Trefnodd Gonsortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru (4Cs) a Gofal Cymdeithasol Cymru ddau ddigwyddiad ym mis Medi ar fodelau gofal preswyl plant.
Yn y blog hwn, mae Dr Gill Toms yn myfyrio ar y ddau ddigwyddiad. Ac ar gyfraniad y tîm Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a Rhiannon Wright sy'n rheoli ein Cymuned Dystiolaeth, i gefnogi pobl i rannu a dysgu.
Pwy ydyn ni?
Drwy ein Cymuned Dystiolaeth, mae Rhiannon yn helpu pobl i gael mynediad at, casglu, a defnyddio ymchwil. Ein rôl yn rhaglen DEEP yw helpu pobl i siarad yn dda gyda'i gilydd i rannu a dysgu gan ddefnyddio pob math o dystiolaeth.
Ein dulliau: sgwrs archwiliadol
Dechreuon ni bob digwyddiad drwy rannu'r dull 'sgwrs archwiliadol'. Mae hon yn ffordd o sgwrsio sy'n helpu i feithrin cyd-ddealltwriaeth wrth i bobl esbonio rhesymau dros eu meddyliau neu gredoau. Rydyn ni'n annog cwestiynau o fewn y dull hwn fel bod anghytundebau'n cael eu harchwilio. Mae hyn yn helpu creu amgylchedd sy'n agored ac yn gefnogol o rannu a dysgu.
Aethon ni ymlaen i hwyluso gweithdy i fyfyrio ar grynodeb tystiolaeth Cefnogi canlyniadau cadarnhaol mewn gofal preswyl i blant.
Rhoddodd dîm ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru drosolwg o'r crynodeb tystiolaeth. Cafodd bobl eu hannog, mewn grwpiau bach, i drafod pedwar cwestiwn:
- beth roedden nhw'n ei hoffi am y crynodeb
- beth wnaeth iddyn nhw fyfyrio
- beth oedd ar goll
- sut allai'r crynodeb tystiolaeth gysylltu ag ymarfer.
Roedd cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu myfyrdodau, gan ysbrydoli rhai trafodaethau diddorol iawn. Er enghraifft, trodd sgyrsiau yn y ddau ddigwyddiad at sut i ailgynllunio cartrefi preswyl er mwyn osgoi cael swyddfa staff. Cafodd hyn ei drafod yn y crynodeb tystiolaeth fel ffordd o wneud i ofal preswyl deimlo'n fwy cartrefol.
Yn y digwyddiadau, roedd cartrefi a oedd eisoes wedi gwneud yr addasiad hwn yn rhannu awgrymiadau. Rhannodd leoliadau eraill sut yr oedden nhw wedi gwneud swyddfa'r staff yn ofod diogel a chadarnhaol i bobl ifanc.
Ar ddiwedd y sesiwn, roedd cyfle i bobl osod nodiadau gludiog ar ein wal fyfyrio i ddangos camau gweithredu yr oedden nhw'n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i'r hyn a oedd wedi'i rannu a'i ddysgu.
Roedd y sylwadau'n cynnwys:
- edrych ar sut i gyfyngu amser swyddfa staff a symud at brosesau di-bapur
- gwneud gwrando ar bobl ifanc yn flaenoriaeth
- ystyried y crynodeb ar y cyd, fel rhanbarth, er mwyn gwella ymarfer.
"Roedd DEEP ac agweddau ar ymarfer sydd wedi'i gyfoethogi gan dystiolaeth, yn helpu creu amgylchedd o chwilfrydedd a her gadarnhaol. Roedd hyn yn helpu'r rhai a oedd yn bresennol i deimlo'n ddiogel i rannu eu straeon ac archwilio eu syniadau a'u rhagdybiaethau."
- Hannah Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwella, Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ein dulliau: ennyd euraidd
Ar ddiwedd y ddau ddigwyddiad, cawsom gyfle i hwyluso gweithdy 'ennyd euraidd'. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle i bobl rannu a dysgu drwy straeon byrion am brofiadau. Roedden ni'n awyddus i ofyn am straeon cadarnhaol am ofal preswyl plant, er mwyn clywed am yr ymarfer da sydd eisoes yn digwydd.
Yn eu grwpiau, rhannodd a thrafododd pobl eu profiadau cadarnhaol. Roedd cyfle wedyn i rannu gyda'r ystafell gyfan. Glywson ni straeon hyfryd am wneud gwahaniaeth gadarnhaol i fywydau pobl ifanc. Adroddodd rhai am newiadau a ddigwyddodd yn syth bin. Ond roedd eraill yn myfyrio ar bethau positif oedd yn dod i'r amlwg dros amser.
Roedd rhannu ennyd euraidd yn ddiweddglo hynod bositif a gobeithiol.
Mwy o wybodaeth!
Cliciwch y linc, os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Dystiolaeth.
Am fwy o wybodaeth ar ddulliau DEEP ewch at wefan DEEP. Mae'r dudalen digwyddiadau yn nodi cyfleoedd hyfforddi yn nulliau DEEP.
Mae gennym ni crynodebau tystiolaeth ar ystod o bynciau. Bwrwch olwg arnyn nhw!