Skip to Main content

Dathlu 15 mlynedd o Dimau Integredig Cymorth i Deuluoedd

04 Rhagfyr 2025

Mae Jay Goulding, ein Rheolwr ar gyfer ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, yn gyn-weithiwr cymdeithasol ymghynghorol gyda phrofiad personol o'r dull pwerus hwn. Yn y blog hwn, mae’n myfyrio ar ddathlu'r garreg filltir bwysig hon.

“Ni allaf feddwl am unrhyw ymyrraeth mewn gwasanaethau plant sydd â sylfaen dystiolaeth gadarnhaol gryfach na'r model cymorth dwys i deuluoedd sy'n cael ei ddefnyddio gan Dimau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Mae'r dull cymorth dwys i deuluoedd yn gyson wedi cael ei ddangos i leihau'r angen i blant fynd i ofal - yn ogystal â chadw teuluoedd gyda'i gilydd, mae'n arbed arian.” - yr Athro Donald Forrester 

Ar ddechrau fis Tachwedd, daeth pobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd yn y Trallwng i ddathlu 15 mlynedd o Dimau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFST). Fe wnes i ag eraill yng Ngofal Cymdeithasol Cymru gyd-drefnu a chynnal y digwyddiad gyda chydweithwyr Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS). Roedd y ffocws ar adeiladu perthnasoedd, cefnogaeth a gwella, yn unol ag Ymlaen: ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.

Nid dathlu pen-blwydd yn unig oedd hwn - roedd yn gyfle i fyfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod, ailgysylltu â'r gwerthoedd sy'n ein harwain ni, ac edrych ymlaen at y dyfodol.

Beth yw'r model IFST?

Cafodd y model ei gyflwyno yn 2010 i gefnogi teuluoedd sy'n wynebu heriau cymhleth. Yn ein digwyddiad, atgoffodd Rhoda Emlyn-Jones OBE fod y dull hwn wedi'i ddatblygu i wrthsefyll yr effaith negyddol y gall rhai ymyriadau ei chael ar deuluoedd.

Mae'r model yn helpu ymarferwyr i:

  • fabwysiadu agwedd gyfannol
  • adeiladu ar gryfderau sydd eisoes yn bodoli
  • defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth wrth ymarfer
  • hyrwyddo sgyrsiau cydweithredol
  • grymuso teuluoedd i ddeall eu hamgylchiadau
  • hwyluso newid ystyrlon.

Uchafbwyntiau'r digwyddiad

Straeon, ymchwil a myfyrio

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan Paul Regimbal, rheolwr tîm yn IFSS Sir Benfro, gan adlewyrchu naws rhaglen oedd yn cyfuno hanes, tystiolaeth a phrofiad byw. Siaradodd Rhoda'n angerddol am arferion sy'n seiliedig ar berthynas a'u rôl wrth weithredu uchelgeisiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - gan ein hatgoffa "na allwn ni fforddio peidio â chael sgyrsiau cydweithredol."

Daeth un o'r enghreifftiau mwyaf teimladwy pan rannodd Cheryl King, gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn IFST Sir Benfro, stori Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) gan rywun sydd â phrofiad byw. Roedd y stori hon yn dangos effaith drawsnewidiol IFSS ac yn sbarduno trafodaethau cyfoethog am werthoedd, egwyddorion, a phŵer ysgrifennu llythyrau therapiwtig yn uniongyrchol at y teulu.

“Roedd staff ledled Cymru'n gallu dod at ei gilydd, meithrin cysylltiadau wrth brofi methodoleg ymchwil ac ymarfer cyfredol ac effeithiol. Roedd hyn yn grymuso ymarferwyr, gan eu helpu i gadw’r cysylltiad â'u gwerthoedd.” 

- Adborth gan gyfranogwr

Arweiniodd ein Swyddog Ymchwil Dr Grace Krause sesiwn ar adeiladu ymddiriedaeth gyda theuluoedd ymylol, gan dynnu ar ei chrynodeb tystiolaeth. Dilynodd Emma Taylor-Hill, ein Rheolwr Symudedd Gwybodaeth, gyda sesiwn fyfyriol. Roedd themâu tlodi, rhagfarn, a'r angen i ymgysylltu â thadau yn atseinio'n gryf. Soniodd hefyd am bwysigrwydd goruchwyliaeth fyfyriol wrth archwilio gwerthoedd a rhagdybiaethau.

Roedd sesiwn Donald ar gyfweliadau ysgogiadol (MI) ac ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau yn ein herio i feddwl yn ddwfn am wrthdaro, anghydraddoldeb, a'r bwlch rhwng rhethreg a realiti. Roedd ei uchelgais yn glir: "i greu cymdeithas hael a thrugarog”. Ac fe wnaeth ein hatgoffa bod ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau yn mynd y tu hwnt i ddulliau sy'n seiliedig ar gryfderau.

Cafodd MSC ei gyflwyno fel dull dysgu a gwerthuso sy'n seiliedig ar ddeialog gan Nick Andrews o raglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a Michael Gray, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cyngor Sir Benfro. Dynnodd y ddau sylw at y ffaith y gall MSC fynd i'r afael ag anghydbwysedd pŵer a chreu amgylcheddau dysgu lle gall pobl gysylltu â'i gilydd. Fel y nododd Michael, mae MSC yn cysylltu pobl ar lefel emosiynol ac yn datgelu cyfyngiadau gwerthuso pur feintiol. Mae blog diweddar Nick hefyd yn archwilio sut mae MSC yn cael ei ddefnyddio fel dull gwerthuso sy'n canolbwyntio ar ddysgu yng Nghymru.

Pam mae IFST yn bwysig

Atgoffodd Donald bawb am rywbeth hanfodol:

“...mae'r dystiolaeth yn dangos un ffaith bwysig arall i ni: dim ond pan fydd yn cael ei wneud yn dda y mae IFSS yn cynhyrchu'r effeithiau hyn. Nid yw'n gweithio pan nad ydych chi'n ei wneud yn iawn - mae'n rhaid iddo fod yn wasanaeth ymyrraeth argyfwng gwirioneddol, gyda llwyth achos isel, lefel uchel iawn o fewnbwn a defnyddio dulliau fel cyfweld ysgogiadol.”

Mae aros yn driw i'r model gwreiddiol tra hefyd yn gwthio am newid system yn her ac yn gyfle. 

Mae'r canlyniadau pwysicaf yn cynnwys:

  • cadw teuluoedd gyda'i gilydd
  • lleihau anghydraddoldeb
  • creu amodau ar gyfer newid.

Cefais y fraint o hwyluso trafodaeth banel ar newid system i gloi’r digwyddiad. Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar arweinwyr a newid naratif oherwydd bod trawsnewidiad go iawn yn digwydd pan fyddwn ni’n newid y ffordd rydyn ni'n meddwl ac yn siarad am deuluoedd.

Roedd y digwyddiad yn ffordd bwerus o’n hatgoffa nad gwasanaeth yn unig yw'r model IFST. Mae'n fudiad wedi'i adeiladu ar dystiolaeth, gwerthoedd a pherthnasoedd. Ein nodau yw parhau i ddysgu, cysylltu, a llunio system ddynol. System sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n wirioneddol drawsnewidiol i'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi.

Awdur y blog

Jay Goulding

Jay Goulding

Rheolwr ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau

Rwy'n arwain ein gwaith i ymgorffori dulliau sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl ac yn adeiladu ar eu cryfderau. Rwyf wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 25 mlynedd, gan gynnwys fel Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol a Rheolwr yn un o Dimau Cymorth Integredig i Deuluoedd arloesol Cymru. Mae hyn wedi rhoi profiad a mewnwlediad o effaith y model i mi. Rwy'n angerddol am ymarfer sy'n seiliedig ar berthynas, dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chreu systemau sy'n grymuso teuluoedd ac ymarferwyr i gyflawni newid ystyrlon.