:10.1177/0261018317747444.

Feather, J., Allen, D., Crompton, R., Jones, Z., Christiansen, A. a Butler, G. (2023) ‘Transitional support interventions for care leavers: A scoping review’, Children & Society, 38 (5), tt. 1579-1601, doi:10.1111/chso.12825.

Fern, E. (2014) ‘“Grown-ups Never Understand Anything by Themselves”’, Practice: Social Work in Action, 26 (1), tt. 3-22, doi:10.1080/09503153.2013.867940.

Flinders, M.V., Wood, M. a Cunningham, M. (2016) ‘The politics of co-production: Risks, limits and pollution’, Evidence and Policy, 12 (2), tt. 261-279, doi:10.1332/174426415X14412037949967.

Harder, A., Mann-Feder, V., Oterholm, I. a Refaeli, T. (2020) ‘Supporting Transitions to Adulthood for Youth Leaving Care: Consensus Based Principles’, Children and Youth Services Review, 116, doi:10.1016/j.childyouth.2020.105260.

Heron, G. a Steckley, L. (2020) ‘Digital storytelling using co-production with vulnerable young people’, Journal of Social Work, 20 (4), tt. 411-430, doi:10.1177/1468017318814993.

Jackson, R., Brady, B., Forkan, C., Tierney, E. a Kennan, D. (2020) ‘Influencing policy and practice for young people in foster care: Learning from a model of collective participation’, Children and Youth Services Review, 113, doi:10.1016/j.childyouth.2020.104901.

Kiili, J. a Larkins, C. (2016) ‘Invited to labour or participate: intra- and inter-generational distinctions and the role of capital in children’s invited participation’, Discourse, 39 (3), tt. 408-421, doi:10.1080/01596306.2016.1274290.

Kiili, J., Itäpuisto, M., Moilanen, J., Svenlin, A. a Malinen, K.E. (2021) ‘Professionals’ views on children’s service user involvement’, Journal of Children’s Services, 16 (2), tt. 145-158, doi:10.1108/JCS-10-2020-0069.

Liabo, K., McKenna, C., Ingold, A. a Roberts, H. (2017) ‘Leaving foster or residential care: a participatory study of care leavers’ experiences of health and social care transitions’, Child: care, health and development, 43 (2), tt. 182-191, doi:10.1111/cch.12426.

Llewellyn M., Verity F., Wallace S., Calder G., Garthwaite T., Lyttleton-Smith J. a Read S. (2023) O’r Ddeddf i’r Effaith? Adroddiad Terfynol ar Werthusiad Deddf Gwasanaethau  Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Caerdydd, Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 36/2023, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2023-03/or-ddeddf-ir-effaith-adroddiad-terfynol-ar-werthusiad-deddf-gwasanaethau-cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014.pdf (cyrchwyd: 11 Chwefror 2026).

Lundy, L., McEvoy, L. a Byrne, B. (2011) ‘Working With Young Children as Co-Researchers: An Approach Informed by the United Nations Convention on the Rights of the Child’. Early Education and Development, 22 (5), tt. 714-736, doi:10.1080/10409289.2011.596463.

Masterson, D., Areskoug, K., Robert, G., Nylander, E. a Sjellström, S. (2022) ‘Mapping definitions of co-production and co-design in health and social care: A systematic scoping review providing lessons for the future’, Health Expectations, 25 (3), tt. 902-913, doi:10.1111/hex.13470.

Rose, D. a Kalathil, J. (2019) ‘Power, Privilege and Knowledge: the Untenable Promise of Co-production in Mental “Health”’, Hypothesis and Theory, 4 (57), doi:10.3389/fsoc.2019.00057.

SCIE (2022) Co-production: What it is and how to do it, Llundain: Social Care Institute for Excellence, ar gael yn  https://www.scie.org.uk/co-production/what-how/ (cyrchwyd:11 Chwefror 2026).

Slay, J. a Stephens, L. (2013) Co-production in mental health: A literature review, London: New Economics Foundation, ar gael yn https://new-economicsf.files.svdcdn.com/production/files/ca0975b7cd88125c3e_ywm6bp3l1.pdf (cyrchwyd: 11 Chwefror 2026).

Turnhout, E., Metze, T., Wyborn, C., Klenk, N. a Louder, E. (2019) ‘The politics of co-production: participation, power, and transformation’, Current Opinion in Environmental Sustainability, 42, tt. 15-21, doi:10.1016/j.cosust.2019.11.009.