Skip to Main content

Pobl ifanc yn mwynhau gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ond prinder staff ac oriau gwaith heriol

17 Tachwedd 2026

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddysgu mwy am pam mae pobl ifanc yn dewis gweithio yn y sector. 

Gofynnwyd i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed i rannu eu profiadau o weithio mewn rolau gofal cymdeithasol. Mae'r ymchwil yn edrych ar pam y dewisodd pobl ifanc weithio ym maes gofal cymdeithasol, eu cymhellion a'u llwybrau i'r sector. 

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yn mwynhau gweithio mewn gofal cymdeithasol ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r sector. 

Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud

Dywedodd traean o'r gweithwyr ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwil eu bod wedi dechrau gweithio yn y sector oherwydd eu hamgylchiadau a'r angen am swydd. Roedd peidio â bod yn siŵr beth oedden nhw eisiau ei wneud a chyfleoedd cyflogaeth gyfyngedig yn eu hardal hefyd ymhlith y cymhellion. Roedd gan rai cyfranogwyr brofiadau yn barod o ofalu yn eu teuluoedd, ac roedd hyn wedi eu harwain at y gwaith. 

Er nad oedden nhw’n bwriadu gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn wreiddiol, dywedodd llawer eu bod yn mwynhau'r gwaith ac nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i adael. 

Dywedodd un gweithiwr cymorth ifanc: “Roeddwn i’n gweithio mewn manwerthu cyn hyn [gwaith gofal], ac roeddwn i wir eisiau gadael. Felly, ro’n i'n trio am lawer o wahanol swyddi. Dim ond swydd gamu arall i beth hoffwn ei wneud yn y dyfodol oedd hwn i fod. Ond nawr rwy'n mwynhau fy swydd yn gyffredinol ac... byddaf yn dewis aros ynddo yn yr hir dymor.”

Nododd pob cyfranogwr yn yr astudiaeth fod yr ymdeimlad o bwrpas yn gryf, ac yn agwedd gadarnhaol o’r gwaith. Dywedwyd hefyd am y boddhad maen nhw'n ei gael o wneud gwahaniaeth, a chefnogi pobl sy'n defnyddio gofal i fyw bywydau annibynnol a boddhaus.

Dywedodd gofalwr mewn cartref nyrsio: “Mae'n gwneud gwahaniaeth i bobl, hyd yn oed os yw'n llythrennol dim ond yn helpu nhw i wisgo eu sanau. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Gallwch chi weld y gwahaniaeth sy'n ei wneud i fywyd rhywun yn y fan a’r lle. Mae'n beth gweithredol.”

Siaradodd y gweithwyr dan 30 oed a gymerodd ran am rai o'r heriau o weithio mewn gofal cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys natur emosiynol heriol y swydd, delio ag ymddygiad heriol, prinder staff ac oriau gwaith hir. Disgrifiodd dau o'r cyfranogwyr ieuengaf yn y cyfweliad am yr effaith y gall eu rolau ei chael ar eu bywydau y tu allan i'r gwaith. Roedd rhai o’r gweithwyr iau hefyd yn teimlo bod eu hoedran yn anfantais, gan fod y bobl yr oedden nhw’n eu cefnogi weithiau'n eu gweld yn llai galluog na chydweithwyr hŷn.

Ar y cyfan, mae'r canlyniadau, ynghyd â data o'n harolwg blynyddol Dweud Eich Dweud, yn paentio darlun calonogol ar gyfer y dyfodol. 

Roedd y gwaith hwn yn rhan o arolwg Dweud Eich Dweud 2026, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu.

Darllen yr adroddiad

Darllenwch yr adroddiad llawn ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth.   

Arolwg Dweud eich Dweud 2026

Y mis diwethaf fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad Dweud Eich Dweud 2026, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu. Fe wnaeth yr adroddiad ganfod ymdeimlad cryf o bwrpas ymhlith y gweithlu gofal cymdeithasol. Ond mae heriau cadw yn parhau'n uchel, er bod bron i un o bob pedwar yn dweud eu bod yn disgwyl aros yn y sector tan iddyn nhw ymddeol.   

I gael gwybod mwy, darllenwch adroddiad arolwg Dweud Eich Dweud 2026, yma.