Skip to Main content

Pam rydyn ni'n datblygu safonau data ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru - a sut y gallwch chi helpu

20 Hydref 2026

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gwahodd pobl o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol i rannu eu barn ar ein safonau data gweithredol lleiaf drafft ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae safonau data gweithredol lleiaf yn set gytûn o eitemau data hanfodol, diffiniadau a therminoleg sy'n helpu pobl i gofnodi a rhannu gwybodaeth yn gyson. Maen nhw'n ei gwneud yn haws i ddata gael ei rannu rhwng sefydliadau a systemau pan fo angen.

Mae'r ymarfer adborth yn gam pwysig wrth ddatblygu'r safonau hyn. Mae'n rhoi cyfle i ni glywed gan bobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol a sicrhau bod y safonau'n glir, yn ymarferol ac yn adlewyrchu anghenion y sector, gan helpu i wella ansawdd gofal a chymorth.

Ond dim ond rhan o'r stori yw'r ymarfer adborth.

Yn y blog hwn, mae Owen Davies, ein Pennaeth Rhaglenni Data Strategol, yn esbonio pam rydyn ni'n datblygu safonau data ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, beth rydyn ni wedi'i ddysgu o waith tebyg mewn mannau eraill, a sut mae ymarferwyr, rheolwyr, arbenigwyr data a gweithwyr digidol yn helpu i lunio'r safonau.

Mae datblygu'r safonau data yn rhan o'n rhaglen ddata strategol ac yn cael ei hariannu gan Raglen Cysylltu Gofal ar gyfer Gofal Cymdeithasol (CCSCP) a'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR).

Her hirsefydlog

Nid yw'r awydd i wella'r ffordd rydyn ni'n rhannu gwybodaeth yn her newydd.

Cyhoeddwyd y ddogfen bolisi gyntaf yng Nghymru a nododd yr angen i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agosach yn 2001. Yn y 25 mlynedd ers hynny, mae amrywiaeth o ddulliau wedi cael eu treialu i rannu data rhwng sefydliadau yn fwy effeithiol. Nid yw'r un o'r dulliau hynny wedi bod yn gwbl lwyddiannus nac wedi darparu'r lefel o rannu gwybodaeth sydd ei hangen ar weithwyr proffesiynol i gael mynediad at ddata am y bobl y maen nhw'n eu cefnogi.

Yn 2020, nodwyd eto'r angen i rannu data rhwng sefydliadau drwy ein gwaith darganfod gyda KPMG ar ddatblygu dull strategol o ymdrin â data ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Amlygodd hyn hefyd yr angen am safonau data. Drwy gytuno ar ddiffiniadau cyffredin, gall sefydliadau rannu gwybodaeth yn fwy hyderus ac ymddiried ei bod yn golygu'r un peth ym mhob man y mae'n cael ei defnyddio.

Daeth rhannu data'n fwy effeithiol a chreu dulliau safonol ar gyfer ein cynhyrchion digidol a data yn amcanion yn ein Datganiad o Fwriad Strategol y flwyddyn ganlynol. Ers hynny, rydyn ni wedi cynnal amrywiaeth o brosiectau sydd wedi dechrau troi'r uchelgeisiau hynny yn weithredu.

Dull wedi'i dargedu

Yn 2025, dechreuon ni weithio gyda BetterGov ac Answer Digital i ddatblygu safonau data ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Awgrymodd ein hymchwil y gallem fabwysiadu dull mwy wedi'i dargedu drwy gytuno pa wybodaeth oedd angen ei rhannu a chreu safonau cyffredin ar gyfer y data hwnnw.

Mae hwn yn ddatrysiad mwy cymesur oherwydd:

  • dim ond y data sydd angen ei rannu sydd angen ei safoni, nid pob elfen mewn ffurflen neu system
  • gallwn roi'r rhyddid i sefydliadau ddewis dulliau a strwythurau sy'n addas i'w hanghenion lleol, heb orfodi pawb yn ddiangen i weithio yn yr un ffordd
  • gallwn adeiladu ar safonau data a fframweithiau rhyngweithredu sydd eisoes yn bodoli yn hytrach na chreu popeth o'r newydd
  • gallwn ychwanegu neu ddiwygio safonau yn ôl yr angen, gan sicrhau bod y dull hwn yn cyd-fynd ag anghenion gofal cymdeithasol wrth iddo esblygu.

Dysgu gan eraill

Roedden ni hefyd am ddysgu o brosiectau llwyddiannus sy'n rhannu data ym maes gofal cymdeithasol ledled y byd, yn enwedig y rhai a oedd eisoes ar waith.

Roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau yn y DU a oedd wedi llwyddo i rannu data gan ddefnyddio prosesau sy'n seiliedig ar safonau agored sy'n galluogi systemau a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus i rannu data'n haws.

Bu prosiect diweddar yn Lloegr, sy'n gysylltiedig â Rhaglen Ddigideiddio Gofal Cymdeithasol y wlad, yn addasu fframwaith cafodd ei ddatblygu yn wreiddiol ar gyfer iechyd fel y gellid ei ddefnyddio gyda data gofal cymdeithasol. Roedd y gwaith yn seiliedig ar safonau data gofal cymdeithasol i oedolion a ddatblygwyd gan y Professional Record Standards Body (PRSB) ac yn canolbwyntio ar ddarparwyr gofal.

Yna cafodd datblygwyr systemau a oedd wedi integreiddio'r safonau hyn yn eu cynhyrchion eu cydnabod fel darparwyr cofnodion gofal cymdeithasol digidol sicr (DSCR). Gallai darparwyr wedyn ddefnyddio grantiau'r rhaglen i weithredu'r systemau hyn, gan helpu mwy i ddefnyddio systemau digidol i reoli eu gwaith. Daeth hyn yn safon data gweithredol lleiaf gyntaf ar gyfer gofal cymdeithasol yn y DU.

Yn ogystal â safonau data gweithredol lleiaf, defnyddiodd y rhaglen fframwaith o'r enw Fast Healthcare Interoperability Resources (neu FHIR). Mae FHIR yn safon cod agored a reolir gan y sefydliad dielw HL7. Mae'n cael ei defnyddio yn eang ar draws gwasanaethau iechyd yn rhyngwladol ac mae wedi'i mabwysiadu gan y GIG yn y DU ac, o ganlyniad, gan raglen yr Adnodd Data Cenedlaethol yng Nghymru.

Helpodd y gwaith hwn i lunio ein dull o ddatblygu safonau data gweithredol lleiaf ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dull sy'n cael ei arwain gan ddefnyddwyr

Roedd yn bwysig i ni fod y bobl a fyddai'n defnyddio'r safonau yn helpu i lunio eu datblygiad.

Mae gormod o brosiectau digidol a data yn cael eu cynllunio heb ddigon o fewnbwn gan y bobl sy'n eu defnyddio. Os oedd y safonau hyn am gael eu derbyn a'u defnyddio yng Nghymru, roedd angen i ni eu datblygu gyda'r bobl sy'n deall ymarfer gofal cymdeithasol orau.

Mae gan ymarferwyr gofal cymdeithasol y wybodaeth a'r profiad i ddweud wrthym pa wybodaeth sy'n bwysig a pha wybodaeth sydd fwyaf tebygol o gael ei rhannu ag eraill.

Yn 2025, fe wnaethon ni ymgysylltu â phobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu a'i rhannu wrth ddarparu gwasanaethau i oedolion a phlant.

Fe wnaethon ni gyfarfod â phobl o 14 awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â darparwyr annibynnol. Cynhaliwyd yr ymgysylltu drwy weithdai, grwpiau ffocws a chyfweliadau. Cynhalion ni hefyd ddigwyddiadau data yng ngogledd a de Cymru, lle cynhalion ni gweithdai ychwanegol i gasglu rhagor o fewnwelediadau.

Nodi blaenoriaethau

Yn ogystal â nodi achosion defnydd, sef sefyllfaoedd lle byddai angen rhannu gwybodaeth, defnyddion ni'r gwaith hwn i ddeall blaenoriaethau pobl a lle roedden nhw'n teimlo y gallai safonau cyffredin gael yr effaith fwyaf.

Arweiniodd hyn at restr gychwynnol o 10 achos defnydd yn cwmpasu meysydd ymarfer cyfarwydd. Yn ddiweddarach, mireiniwyd y rhain yn 12 achos defnydd ar gyfer cam nesaf y datblygiad:

  • Gwybodaeth am yr unigolyn (Demograffeg)
  • Drws Ffrynt
  • Rhyddhau o'r ysbyty
  • Ailgalluogi
  • Cau achosion (Oedolion)
  • Diogelu oedolion
  • Trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid
  • Gofalwyr (Oedolion a gofalwyr ifanc)
  • Plant sydd angen gofal a chymorth
  • Amddiffyn plant
  • Plant sy'n derbyn gofal
  • Y gweithlu

Daeth yr achosion defnydd blaenoriaethol hyn yn sail i ddatblygu safonau data gweithredol lleiaf.

Datblygu safonau drafft gyda'n gilydd

Roedd pob un o'r achosion defnydd a nodwyd yng ngham cyntaf ein gwaith yn cynnwys darnau unigol o wybodaeth y gallai fod angen eu rhannu rhwng sefydliadau, neu 'eitemau data'. Datblygwyd y rhain drwy ein sgyrsiau â phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Er mwyn adolygu'r eitemau data arfaethedig a chytuno ar ddiffiniadau cyffredin, rydyn ni wedi sefydlu grŵp ysgrifennu sy'n cynnwys pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rydyn ni wedi gwahodd ymarferwyr, rheolwyr ac arbenigwyr data a digidol o awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol ledled Cymru i ymuno â'r grŵp.

Mae aelodau'r grŵp yn cael eu harwain gan arbenigwyr safonau data wrth drafod yr eitemau data arfaethedig, gan drafod pa wybodaeth ddylai gael ei chynnwys a chytuno ar ddiffiniadau gall cael eu defnyddio'n gyson ledled Cymru.

Mae'r grŵp ysgrifennu'n datblygu'r safonau data drafft drwy ysgrifennu diffiniadau ar gyfer pob eitem data arfaethedig. Gallen nhw hefyd ychwanegu eitemau maen nhw'n teimlo sydd ar goll neu ddileu eitemau maen nhw'n teimlo na fydden nhw'n diwallu anghenion ymarferwyr.

Mae cael grŵp penodedig yn gwneud y broses yn haws i'w rheoli ac yn darparu parhad drwy gydol y gwaith. Mae hefyd yn rhoi'r amser a'r lle i aelodau gydweithio i ddatblygu'r safonau data drafft.

Sut y gallwch chi helpu

Rydyn ni bellach wedi cyrraedd cam profi ac adborth y broses ddatblygu.

Mae'r safonau drafft yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o'r achosion defnydd blaenoriaethol, ac rydyn ni nawr yn eich gwahodd i rannu eich barn arnyn nhw.

Drwy brofi'r safonau gyda grŵp ehangach, gallwn glywed gan bobl sydd â rolau, profiadau a safbwyntiau gwahanol o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol.

Rydyn ni'n gwybod fod gofal cymdeithasol yn faes gwaith cymhleth. Dyna pam rydyn ni am roi cyfle i staff, rheolwyr ac arweinwyr adolygu'r safonau a dweud wrthym beth maen nhw'n ei feddwl.

Po fwyaf o adborth rydyn ni'n ei dderbyn, y mwyaf hyderus y gallwn fod bod y safonau'n glir, yn ymarferol ac yn adlewyrchu anghenion y sector. Rydyn ni hefyd am nodi unrhyw beth rydyn ni wedi'i golli, unrhyw beth sy'n anodd ei ddeall neu unrhyw beth a allai gael effaith anfwriadol ar grwpiau penodol o bobl.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth dechnegol arnoch i ddarparu adborth. Mae'r safonau drafft wedi'u datblygu gydag ymarferwyr er mwyn iddyn nhw gael eu deall gan bobl sy'n gweithio ym maes darparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Dyna pam ei bod yn bwysig inni glywed gan ymarferwyr fel rhan o'r adborth hwn, yn ogystal â phobl sy'n gweithio mewn rolau data a digidol.

Byddwn yn cyhoeddi'r safonau drafft ar gyfer adborth mewn tri bloc o bedwar achos defnydd. Mae'r bloc cyntaf eisoes ar agor ar gyfer adborth.

Ewch i'n tudalen adborth i gael manylion llawn am sut y gallwch ddweud wrthym beth ydych yn ei feddwl am y safonau drafft.

Edrych ymlaen

Ar ôl i ni dderbyn adborth, byddwn yn ei adolygu ac, lle bo angen, yn ei ddychwelyd i'r grŵp ysgrifennu i'w drafod ymhellach.

Byddwn yn rhoi sylw penodol i adborth sy'n awgrymu:

  • efallai na fydd y safonau'n gweithio'n dda i grŵp penodol o bobl
  • bod pryderon cyffredin wedi'u codi
  • bod rhagdybiaethau wedi cael eu hanwybyddu
  • bod anghenion cyffredin ychwanegol wedi'u nodi.

Ar ddiwedd y broses, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r adborth, y penderfyniadau, a'r rhesymau dros y penderfyniadau hynny.

Yna bydd yr achosion defnydd a'r safonau drafft terfynol yn symud i'r broses gymeradwyo fel safonau data gweithredol lleiaf drafft ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y broses hon yn cynnwys adolygu a chymeradwyo drwy Grŵp Llywio Galluogi Safonau Data a Phrosesau (EDPS), Byrddau CCSCP ac NDR, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Unwaith y bydd y camau hyn wedi'u cwblhau, byddwn yn ceisio cadarnhad gan Fwrdd Safonau Digidol a Data Cymru ac yn parhau i weithio gyda chyflenwyr systemau, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol i gefnogi mabwysiadu'r safonau.

Blog written by:

Owen Davies

Owen Davies

Pennaeth Rhaglenni Data Strategol

Rwy’n arwain ar ddatblygu a gweithredu’r dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu helpu pobl a sefydliadau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i fod yn well am gasglu, defnyddio a rhannu eu data.

Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio mewn rolau data a digidol mewn gofal cymdeithasol. Gweithiais i awdurdod lleol am dros 20 mlynedd, gan ddod yn Rheolwr Perfformiad a Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau plant.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, bûm yn gweithio fel uwch arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru, gan weithio yn y tîm a ddatblygodd y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rwy'n angerddol am ddefnyddioldeb a hygyrchedd data a digidol ac rwy'n gwneud gradd ymchwil mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifaduron ym Mhrifysgol Abertawe.