Skip to Main content

'Llywio'r storm': Ymarfer sy'n ystyriol o drawma a thrawma dirprwyol

23 Hydref 2025

Daeth ein Cymuned Dystiolaeth a’n Cymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le at ei gilydd i gynnal digwyddiad mewn person ym mis Gorffennaf ar ymarfer sy’n ystyriol o drawma a thrawma dirprwyol. Dyma’r cyntaf o ddau flog sy’n archwilio mewnwelediad o ddigwyddiadau ein cymunedau ar y pwnc hwn.  

Trawma dirprwyol

Ymunodd Dr Tegan Brierley-Sollis, sy’n ddarlithydd mewn plismona, troseddeg a dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma ym Mhrifysgol Wrecsam.

Archwiliodd Tegan sut oedd cefnogi pobl oedd wedi profi trawma yn gallu effeithio ar ymarferwyr gofal cymdeithasol: 

"Mae trawma dirprwyol yn digwydd trwy drosglwyddo gweddillion emosiynol o'r rhai sydd wedi profi trawma i'r rhai sy'n cysylltu â nhw mewn perthynas empathig. Dychmygwch fod eich golwg fewnol ar y byd fel ffenestr wydr lliw. Trawma dirprwyol yw pan fydd ymwneud â thrawma eraill dro ar ôl tro yn araf gracio neu'n ystumio'r gwydr hwnnw. Gall erydu eich ymdeimlad o ymddiriedaeth, diogelwch, ac ystyr - siapio meddyliau fel 'Ni allaf helpu,' neu 'Nid yw'r byd yn ddiogel'."

Ymarfer sy’n ystyriol o drawma

Fel rhan o’r sesiwn, fe wnaethom fyfyrio ar bwysigrwydd ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac atgoffa ein hunain o'r pum gwerth craidd o ymarfer sy'n ystyriol o drawma fel yr amlinellwyd gan Harris a Fallot (2001).

  1. Diogelwch: darparu esboniadau manwl, cysondeb, dilyn gweithdrefnau cywir.
  2. Dibynadwyedd: cynnal ffiniau priodol, rhoi adborth – cau’r ddolen adborth, arddangos ymddiriedaeth.  
  3. Dewis: caniatáu i unigolion gymryd rheolaeth a darparu caniatâd gwybodus.
  4. Cydweithredu: sicrhau bod unigolion yn medru rhoi mewnbwn i'w hadferiad a/neu ymyrraeth.
  5. Grymuso: cefnogi unigolion i fagu hunan hyder.

Mae Tegan wedi gweithio ar brosiect ymchwil gyda Heddlu Gogledd Cymru i archwilio gwerth cymorth cymheiriaid i helpu i wella llesiant. Dywedodd un cyfranogwr yn yr astudiaeth a gymerodd ran mewn goruchwyliaeth gymheiriaid rheolaidd:

“Roeddwn i’n gwybod heb os fod yna ofod i mi ddweud fy nweud a lle diogel i drafod hyn gyda rhywun… felly ’roedd yn gysur mawr”. 

Dywedodd llawer o ymarferwyr gofal cymdeithasol a fynychodd ein digwyddiad yr hoffent gael ffocws tebyg ar oruchwyliaeth cymheiriaid o fewn eu timau. Ymatebodd pobl yn gadarnhaol iawn i'r ffilm animeiddiedig Navigating the storm, a rannodd Tegan fel rhan o'r cyflwyniad hwn. Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo y byddai'n adnodd defnyddiol i'w rannu at ddibenion hyfforddi o fewn eu sefydliadau.

Goleudy ac angor

Gofynnon ni i gyfranogwyr feddwl am heriau posibl neu unrhyw beth oedd wedi taflu goleuni ar y pwnc. Cafodd y rhain eu labeli naill ai fel 'goleudy' neu ‘angor’. Mae angor yn aml yn cael ei ddefnyddio fel symbol cadarnhaol. Fodd bynnag, yn y cyd-destun hwn mae’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at bethau sy'n gallu ein dal yn ôl, ein cadw'n sownd a'n hatal rhag symud ymlaen.

Dyma ambell ‘angor’ (her neu rwystr) rhannodd pobl yn ystod y dydd: 

  •  “Gallwn ni gael trafferth datblygu perthynas gyda rhywun sydd wedi profi trawma. Ac nid yw wastad yn bosib rhoi digon o amser iddyn nhw ymddiried ynom a rhannu ei stori.”
  • “Yr ymarferwyr sydd weithiau’n ei chael hi’n anoddaf cydnabod effaith yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed. Maen nhw’n llai tebygol o siarad neu gael mynediad at gymorth. Wedyn maen nhw’n cael eu gorlethu neu’n gadael y sector.”

Er bod rhai o'r anawsterau hyn yn cael eu trafod yn ystod y sesiwn, roedd eraill yn fwy cymhleth.

Rydyn ni wedi cynhyrchu canllaw gall gefnogi adeiladu diwylliant cadarnhaol i bobl sy’n defnyddio neu ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol: Canllaw: cefnogi diwylliannau cadarnhaol - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi.

Rhannodd bobl lawer o fewnwelediadau cadarnhaol. Dyma rai o’n hoff sylwadau ‘goleudy’. 

  • “Cofiwch fod pob enghraifft o ryngweithio’n ymyrraeth” (yn seiliedig ar ddamcaniaeth Dr Karen Treisman).
  • “Pwysigrwydd cysylltiad” a sut y gall "newid cwrs bywyd unigolyn".
  • “Mae’r gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi gobaith i mi y gallwn ni argyhoeddi pobl am bwysigrwydd trafod llesiant yn rheolaidd, hyd yn oed pan na fyddan nhw’n teimlo’r angen.”

Argraffiadau

Soniodd un unigolyn eu bod yn bwriadu awgrymu’r syniad o gael egwyl llesiant yn eu gweithle. Roedd eraill yn ystyried sut i greu mwy o fannau diogel er mwyn cael trafod yn fwy agored yn y gwaith.

Roedd pawb yn cytuno am bwysigrwydd gofalu am ymarferwyr. A bod sicrhau ymwybyddiaeth o bynciau fel trawma dirprwyol ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn golygu gwell canlyniadau yn y pen draw i’r bobl y maen nhw'n eu cefnogi. 

Ymunwch â ni!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â digwyddiad tebyg, ewch i'r dudalen Digwyddiadau sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o un o'n cymunedau gwych, ewch i: Ymuno â chymuned.

Adnoddau ychwanegol - Cliciwch i ehangu

Yn ogystal â'r dolenni rydyn ni wedi'u cynnwys yn y blog hwn, efallai y byddwch chi'n gweld yr adnoddau a'r cyfeiriadau hyn yn ddefnyddiol.

Hyb ACE Cymru/Straen Trawmatig Cymru, Fframwaith Cymru sy’n ystyriol o drawma, ar gael yn Cymru-syn-Ystyriol-o-Drawma.pdf (cyrchwyd: 10 Medi 2025).

Cordis Bright a Taylor-Collins, E. (2024) Dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/dulliau-gweithredu-syn-ystyriol-o-drawma (cyrchwyd: 10 Medi 2025).

Harris, M., a Fallot, R. D. (gol.) (2001) Using trauma theory to design service systems, Jossey-Bass/Wiley.

Gofal Cymdeithasol Cymru (2025 ) Cefnogi eich iechyd a llesiant, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/adnoddau-iechyd-a-llesiant (cyrchwyd: 10 Medi 2025).

Awduron y blog

Lilla Vér

Lilla Vér

Rwy'n gofalu am ein Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le. Fy rôl i yw creu a meithrin gofod i bobl ddysgu gyda'i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae fy mhrofiadau blaenorol yn cynnwys datblygu llwybrau cymorth yn y systemau cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau, a rheoli prosiectau.

Rhiannon Wright

Rhiannon Wright

Rwy'n rheoli ein Cymuned Dystiolaeth. Ei nod yw hwyluso ymchwil a thystiolaeth i ymarferwyr prysur. Rwy’n teimlo'n gryf y dylai ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol fod yn hygyrch ac yn haws i’w defnyddio'n ymarferol.

Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac mae gennyf gefndir mewn gwasanaethau plant awdurdodau lleol. Treuliais hefyd flynyddoedd lawer yn y trydydd sector yn gweithio’n therapiwtig gyda phlant, gan ganolbwyntio ar bynciau camfanteisio rhywiol, ymddygiad rhywiol niweidiol a thrawma datblygiadol.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i fwrdd diogelu rhanbarthol, yn cydlynu adolygiadau ymarfer oedolion a phlant ac yn datblygu eu strategaeth sicrhau ansawdd.