Rhowch eich barn am safonau data drafft newydd ar gyfer gofal cymdeithasol
Rydyn ni’n gwahodd pobl o bob rhan o ofal cymdeithasol i adolygu a rhoi adborth ar safonau data drafft ar gyfer y sector yng Nghymru.
Nod y safonau yw gwneud gwybodaeth yn haws i’w chofnodi, ei deall a’i rhannu’n gyson ar draws sefydliadau a systemau. Rydyn ni wedi eu datblygu gyda phobl sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac arbenigwyr data a digidol.
Mae’r broses adborth hon yn gam pwysig wrth ddatblygu safonau sy’n glir, yn ymarferol ac yn ddefnyddiol i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Drwy rannu eich barn, byddwch yn helpu i sicrhau bod y safonau’n adlewyrchu realiti ymarfer gofal cymdeithasol ac yn diwallu anghenion y sector.
Sut i roi adborth
Byddwn yn cyhoeddi’r safonau drafft mewn tri bloc o 'achosion defnydd', sy’n adlewyrchu gwahanol sefyllfaoedd lle mae angen cofnodi a rhannu gwybodaeth.
Mae’r bloc cyntaf bellach ar agor ar gyfer adborth, a byddwn yn cyhoeddi’r blociau sy’n weddill yn ystod y misoedd nesaf. Bydd pob bloc ar agor am chwe wythnos.
Mae'r bloc cyntaf ar agor am adborth tan 2 Rhagfyr ac yn cynnwys:
- y drws ffrynt – gwybodaeth am atgyfeiriadau i ofal cymdeithasol, fel cyswllt cyntaf neu gyswllt dilynol unigolyn â drws ffrynt gwasanaethau gofal cymdeithasol
- rhyddhau o’r ysbyty – gwybodaeth sydd ei hangen i gefnogi rhyddhau unigolyn o’r ysbyty yn ddiogel ac mewn pryd i leoliad gofal addas
- ailalluogi – gwybodaeth sydd ei hangen i adnabod pobl a allai elwa ar ailalluogi a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaeth ailalluogi tymor byr
- cau achos – gwybodaeth sydd angen ei chofnodi pan fydd cofnod gofal cymdeithasol unigolyn yn cael ei gau’n ffurfiol.
Bydd y blociau dilynol yn ymdrin â meysydd fel:
- diogelu oedolion
- gofalwyr (oedolion a gofalwyr ifanc)
- trefniadau diogelu rhag colli rhyddid
- plant sydd angen gofal a chymorth
- amddiffyn plant
- plant sy’n derbyn gofal
- demograffeg
- y gweithlu.
Bydden ni'n ddiolchgar os allech chi adolygu’r drafftiau a rhannu eich barn drwy’r ffurflenni adborth byr sydd ym mhob bloc.
Rhowch adborth am y bloc cyntaf o safondau draft nawr.
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr data i gymryd rhan. Os ydych yn defnyddio, yn cofnodi, yn rheoli neu’n dibynnu ar wybodaeth ym maes gofal cymdeithasol, gall eich profiad a’ch mewnwelediad helpu i wella’r safonau.
Pam ydyn ni’n datblygu safonau data?
Mae sefydliadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn edrych ar ffyrdd o wella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ers blynyddoedd lawer.
Un her gyffredin yw bod gwybodaeth yn gallu cael ei chofnodi’n wahanol rhwng sefydliadau, timau a systemau. Hyd yn oed pan fo pobl yn cofnodi gwybodaeth debyg, efallai eu bod yn defnyddio termau, diffiniadau neu ddulliau gwahanol.
Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach cymharu gwybodaeth, rhannu data pan fo angen a meithrin dealltwriaeth gyson o anghenion a phrofiadau pobl.
Mae safonau data yn helpu i fynd i’r afael â’r her hon drwy greu dealltwriaeth gyffredin o wybodaeth bwysig.
Drwy gytuno ar ddiffiniadau a therminoleg gyffredin, gall sefydliadau fod yn fwy hyderus bod gwybodaeth yn golygu’r un peth ble bynnag mae''n cael ei chofnodi neu ei defnyddio.
Rydyn ni'n gweithio gyda BetterGov ac Answer Digital i gyflawni'r gwaith hwn.
Beth yw safonau data gweithredu lleiaf?
Mae safonau data gweithredu lleiaf yn set gytûn o eitemau data hanfodol, diffiniadau a therminoleg.
Maen nhw’n diffinio darnau pwysig o wybodaeth a sut y dylid eu deall, gan helpu i greu cysondeb ar draws sefydliadau a systemau.
Nid y nod yw gwneud i bob sefydliad weithio yn union yr un ffordd. Yn hytrach, mae safonau data gweithredu lleiaf yn canolbwyntio ar y wybodaeth bwysicaf i’w rhannu a’i deall yn gyson.
Mae’r dull hwn yn helpu i greu cysondeb tra’n caniatáu i sefydliadau a gwasanaethau barhau i weithio mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion lleol.
Dysgwch fwy ar ein tudalen safonau data.
Byddwn ni bob amser yn gwneud ein gorau i esbonio’r gwaith hwn yn glir, ond rydyn ni’n deall y gallech ddod ar draws geiriau neu dermau anghyfarwydd o bryd i’w gilydd. Os bydd hynny’n digwydd, efallai y byddwch yn dod o hyd i’r term rydych yn chwilio amdano yn ein canllaw A i Y o dermau safonau data.
Enghraifft: Beth yw'r dyddiad? -
Gallwn ni ysgrifennu dyddiad mewn sawl ffordd wahanol:
- 1 Mehefin 2028
- 30-Tach-12
- 07/04/2025
Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gweld y rhain ac yn eu hadnabod yn gyflym fel dyddiad.
Yn y DU, rydyn ni'n darllen yr olaf o'r dyddiadau hynny fel 7 Ebrill. Yn yr Unol Daleithiau, bydden nhw'n ei ddarllen fel 4 Gorffennaf, oherwydd mae'r mis yn dod yn gyntaf mewn dyddiadau Americanaidd.
Mae hyn yn dangos pa mor hawdd y gall fod i ddrysu'r ystyr y tu ôl i ddarn o ddata os nad oes gennym ni ffordd safonol o'i ddisgrifio.
Beth os oedden ni i gyd yn disgrifio dyddiadau fel blwyddyn pedair rhif ac yna mis tair llythyren a diwrnod dau rif? Byddai'r dyddiad uchod yn cael ei ddisgrifio fel:
- 2025-EBR-07
Os yw pawb yn defnyddio'r un fformat yna mae'n gwneud synnwyr i'r peiriannau (a'r bobl) sydd angen rhannu'r wybodaeth hon gyda'i gilydd.
Yn yr achos hwn, rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siŵr ei bod hi'n anodd cymysgu'r elfennau dyddiad, oherwydd ein bod ni wedi eu fformatio'n wahanol. Mae'r mis bellach yn defnyddio fformat tair llythyren yn hytrach na rhif. Rydyn ni wedi creu ffordd safonol o ddisgrifio dyddiad, neu safon ddata.
Nid yw pob safon ddata mor syml â hyn, ond mae'n helpu i ddangos y math o aliniad y byddai angen digwydd ar draws data iechyd a gofal cymdeithasol.
Sut gwnaethon ni ddatblygu’r safonau drafft?
Rydyn ni wedi datblygu’r safonau drafft drwy ymgysylltu’n helaeth â’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Fe wnaethon ni weithio gyda gweithwyr proffesiynol ar draws awdurdodau lleol, partneriaethau rhanbarthol a darparwyr gwasanaethau er mwyn deall pa wybodaeth sydd bwysicaf i’w chofnodi a’i rhannu.
Fe wnaeth y gwaith hwn ein helpu i nodi meysydd blaenoriaeth, sef yr achosion defnydd, lle gallai safonau cyffredin ddod â’r budd mwyaf.
I ddatblygu’r safonau, fe wnaethon ni sefydlu grŵp ysgrifennu a gwahodd pobl o wahanol rolau ledled Cymru i'w ymuno, gan gynnwys:
- ymarferwyr
- rheolwyr
- arbenigwyr data
- gweithwyr proffesiynol digidol
Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr safonau data, fe wnaeth aelodau’r grŵp adolygu eitemau data arfaethedig, trafod diffiniadau a chytuno ar gynnwys y safonau drafft.
Mae’r dull cydweithredol hwn yn helpu i sicrhau bod y safonau wedi’u seilio ar ymarfer ac wedi’u llunio gan bobl sy’n deall y sector.
Os hoffech wybod mwy am gefndir y prosiect hwn, mae ein Pennaeth Rhaglenni Data Strategol, Owen Davies, wedi ysgrifennu blog am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma.
Pam ydyn ni’n gofyn am adborth?
Mae’r grŵp ysgrifennu wedi datblygu’r safonau drafft, ond rydyn ni’n gwybod na all un grŵp gynrychioli pob safbwynt ar draws gofal cymdeithasol.
Dyna pam rydyn ni’n gwahodd y sector ehangach i adolygu’r drafftiau a rhoi eu barn i ni.
Rydyn ni eisiau gwybod:
- a yw’r safonau’n hawdd eu deall?
- a yw’r diffiniadau’n gwneud synnwyr?
- a oes unrhyw beth ar goll?
- a allai unrhyw ran o’r safonau fod yn anodd ei rhoi ar waith yn ymarferol?
- a oes unrhyw effeithiau anfwriadol y dylen ni eu hystyried?
Bydd clywed ystod eang o safbwyntiau yn rhoi mwy o hyder i ni y bydd y safonau’n diwallu anghenion y sector.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Hoffen ni glywed gan unrhyw un sy’n ymwneud â darparu, rheoli, dadansoddi neu wella gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Does dim angen gwybodaeth dechnegol arbenigol i roi adborth. Cafodd y safonau eu datblygu i gefnogi ymarfer gofal cymdeithasol, felly mae adborth gan bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol yn y sector a’r tu hwnt iddo yn arbennig o werthfawr.
Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfnod adborth?
Unwaith y bydd y cyfnod adborth yn dod i ben, byddwn yn adolygu’r holl ymatebion ac yn nodi themâu, materion ac awgrymiadau cyffredin.
Lle bydd angen gwneud newidiadau, bydd yr adborth yn cael ei drafod gyda’r grŵp ysgrifennu a’i ddefnyddio i fireinio’r safonau.
Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r adborth rydyn ni'n ei derbyn ac yn esbonio sut y mae wedi llywio cam nesaf y gwaith datblygu.
Rhannwch eich barn
Mae’r safonau drafft yn cael eu datblygu gyda’r sector, ar gyfer y sector.
Gall eich profiad, eich mewnwelediad a’ch arbenigedd helpu i sicrhau eu bod yn ymarferol, yn berthnasol ac yn effeithiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Adolygwch y bloc cyntaf o safonau drafft a rhowch eich adborth.
Os oes gennych chi unrhyw cwestiynau am ein gwaith ar safonau data, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.