
Rhiannon Wright
Cymuned Dystiolaeth
Rydyn ni'n credu y bydd creu mannau i gysylltu a datblygu perthnasoedd yn arwain at newid parhaol a chadarnhaol.
Mae ein cymunedau yn dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.
Maen nhw’n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru.
Mae'r cymunedau'n cyfarfod ar-lein a mewn person, tra gall aelodau hefyd gysylltu trwy blatfform ar-lein.
Yma, mae’r Grŵp Gwybodaeth yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau dros y ddau fis diwethaf.
Ym mis Tachwedd, fe wnaeth y gymuned cynnal dair sesiwn myfyrio ar dystiolaeth ar wahanol grynodebau tystiolaeth sy'n cael eu cynhyrchu gan ein tîm ymchwil.
Y crynodebau tystiolaeth oedd:
Ym mis Tachwedd a Rhagfyr cynhaliwyd dwy gymuned ymholi. Cyflwynodd Dr Lucy Treby ei hymchwil 'Beth yw'r berthynas rhwng goruchwyliaeth ac ymarfer mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd?' Yna daeth Dr Laura Eddins i archwilio'r pwnc 'Deall y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru: Meysydd llywodraethu allweddol a chyfleoedd ar gyfer dulliau sy'n seiliedig ar drawma.
Ar 23 Ionawr bydd y gymuned yn cynnal sesiwn myfyrio ar dystiolaeth arall ar y pwnc 'Dweud celwyddau wrth bobl â dementia: a yw'n foesegol?'. Os hoffech chi fynychu, gallwch gofrestru yma.
Ar 5 Chwefror mae'r gymuned yn cynnal cymuned ymholiad arall ar bwnc anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws (FASD). Os hoffech chi fynychu'r sesiwn hon, gallwch gofrestru yma.
Ymunwch â’r Gymuned Dystiolaeth
Cymuned Dystiolaeth
Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le
Cymuned Unigolion Cyfrifol