Profiad o'r gorffennol neu brofiad cyfredol
Yr hyn sydd wedi fy nharo yn ddiweddar yw'r gwahaniaeth rhwng 'profiad byw' fel rhywbeth a ddigwyddodd eisoes i gymharu â rhywbeth sydd o hyd yn cael ei brofi heddiw. Yn Saesneg mae'r gwahaniaeth yn cael ei weld yn nhermau fel ‘lived’ a ‘living’ experience.
Mae'n wahaniaeth bach o ran amseru, rhwng y gorffennol a'r presennol, ond mae’n gallu cael effaith enfawr ar recriwtio unigolion i rannu eu stori. Pryd y daw profiad yn rhywbeth gorffenedig, sy’n bodoli yn y gorffennol yn unig?
Mae 'byw' yn awgrymu rhywbeth sy'n parhau i gael ei deimlo a'i wybod. Rwy'n credu bod y ffocws hwn ar brofiadau'r gorffennol fel pethau sy’n bodoli ar wahan i’r presennol yn ddiddorol. Ac wedi'i lywio gan syniad o fywyd fel rhywbeth cronolegol sy’n dilyn llinell taclus. Wrth gwrs, mewn gwirionedd mae bywyd yn fwy cymhleth ac anodd ei ragweld.
Weithiau, mae gallu pobl i rannu profiad yn dibynnu ar eu sefyllfa. Er enghraifft, yn ddiweddar roedden ni wedi cysylltu â rhywun i rannu stori a fyddai’n rhoi mewnwelediad ac yn helpu pobl i ddysgu. Ond roedd rhannu’n amhosibl iddyn nhw oherwydd digwyddiad bywyd annisgwyl. Nid oedd bellach yn foesegol nac yn briodol i ni fynd ar drywydd eu cyfranogiad. Rydyn ni wedi dysgu bod hyn yn rhan o'r broses.
Mae'r Fframwaith Synhwyrau yn awgrymu bod diogelwch seicolegol yn gysylltiedig â phethau fel cysondeb, diogelwch corfforol, parhad a sicrwydd. Mae defnyddio'r model hwn wrth gynnwys pobl â phrofiad byw, yn ein helpu i gydnabod bod pobl yn aml yn delio â phethau cymhleth, a all wedyn effeithio ar ddiogelwch.
Creu cyfleoedd
Ar gyfer y digwyddiad cyntaf ar thema Diogelu drwy’r cyfnod pontio, yng Nghasnewydd, roedden ni’n ffodus i fod wedi dod o hyd i rywun a oedd yn gyfforddus ac yn hyderus yn rhannu ei stori gyda ni. Mae Wes Cunliffe, sy’n ymddangos yn ein fideo, yn disgrifio sut brofodd drawma a heriau cymhleth wrth dyfu i fyny. Arweiniodd hyn at ymwneud â gangiau a llinellau sirol. Mae Wes bellach yn ymgynghori â Heddlu De Cymru ar achosion perthnasol er mwyn gallu rhannu ei brofiad ac eirioli dros bobl ifanc.
Pan fyddwn ni’n cysylltu â phobl sydd â stori o brofiad i'w rhannu yn ein digwyddiadau, rydyn ni’n ymwybodol o'r angen i roi digon o amser iddyn nhw. Heb hyn, gall eu cyfraniad ymddangos fel rhywbeth symbolaidd. Ac yn anfwriadol mae hyn yn gallu bychanu’r profiad.
Pan fydd rhywun yn medru rhannu ei stori yn gyfforddus, mae’n gallu cael effaith ddofn ar gynulleidfa. Gall pobl rannu eu straeon yn bersonol, trwy recordiad llais, fideo neu mewn darn ysgrifenedig. Y peth pwysicaf yw ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n teimlo'n iawn i'r unigolyn.
Mae hyn yn caniatáu dewis a rheolaeth i bobl ymgysylltu yn unol â'u hegwyddorion personol. Rydyn ni hefyd yn mynd yn ôl at bobl ar ôl digwyddiadau i roi adborth a diweddariad am yr effaith y mae eu stori wedi ei chael. Neges allweddol sy’n dod o’r digwyddiadau yw y 'gall un person wneud gwahaniaeth a gall pawb roi cynnig arni'.
Beth yw'r rhwystrau?
Mae dod o hyd i bobl sydd eisiau rhannu stori yn heriol weithiau ac mae rhai pethau pwysig sy’n rhaid ystyried.
Ystyriaethau ymarferol
- Mae cydnabod parodrwydd i rannu stori yn ymwneud ag ystyriaethau moesegol a moesol. Mewn rhai achosion, gall fod person yn dioddef argyfwng a nad yw pethau'n sefydlog o ran yr hyn y gallwn gyfeirio ato fel hierarchaeth Maslow o anghenion dynol (er enghraifft, tai neu ddiogelwch personol). Efallai na fydd yn bosibl nac yn foesegol gofyn iddynt rhannu stori. Wrth gwrs, mae gan bob un ddewis o ran ymgysylltu â'r broses, ond mae llinell gain rhwng darparu dewis ac achosi niwed.
- Asesiad deinamig – mae hyn yn golygu casglu gwybodaeth mewn amser real. Pan fyddwn yn recriwtio pobl sydd â phrofiad byw, mae angen i ni ystyried y gall pethau newid yn gyflym ac yn anffodus gwaethygu i’r pwynt lle na allan nhw gwrdd ag ymrwymiadau.
- Ymrwymiad amser – mae hyn yn ymwneud ag amser unigolyn o ran cyfrannu ei stori a hefyd y gefnogaeth a'r berthynas sydd eu hangen gan weithwyr proffesiynol sy'n curadu’r cyfraniad. Mae'n hanfodol cynllunio’r amser hwn i osgoi gweithredu mewn ffordd wamal ac yn waeth achosi niwed pan nad yw pobl yn cael eu cefnogi'n briodol. Gall cynllunio da gael effaith enfawr ar ba mor gadarnhaol a hyderus mae person yn teimlo am y profiad.
- Taliad a chydnabyddiaeth – gall hyn fod yn faes cymhleth wrth ystyried rheolau budd-daliadau. Gall hefyd fod goblygiadau ar gyfer cydnabyddiaeth/cydsyniad/rhannu wrth gadw at gyfrinachedd lle gallai fod pryderon diogelu neu faterion eraill.
Dulliau sy'n seiliedig ar berthynas
Fel tîm, rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus wrth adeiladu perthynas â phobl sydd wedi ymddangos yn ein sioeau teithiol i rannu eu straeon. Rydyn ni wedi arwain gydag ymddiriedaeth a pharch ac mae rhan o'r broses wedi cynnwys mynd yn ôl atynt i ddiweddaru ar effaith rhannu eu stori. Rydyn ni am iddynt ddeall gwerth eu cyfraniad a sut mae wedi cefnogi dysgu a datblygu i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
I gloi
Gall clywed gan bobl sy’n rhannu eu profiadau, p’un ai yn y gorffennol neu sy’n dal i’w profi, ddod â'r neges ymchwil yn fyw. Er bod rhai heriau ynghlwm wrth rannu stori, mae'n ffordd bwerus o ymgysylltu yn ddeallusol ac yn emosiynol.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth
Ewch i'n tudalen sioeau teithiol ymchwil i gael rhagor o wybodaeth am ein dull o gasglu ynghyd ymchwilwyr, ymarferwyr a phobl â phrofiad byw.
Mae ein Fframwaith adrodd stori yn rhoi enghreifftiau ymarferol a gwybodaeth ynghylch moeseg a manteision adrodd stori.