
Egwyddorion a dulliau DEEP
Mae'r dull Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) yn cael ei ymgorffori mewn sawl ffordd.
Yn yr adran hon, rydyn ni'n disgrifio'r egwyddorion sy'n sylfaen i DEEP ac yn archwilio rhai o'r dulliau sy'n cael eu defnyddio fel rhan o raglen DEEP.
Egwyddorion DEEP
Mae ymagwedd DEEP wedi ei seilio ar egwyddorion penodol sy'n ein helpu drwy:
- cefnogi llesiant pawb
- dechrau gyda beth y mae pobl yn gwybod ac yn ei chael yn ddiddorol
- gwneud synnwyr o'r hyn yr ydym yn ei ddysgu
- rhannu pob math o wybodaeth
- defnyddio stori i ddysgu
- ystyried cyd-destun wrth ddefnyddio tystiolaeth
- rhannu arweinyddiaeth a phenderfyniadau
- herio'n gilydd yn garedig.
Dulliau sy'n cael eu defnyddio fel rhan o Ymagwedd DEEP
Dyma ddisgrifiad byr o'r dulliau cyffredin rydyn ni'n defnyddio:
Ymholi Gwerthfawrogol (AI)
Mae AI yn ddull datblygu ymarfer sy'n cael ei seilio ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, neu'n mynd yn dda. Mae pum cam iddo: diffinio, darganfod, breuddwydio, dylunio a darparu.
Cymuned Ymholi (CoE)
Mae CoE yn ddull 10 cam. Mae'n defnyddio tystiolaeth fel sbardun i archwilio neu greu cwestiynau ymarfer a/neu bolisi. Mae'n ddull sy'n dda am ddangos rhagdybiaethau ac ystyried goblygiadau'r tystiolaeth.
Cyd-ddylunio ar sail profiad (EBCD)
Mae EBCD yn casglu straeon profiad, gan fapio uchafbwyntiau - ac isaf bwyntiau - taith personol yr unigolyn. Mae'r dull DEEP eiliadau hud/trasig yn deillio o EBCD drwy gasglu straeon unigryw am yr eiliad hud (uchafbwynt) a/neu drasig (isafbwynt).
Sgwrs Archwiliadol
Mae Sgwrs Archwiliadol yn gallu rhoi strwythr i drafodaeth. Gall osod rheolau neu ffiniau er mwyn helpu pobl siarad a meddwl gyda'i gilydd.
Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC)
Mae MSC yn casglu straeon sy'n amlygu beth sydd wedi newid i bobl o ganlyniad i fenter neu ymyriad. Mae'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn cael ei archwilio gan baneli o bobl sy'n trafod y straeon ac yn dewis yr un y maen nhw'n cytuno sydd fwyaf arwyddocaol.

"Cefais wahoddiad i ymuno â gweithdy Eiliadau Hud... Gan ddefnyddio dull Sgwrs Archwiliadol, roedden ni'n archwilio gwerthoedd, rhagdybiaethau, a goblygiadau'r hyn gafodd ei rannu a'i drafod. Roedd y straeon a glywais yn dangos i mi fod unrhyw beth yn bosib a bod 'methu' ddim yn fy ngeiriadur i ... Mae'n dangos y gallwch chi gyflawni unrhyw beth mewn gwirionedd drwy ymdrechu. Roedd hwnna'n ysbrydoliaeth mawr."
- Josh, person ifanc â phrofiad bywyd.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi archwilio egwyddorion DEEP a'r dulliau sy'n cael ei rhoi ar waith drwy gyfleoedd dysgu DEEP.
Mae digwyddiadau, sesiynau dysgu a chyrsiau DEEP yn cael eu hyrwyddo ar ein tudalen digwyddiadau neu dudalen eventbrite DEEP.