Skip to Main content

Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Roedd hwn yn brosiect Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) ar y cyd â’r James Lind Alliance (JLA). Cafodd y prosiect ei gynnal rhwng mis Mawrth 2022 a mis Chwefror 2023.

Beth oedd amcanion y prosiect?

Roedd y prosiect yn gofyn i deuluoedd ac ymarferwyr yn y gwasanaethau a oedd yn eu cefnogi am y prif heriau yr oedden nhw’n eu hwynebu. Archwiliodd sut y mae dulliau seiliedig ar gryfderau, sy’n canolbwyntio ar gryfder a gwytnwch pobl, yn helpu i newid a gwella bywydau teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn cynnwys cefnogaeth gan staff awdurdodau lleol fel gweithwyr cymdeithasol a sefydliadau fel Action for Children a Barnardo’s. Mae hefyd yn golygu gwasanaethau penodol sy’n cefnogi anghenion arbennig megis iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, ceiswyr lloches a ffoaduriaid. A hefyd cefnogaeth grwpiau cymunedol, teulu a ffrindiau.

Sut gafodd y prosiect ei gynnal?

‘Beth sydd bwysicaf wrth ddatblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd yng Nghymru?’ Dyma’r cwestiwn oedd yn cael ei ofyn i rieni, teuluoedd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol er mwyn darganfod cyfleoedd am ymchwil newydd.

Roedd arolwg i gasglu cwestiynau pobl a wedyn eu gwirio yn erbyn y dystiolaeth bresennol. Yna cafodd ail arolwg ei gynnal gyda'n grwpiau rhanddeiliaid yn blaenoriaethu'r cwestiynau oedd heb eu hateb gan ymchwil.

Pwy a’n helpodd gyda’r gwaith?

Fe wnaethon ni ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid amrywiol a sefydliadau partner. Cafodd gweithgor ei sefydlu gyda phobl o wahanol gefndiroedd i'n helpu i ddatblygu ein cwestiynau ymchwil ac adolygu ein proses ar bob cam. Roedd y rhain yn cynnwys arbenigwyr pwnc, cynghorwyr rhieni, penaethiaid gwasanaeth, trydydd sector, a chydlynwyr prosiect o'r tri sefydliad partner.

Y 10 cwestiwn buddugol

Dyma’r cwestiynau cafodd eu dethol:

  1. Oes modd cefnogi teuluoedd i ddatrys problemau drostyn nhw eu hunain a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau?
  2. Sut gall ymarferwyr wneud mwy o ddefnydd o ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn eu gwaith bob dydd? (mae hyn yn golygu ymarferwyr sy’n medru adnabod a deall arwyddion a chanlyniadau trawma ar yr unigolion a theuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi).
  3. Beth yw'r ffordd orau o gefnogi plant ac aelodau o'r teulu gydag anawsterau iechyd meddwl?
  4. Sut gall ymarferwyr ysgogi a chefnogi teuluoedd i ymgysylltu'n well â dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gryfderau?
  5. Beth yw'r ffordd orau o gefnogi teuluoedd lle mae pobl ifanc yn dangos ymddygiad ymosodol neu dreisgar sy’n bygwth rhieni/gofalwyr?
  6. Beth yw’r ffordd orau i gefnogi ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu rieni niwrowahanol? (er enghraifft, ADHD neu awtistiaeth)
  7. Sut gall ymarferwyr weithio orau gyda dynion a thadau?
  8. Beth sy'n gweithio orau i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth fel bod teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u clywed a bod amcanion  yn cael eu cyrraedd yn gynt ond yn rhai hir dymor?
  9. Sut gall gwasanaethau gydweithio'n well er mwyn sicrhau profiad mwy cyson a chanlyniadau gwell i deuluoedd?
  10. Beth yw'r ffordd orau i deuluoedd gael cymorth ymarferol sy’n eu helpu i delio â straen pethau fel talu llety, cadw tŷ, coginio, biliau, bod yn brin o arian ac ati?

Yn y gweithdy, cafodd y cwestiynau canlynol eu trafod hefyd a'u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth:

11.Sut mae ymarferwyr yn cydbwyso'r defnydd o dystiolaeth a modelau ymchwil gyda'u profiad a’u gallu wrth gefnogi a ffurfio perthynas â theuluoedd?

12. Pa elfennau sydd angen mwy o archwilio o ran rôl a defnydd dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn? (Mae hyn yn golygu pan fydd yr unigolyn a’r teulu wrth wraidd y gwasanaeth ac yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am eu bywyd)

13. Beth yw effaith newid rheolaidd gweithwyr cymorth ac o fewn timau’n gyffredinol ar blant, teuluoedd a chymorth gwaith cymdeithasol?

14. Oes modd cynyddu cyfleoedd i gymdeithasu (er enghraifft, grwpiau a chlybiau lleol, tripiau un dydd) i gefnogi teuluoedd sydd wedi eu hynysu?

15. Sut y gall amser/cyswllt teuluol rhwng plant sydd wedi eu mabwysiadu a'u brodyr a'u chwiorydd a/neu rieni gael eu rheoli'n well?

16. Sut gallwn ni sicrhau bod lleisiau cleientiaid di-eiriau yn cael eu clywed o fewn darpariaeth gwasanaeth?

Beth ydyn ni’n gwneud gyda’r blaenoriaethau?

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i roi’r cwestiynau ymchwil ar waith. Mae blaenoriaethau ymchwil yr ymarfer hwn wedi cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, rydyn ni wedi creu sawl crynodeb tystiolaeth gyda’r themau cafodd eu nodi yn yr ymarfer: