Skip to Main content

Helpwch i lunio’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi a’i rhannu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru

20 Hydref 2026

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am safonau data drafft newydd sydd â’r nod o’i gwneud hi’n haws cofnodi a rhannu gwybodaeth yn gyson ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi mewn ffyrdd gwahanol ar draws gwasanaethau a systemau. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach rhannu, cymharu a defnyddio gwybodaeth yn gyson pan fo’i hangen.

Mae safonau data gweithredu lleiaf yn set gytûn o eitemau data hanfodol, diffiniadau a therminoleg. Maen nhw’n helpu i greu ffordd gyson o gofnodi gwybodaeth, gan ei gwneud hi’n haws i bobl, sefydliadau a systemau ddeall a defnyddio data pan fydd angen ei rannu.

Enghraifft: Beth yw'r dyddiad? - Cliciwch i ehangu

Gallwn ni ysgrifennu dyddiad mewn sawl ffordd wahanol:

  • 1 Mehefin 2028
  • 30-Tach-12
  • 07/04/2025

Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gweld y rhain ac yn eu hadnabod yn gyflym fel dyddiad.

Yn y DU, rydyn ni'n darllen yr olaf o'r dyddiadau hynny fel 7 Ebrill. Yn yr Unol Daleithiau, bydden nhw'n ei ddarllen fel 4 Gorffennaf, oherwydd mae'r mis yn dod yn gyntaf mewn dyddiadau Americanaidd.

Mae hyn yn dangos pa mor hawdd y gall fod i ddrysu'r ystyr y tu ôl i ddarn o ddata os nad oes gennym ni ffordd safonol o'i ddisgrifio.

Beth os oedden ni i gyd yn disgrifio dyddiadau fel blwyddyn pedair rhif ac yna mis tair llythyren a diwrnod dau rif? Byddai'r dyddiad uchod yn cael ei ddisgrifio fel:

  • 2025-EBR-07

Os yw pawb yn defnyddio'r un fformat yna mae'n gwneud synnwyr i'r peiriannau (a'r bobl) sydd angen rhannu'r wybodaeth hon gyda'i gilydd.

Yn yr achos hwn, rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siŵr ei bod hi'n anodd cymysgu'r elfennau dyddiad, oherwydd ein bod ni wedi eu fformatio'n wahanol. Mae'r mis bellach yn defnyddio fformat tair llythyren yn hytrach na rhif. Rydyn ni wedi creu ffordd safonol o ddisgrifio dyddiad, neu safon ddata.

Nid yw pob safon ddata mor syml â hyn, ond mae'n helpu i ddangos y math o aliniad y byddai angen digwydd ar draws data iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae safon data yn ffordd benodol o ddisgrifio darn o ddata. Pan fyddwn ni'n siarad am ddata, efallai y bydd yn helpu i feddwl amdano fel darn o wybodaeth.

Rydyn ni wedi datblygu set o safonau drafft gyda phobl sy’n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys grŵp ysgrifennu sy’n cynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac arbenigwyr data a digidol. Mae’r safonau drafft yn seiliedig ar arferion a phrofiadau go iawn, gan helpu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu realiti darparu a chefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Rydyn ni'n gweithio gyda BetterGov ac Answer Digital i gyflawni'r gwaith hwn.

Nid ein nod yw safoni pob agwedd ar bob system. Yn hytrach, rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddrafftio safonau ar gyfer y wybodaeth bwysicaf i’w rhannu.

Mae’r cam nesaf hwn o’r gwaith yn gyfle i chi helpu i lunio’r safonau a gwneud gwybodaeth yn haws i’w chofnodi, ei rhannu a’i defnyddio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhowch eich barn

Rydyn ni nawr yn gwahodd adborth ar y safonau drafft.

Rydyn ni wedi trefnu’r safonau drafft yn ôl 'achosion defnydd', sy’n adlewyrchu gwahanol sefyllfaoedd lle mae angen cofnodi a rhannu gwybodaeth. Byddwn yn eu cyhoeddi mewn tri bloc er mwyn cael eich adborth.

Mae’r bloc adborth cyntaf bellach ar agor ac yn cynnwys safonau data sy’n ymwneud â:

  • y drws ffrynt – gwybodaeth am atgyfeiriadau i ofal cymdeithasol, fel cyswllt cyntaf neu gyswllt dilynol unigolyn â drws ffrynt gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • rhyddhau o’r ysbyty – gwybodaeth sydd ei hangen i gefnogi rhyddhau unigolyn o’r ysbyty yn ddiogel ac mewn pryd i leoliad gofal addas
  • ailalluogi – gwybodaeth sydd ei hangen i adnabod pobl a allai elwa ar ailalluogi a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaeth ailalluogi tymor byr
  • cau achos – gwybodaeth sydd angen ei chofnodi pan fydd cofnod gofal cymdeithasol unigolyn yn cael ei gau’n ffurfiol.

Bydd y bloc adborth cyntaf yn cau ar 2 Rhagfyr.

Os ydych chi'n ymarferydd, rheolwr, dadansoddwr, comisiynydd, gweithiwr proffesiynol digidol neu’n gyflenwr systemau, rydyn ni eisiau gwybod:

  • a fyddai’r safonau hyn yn ei gwneud hi’n haws rhannu gwybodaeth pan fo angen?
  • a yw’r achosion defnydd drafft yn cynnwys y wybodaeth gywir?
  • a oes unrhyw enwau, diffiniadau neu opsiynau sy’n aneglur neu’n agored i fwy nag un ystyr?
  • a ydyn ni wedi canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir ar gyfer safonau data gofal cymdeithasol?
  • a oes unrhyw beth arall y dylen ni ei ystyried cyn cwblhau’r safonau?

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr data i gymryd rhan. Os ydych yn defnyddio, yn cofnodi, yn rheoli neu’n dibynnu ar wybodaeth ym maes gofal cymdeithasol, gall eich profiad a’ch mewnwelediad helpu i wella’r safonau. 

Rhannwch eich adborth

Adolygwch y bloc cyntaf o safonau data drafft a rhowch eich barn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr adborth rydyn ni'n derbyn yn cael ei adolygu a’i ddefnyddio i fireinio’r safonau drafft cyn iddyn nhw symud ymlaen i’r cam nesaf o ddatblygu a chymeradwyo.

Bydd eich cyfraniadau yn helpu i sicrhau bod y safonau’n ymarferol, yn berthnasol ac yn adlewyrchu anghenion y sector.

Dysgwch fwy

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer adborth hwn a’r blociau adborth sy’n weddill, ewch i’n tudalen adborth safonau data.

Os hoffech wybod mwy am gefndir y prosiect hwn, mae ein Pennaeth Rhaglenni Data Strategol, Owen Davies, wedi ysgrifennu blog am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma.

I ddysgu mwy am y rhaglen safonau data ehangach, ewch i’n tudalen safonau data, lle byddwch hefyd yn gweld animeiddiad esboniadol byr.

Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i esbonio’r gwaith hwn yn glir, ond rydyn ni’n deall y gallech ddod ar draws geiriau neu dermau anghyfarwydd o bryd i’w gilydd. Os bydd hynny’n digwydd, efallai y byddwch yn dod o hyd i’r term rydych yn chwilio amdano yn ein canllaw A i Y o dermau safonau data.

Os oes gennych chi unrhyw cwestiynau am ein gwaith ar safonau data, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.