Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2026: Adroddiad llawn a chrynodeb o ymatebion
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu gofal cymdeithasol 2026.
Derbynion ni 7,565 o ymatebion i'r arolwg.
Roedd yr arolwg yn gofyn am bethau fel:
- nodweddion personol, swydd a chyflogaeth
- gwaith teg, gan gynnwys gwobrwyo teg, cynrychiolaeth, hyblygrwydd a chynnydd gyrfa
- iechyd, lles, straen a chefnogaeth.
Mae'r adroddiad llawn yn rhannu'r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr. Mae hefyd yn darparu cymariaethau i arolygon y gorffennol ac yn archwilio ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnir yn yr arolwg.
Roedd cyfanswm yr ymatebion i'r arolwg yn cynnwys:
- 5,418 o weithwyr gofal
- 746 o reolwyr gofal
- 971 o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gwaith cymdeithasol
- 430 o ymatebwyr mewn swyddi gofal cymdeithasol eraill.
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar ffurf Microsoft Word.
Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu adroddiad byr sy'n rhoi crynodeb o'r canfyddiadau. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad byr fel dogfen Microsoft Word, neu ei ddarllen isod.
Mae adroddiadau byr hefyd ar gael ar gyfer y tri grŵp swydd canlynol:
Fe wnaethon ni gyhoeddi’r adroddiad llawn, a phob un o’r adroddiadau byr, ar 13 Hydref 2026. Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru am ddarn newyddion sy’n cynnwys ymateb gan Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru Sarah McCarty.
Isod mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad.
Demograffeg
Roedd nodweddion personol yr ymatebwyr yn debyg i'r rhai yn arolygon Dweud eich Dweud 2024 a 2025:
- Y grŵp oedran mwyaf cyffredin oedd 55 i 59 oed (14 y cant)
- Roedd 80 y cant yn fenywod, ac 20 y cant yn ddynion
- Roedd 95 y cant yn syth/heterorywiol, a pump y cant yn hoyw, lesbiaidd, neu ddeurywiol
- Roedd 73 y cant yn Wyn, 16 y cant yn Ddu, a naw y cant yn Asiaidd
- Dywedodd 20 y cant fod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O blith y rhai a oedd â chyflwr hirdymor, dywedodd 67 y cant ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- Dywedodd 31 y cant eu bod yn ofalwr y tu allan i'r gwaith
- Dywedodd 12 y cant eu bod yn niwrowahanol
- Dywedodd 45 y cant eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg.
Yn 2026, gwelsom ni hefyd fod:
- 62 y cant o'r ymatebwyr yn meddu ar gymwysterau ar Lefel 3 neu’n uwch (cyfwerth â Safon Uwch neu'n uwch)
- 62 y cant o'r ymatebwyr yn hunan-nodi fel dosbarth gweithiol.
Nodweddion swydd
Roedd:
- 32 y cant yn weithwyr cartref gofal i oedolion, 23 y cant yn weithwyr gofal cartref, a 12 y cant yn weithwyr cymdeithasol
- 47 y cant yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 10 mlynedd neu fwy
- 23 y cant o reolwyr yn Unigolion Cyfrifol (a ddiffinnir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)
- 20 y cant o’r rhai a ddywedodd eu bod yn siarad rhywfaint o Gymraeg yn nodi eu bod yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser yn y gwaith
- 30 y cant yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn rheolaidd neu'n achlysurol ar gyfer gwaith.
Nodweddion cyflogaeth
Roedd:
- 38 y cant yn gweithio yn y sector cyhoeddus, 53 y cant yn gweithio yn y sector preifat, a naw y cant yn y sector gwirfoddol neu mewn sawl sector
- 74 y cant yn gweithio'n llawn amser
- 38 y cant yn dweud eu bod yn aelodau o undeb llafur.
Cymhelliant, cydnabyddiaeth ac ymrwymiad
Roedd:
- 56 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd 41 y cant yn teimlo y bydden nhw’n ei fwynhau, roedd 32 y cant yn teimlo y byddai'n gweddu i'w sgiliau ac roedd gan 27 y cant brofiad personol o ofalu am rywun
- 42 y cant wedi clywed am weithio ym maes gofal cymdeithasol drwy ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y sector,30 y cant drwy hysbyseb swydd ar-lein, ac 19 y cant drwy brofiad personol o ofalu am rywun
- 64 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr, roedd 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr, a 78 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt
- 25 y cant yn ystyried gadael y sector
- 39 y cant yn disgwyl aros yn y sector tan iddyn nhw ymddeol, ac roedd 16 y cant yn disgwyl aros mewn gwaith gofal cymdeithasol am lai na blwyddyn.
Cyflog ac amodau
Roedd:
- 94 y cant yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol neu’n uwch
- 32 y cant yn fodlon â’u cyflog
- 57 y cant yn fodlon â'u telerau ac amodau
- 83 y cant yn cael eu cyflogi ar gontractau oriau sefydlog, saith y cant ar gontractau hyblyg neu achlysurol, ac wyth y cant ar gontractau dim oriau.
Dwysedd a dewis gwaith
Roedd:
- 14 y cant yn teimlo bod digon o staff i ddarparu gwasanaethau drwy'r amser
- 53 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda
- 41 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddewis ynghylch pa dasgau maen nhw’n eu gwneud, a chytunodd 56 y cant fod ganddyn nhw ddewis o ran sut maen nhw'n cyflawni tasgau.
Ymgynghori, dylanwad a chynrychiolaeth
- Nododd 87 y cant fod mecanweithiau ffurfiol ar waith ar gyfer llais staff
- Cytunodd 51 y cant yr ymgynghorir â staff bob amser ynghylch newid yn y gwaith
- Roedd 35 y cant yn credu bod eu barn yn cael ei hystyried y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- Roedd 83 y cant yn ymwybodol neu'n ymwybodol iawn o'u hawliau cyflogaeth
- Roedd 58 y cant yn cytuno bod eu hawliau cyflogaeth yn cael eu parchu.
Hyfforddiant a chynnydd
Roedd:
- 80 y cant o'r ymatebwyr yn cael adolygiadau perfformiad yn y gwaith
- 79 y cant yn cytuno eu bod wedi cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu swyddi'n dda
- 48 y cant yn cytuno fod angen mwy o hyfforddiant arnyn nhw i wneud cynnydd yn eu gyrfa
- 24 y cant yn credu bod rhwystrau rhag cael mynediad at hyfforddiant
- 39 y cant eisiau rôl arweinyddiaeth yn y dyfodol, a chredai 51 y cant ei bod yn bosibl dod yn arweinydd
- 15 y cant wedi chwilio am gyfle i gael dyrchafiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 47 y cant o'r ymatebwyr hyn wedi cyrraedd rhestr fer ac wedi cael cynnig swydd
- 86 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweithredu'n deg o ran penderfyniadau dyrchafu.
Triniaeth deg
- Roedd 30 y cant o'r ymatebwyr wedi profi triniaeth wael yn y gwaith. Roedd 26 y cant wedi profi bwlio, 18 y cant wedi profi gwahaniaethu ac 18 y cant wedi profi trais yn y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf
- Roedd 72 y cant o'r ymatebwyr a brofodd fwlio wedi adrodd amdano ac roedd 39 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Roedd 59 y cant o'r rhai a oedd wedi profi gwahaniaethu wedi adrodd amdano ac roedd 32 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Bu i 91 y cant o'r rhai a oedd wedi profi trais adrodd am y profiad, ac roedd 54 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Roedd lefelau tebyg o fwlio (saith i naw y cant) a gwahaniaethu (pedwar i chwech y cant) yn cynnwys rheolwyr, cydweithwyr, a'r rhai sy'n derbyn cymorth.
Iechyd a llesiant
Roedd y mesurau llesiant yn dangos lefelau llesiant is na phoblogaeth weithio Cymru. Gan ddefnyddio mesurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar raddfa o 0 (ddim o gwbl) i 10 (yn llwyr), gwelsom ni fod:
- boddhad â bywyd yn 6.6, o'i gymharu â 7.6 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.5)
- teimlo'n werth chweil yn 7.1, o'i gymharu â 7.8 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.8)
- hapusrwydd ddoe yn 6.7, o'i gymharu â 7.5 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.4)
- pryder yn 4.1, o'i gymharu â 3.2 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 3.2).
Fe wnaethon ni hefyd ofyn cwestiynau eraill am lesiant. Fe wnaethon ni ddarganfod fod:
- 67 y cant yn dweud bod eu morâl yn dda y rhan fwyaf o’r amser neu bob amser
- 60 y cant o'r ymatebwyr yn adrodd iddyn nhw weithio tra'n sâl
- 42 y cant yn dweud fod ganddyn nhw les ariannol da (yn gwneud yn iawn neu'n byw'n gyfforddus)
- 24 y cant yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol, a theimlai 52 y cant ei bod yn anoddach ymdopi'n ariannol eleni na'r llynedd.
Straen
- Cytunodd 59 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith pan fyddan nhw’n gadael
- Dywedodd 27 y cant fod eu llwyth gwaith yn achosi straen yn y gwaith. Ar ôl hyn roedd poeni am bethau y tu allan i’r gwaith (24 y cant), gwaith papur a biwrocratiaeth (23 y cant), diffyg cefnogaeth gan reolwyr a chydweithwyr (15 y cant) a chostau cysylltiedig â’r gwaith (15 y cant).
Cefnogaeth
Dywedodd:
- 63 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu rheolwr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 72 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu cydweithwyr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 49 y cant fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- 36 y cant y bydden nhw’n chwilio am wybodaeth am iechyd a lles gan reolwyr
- 63 y cant y bydden nhw’n chwilio am gymorth iechyd meddwl gan feddyg teulu.
Cafodd yr arolwg yma ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Fforwm Gofal Cymru. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gynhyrchu gan yr ymchwilwyr.